Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae diogelwch tân ym mhob eiddo bron heblaw anheddau preifat yng Nghymru (a Lloegr) yn cael ei reoli gan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, y cyfeirir ato’n aml fel “y Gorchymyn Diogelwch Tân” neu’r “FSO”. Mae'n rhoi dyletswyddau ar y person cyfrifol ar gyfer pob eiddo, yn rhoi pwerau i'r Gwasanaeth Tân ac Achub archwilio a gorfodi'r dyletswyddau hynny, ac yn darparu ar gyfer sancsiynau hyd at ac yn cynnwys erlyniadau troseddol mewn achosion o beidio â chydymffurfio.

Dyma ganllaw sylfaenol i'r Gorchymyn Diogelwch Tân a sut y dylid ei roi ar waith yng nghyd-destun safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Fodd bynnag, er bod y Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, cafodd ei ddylunio gydag adeiladau parhaol (ac yn enwedig adeiladau sy'n weithleoedd) mewn golwg, ac mae angen rhywfaint o hyblygrwydd wrth ei roi ar waith yng nghyd-destun eiddo fel safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.

Ar safle Sipsiwn a Theithwyr nodweddiadol, mae'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r holl dir sy'n rhan o'r safle, ac i unrhyw strwythurau parhaol cymunedol neu rai a rennir, fel swyddfeydd y safle neu gyfleusterau cymunedol. Mae hefyd yn berthnasol i unrhyw flociau amwynderau sy'n cael eu rhannu gan aelodau o fwy nag un teulu, hyd yn oed os yw hynny dros dro yn unig. Nid yw'n berthnasol i garafannau unigol, nac i flociau amwynderau sydd ar gael i'w defnyddio gan aelodau o un teulu yn unig, gan mai anheddau preifat yw'r rhain. Fodd bynnag, gall y risg o dân yn cychwyn mewn carafán, ac yn ymledu ohoni, fod yn ddifrifol a rhaid ei rheoli o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân.

Mae adeiladau confensiynol parhaol at ddefnydd cymunedol neu ddefnydd swyddogol ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn arwain at ystyriaethau diogelwch tân gwahanol i'r rhai a ddisgrifir isod. Mae cyngor ar reoli'r risgiau cysylltiedig ar gael yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar sut i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch tân mewn busnesau bach.

Nid yw'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn cynnwys safonau na gofynion manwl ar gyfer pob eiddo. Yn hytrach, mae’n ei gwneud yn ofynnol cymryd camau i nodi, asesu a lliniaru'r risgiau tân sy'n bresennol, ac a fydd yn amrywio o un safle i'r llall. Felly, mae'n hanfodol bod pawb sy'n gysylltiedig yn ymwybodol o'r risgiau hynny, ac yn deall beth sydd ei angen i'w hatal rhag cael eu gwireddu.

Y person cyfrifol

Mae'r rhan fwyaf o'r dyletswyddau yn y Gorchymyn Diogelwch Tân yn nwylo'r person cyfrifol, sef yr unigolyn neu'r endid corfforaethol sy'n berchen ar y safle neu'n ei reoli. Bron yn ddieithriad, y person cyfrifol ar gyfer safle Sipsiwn a Theithwyr sy'n cael ei redeg gan awdurdod lleol fydd yr awdurdod lleol ei hun, yn hytrach nag unigolyn a enwir megis rheolwr y safle neu unrhyw drydydd parti sy'n digwydd bod yn berchen ar y tir os yw'n cael ei roi ar les i'r awdurdod lleol.  Ar y cyfan, cyfrifoldeb y person cyfrifol yw rheoli risgiau diogelwch tân, a nhw fyddai'n fwyaf tebygol o fod yn destun camau gorfodi.

Fodd bynnag, mae'r Gorchymyn Diogelwch Tân hefyd yn rhoi dyletswyddau ar eraill nad ydynt yn berchen ar y safle ond sydd â rhywfaint o reolaeth drosto a thros y risgiau o dân arno. Gall hyn gynnwys contractwyr cynnal a chadw, darparwyr cyfleustodau ac, yn wir, preswylwyr. Fodd bynnag, yn gyffredinol ni fydd preswylwyr yn atebol o dan gyfraith diogelwch tân am unrhyw beth sy'n bodoli neu'n digwydd yn eu carafannau eu hunain. 

Yr asesiad risg tân

Mae'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn ei gwneud yn ofynnol i bob person cyfrifol gynnal (neu drefnu i rywun arall gynnal) asesiad cynhwysfawr o’r risgiau tân yn yr eiddo. Mae hyn yn rhan hanfodol o reolaeth dda ar ddiogelwch tân, gan ei fod yn nodi'r risgiau penodol ar bob safle ac yn argymell sut i'w lliniaru. Mae peidio â chael asesiad o gwbl, neu gael asesiad nad yw'n addas ac yn ddigonol, yn drosedd ddifrifol os yw'n creu bygythiad i fywyd, sy’n aml iawn yn wir.

Rhaid diweddaru asesiadau risg tân hefyd. Nid yw'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn nodi terfynau amser caeth ar gyfer hyn, ond byddai'n arfer da adolygu'r asesiad bob blwyddyn o leiaf, a chynnal asesiad newydd os oes rheswm dros gredu bod angen disodli’r hen un.

Byddai hefyd yn briodol cynnal asesiad newydd cyn gynted â phosibl ar ôl:

  • gwneud newidiadau sylweddol i faint neu gynllun y safle
  • ychwanegu cyfleusterau cymunedol neu flociau amwynderau newydd, a/neu ar ôl cael gwared ar y rhai presennol neu eu hadnewyddu
  • newid sylweddol yn y lefelau deiliadaeth ar y safle, ac yn enwedig os ydynt wedi cynyddu
  • tân heb ei reoli ar y safle, ac eithrio un a effeithiodd ar un garafán yn unig

Yn ôl y gyfraith, rhaid i'r asesiad risg tân fod yn addas ac yn ddigonol bob amser. Rhaid cael arbenigedd er mwyn cyrraedd y safon honno ar gyfer safle Sipsiwn a Theithwyr neu unrhyw eiddo arall lle mae llawer o bobl yn byw ac yn cysgu. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell yn gryf y dylai awdurdodau lleol gomisiynu asesiadau risg tân gan unigolion neu gwmnïau sy'n amlwg yn gymwys i wneud gwaith o'r fath. Mae gan Ffederasiwn y Sector Tân (cymdeithas fasnach ar gyfer gweithwyr diogelwch tân proffesiynol) ganllaw i ddewis asesydd risg tân cymwys.

Dylai'r awdurdod lleol drefnu i'r asesydd gael mynediad llawn a digyfyngiad i'r safle ac i unrhyw adeiladau sydd arno (ond nid i garafannau teuluoedd unigol). Mae'n debygol y bydd angen i'r asesydd hefyd weld cynlluniau’r safle, cofnodion cynnal a chadw a dogfennau perthnasol eraill. 

Mesurau diogelwch tân

Yn ogystal â threfnu asesiad risg tân, rhaid i'r person cyfrifol hefyd gymryd pob cam rhagofalus rhesymol i gadw'r safle a'r rhai sy'n byw yno'n ddiogel rhag tân. Bydd yr asesiad risg tân yn awgrymu llawer o fesurau o'r fath, er mwyn mynd i'r afael â'r risgiau y mae'n eu nodi. Fodd bynnag, mae'r ddyletswydd i gymryd camau rhagofalus yn un barhaus, ac nid yw wedi'i chyfyngu i faterion sydd wedi'u cynnwys yn yr asesiad.

Rhaid i'r person cyfrifol hefyd benodi rhywun i helpu i nodi a gweithredu rhagofalon tân, a chyfeirir atynt fel arfer fel person cymwys. Rhaid i'r person hwn fod â digon o brofiad ac arbenigedd i wneud hynny; fel arfer maen nhw'n arbenigwyr iechyd a diogelwch, er enghraifft (boed ganddyn nhw hyfforddiant penodol pellach mewn diogelwch tân ai peidio). Mae'r person cymwys fel arfer yn cael ei gyflogi gan y person cyfrifol, ond gall fod yn gontractwr os nad oes cyflogai addas ar gael. Rydym yn disgwyl y bydd gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol arbenigedd mewnol i ymgymryd â'r rôl hon o ran safleoedd Sipsiwn a Theithwyr y maent yn berchen arnynt, yn ogystal â gweddill eu hystad.

Bydd y rhagofalon tân sy'n briodol wastad yn dibynnu ar amodau penodol pob safle a'r risgiau sy'n bodoli yno; nid yw'n bosibl llunio rhestr gynhwysfawr o gamau rhagofalus y mae'n rhaid eu cymryd ym mhob sefyllfa. Fodd bynnag, gall ystyried yr amcanion diogelwch tân eang canlynol a'r mathau o risgiau a mesurau sy'n aml yn gysylltiedig â phob un ohonynt fod o gymorth i bersonau cyfrifol.

Atal tân

Yr amcan mwyaf sylfaenol yw y dylai'r risg o dân yn cychwyn ar y safle fod mor isel â phosibl. Ni all y risg hon fyth fod yn sero mewn unrhyw eiddo sy’n cael ei ddefnyddio gan bobl, gan fod llawer o weithgareddau bob dydd pobl yn creu rhywfaint, o leiaf, o risg o dân. Fodd bynnag, gellir a dylid lleihau’r risg i lefel lle mae tân heb ei reoli yn ddigwyddiad annhebygol iawn.

Mewn termau gwyddonol, mae tân yn digwydd pan fydd ffynhonnell danio (fel fflam sy’n bodoli eisoes, gwreichionen neu wrthrych poeth neu nwy) yn dod i gysylltiad â thanwydd hylosg lle ceir digon o ocsigen hefyd. Mae'r atmosffer arferol yn cynnwys digon o ocsigen i gynnal tân, felly mae atal tân, yn y bôn, yn golygu sicrhau naill ai nad yw ffynonellau tanio a thanwydd hylosg yn bodoli neu nad ydynt yn gallu dod i gysylltiad â'i gilydd.

Fel ym mhob annedd, mae'r risg o dân yn cychwyn mewn carafán yn gymharol uchel. Gall carafannau gynnwys ffynonellau tanio (ar ffurf poptai, gwresogyddion ac offer eraill) a thanwydd hylosg ar ffurf dodrefn ac eiddo personol arall.

Nid yw'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i anheddau preifat o unrhyw fath, felly nid yw preswylwyr yn atebol am unrhyw beth sy'n digwydd yn (neu sydd wedi'i gyfyngu o fewn) eu carafannau. Ond gall y potensial i dân ymledu o un garafán i un arall, neu i ardal gymunedol, fod yn uchel serch hynny ac ni ellir ei anwybyddu. O’r herwydd, dylid annog preswylwyr i dalu sylw i gyngor ar sut i gadw’u carafannau yn ddiogel rhag tân.

Mae poteli o nwy propan neu bwtan yn cael eu defnyddio'n aml ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ac maent yn amlwg yn peri risg uchel o dân os nad ydynt yn cael eu trin yn iawn. O’r herwydd, dylai poteli nwy a’r ffitiadau cysylltiedig:

  • gydymffurfio â’r Safonau Prydeinig perthnasol a gofynion rheoleiddiol eraill
  • cael eu gosod a'u defnyddio'n gywir, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  • peidio byth â chael eu storio dan garafán, boed nhw’n cael eu defnyddio ai peidio, a boed nhw’n llawn ynteu'n wag
  • cael eu newid y tu allan yn unig, nid y tu mewn i garafán neu fan caeedig arall
  • cael eu storio allan o olau haul uniongyrchol lle bo hynny'n bosibl, ac ymhell oddi wrth unrhyw ffynhonnell danio bosibl (mae hyn yn cynnwys poteli gwag)

Mae poteli nwy yn achosi perygl difrifol iawn o ffrwydrad i ddiffoddwyr tân ac eraill os bydd tân yn cynnau. Bydd angen i'r Gwasanaeth Tân ac Achub wybod manylion lleoliad a nifer y poteli ar y safle os cânt eu galw  i dân go iawn. Dylai perchnogion safleoedd felly gadw cofnodion o hyn, a'u rhoi i'r Gwasanaeth os gofynnir amdanynt.

Mae hyn i gyd yn berthnasol i'r holl boteli nwy ar y safle, boed nhw’n cael eu cyflenwi gan berchennog y safle neu gan breswylwyr, a dylid annog preswylwyr i gydymffurfio â hyn.

Gallai ffyrdd eraill o leihau'r risg o dân yn cychwyn gynnwys y pethau canlynol:

  • Atal gwastraff hylosg rhag cronni. Dylid storio sbwriel mewn biniau naill ai y tu allan i bob carafán, neu mewn storfeydd biniau cymunedol, cyn iddynt gael eu casglu gan yr awdurdod lleol. Dylid cadw biniau ymhell oddi wrth garafannau, cerbydau, adeiladau neu lystyfiant. Dylai unrhyw storfeydd biniau fod wedi'u hadeiladu o frics neu ddeunyddiau eraill nad ydynt yn hylosg.
  • Rheoli llystyfiant. Bydd pob llystyfiant yn llosgi, ac mae llystyfiant sych neu farw yn arbennig o hylosg. Dylid cadw unrhyw fannau glaswelltog ar y safle dan reolaeth fel na chânt eu gorchuddio â llystyfiant. Gall ceffylau neu dda byw eraill sy’n pori fod yn ddigon i gadw'r glaswellt yn gymharol fyr; os nad yw hyn yn wir, dylid torri'r glaswellt. Dylid tocio perthi a gwrychoedd fel nad ydynt yn tarfu ar y mannau gwag o gwmpas a rhwng pob llain, a phan fydd lleiniau'n agos at goed dylid cael gwared ar ganghennau sy'n hongian yn isel dros y llain. Mae tân yn ymledu’n fertigol yn llawer cynt nag y mae'n ymledu’n llorweddol, felly gall tân mewn carafán orchuddio llystyfiant sydd uwch ei phen yn gyflym iawn ac yna ymledu ymhellach.
  • Mae cynnau tanau’n fwriadol ac yn faleisus yn un o achosion cyffredin tanau yn yr awyr agored. Gellir lliniaru'r risg hon drwy leihau neu gael gwared ar danwydd hylosg sydd wedi cronni fel uchod, ond efallai hefyd y bydd angen ceisio rhwystro mynediad heb awdurdod i'r safle, neu ei atal yn llwyr, drwy ddefnyddio gatiau neu gamerâu teledu cylch cyfyng er enghraifft. Mewn achosion lle mae’r risg yn uchel iawn, er enghraifft lle ceir achosion go iawn neu fygythiadau o losgi bwriadol, dylid rhoi gwybod i'r heddlu.
  • Mae’n bosibl y bydd coelcerthi a phethau tebyg yn rhan bwysig o ddiwylliant Sipsiwn a Theithwyr i lawer o bobl, ac nid yw'n angenrheidiol nac yn briodol eu gwahardd yn llwyr. Ond dylai tanau o'r fath gael eu cynnau ymhell oddi wrth garafannau, cerbydau, adeiladau neu lystyfiant, a dylid eu diffodd yn llwyr gyda dŵr neu dywod pan nad oes eu hangen mwyach. Ni ddylid gadael iddynt orffen llosgi heb oruchwyliaeth. Dylid hefyd annog preswylwyr i beidio â chynnau coelcerthi mewn gwyntoedd cryfion; ac os bydd coelcerth yn ymledu allan o reolaeth dylid galw'r Gwasanaeth Tân ac Achub ar unwaith.
  • Dylai offer trydanol ac offer nwy mewn blociau amwynderau a rennir ac ardaloedd cymunedol gael eu cadw mewn cyflwr sy’n golygu eu bod yn gweithio’n iawn, a dylid eu disodli ag offer newydd (neu ofyn i gontractwr cymwys eu hatgyweirio) os oes nam arnynt. Dylai’r holl offer nwy gael eu harchwilio a'u gwasanaethu'n flynyddol gan gontractwr cymwys, ac ni ddylid gorlwytho'r cyflenwad trydan drwy blygio mwy nag un darn o offer i mewn i un soced. Er bod blociau amwynderau sy'n cael eu defnyddio gan un teulu yn unig y tu hwnt i gwmpas y Gorchymyn Diogelwch Tân, mae Llywodraeth Cymru yn argymell yn gryf bod rhagofalon tebyg yn cael eu defnyddio yn y blociau hynny hefyd. 

Diogelu rhag tân

Fel y nodwyd uchod, ni fydd hi byth yn bosibl cael gwared yn llwyr ar y risg y bydd tân yn cychwyn. Felly, yr amcan nesaf, os bydd tân yn cynnau, yw diogelu’r rheini nad ydynt yn agos iawn ato. Gall tân nad yw'n ymledu gael ei gyfyngu a'i ddiffodd yn hawdd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub heb achosi bygythiad sylweddol i fywyd nac i eiddo arall.

Mewn adeilad confensiynol, mae diogelu rhag tân yn fater cymhleth sy'n dibynnu ar allu strwythur yr adeilad i gyfyngu tân yn y man lle tarddodd, ac mae’n cynnwys mesurau fel systemau llethu tân a rheoli mwg. Hefyd, fel arfer, bydd adeiladau sy’n cynnwys staff yn cael eu gwacáu os bydd tân yn cychwyn ynddynt.

Mewn safleoedd sy’n rhai awyr-agored yn bennaf, fel safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, mae diogelu rhag tân ychydig yn symlach. Os bydd lleiniau'n cael eu cadw o leiaf 6 metr ar wahân, fel yr argymhellir yn y canllawiau dylunio safleoedd, dylai'r risg y bydd tân yn ymledu o un garafán i'r llall fod yn isel. Fodd bynnag, mae hynny hefyd yn dibynnu ar gael gwared ar danwydd hylosg sydd wedi cronni, fel sbwriel neu lystyfiant, yn y mannau gwag rhwng y lleiniau, fel uchod.

Ar yr amod bod y mesurau hyn yn cael eu mabwysiadu a'u cynnal, os bydd tân yn cychwyn mewn un garafán ni ddylai fod angen i breswylwyr carafannau eraill eu gadael, fel arfer. Pan fydd risg uchel o dân awyr-agored heb ei gyfyngu, bydd angen mesurau i seinio'r larwm ar draws y safle ac i fynnu bod yr holl breswylwyr yn gadael eu carafannau ac yn ymgynnull mewn man diogel ar y safle neu wrth ymyl y safle. Gan na ellir dibynnu ar synwyryddion mwg sefydlog neu ddyfeisiau tebyg i ganfod tanau ar safleoedd awyr-agored, fel arfer byddai'n rhaid i fesurau o'r fath gynnwys 'mannau galw' â llaw y gall preswylwyr neu eraill eu defnyddio i seinio'r larwm. Pan fydd systemau o'r fath wedi’u gosod, dylid rhoi gwybod i breswylwyr am leoliad y mannau galw, a sut a phryd i'w defnyddio. 

Dianc

Mae'n amlwg bod angen i bobl sydd yn agos iawn at dân adael, yn enwedig os yw'r tân dan do. Rhaid i unrhyw un sydd mewn perygl o dân allu dianc i le diogel yn gyflym ac yn rhwydd. Unwaith eto, mae hyn yn gyffredinol ychydig yn symlach ar safle Sipsiwn a Theithwyr nag mewn adeilad confensiynol. Mae'n hawdd dianc o’r rhan fwyaf o garafannau, gan eu bod yn gymharol fach ac ar un lefel, ond gallai pobl sydd ag amhariad ar eu gallu i symud neu ar eu synhwyrau elwa o fesurau addasol yn eu carafannau.

Er nad yw'n fater sy'n dod o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân, dylid annog preswylwyr i osod larymau mwg neu wres yn eu carafannau (mae larymau gwres yn addas ar gyfer ceginau neu ardaloedd eraill lle byddai larwm mwg yn dueddol o gael ei ysgogi’n ddiangen gan fwg coginio, stêm neu lwch). Dylid annog yr holl breswylwyr i adael eu carafannau ar unwaith os bydd y larwm yn canu (neu os oes unrhyw dystiolaeth arall o dân), i symud i fan diogel fel carafán cymydog neu fan agored, ac i ddeialu 999 i ffonio'r Gwasanaeth Tân ac Achub os oes modd. Ni ddylent aros yn y garafán (na mynd yn ôl i mewn iddi) i gasglu eiddo personol na cheisio mynd i'r afael â'r tân.

Fan lleiaf, dylai larymau mwg neu wres fod wedi’u gosod mewn strwythurau confensiynol fel blociau amwynderau a chyfleusterau cymunedol, gyda hysbysiadau'n cyfarwyddo pobl i adael os bydd larwm yn canu. Mae’n bosibl y bydd angen systemau larwm mwy soffistigedig mewn unrhyw adeiladau mwy, ac mewn adeiladau mwy cymhleth, a dylai perchnogion safleoedd edrych ar y canllawiau cyffredinol ar gyfer diogelwch tân mewn eiddo annomestig sydd.

Diffodd tanau

Yn olaf, os bydd tân yn cychwyn ar y safle, dylai fod yn bosibl ei gyfyngu a'i ddiffodd yn gyflym ac yn ddiogel. Mae hon yn dasg i ddiffoddwyr tân proffesiynol, nid preswylwyr na rheolwyr safleoedd, ac nid oes angen gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer diffodd tân ar y safle ac eithrio gan y Gwasanaeth Tân ac Achub. Yn wir, gall fod yn beryglus annog neu roi offer i unigolion geisio diffodd tanau bach heb eu rheoli, hyd yn oed, os nad yw’r unigolion hynny wedi cael eu hyfforddi. Felly, nid oes angen darparu (na disgwyl i breswylwyr gael) diffoddyddion tân, blancedi tân nac unrhyw beth arall mewn carafannau neu flociau amwynderau.

Yn hytrach, dyma rai mesurau y gellid eu cymryd i hwyluso diffodd tân:

  • Sicrhau bod preswylwyr ac eraill yn gwybod pa mor bwysig yw cysylltu â'r Gwasanaeth Tân ac Achub os bydd yna dân heb ei reoli drwy ffonio 999 a gofyn am 'dân'. Os yw'r gwasanaeth ffonau symudol ar y safle'n wael, efallai y byddai'n ddoeth darparu ffôn llinell dir at y dibenion hyn, gyda chyfeiriad a/neu leoliad y safle (e.e. gan ddefnyddio What3words) wedi'i arddangos yn amlwg wrth ei ymyl.
  • Caniatáu mynediad hawdd i'r safle ar gyfer injanau tân. Fel rheol, petai lori fawr (nid lori gymalog) yn gallu cyrraedd y safle, felly hefyd injan dân. Fel arfer byddai dwy injan, o leiaf, yn cael eu hanfon i dân y rhoddir gwybod amdano ar safle Sipsiwn a Theithwyr, felly yn ddelfrydol dylid darparu lle iddynt barcio. Os nad yw hyn yn bosibl, byddai'n rhaid i’r injanau barcio ar y ffordd gyhoeddus agosaf, a byddai hynny’n achosi oedi cyn iddynt allu ymateb i’r tân.
  • Os yw safle'n ymestyn am bellter sylweddol oddi wrth y ffordd gyhoeddus agosaf, mae’n bosibl y bydd angen darparu hydrantau tân ar y safle. Dim ond diffoddwyr tân sy'n defnyddio'r rhain, ac nid oes angen rhoi gwybod i breswylwyr am eu lleoliad na sut i'w defnyddio. Nid oes angen darparu pibelli nac offer diffodd tân arall ychwaith. Fodd bynnag, os darperir hydrantau, dylid rhoi gwybod i'r Gwasanaeth Tân ac Achub am eu hunion leoliad a'u manylebau.

Os nad yw perchnogion safleoedd yn siŵr am ofynion diffodd tân, dylent gysylltu â'r Gwasanaeth Tân ac Achub lleol i gael cyngor (gweler y manylion cyswllt isod).

Monitro ac adolygu mesurau

Ar ôl penderfynu ar fesurau diogelwch tân a'u rhoi ar waith, dylai'r person cyfrifol eu monitro i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddilys ac yn effeithiol. Dylai hyn fod yn rhan o waith rheoli a chynnal a chadw arferol y safle, ac os bydd preswylwyr yn codi pryderon neu gŵynion, dylid ymchwilio iddynt a gweithredu arnynt. Os oes tystiolaeth nad yw’r mesurau yn cael eu defnyddio bellach, dylai rheolwyr safleoedd eu hadfer neu ganfod a chyflwyno mesurau cyfatebol. Mewn rhai amgylchiadau (gweler uchod), gall fod yn briodol cynnal asesiad risg tân llawn newydd hefyd.

Arolygu a gorfodi

Mae'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn rhoi pwerau i'r Gwasanaeth Tân ac Achub arolygu eiddo a gorfodi cydymffurfiaeth (yn bennaf, cydymffurfiaeth â'r gofynion i gael asesiad risg tân ac i gymryd yr holl fesurau diogelwch tân priodol). Mae'r rhain yn cynnwys pwerau i fynd i mewn i'r safle a mynnu bod dogfennau a chofnodion yn cael eu datgelu; ni fyddai angen mynd i mewn i garafannau unigol fel arfer.

Fel arfer, bydd y Gwasanaeth Tân ac Achub yn ceisio gweithio gyda pherchnogion safleoedd i sicrhau cydymffurfiaeth yn wirfoddol. Fodd bynnag, os yw hynny'n amhosibl, neu os yw'r risg i fywyd yn arbennig o uchel, gall y Gwasanaeth benderfynu cymryd camau ffurfiol. Gallai hynny gynnwys hysbysiad gorfodi (sy'n ei gwneud yn ofynnol i welliannau penodol gael eu gwneud) neu hysbysiad gwahardd (sy'n atal defnyddio rhywfaint o'r safle neu'r safle cyfan). Mae hysbysiadau o'r fath yn rhwymol yn gyfreithiol.

Yn y pen draw, os nad yw'r person cyfrifol neu unrhyw un arall yn cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân, neu os nad ydynt yn cydymffurfio â hysbysiad gorfodi neu wahardd, gellir eu herlyn. Y ddedfryd fwyaf ar gyfer trosedd dan y Gorchymyn Diogelwch Tân yw dirwy ddiderfyn a/neu ddwy flynedd o garchar. 

Cyngor pellach

Ni all y Gwasanaeth Tân ac Achub gynnal asesiad risg tân, gan y byddai hynny'n gwrthdaro â'u pwerau gorfodi. Ond maen nhw'n gallu darparu cyngor am ddim am ddiogelwch tân i bersonau cyfrifol, ac maen nhw'n gwneud hynny.   

Manylion cyswllt:

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen