Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Ni ddylai awdurdodau lleol ofyn am unrhyw flaendal i sicrhau llain breswyl. Bydd gofyn i’r defnyddiwr dalu’r ffioedd sy’n ddyledus ar gyfer eu llain. Argymhellir talu rhent lleiniau yn wythnosol ymlaen llaw, ac os mai dyna’r drefn, byddai’n rhesymol i’r awdurdod lleol ofyn am daliad wythnos (neu gyfran o’r swm hwnnw) wrth gyrraedd y safle. Dylai rheolwr y safle drafod opsiynau talu gyda’r ymgeisydd. Gall hyn gynnwys materion yn ymwneud â debydau uniongyrchol, archebion sefydlog neu Gredyd Cynhwysol.

Dylai’r cytundeb llain ddangos yn glir pryd mae’r ffi am y llain yn ddyledus, swm y ffi am y llain a phob un o’r gwasanaethau sydd wedi’u cynnwys yn y cyfanswm.

Dylai pob preswylydd newydd gael map o’r safle sy’n tynnu sylw at ardaloedd allweddol fel swyddfa’r safle, cyfleusterau ailgylchu, biniau/sgipiau cymunedol, cyfleusterau storio nwy ac unrhyw gyfleusterau cymunedol. Dylai’r map hefyd ddangos lle mae eu llain yng nghyd-destun gweddill y safle a dangos yn glir ffiniau’r llain. Dylai’r wybodaeth hon fod yn syml ac yn glir er mwyn goresgyn unrhyw rwystrau llythrennedd a, lle bo modd, defnyddio symbolau i ddiffinio lleiniau, pwyntiau cysylltu, pwyntiau tân ac ati.

Dylai preswylwyr newydd hefyd gael gweld eu llain a’u cyfleustodau, gan gynnwys pwyntiau cysylltu dŵr a thrydan, yn bersonol cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gyrraedd.

Dylai’r holl gyfleustodau fod ar gael o’r diwrnod y mae’r ymgeisydd yn symud i’r llain. Er enghraifft, nid yw’n dderbyniol i’r cyflenwad dŵr i’r llain gael ei ddiffodd ar ôl i’r preswylydd ddechrau preswylio ar y llain. Yn ogystal, dylai unrhyw drefniadau neu addasiadau arbennig y cytunwyd arnynt rhwng yr awdurdod lleol a'r defnyddiwr fod yn eu lle yn barod pan fyddant yn dechrau preswylio ar y llain.

Rheolwr y safle sy’n gyfrifol am ddangos y llain i’r preswylwyr ynghyd â’r pwyntiau cysylltu, draenio a’r bloc amwynderau ac, er enghraifft, sut mae defnyddio’r gawod neu’r gwres ac (ar safleoedd preswyl) sut mae gosod y peiriant golchi. Dylid gwneud hyn wrth gyrraedd y llain.

Dylai rheolwr y safle hefyd egluro’r trefniadau ar gyfer y cyfleustodau, yn enwedig y trefniadau talu. Dylid rhoi gwybod i breswylwyr am leoedd lle gellir prynu cardiau talu (os ydynt yn cael eu defnyddio).

Dylid rhoi gwybod i breswylwyr am yr angen i gadw’r rhwystrau tân rhwng y lleiniau. Mae gwybodaeth benodol am rwystrau tân i'w chael yn y canllawiau Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Dylid hysbysu preswylwyr na ddylid torri rhwystrau tân o dan unrhyw amgylchiadau.

Gall methu â chydymffurfio â’r gofyniad hwn olygu bod yr awdurdod lleol yn gwneud cais llys i derfynu’r cytundeb llain a chymryd meddiant o’r llain yn achos safle preswyl.

Yn achos safle tramwy, gall yr awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad ar unwaith yn ei gwneud yn ofynnol i'r defnyddiwr adael.

Dylid rhoi gwybod i breswylwyr am wasanaethau ar y safle, er enghraifft casglu sbwriel a threfniadau post, ac am drefniadau glanhau a chynnal a chadw. Dylent ddeall beth maent yn gyfrifol am ei lanhau a’i gynnal a’i gadw a beth y bydd rheolwyr y safle yn ei lanhau a’i gynnal a’i gadw.

Dylid egluro gweithdrefnau argyfwng yn llawn i’r preswylwyr. Dylai hyn gynnwys manylion cyswllt mewn argyfwng a lleoliad y ffôn argyfwng.

Dylai preswylwyr hefyd gael manylion cyswllt ar gyfer gwasanaethau y tu allan i oriau sy’n ymwneud â mater brys.

Mae hyn yn golygu y bydd preswylwyr newydd yn cael llawer iawn o wybodaeth. Dylid cyflwyno’r wybodaeth hon i gyd mewn llyfryn clir, heb jargon, y gall y preswylwyr gyfeirio ato yn nes ymlaen. Dylid darparu gwybodaeth mewn gwahanol fformatau hefyd i sicrhau hygyrchedd.

Dylai rheolwyr safleoedd fod â chynllun cynefino ar waith i sicrhau bod pob agwedd yn cael sylw. Gall rhestr wirio fod yn ddefnyddiol i sicrhau nad oes unrhyw beth yn cael ei fethu. Bydd cynllun cynefino clir hefyd yn sicrhau, os na fydd rheolwr y safle ar gael (oherwydd salwch ac ati), y gellir croesawu newydd-ddyfodiaid i’r safle o hyd a’u hysbysu’n briodol. Gweler enghraifft o restr wirio ar gyfer cynefino.

Enghraifft o restr wirio cynefino

  • Map o’r safle a’r cyfleusterau allweddol
  • Cytundeb llain:
    • Wedi’i esbonio a’i lofnodi
    • Ymholiadau wedi’u trafod
  • Manylion talu ymlaen llaw
  • Taliadau yn y dyfodol wedi’u hesbonio (dyddiadau taliadau rhent wedi’u darparu) 
  • Llain wedi’i dyrannu
  • Cadarnhau niferoedd y teulu (rhag ofn y bydd tân ac ati)
  • Carafán wedi’i sicrhau
  • Cyfleustodau wedi’u hesbonio
  • Y cyfleustodau sydd ar gael
  • Materion i fynd ar eu trywydd
  • Trefniadau lles wedi’u trafod
  • Addysg anabledd/addasiadau
  • Iechyd
  • Cyfleustodau: trefniadau talu
  • Gwasanaethau eraill ar y safle (post, sbwriel, ailgylchu)
  • Glanhau a chynnal a chadw: rolau a chyfrifoldebau
  • Rheoliadau tân wedi’u hesbonio
  • Offer tân/argyfwng
  • Manylion cyswllt mewn argyfwng/manylion pan nad yw’n argyfwng
  • Manylion cyswllt ychwanegol wedi’u darparu:
    • Meddyg teulu
    • Bydwreigiaeth a gwasanaethau ymwelwyr iechyd/Dechrau'n Deg
    • Galw Iechyd Cymru 
    • Damweiniau ac achosion brys
    • Deintydd
  • Pecyn cynefino i breswylwyr wedi’i ddarparu
  • Llyfr rhent wedi’i ddarparu
Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen