Dadansoddiad o dderbynwyr y Gronfa Cymorth Dewisol ac o ddangosyddion economaidd i asesu a yw taliadau gwobrau'n cael eu gwneud lle mae'r angen mwyaf.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Y Gronfa Cymorth Dewisol: adroddiad dadansoddi
Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yn cynnig dau fath o grant. Mae Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP) yn helpu pobl i fyw yn annibynnol yn eu cartref neu mewn eiddo y maent yn symud iddo. Mae Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP) yn helpu â chostau hanfodol megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng.
Dadansoddwyd data monitro’r gronfa i ystyried pwy yw derbynwyr DAF o ran oedran a ffyrdd y mae unigolion yn cyrchu taliadau DAF. Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried dyfarniadau DAF ar draws holl awdurdodau lleol yng Nghymru ochr yn ochr â dangosyddion economaidd i nodi unrhyw batrymau sy'n dod i'r amlwg a allai esbonio nifer y dyfarniadau ym mhob awdurdod lleol.
Prif ganfyddiadau
- Rhwng Mai 2024 ac Ebrill 2025, roedd 95% o’r holl dyfarniadau DAF yn Daliadau Cymorth mewn Argyfwng a'r 5% sy’n weddill yn Daliadau Cymorth i Unigolion.
- Yn ystod yr un cyfnod, rhoddwyd 175,000 o ddyfarniadau EAP i unigolion tra rhoddwyd 9,000 o ddyfarniadau fel dyfarniadau IAP. Mae hyn yn £5m yn llai o ddyfarniadau EAP a £4m yn llai o ddyfarniadau IAP o'i gymharu â'r un cyfnod flwyddyn ynghynt.
- Gwnaeth unigolion iau, rhwng 16 a 39 oed, dros 60% o gyfanswm y Ceisiadau EAP. Mewn cymhariaeth, gwnaeth y rhai 50 oed neu'n hŷn gyfran fwy o geisiadau IAP nag EAP.
- Y pedwar awdurdod lleol â'r nifer uchaf o ddyfarniadau Taliadau Cymorth mewn Argyfwng y pen yn 2023-24 oedd Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf.
Adroddiadau
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 376 KB
Crynodeb , HTML
Cyswllt
Ymchwil Cyfiawnder Cymdeithasol
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn:
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
