Pennod 1: cyflwyniad
Cefndir
Yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei gweledigaeth i sicrhau bod Cymru yn genedl wrth-hiliol. Mae’r camau gweithredu yn y cynllun yn cynnwys y camau y byddwn yn eu cymryd i sicrhau gwrth-hiliaeth ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y gymdeithas yng Nghymru.
Rydym yn cydnabod y gwahaniaethau diwylliannol sydd yn aml wedi arwain at allgáu’r grwpiau hyn yn gymdeithasol, ac rydym am sicrhau bod lleisiau’r cymunedau hyn yn cael eu clywed wrth ddarparu gwasanaethau. Felly, mae’r canllawiau hyn yn seiliedig ar ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau wedi’u diweddaru i awdurdodau lleol, gan gynnwys sut i gydymffurfio â thelerau Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”).
Dylai gwaith rheoli safleoedd fynd ati'n weithredol i hyrwyddo iechyd y cyhoedd, iechyd meddwl, a mynediad teg at wasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau cymorth. Mae hyn yn cynnwys ystyried lleoliad y safle, ei ansawdd amgylcheddol, ac agosrwydd at gyfleusterau hanfodol, yn ogystal â meithrin cynhwysiant cymdeithasol a lleihau'r teimlad o fod yn ynysig. Drwy wreiddio iechyd a lles fel egwyddor graidd, gall awdurdodau lleol sicrhau bod gwaith rheoli safleoedd yn cefnogi canlyniadau cadarnhaol i'r holl breswylwyr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ymarferwyr gofal iechyd ar wella mynediad a chanlyniadau i Sipsiwn a Theithwyr, gan hyrwyddo cydraddoldeb ac ymwybyddiaeth o ddiwylliant mewn gofal. Defnyddir y term Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn aml at ddibenion polisi ac i sicrhau bod natur unigryw'r tair cymuned hyn yn cael ei hadlewyrchu. Fodd bynnag, mae’r canllawiau hyn yn defnyddio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr fel y’i nodir yn adran 62 o Ddeddf 2013 ac adran 108 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, sy’n datgan:
Ystyr ‘Sipsiwn a Theithwyr’ yw:
- Personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys:
- personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi'r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a
- aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio), ac
- Unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.
Bwriad y diffiniad hwn yw sicrhau bod Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig ethnig yn cael eu cynnwys, yn ogystal â’r rhai o unrhyw grŵp ethnig sy’n arfer ffordd nomadig o fyw. Mae’r diffiniad hefyd yn cynnwys Siewmyn Teithiol. Gallai Teithwyr Newydd hefyd fod yn rhan o’r diffiniad os ydynt yn gallu dangos traddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartrefi symudol.
Nid oes angen i unigolion o reidrwydd ddangos eu bod yn arfer ffordd nomadig o fyw yn barhaus i gael eu hystyried yn Sipsiwn neu’n Deithwyr at ddibenion y canllawiau hyn.
Mae’n hanfodol defnyddio dull sy’n seiliedig ar hawliau dynol i ddatblygu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr er mwyn sicrhau tegwch, cynhwysiant, a dull gwirioneddol gydweithredol o sicrhau bod anghenion cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu diwallu. Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â phwyslais y Canllawiau ar gydgynhyrchu, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, sydd i gyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu cynhwysol a chynrychioladol.
Mae'r elfennau hyn yn rhoi sylfaen gref i awdurdodau lleol ei defnyddio wrth reoli safleoedd sipsiwn a theithwyr, mewn modd sy’n cydnabod bod hawliau'n gynhenid i bob unigolyn.
Diben y canllawiau hyn
Bwriedir i’r ddogfen hon fod yn ganllaw i awdurdodau lleol o ran bodloni gofynion Deddf 2013 a datblygu safleoedd sy’n cael eu rheoli’n dda er lles eu preswylwyr. Mae’r canllawiau hyn yn anstatudol, ond argymhellir bod awdurdodau lleol yn ystyried y cyngor sydd yn y ddogfen hon oni bai bod ganddynt resymau cadarn dros beidio â gwneud hynny.
Bydd tystiolaeth bod awdurdod lleol wedi ystyried y canllawiau hyn hefyd yn rhan allweddol o ystyriaeth Llywodraeth Cymru wrth benderfynu ar ddyfarnu unrhyw gyllid grant cyfalaf yn gysylltiedig â safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol.
Pan fydd trefniadau rheoli dan gontract yn bodoli ar safle sy’n destun cais am gyllid grant cyfalaf, rhaid cyflwyno copi gwag o’r contract rheoli i Lywodraeth Cymru ar gais. Bydd hyn yn helpu i fodloni Llywodraeth Cymru bod rheolaeth briodol ar waith ar safleoedd sy’n gwneud cais am fuddsoddiad.
Mae’n amlwg bod angen gwaith rheoli o ansawdd da wrth ddarparu safleoedd. Mae Llywodraeth Cymru eisiau annog a chefnogi rhannu arferion da a dulliau cyson o reoli llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Nod y canllawiau hyn yw darparu adnodd defnyddiol i helpu i gyflawni hyn ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Dylai’r canllawiau hyn fod yr un mor ddefnyddiol i helpu awdurdodau lleol sy’n bwriadu datblygu safleoedd newydd â’r rhai sydd eisoes yn rheoli safleoedd, yn ogystal â phreswylwyr safleoedd. Dylid eu defnyddio fel sail ar gyfer hwyluso rheoli safle’n dda. Y nod yw annog dulliau cadarnhaol, realistig ac ymarferol o ddatrys materion a all godi wrth reoli safleoedd yn sgil tanfuddsoddi, esgeulustod neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dylid darllen y canllawiau Rheoli Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ar y cyd â dogfen Llywodraeth Cymru, Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.
Bydd awdurdodau lleol sy’n ystyried y ddwy ddogfen ganllaw yn helpu i sicrhau bod safleoedd awdurdodau lleol yng Nghymru:
- yn gynaliadwy, yn cael eu rheoli’n dda a bod gwaith cynnal a chadw’n cael ei gynllunio yn hytrach na bod yn adweithiol bob amser
- yn arddel safonau cyfatebol i’r rhai a fyddai’n cael eu disgwyl ar safleoedd cartrefi symudol nad ydynt ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr
- yn cael eu rheoli ar y cyd â phreswylwyr i greu’r amodau angenrheidiol i annog a datblygu perthynas dda rhwng Sipsiwn a Theithwyr a’r gymuned sefydlog, a rhwng preswylwyr y safle a’r perchnogion/rheolwyr
Datblygu’r canllawiau hyn
Mae’r canllawiau hyn yn disodli canllawiau ‘Rheoli Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr’ 2015, gan ymgorffori nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Wrth ddatblygu’r canllawiau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio cysoni’r safonau ar gyfer safleoedd, lle bo’n ymarferol, â’r rhai y gall y gymuned sefydlog ddisgwyl eu profi mewn tai awdurdodau lleol.
Yn y rhan fwyaf o achosion, gwneir cymhariaeth uniongyrchol â mathau eraill o safleoedd cartrefi symudol, fel safonau Llywodraeth Cymru dan adran 10 Deddf Cartrefi Symudol 2013, ond mewn rhai achosion mae’n briodol cymharu â darpariaeth tai cymdeithasol.
Drwy Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod angen llety diogel a diwylliannol briodol er mwyn i unigolion ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau, ac mae wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r diffyg safleoedd a’r llety o ansawdd gwael sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.
Cafodd safleoedd preswyl a safleoedd tramwy awdurdodau lleol i Sipsiwn a Theithwyr hefyd eu cynnwys yn y diffiniad o ‘safleoedd gwarchodedig’ at ddibenion Deddf 2013, gan roi diogelwch deiliadaeth i breswylwyr y safleoedd hyn.
At bwy mae’r canllawiau hyn wedi’u hanelu?
Mae’r canllawiau hyn yn canolbwyntio’n benodol ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sy’n eiddo i awdurdodau lleol neu’n cael eu rheoli ganddynt, yn rhai parhaol a rhai tramwy. Mae rhagor o wybodaeth am fathau eraill o safleoedd ar gael yn: Canllawiau ar ddylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.
Mae’r canllawiau hyn wedi’u hanelu at y rhai sydd â chyfrifoldeb gweithredol a chyfrifoldeb o ddydd i ddydd dros safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sy’n eiddo i awdurdodau lleol neu’n cael eu rheoli ganddynt. Mae hyn yn debygol o gynnwys ‘rheolwr safle’ a ‘rheolwr gweithredol’ mwy strategol ar ran yr awdurdod lleol.
Defnyddir y term ‘rheolwr safle’ yn y ddogfen hon i ddisgrifio unrhyw berson sy’n gyfrifol o ddydd i ddydd am redeg safle awdurdod lleol. Gall teitl y swydd amrywio o un awdurdod lleol i’r llall, a gall y rolau a’r cyfrifoldebau a nodir yn y ddogfen hon fod yr un mor berthnasol i ‘ofalwr’ safle neu ‘warden’ safle.
Mae rhai awdurdodau lleol wedi creu swydd warden safle answyddogol ar gyfer pennaeth y teulu estynedig sy’n defnyddio’r safle. Er y gall rhai o’r cyfrifoldebau a amlinellir yn y canllawiau hyn fod yn berthnasol i’r swyddi hyn, mae’n debygol mai rheolwr gweithredol yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol yn y pen draw am reoli’r safle. Bydd hyn yn arbennig o debygol pan fydd warden answyddogol y safle yn ddi-dâl.
Bwriedir i’r ‘rheolwr gweithredol’ yn y canllawiau hyn gyfeirio at swyddog yr awdurdod lleol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros y safleoedd hyn. Bydd pwy sy’n gyfrifol yn dibynnu ar strwythur penodol yr awdurdod lleol, gan fod yr adran sy’n rheoli’r safleoedd hyn yn aml yn amrywio rhwng adrannau tai, cynllunio ac ystadau.
Gall rhai awdurdodau lleol sydd â safleoedd bychain ddewis peidio â chreu rôl benodol ar gyfer ‘rheolwr safle’. Serch hynny, bydd y cyfrifoldebau a amlinellir yn y ddogfen hon yn dal yn berthnasol i’r awdurdod lleol sy’n berchen ar y safleoedd hyn/yn eu rhoi ar les ac yn eu rheoli. Felly, lle mae’r ddogfen hon yn cyfeirio at gyfrifoldebau’r ‘rheolwr safle’, dylai awdurdod lleol nad yw wedi penodi i’r rôl benodol honno ddehongli’r cyfrifoldebau hynny fel rhai sy’n rhan o swyddogaeth eu rheolwr gweithredol yn lle hynny.
Pan fydd awdurdod lleol wedi rhoi’r gwaith o reoli unrhyw safle o ddydd i ddydd ar gontract allanol, disgwylir i’r rheolwr gweithredol sicrhau bod sylw dyladwy yn cael ei roi i’r canllawiau hyn o hyd. Yr awdurdod lleol sy’n parhau i fod yn gyfrifol yn y pen draw am reoli’r safleoedd hyn.
Dylid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru beth yw enw’r person sydd â chyfrifoldebau o ddydd i ddydd dros bob safle awdurdod lleol.
Diffiniadau
Mae’r diffiniadau o’r termau a ddefnyddir yn y ddogfen ganllaw hon wedi’u cynnwys yn yr eirfa yn Atodiad 1.
