Neidio i'r prif gynnwy

Data personol sy'n cael eu casglu gennym

Mae'r data personol a gasglwn yn dibynnu ar natur eich cysylltiad â ni. Gallai gynnwys: 

  • enw llawn
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn
  • teitl eich swydd
  • enw eich sefydliad
  • cyfeiriad eich sefydliad

Mae hysbysiad preifatrwydd LLYW.CYMRU yn egluro'r hyn y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwch chi'n darparu gwybodaeth bersonol drwy wefan a gwasanaethau LLYW.CYMRU. Mae'n cynnwys cofrestru ar gyfer ein e-gylchlythyr a gyhoeddir bob pythefnos, ac ymatebion i flogiau ac ymgynghoriadau ffurfiol.

Mae hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru yn egluro'r hyn sydd i'w ddisgwyl pan fyddwch yn darparu gwybodaeth bersonol wrth gysylltu â Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n cynnwys bod yn rhan o un o'n grwpiau rhanddeiliaid, cymryd rhan mewn digwyddiad, neu wneud cais rhyddid gwybodaeth neu gŵyn.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cwmpasu'r agweddau ychwanegol ar eich gweithgarwch ymgysylltu â gwasanaethau ystadegol nad ydynt wedi'u cynnwys mewn hysbysiadau preifatrwydd eraill.

Sut byddwn yn casglu eich data

Rydym yn casglu eich data pan fyddwch chi'n ymgysylltu â ni 

  • trwy ddarparu adborth ar ein hallbynnau neu wasanaethau ystadegol, naill ai mewn ymateb i gais penodol neu drwy ddarparu adborth yn rhagweithiol
  • trwy gysylltu â ni gyda chais neu ymholiad data

Sut byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth

Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni mewn ymateb i gais penodol am adborth

Er enghraifft, rydych chi'n ymateb i gais gennym am adborth ar adroddiad ystadegol. Mae hyn er mwyn inni allu deall anghenion ein defnyddwyr yn well a sicrhau bod ein hallbynnau yn berthnasol ac yn ddefnyddiol. Yn yr achosion hyn, byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer y cais penodol hwn yn unig. Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gysylltu â chi os oes angen eglurhad arnom neu i drafod ymhellach unrhyw faterion sydd wedi eu codi. Byddwn hefyd yn defnyddio'ch gwybodaeth i roi diweddariad ar ganlyniadau'r ymarfer.

Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni'n rhagweithiol trwy ein cyfeiriadau e-bost cyswllt sydd wedi eu cyhoeddi

Yn yr achosion hyn, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gysylltu â chi gydag ymateb uniongyrchol i'ch adborth neu'ch cais. Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu na'i defnyddio at unrhyw ddibenion eraill.

Pan fyddwch chi'n darparu adborth trwy ein cyfleusterau adborth ar-lein

Er enghraifft, rydych chi'n rhoi adborth ar StatsCymru gan ddefnyddio'r ffurflen adborth a ddarperir. Mae cyfleusterau adborth fel y rhain ar waith i gasglu sylwadau defnyddwyr am ein gwasanaethau, yn ogystal ag awgrymiadau o ran datblygu yn y dyfodol. Mewn rhai achosion, byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i gysylltu â chi gydag ymateb uniongyrchol. Dyma achosion lle y gallwn ddarparu ateb penodol i'ch ymholiad, neu fater neu adborth rydych chi wedi'i nodi. Efallai na fydd angen ymateb uniongyrchol gennym i adborth mwy cyffredinol ei naws. Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol a ddarperir drwy ein cyfleusterau adborth i helpu i ddatblygu ein gwasanaethau yn y dyfodol, ac efallai y byddwn yn cysylltu â chi i'ch gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil berthnasol yn y dyfodol neu roi gwybod chi am nodweddion newydd. Gallwch optio allan o hyn ar y ffurflen adborth gychwynnol, neu yn y dyfodol drwy gysylltu â ni: desg.ystadegau@llyw.cymru

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data

Mae cofnodion megis e-byst sy'n cynnwys eich gwybodaeth bersonol yn cael eu storio'n ddiogel o fewn system rheoli cofnodion Llywodraeth Cymru. Byddwn yn cadw'r ffeiliau yn unol â dyddiadau adolygu yn ein hamserlen cadw a dileu. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei dileu mewn modd diogel ar ôl i'r cyfnod cadw ddod i ben.

Y sail gyfreithiol dros brosesu

O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), rydym yn prosesu eich data personol fel sy'n angenrheidiol i gyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd, neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi inni.

Gyda phwy ydyn ni'n rhannu eich gwybodaeth

Efallai y bydd angen rhannu eich gwybodaeth gyda'r canlynol:

  • timau eraill yn Llywodraeth Cymru  lle bo angen gwneud hynny i ymateb i'ch ymholiad neu ddarparu gwasanaeth
  • darparwyr gwasanaeth sy'n ein cefnogi i ddarparu gwasanaeth (er enghraifft StatsCymru), rheoli digwyddiadau, arolygon, neu gyfathrebu (o dan gytundebau contractiol llym)

Rhaid i unrhyw drydydd partïon rydyn ni'n rhannu data gyda nhw gydymffurfio â GDPR y DU a'n safonau diogelwch.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i'r canlynol:

  • cael gwybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a gweld y data hynny
  • gofyn inni gywiro unrhyw ddata anghywir
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • gofyn bod eich data'n cael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Manylion cyswllt

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd y mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod.

Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth