Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Eluned Morgan AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 14 Gorffennaf 2025 yn nodi diweddariad chwe mis cyntaf Llywodraeth Cymru mewn ymateb i adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU: Gwydnwch a pharodrwydd y Deyrnas Unedig.

Y datganiad hwn yw ein hail ddiweddariad cynnydd chwe mis, yn unol â'n hymrwymiad i Ymchwiliad Covid-19 y DU. 

Mae Fforwm Gwydnwch Cymru a'i gynllun cyflawni ategol, a gyhoeddais ym mis Mai 2025, yn parhau i arwain ein gwaith i gryfhau gwydnwch. Mae hyn yn cynnwys asesu risg yn well, yn enwedig yr effeithiau ar bobl agored i niwed, galluoedd ymateb a pharodrwydd Cymru a gweithio gydag ymatebwyr statudol i wella gwydnwch cymunedol, gan alluogi unigolion, busnesau a chymdeithas sifil i baratoi'n well ar gyfer argyfyngau a'u gwrthsefyll.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cymru wedi atgyfnerthu a chryfhau'n sylweddol sut mae'r llywodraeth ac ymatebwyr brys yn cydgysylltu i reoli risg, paratoi ar gyfer argyfyngau a heriau sy'n tarfu, ac ymateb iddynt. 

Wedi'i arwain gan Fframwaith Gwydnwch Cymru a mentrau dan arweiniad Is-adran Diogelwch a Gwydnwch Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, rydym wedi creu dull “Tîm Cymru”; wedi'i nodweddu gan ddarlun cadarn o rannu risg, protocolau ac arweinyddiaeth cliriach ar y cyd, ymarfer a hyfforddiant dwys ar y cyd, a swyddogaeth goruchwylio gwydnwch weithredol. 

Yn 2025, fe wnaethom roi ein trefniadau ymateb strategol ar waith ar 31 achlysur i gefnogi cydgysylltiad amlasiantaeth cenedlaethol a lleol. Trwy gynnal prawf straen ar y trefniadau hyn trwy ddigwyddiadau ac ymarferion yn y byd go iawn, gan gynnwys Ymarfer PEGASUS, mae'r ymdrechion hyn wedi dangos canlyniadau gwirioneddol, gan gynnwys gweithredu cyflymach gan y llywodraeth ac yn aml-asiantaethol, cyfathrebu unedig, wedi'i gydlynu yn well, a chanlyniadau mwy effeithiol mewn argyfyngau go iawn, o doriadau dŵr mawr a llifogydd difrifol, i ymosodiadau seiber a thanau gwyllt.

Mae'r meddylfryd gwella a phartneriaeth parhaus, sydd wedi'i ymgorffori yn Fframwaith Gwydnwch Cymru, yn golygu y byddwn yn parhau i adolygu, dysgu gwersi ac addasu i fygythiadau a phwysau sy'n newid. Mae'r gofrestr risg a'r adroddiad parodrwydd yn cael eu hadolygu; mae ein rhagolygon risg yn cael eu diweddaru; mae'r gronfa ddata gwersi yn fyw, ac mae risgiau newydd sy'n adlewyrchu effeithiau hinsawdd sy'n esblygu, risgiau iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid, a bygythiadau diogelwch cenedlaethol yn cael eu rheoli'n weithredol. 

Mae rhaglen waith Fforwm Gwydnwch Cymru, y cytunwyd arni ym mis Rhagfyr 2025, yn nodi'n glir blaenoriaethau cynnal ein pensaernïaeth gwydnwch, a gwella galluedd ymhellach, drwy flaenoriaethu'n ofalus gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael a chyflawni fesul cam i sicrhau'r effaith orau bosibl.

Rwy'n troi nawr at yr argymhellion unigol a wnaed gan Ymchwiliad Covid-19 y DU.

Argymhelliad 2: Arweiniad Swyddfa'r Cabinet ar gyfer argyfyngau sifil system gyfan yn y DU. 

Fel y nodir yn ein hymateb i'r ymchwiliad, mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r model adran arweiniol ar gyfer asesu risg, parodrwydd ac ymateb i argyfwng, ac adferiad, wedi'i ategu gan yr egwyddor o sybsidiaredd, gan sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud ar y lefel isaf sy'n briodol tra bod cydgysylltu’n digwydd ar y lefel uchaf sy'n angenrheidiol.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod mewn argyfwng system gyfan, sy'n parhau am gyfnod estynedig, bod gan y model hwn ei gyfyngiadau ac efallai y bydd angen ei gryfhau. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, trwy ein strwythurau llywodraethu gwydnwch, rydym wedi sefydlu grŵp traws-lywodraethol i ddatblygu model amgen ar gyfer ymateb brys, system gyfan, parhaus. Bydd ei waith yn llywio Dogfen Egluro Gweithrediadau Rheoli Argyfwng Llywodraeth Cymru, sy'n nodi ein dull o reoli argyfwng. Bydd fersiwn derfynol y Ddogfen Egluro Gweithrediadau yn cael ei chyhoeddi yn ystod tymor yr hydref 2026 yn dilyn cam olaf y gwaith, ymgynghori â phartneriaid ac adolygiad annibynnol.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru dreialu fersiwn ddrafft ein Dogfen Egluro Gweithrediadau yn ystod Ymarfer PEGASUS (trafodir yr ymarfer hwn ymhellach yn Argymhelliad 6).

Argymhelliad 3: Dull gwell o asesu risg

Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r llywodraethau datganoledig er mwyn mynd ati ar y cyd i gryfhau dulliau o asesu risg ar draws y Deyrnas Unedig a chefnogi datblygiadau mewn methodolegau risg. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â Llywodraeth y DU ar ddatblygu Asesiad Risg Diogelwch Cenedlaethol y DU i sicrhau dull cyson o asesu risg ar draws y DU. 

Rydym yn parhau i weithio gyda sefydliadau yng Nghymru, drwy Bartneriaeth Gwydnwch Cymru, i rannu arferion gorau mewn perthynas ag asesu effeithiau risgiau ar bobl agored i niwed a phobl sydd ag anghenion penodol. Rhan o'r rhaglen waith yw i archwilio dulliau Cymru gyfan i integreiddio'n gyson yr asesiad o effaith y risgiau ar bobl agored i niwed a'r rhai sydd ag anghenion penodol mewn methodolegau risg lleol a chenedlaethol. Er mwyn cefnogi'r rhaglen waith hon, rydym yn tynnu ar ddatblygiadau ar lefel y DU o ran gwelliannau i asesiadau risg.

Gan weithio trwy ein trefniadau partneriaeth, rydym yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio data a gwybodaeth i helpu partneriaid i nodi grwpiau agored i niwed a grwpiau mewn perygl er mwyn sicrhau y gellir blaenoriaethu cymorth mwy penodol ac wedi'i deilwra yn ystod unrhyw ddigwyddiad i'r bobl hynny a allai fod ei angen fwyaf. 

Mae tîm penodedig o fewn Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella'r platfform data JIGSO. Mae JIGSO, sy'n cael ei gynnal ar MapDataCymru, yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn ystod ymatebion brys ac i gefnogi cynllunio ar gyfer argyfyngau. Er bod y rhan fwyaf o'r data yn cael ei gyhoeddi'n agored i bawb ei ddefnyddio, mae JIGSO yn galluogi mynediad cyfyngedig a diogel ar gyfer rhannu data mwy sensitif gan ddefnyddio'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth gan Dŵr Cymru. Mae hyn yn galluogi rhannu data am eiddo ‘mewn perygl’ yn ddiogel gyda'r gymuned gwydnwch a'r gwasanaethau brys ar draws Cymru i flaenoriaethu adnoddau i'r rhai sydd eu hangen fwyaf. Bydd y gwelliannau i JIGSO yn galluogi mynediad cyflymach a mwy cynhwysfawr i ymatebwyr, gan gefnogi cydlynu aml-asiantaethol effeithiol yn ystod argyfyngau. Rydym yn gweithio gyda chwmnïau cyfleustodau i ehangu'r data sydd ar gael ar bobl agored i niwed, gan gynnwys gwybodaeth fanylach am y rhesymau y gall aelwydydd gael eu dosbarthu fel rhai agored i niwed. Rydym hefyd yn ymgysylltu â fforymau gwydnwch lleol i hyrwyddo JIGSO, i hyfforddi defnyddwyr, ac i sicrhau bod y system yn diwallu anghenion ymatebwyr cyntaf.

