Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Geirfa

Cymunedau sefydlog

Mae cymunedau sefydlog yn gymunedau o bobl sydd ddim yn aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, ac sy’n byw mewn tai brics a mortar.

Llain

Tir ar safle cartrefi symudol lle mae gan ddefnyddwyr hawl i osod eu cartrefi symudol am gyfnod amhenodol (oni nodir yn eu cytundeb llain). Fel arfer mae’n cynnwys bloc amwynderau, lle ar gyfer carafán sefydlog a charafán deithiol a man parcio.

Bydd cynllun y llain yn dibynnu ar ddyluniad cyffredinol y safle. Elfen bwysig yn nyluniad a maint lleiniau yw’r capasiti arfaethedig. Mae Adran 60 Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) yn diffinio ‘cartref symudol’ fel un sy’n mesur hyd at 20 metr o hyd a 6.8 metr o led.

Llain dramwy

Tir ar safle cartrefi symudol lle mae gan ddefnyddwyr hawl i osod eu cartrefi symudol am uchafswm cyfnod o 3 mis. Gall lleiniau tramwy fodoli ar safleoedd preswyl parhaol, ond nid yw hyn yn cael ei argymell.

Safle

Bydd safle’n cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau (yn dibynnu ar faint y tir a’r gofynion), cysylltiadau â chyfleustodau, adeilad cymunedol, man chwarae, llwybr troed o amgylch y safle, goleuadau cyhoeddus, a ffensys/coed i greu ffin o amgylch y safle ar gyfer diogelwch ac amgáu.

Safle awdurdod lleol

Mae hwn yn safle sy’n eiddo i’r awdurdod lleol ac yn cael ei weithredu ganddo. Bydd y safle hwn yn cael ei ddynodi i’w ddefnyddio fel safle Sipsiwn a Theithwyr am gyfnod amhenodol. Gall preswylwyr ar y safleoedd hyn ddisgwyl defnyddio eu lleiniau cyhyd â’u bod yn glynu wrth delerau eu cytundeb llain, dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. Gellir darparu mannau gweithio hefyd ar safleoedd, neu gerllaw, ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir gan aelodau o’r gymuned.

Safle tramwy

Mae safleoedd tramwy yn gyfleusterau parhaol sydd wedi’u dylunio i’w defnyddio dros dro gan ddefnyddwyr. Bwriedir i’r safleoedd hyn gynnig modd i Sipsiwn a Theithwyr gynnal ffordd o fyw nomadig. Caniateir i ddefnyddwyr unigol fyw ar y safle am uchafswm o dri mis ar y tro. Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynnal a chadw’r safle, a bydd gwaredu gwastraff, cyflenwad dŵr a charthffosiaeth ar gael.

Mae telerau penodol dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol ar y safleoedd hyn. Gellir darparu mannau gweithio hefyd ar safleoedd, neu gerllaw, ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir gan aelodau o’r gymuned.

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen