Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yn gronfa argyfwng a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i chynllunio i ddarparu cymorth ariannol i unigolion sy'n profi argyfwng ariannol annisgwyl a heb unrhyw fath arall o gefnogaeth. Mae'n cynnig dau fath o grant. Mae Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP) yn helpu pobl i fyw yn annibynnol yn eu cartref neu mewn eiddo y maen nhw'n symud iddo. Mae Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP) yn helpu i dalu am gostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng.

Mae’r data sy’n gysylltiedig â’r Gronfa yn cael eu cyflenwi i Lywodraeth Cymru gan ein darparwr gwasanaeth NEC Software Solutions UK. Nid yw’r data hyn wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, ac mae’n bosibl y bydd y data’n cael eu diwygio yn y dyfodol. Cynhaliwyd y dadansoddiad hwn gan ddadansoddwyr Llywodraeth Cymru. 

Mae adroddiad dadansoddi DAF yn cwmpasu'r cyfnod rhwng Mai 2024 ac Ebrill 2025, ac mae ganddo ddau nod. Y cyntaf yw cyflwyno dadansoddiad o'r rhai sy'n cael cymorth gan DAF o ran eu hoedran a'r ffyrdd y mae unigolion yn cael mynediad at daliadau DAF. Yr ail yw edrych ar ddyfarniadau DAF yn 22 awdurdod lleol Cymru i weld a oes unrhyw batrymau newydd mewn dangosyddion economaidd penodol a allai egluro nifer y dyfarniadau ym mhob awdurdod lleol.

Prif ganfyddiadau

Rhoddwyd 175,000 o ddyfarniadau EAP i unigolion rhwng Mai 2024 ac Ebrill 2025, sy'n cyfateb i £14 miliwn. Mae hynny'n 59,000 llai o ddyfarniadau a £5 miliwn yn llai o werth o'i gymharu â'r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Unigolion iau, rhwng 16 a 39 oed, a wnaeth dros 60% o gyfanswm y ceisiadau, a dim ond 5% a wnaed gan y rhai 60 oed a throsodd. Roedd y grŵp oedran 16 i 39 hefyd yn fwy tebygol o dderbyn mwy nag un dyfarniad EAP.

O ran IAP, rhoddwyd 9,000 o ddyfarniadau i unigolion sef cyfanswm o werth £11 miliwn. Mae hynny'n 6,000 llai o ddyfarniadau a £4 miliwn yn llai o werth o'i gymharu â'r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Roedd dyfarniadau IAP wedi'u dosbarthu'n fwy cyfartal ar draws grwpiau oedran o'u cymharu â dyfarniadau EAP, gyda'r rhai 50-70+ oed yn derbyn cyfran uwch o ddyfarniadau IAP nag EAP o gymharu â grwpiau iau.

Roedd dyfarniadau EAP yn cyfrif am 95% o gyfanswm nifer y dyfarniadau DAF, tra bod IAP yn cynrychioli'r 5% sy'n weddill. Fodd bynnag, roedd y dosbarthiad o ran gwerth yn fwy cyfartal: Gwariwyd 55% o gyfanswm y gwerth ar ddyfarniadau EAP tra bod 45% wedi'i wario ar IAP. Roedd hyn oherwydd bod gwerth cyfartalog dyfarniad EAP yn £79 tra bod gwerth dyfarniad IAP yn £1,167 ar gyfartaledd.

O ran hygyrchedd, cyrchodd 99% o unigolion ddyfarniadau DAF ar-lein. Pan ddefnyddiwyd ffôn, tueddodd hynny i fod ymhlith grwpiau oedran hŷn. Mewn ychydig o achosion, defnyddiwyd y post i gyflwyno cais.

Mae'r dadansoddiad yn dangos bod cydberthynas rhwng yr awdurdodau lleol gyda'r nifer uchaf o ddyfarniadau EAP ac IAP fel cyfran o'u poblogaeth a'r rhan fwyaf o'r dangosyddion economaidd a archwiliwyd, gan nodi bod y dyfarniadau DAF wedi'u dyrannu i unigolion mewn ardaloedd sydd â’r anghenion mwyaf. Y pedwar awdurdod lleol â'r nifer uchaf o ddyfarniadau'r pen o Daliadau Cymorth mewn Argyfwng yn 2024-25 oedd Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf. Roedd gan yr awdurdodau lleol hyn hefyd gyfrannau uwch na'r cyfartaledd o ddisgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim, cartrefi sy'n derbyn Credyd Cynhwysol sydd â hawl i gael budd-dal plant, a phlant sy'n byw mewn teuluoedd ag incwm cymharol isel. Mae'r data hwn yn dangos bod cymorth y Gronfa yn rhoi cymorth i unigolion sy'n cael budd-daliadau ac i deuluoedd incwm isel sydd â phlant.

Manylion cyswllt

Awduron: Anna Ardanaz-Badia

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Ymchwil Cyfiawnder Cymdeithasol
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

Ebost: YmchwilCyfiawnderCymdeithasol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 10/2026
ISBN digidol: 978-1-83715-947-5

GSR logo