Argymhelliad 4: Strategaeth argyfwng sifil system gyfan ar gyfer y DU gyfan.

Gan nad yw argyfyngau yn parchu ffiniau, rydym wedi ymrwymo i gydweithio'n agos â Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig i sicrhau ymagwedd gydweithredol at argyfyngau system gyfan y DU. Mae'r cydweithrediad hwn yn hanfodol i alinio polisïau a hwyluso cydlynu effeithiol er budd yr holl ddinasyddion.

Mae Grŵp Rhyngweinidogol y Pedair Gwlad ar Wydnwch Strategol yn fforwm pwrpasol i Weinidogion ledled y DU fynd i'r afael â blaenoriaethau gwydnwch cyffredin a chryfhau parodrwydd ar y cyd ar gyfer heriau yn y dyfodol. Disgwylir i'r Grŵp gyfarfod yn y flwyddyn newydd.

Ar ôl cyflwyno Fframwaith Gwydnwch Cymru, y cynllun cyflawni sy'n ei gefnogi a'r camau rydym yn eu cymryd gyda Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig, rwy'n credu bod y gwaith o weithredu argymhelliad 4 bellach wedi'i gwblhau.

Argymhelliad 5: Data ac ymchwil ar gyfer pandemigau yn y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud cynnydd o ran gwella ei pharodrwydd a’i gallu i ymateb i argyfwng sy'n gysylltiedig â data.

Rydym wedi sefydlu tîm data, tystiolaeth a dadansoddi a fydd yn integreiddio data mewn gweithgareddau cynllunio at argyfyngau ac ymateb iddynt. Mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth wedi'i lofnodi gyda Chanolfan Sefyllfaoedd Genedlaethol y DU i sicrhau darpariaeth ddata gyfatebol yn ystod argyfyngau, gan danlinellu ymrwymiad cadarn i wneud penderfyniadau sy'n cael eu cymell gan ddata mewn cyfnodau o argyfwng. Profwyd rôl data, tystiolaeth a dadansoddi mewn ymateb brys yn ystod Ymarfer PEGASUS, gyda'r tîm newydd yn darparu rôl gydlynu hanfodol ar draws pedair gweinyddiaeth y DU a gyda fforymau gwydnwch lleol.

Rydym wedi dechrau gweithio ar strategaeth fodelu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd hyn yn sefydlu trefniant cynaliadwy a hirdymor ar gyfer modelu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a all ymateb i sefyllfaoedd pandemig a cheisiadau ad-hoc eraill i gefnogi blaenoriaethau Gweinidogol Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth fodelu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru (Rhan 1) wedi'i chwblhau ac mae'n rhoi trosolwg o'r dirwedd fodelu bresennol mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n cynnwys enghreifftiau o gymwysiadau modelu blaenorol ac yn crynhoi themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg o ymgysylltiad rhanddeiliaid â phartneriaid (megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, sefydliadau GIG Cymru, academyddion a Gofal Cymdeithasol Cymru). Bydd y strategaeth fodelu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru (Rhan 2) yn cael ei chyhoeddi yn ystod haf 2026. Bydd yn nodi manylion technegol modelu, ynghyd â chynllun ar gyfer sut y gall modelwyr, sefydliadau a grwpiau modelu gydweithio'n fwy effeithiol yn y dyfodol.

Dyfarnwyd hyd at £2.29m yn 2025-26 i Iechyd Cyhoeddus Cymru i drawsnewid y system ddigidol, craidd ar gyfer diogelu iechyd fel y gallai reoli digwyddiadau mawr ac olrhain cysylltiadau torfol a rhannu data yn well. Cyflwynwyd achos busnes llawn ar gyfer y rhaglen ddigidol diogelu iechyd i Lywodraeth Cymru ar 31 Hydref ac mae’r tendr wedi’i ddyfarnu i gyflenwr. Mae gwaith ar y gweill i ddechrau cam cyntaf y rhaglen sy'n cynnwys gwaith adeiladu cychwynnol ar y system newydd sydd i fod wedi'i gwblhau ym mis Mawrth 2026.

Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud o ran cyflwyno Set Ddata Gofal Brys Cymru, y safon genedlaethol newydd ar gyfer casglu data gofal brys yng Nghymru i wella cynllunio ar gyfer gofal brys, monitro perfformiad, a chanlyniadau cleifion ar draws GIG Cymru. Mae'r targed ar gyfer mabwysiadu'r set ddata yn llawn yn parhau i fod ar waith, sef hydref 2026; fodd bynnag, mae'r risg yn parhau y gallai pwysau gweithredol eraill oedi ei roi ar waith y tu hwnt i'r dyddiad hwn.

Roedd ymarfer a gynhaliwyd yn haf 2025 gyda phartneriaid allweddol ar draws y system iechyd a gofal o gymorth i asesu parodrwydd ar gyfer pandemig o ran casglu a rhannu data iechyd a gofal ac roedd Ymarfer PEGASUS yn gyfle gwerthfawr i brofi a mireinio cynlluniau mewn perthynas â data ac ymchwil. Mae'r ddau ymarfer wedi nodi a blaenoriaethu gweithgarwch pellach i sicrhau gwelliant parhaus yn y defnydd o ddata ar gyfer parodrwydd ar gyfer pandemig. Bydd hyn yn cynnwys profi datblygiadau fel y Platfform Data a Dadansoddeg Cenedlaethol, a fydd yn cryfhau ymhellach allu Cymru i rannu data iechyd amserol, wedi'i lywodraethu â phartneriaid yn ystod cyfnodau o ymateb i argyfwng. 

Argymhelliad 6: Ymarfer ymateb pandemig rheolaidd ledled y DU

Cymerodd Llywodraeth Cymru ran lawn yn Ymarfer PEGASUS, ymarfer parodrwydd ar gyfer pandemig haen 1 ledled y DU sy'n cynnwys y pedair gwlad. Roedd yr ymarfer yn profi ymateb strategol a gweithredol Cymru ar draws tri cham byw:

Cam 1: Ymddangosiad – canfod pathogen newydd yn gynnar ac uwchgyfeirio.

Cam 2: Cyfyngu – gweithredu mesurau iechyd y cyhoedd a mesurau cymdeithasol a'u cydlynu ar draws asiantaethau.

Cam 3: Lliniaru – rheoli trosglwyddiad eang a chynnal gwasanaethau hanfodol.

Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ymagwedd drawslywodraethol at ymgysylltu â'r ymarfer ar draws y tri cham, gydag Aelodau'r Cabinet yn gweithio ochr yn ochr ag uwch swyddogion i arwain ein hymateb yn ystod y diwrnodau byw. Yr Ysgrifennydd Parhaol oedd yn cadeirio cyfarfodydd Pwyllgor Argyfyngau Sifil Cymru a gynhaliwyd ar ôl pob diwrnod byw.

Roedd partneriaid allweddol, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, fforymau gwydnwch lleol, awdurdodau lleol a'r trydydd sector hefyd yn rhan o'r ymarfer, a fydd yn parhau i mewn i 2026, gyda’r cam olaf yn canolbwyntio ar adferiad a gwydnwch hirdymor. 

Yn dilyn proses werthuso gynhwysfawr, bydd adroddiad ar ganfyddiadau Ymarfer PEGASUS, a'r hyn a ddysgwyd, yn cael ei gyhoeddi ddiwedd 2026. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgorffori'r gwersi a ddysgwyd mewn gwaith cynllunio ar gyfer pandemig, Fframwaith Gwydnwch Cymru a systemau parodrwydd ehangach ar gyfer argyfwng.

Argymhelliad 7: Cyhoeddi canfyddiadau a gwersi o ymarferion argyfwng sifil

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau tryloywder a gwelliant parhaus mewn parodrwydd ar gyfer argyfyngau sifil. Ar gyfer ymarferion argyfwng sifil Haen 1, rydym yn cyhoeddi canfyddiadau a gwersi a ddysgwyd, ac eithrio lle bo ystyriaethau diogelwch neu ystyriaethau diogelwch y cyhoedd gwirioneddol. 

Bydd ein system rheoli gwersi yn ganolog i gasglu mewnwelediadau o ymarferion, digwyddiadau ac ymholiadau, a sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu dilyn. Rydym wedi ymgysylltu ag Academi Gwydnwch y DU i weithio gyda Phartneriaeth Gwydnwch Cymru i archwilio cyfleoedd ar gyfer system rheoli gwersi i nodi'r gwersi a ddysgwyd o ymarferion, digwyddiadau ac ymholiadau, a fydd yn cael eu hystyried yn fwyaf priodol gan bartneriaid ar lefel Cymru gyfan. Mae'r dull hwn yn cefnogi egwyddorion effeithlonrwydd Fframwaith Gwydnwch Cymru a dull unwaith i Gymru. 

Argymhelliad 8: Adroddiadau cyhoeddedig ar barodrwydd a gwydnwch system gyfan ar gyfer argyfyngau sifil

Fel y nodwyd yn ein diweddariad blaenorol, un o bedwar amcan Fframwaith Gwydnwch Cymru yw gwella tryloywder, cyfathrebu ac ymgysylltu. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu datganiad blynyddol i'r Senedd am risgiau a gwydnwch yn ymwneud ag argyfyngau sifil, ac amlinellais y cyntaf ohonynt ym mis Mai 2025, wrth gyhoeddi Fframwaith Gwydnwch Cymru. Rydym yn disgwyl i'r datganiad blynyddol nesaf gael ei gyflwyno yn ystod haf 2026.

Byddwn hefyd yn cyflwyno Adroddiad Cyflwr Gwydnwch gerbron y Senedd bob pedair blynedd a fydd yn ymdrin â lefelau parodrwydd ledled Cymru. Bydd yn ystyried asesiadau ar lefel sefydliadol, rhanbarthol a chenedlaethol. Disgwylir cyhoeddi’r adroddiad cyntaf yn ystod 2029.

O ystyried yr ymrwymiadau i gyhoeddi datganiadau gwydnwch blynyddol ac Adroddiad Cyflwr Gwydnwch bob pedair blynedd, rwy'n ystyried bod yr argymhelliad hwn wedi'i gwblhau.

Argymhelliad 9: Defnydd rheolaidd o dimau coch

Mae defnyddio timau coch i graffu a herio'r egwyddorion, y dystiolaeth, y polisïau a'r cyngor sy'n ymwneud â pharodrwydd ar gyfer argyfyngau sifil y system gyfan a'u gwydnwch yn un o nodweddion craidd ein rhaglen ymarferion ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i archwilio cyfleoedd addas ar gyfer cynyddu gallu timau coch. Ar yr un pryd, rydym yn sicrhau craffu annibynnol ar gyfer ein holl brosiectau mawr i helpu i fireinio ein dulliau gweithredu. 

Ein nod yw sicrhau bod galluoedd timau coch cynaliadwy o fewn Llywodraeth Cymru ac o fewn y gymuned ymateb. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid y llywodraeth, yr ymatebwr statudol a'r gymuned sector gwirfoddol i nodi'r mecanweithiau mwyaf priodol i adeiladu'r gallu hwn. Elfen o raglen waith Partneriaeth Gwydnwch Cymru yw archwilio prosesau asesu ac archwilio annibynnol presennol (gan gynnwys timau coch). Yn ogystal, nodi opsiynau ar gyfer archwilio effeithlonrwydd annibynnol rheolaidd y strwythurau parodrwydd ac amlder ac ansawdd hyfforddiant ac ymarferion yng Nghymru.

Rydym yn sefydlu prosesau asesu ac archwilio annibynnol ar gyfer ein gweithgareddau, gan gynnwys adolygiad annibynnol o'n Dogfen Egluro Gweithrediadau Rheoli Argyfwng ar ôl iddi gael ei chwblhau. Rydym wedi tynnu ar y gwersi a ddysgwyd o fwy na 30 o ddigwyddiadau ar wahân yn 2025 i ddatblygu ein prosesau rheoli argyfwng newydd ac wedi profi'r rhain ymhellach yn ystod Ymarfer PEGASUS. 

Argymhelliad 10: Corff statudol annibynnol ar gyfer y DU gyfan ar gyfer parodrwydd a gwydnwch system gyfan ar gyfer argyfyngau sifil

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig i wella goruchwyliaeth annibynnol o barodrwydd ar gyfer argyfwng yn unol ag argymhelliad 10. Mewn ymateb, mae Swyddfa'r Cabinet yn treialu model panel arbenigol sydd wedi'i gynllunio i herio rhagdybiaethau, lliniaru meddwl grŵp, a darparu sicrwydd trylwyr ar risgiau system gyfan a allai arwain at effeithiau trychinebus ledled y DU. Gan adeiladu ar wersi a ddysgwyd o'r peilot hwn, bydd Academi Gwydnwch y DU yn arwain rhaglen o baneli arbenigol o haf 2026 ymlaen, gan sicrhau adolygiad systematig o barodrwydd ar gyfer risgiau system gyfan. Bydd y paneli hyn, dan gadeiryddiaeth arbenigwyr annibynnol, yn archwilio cynlluniau drwy adolygu dogfennau a chynnal cyfweliadau, gan gynnwys gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, gyda chanfyddiadau ac ymatebion y llywodraeth yn cael eu cyhoeddi yn amodol ar ystyriaethau diogelwch. Mae'r dull cydweithredol hwn yn adlewyrchu pwyslais cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU, y Farwnes Hallett ar wella cydlynu ar draws y pedair gwlad ac yn ymgorffori her annibynnol wrth wraidd llywodraethu gwydnwch.

Mae'r fenter hon yn ategu ein trefniadau llywodraethu cryfach ein hunain, gan gynnwys Fforwm Gwydnwch Cymru sy'n canolbwyntio ar ymatebwyr a Phwyllgor Risg a Pharodrwydd mewnol Llywodraeth Cymru, sy'n goruchwylio rheoli risg a chynllunio ar gyfer argyfwng. Rydym yn cyfrannu at gynllunio a gweithredu'r paneli arbenigol hyn i sicrhau bod safbwyntiau Cymreig yn cael eu hintegreiddio a bod craffu yn adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig. Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i dryloywder a gwelliant parhaus, a bydd yn helpu i ddarparu dull mwy cadarn, sy'n seiliedig ar dystiolaeth tuag at argyfyngau sifil. 

Trwy ymgorffori arbenigedd allanol a meithrin diwylliant o her, ein nod yw gwella parodrwydd ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol a sicrhau hyder y cyhoedd yn ein trefniadau gwydnwch.