Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Trosolwg

Ar ôl cytuno ar y cytundeb cartref symudol a’i lofnodi ar gyfer llain breswyl awdurdod lleol, bydd yn rhoi diogelwch deiliadaeth am gyfnod amhenodol i’r preswylydd, oni bai mai dim ond caniatâd cynllunio am gyfnod cyfyngedig sydd gan y llain ei hun.

Pan gyflwynir y cytundeb llain ar gyfer llain dramwy, y cyfnod hwyaf ar gyfer ei ddefnyddio yw 3 mis. Bydd gweithdrefnau terfynu gwahanol yn berthnasol yn dibynnu a yw’r unigolyn ar lain breswyl ynteu lain dramwy.

Pan fydd cytundebau cartrefi symudol yn cael eu torri, dylai rheolwr y safle geisio datrys y broblem yn anffurfiol yn gyntaf, os yw hynny’n briodol, a sicrhau bod y preswylwyr yn deall y bu tor-amod a allai arwain at ganlyniadau iddynt o ran parhau i fyw ar y safle.

Mae enghreifftiau o sut i ddatrys achosion pan fydd defnyddwyr yn torri amodau’r cytundeb wedi’u nodi isod. Fodd bynnag, bydd lefel y camau a gymerir mewn unrhyw achos yn seiliedig ar ddifrifoldeb y tor-amod a’r effaith y gallai fod wedi’i chael ar breswylwyr eraill y safle a’r rhai sy’n byw yn yr ardal gyfagos:

  • Nid oes angen cymryd camau pellach; mae’r preswylydd wedi datrys y mater ar ôl trafodaeth anffurfiol gyda rheolwr y safle ac nid yw bellach yn torri amodau’r cytundeb.
  • Gellir rhoi rhybudd llafar am dor-amod bychan. Rhaid cofnodi’r rhybudd llafar yn ysgrifenedig a rhaid i’r defnyddiwr ddeall y gall methiant i gydymffurfio arwain at gymryd camau pellach yn eu herbyn.
  • Rhybudd ysgrifenedig – gellir rhoi hwn i’r defnyddiwr lle maent wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw rybudd llafar a roddwyd iddynt eisoes neu fel cam cyntaf lle mae’r tor-amod yn fwy difrifol. Rhaid i’r rhybudd ysgrifenedig egluro sut mae’r defnyddiwr wedi torri amodau’r cytundeb, a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud, erbyn pa ddyddiad, i ddatrys y tor-amod. Rhaid i’r rhybudd ysgrifenedig hefyd egluro’r canlyniadau posibl i’r defnyddiwr os na fyddant yn datrys y tor-amod yn ôl yr angen, a allai gynnwys cymryd camau cyfreithiol yn eu herbyn.
  • Gellir rhoi rhybudd terfynol ysgrifenedig i’r defnyddiwr os ydynt yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol mewn rhybudd ysgrifenedig cyntaf, boed hynny i safon resymol neu o gwbl, neu os ydynt yn torri amodau’r cytundeb mewn modd difrifol iawn. Os yw’r tor-amod sy’n dal i ddigwydd ar ôl cyhoeddi rhybudd ysgrifenedig cyntaf yn ddigon difrifol, mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol yn penderfynu cymryd camau cyfreithiol ar unwaith yn hytrach na chyhoeddi rhybudd ysgrifenedig terfynol. Os cyhoeddir rhybudd ysgrifenedig terfynol, rhaid iddo egluro sut mae’r defnyddiwr yn parhau i dorri amodau’r cytundeb a beth sydd angen iddynt ei wneud, erbyn pa ddyddiad, i ddatrys y tor-amod. Rhaid i’r rhybudd ysgrifenedig terfynol hefyd egluro’r canlyniadau posibl i’r defnyddiwr os nad ydynt yn cydymffurfio, a allai gynnwys cymryd camau cyfreithiol yn eu herbyn.
  • Mae’n bosibl y bydd angen cymryd camau cyfreithiol os nad yw’r mater wedi’i ddatrys ar ôl y rhybudd ysgrifenedig cyntaf neu derfynol, neu os yw’r torri a fu ar amodau’r cytundeb yn ddifrifol iawn, neu os yw’r defnyddiwr yn torri amodau’r cytundeb ymhellach.
  • Rhaid i awdurdodau lleol ystyried amddiffyniadau statudol ac anghenion llety blaenoriaethol preswylwyr beichiog a'r rheini sydd â phlant sy’n ddibynyddion o dan adran 70 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
  • Ni ddylid troi preswylydd allan os ydynt yn feichiog, lle bynnag y bo modd, yn unol ag arferion gorau a chyfrifoldebau diogelu.
  • Pan fydd teulu sydd â phlant dan bump oed yn mynd i gael eu troi allan neu eu symud o safle, rhaid rhoi gwybod i'r gwasanaeth ymwelwyr iechyd perthnasol yn brydlon er mwyn sicrhau parhad gofal a chymorth i'r plentyn/plant. 

Os bydd preswylwyr yn methu â datrys unrhyw achos o dorri amodau’r cytundeb ar ôl cael y rhybudd ysgrifenedig cyntaf a bod rheolwr safle o’r farn bod angen iddynt gymryd camau pellach, dylent drafod hyn gyda’r rheolwr gweithredol yn gyntaf.

Mae'r gweithdrefnau cyfreithiol y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu dilyn cyn y gellir terfynu cytundeb cartref symudol wedi'u nodi ym mharagraffau 38 i 40 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013.

Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu tystiolaeth sy’n bodloni llys neu dribiwnlys ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb cyn y gellir troi defnyddiwr allan o lain awdurdod lleol.

Nid oes angen cymeradwyaeth gan lys neu dribiwnlys i droi pobl allan o leiniau tramwy. Caiff awdurdodau lleol derfynu cytundebau ar gyfer lleiniau tramwy cyn y dyddiad dod i ben am unrhyw reswm, ar yr amod bod y defnyddiwr yn cael 4 wythnos o rybudd ysgrifenedig. Caiff perchnogion safle hefyd derfynu’r cytundeb ar unwaith os yw’r defnyddiwr wedi torri amodau eu cytundeb llain ac, ar ôl cael hysbysiad gan yr awdurdod lleol i unioni’r tor-amod, wedi methu â gwneud hynny mewn amser rhesymol a bod yr awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn rhesymol terfynu'r cytundeb.

Os bwriedir troi allan, rhaid i reolwr y safle sicrhau bod adrannau perthnasol eraill yr awdurdod lleol sy’n gweithio gyda’r aelwyd (er enghraifft, gweithwyr proffesiynol ym maes addysg ac iechyd) yn cael gwybod.

Yn yr un modd â throi allan aelodau o’r gymuned sefydlog, ni ddylid galw’r heddlu fel mater o drefn yn unrhyw achos troi allan. Dim ond pan ragwelir tor-heddwch yn benodol mewn unrhyw achos y dylid gwneud hyn.

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen