Sarah Murphy AS, Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau a chymorth i bobl ag anableddau dysgu.
Rydym wedi ymrwymo i wella a thrawsnewid gwasanaethau cleifion mewnol arbenigol, yn unol ag adolygiad Bywydau wedi'u Dwyn Cymru: Cartrefi nid Ysbytai o ddarpariaeth gymunedol a chleifion mewnol.
Bydd yr adroddiad gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Fywydau wedi'u Dwyn, Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anableddau Dysgu (LDMAG) yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Rwy'n ddiolchgar i LDMAG am gynnull is-grŵp pwrpasol i ymgysylltu'n uniongyrchol ag aelodau o'r Ymgyrch Bywydau wedi'u Dwyn. Mae hyn wedi galluogi pobl â phrofiad byw – a'u teuluoedd – i helpu i siapio’r argymhellion a gyflwynwyd a sicrhau bod y profiad byw hwnnw yn llywio newidiadau i wasanaethau yn y dyfodol.
Mae llawer o'r argymhellion yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â'r gwaith sydd eisoes ar y gweill neu'n cael ei ddatblygu. Mae eraill wedi cryfhau'n sylweddol ein dealltwriaeth o'r heriau a'r rhwystrau systemig y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw.
Mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion sy'n anelu at leihau derbyniadau y gellir eu hosgoi o'r gymuned a chefnogi'r rhai sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd i ddychwelyd i fyw yn eu cymunedau lleol cyn gynted â phosibl. Mae llawer o argymhellion yn galw am ddiwygiadau mawr i wasanaethau a bydd angen gwaith paratoi manwl, adnoddau a buddsoddiad. Byddaf yn parhau i ddibynnu ar gyngor arbenigol LDMAG dros y misoedd nesaf wrth i ni weithio trwy'r materion hyn.
Amcangyfrifir bod 60,000 o oedolion ag anableddau dysgu yng Nghymru – poblogaeth sy'n profi anghydraddoldebau a rhwystrau sylweddol yn eu bywydau bob dydd. Mae mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn yn gofyn am fuddsoddiad, sylw ac arweinyddiaeth barhaus.
Mae Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu 2022-26 wedi codi proffil anghenion anableddau dysgu ac wedi ysgogi cynnydd diriaethol.Mae cyflawniadau allweddol y tymor hwn yn cynnwys:
- Gwell data a thryloywder: Cyflwyno data cyfrifiad chwarterol am gleifion mewnol ag anableddau dysgu. Disgwylir y data cyhoeddedig cyntaf o gyfrifiad Ebrill 2026.
- Y metrigau cenedlaethol cyntaf ar gyfer gwasanaethau iechyd i bobl ag anableddau dysgu, gyda thargedau cyson ar gyfer gwiriadau iechyd blynyddol, gofal cleifion mewnol ac adrodd am oedi mewn llwybrau.
- Gostyngiad mewn arosiadau ac oedi i gleifion mewnol:
- Ym mis Chwefror 2022, roedd 147 o bobl ag anableddau dysgu yn yr ysbyty. Ym mis Hydref roedd hyn wedi gostwng i 131.
- Bu gostyngiad o ddwy flynedd a hanner yn hyd cyfartalog y cyfnodau yn yr ysbyty.
- Gostyngiad o 33% yn nifer y bobl sy'n profi oedi wrth adael yr ysbyty a gostyngiad o 26% yn hyd yr oedi hynny.
- Mae mwy na 80,000 o staff y GIG wedi cwblhau hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anableddau Dysgu Lefel Sylfaen Paul Ridd ers mis Ebrill 2022. Mae'r rhaglen bellach wedi ehangu i ofal cymdeithasol, ac mae haen uwch wedi'i lansio ar gyfer staff sydd â chysylltiadau mwy dwys.
- Ymgorfforwyd gwiriadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn y contract meddyg teulu o fis Ebrill 2025, gyda chefnogaeth gwell dulliau casglu a monitro data. Rydym bellach yn canolbwyntio ar gynyddu defnydd a gwella ansawdd.
- Nododd adroddiad marwolaethau anableddau dysgu 2012–22 bod pobl ag anableddau dysgu yn marw ar gyfartaledd 20 mlynedd yn gynharach na'r boblogaeth gyffredinol, a nododd yr achosion y gellir eu hosgoi sy'n gofyn am weithredu ar frys.
- Ymgysylltu â phartneriaid i addasu'r Fframwaith Lleihau Arferion Cyfyngol cyn ei gyflwyno i Gymru gyfan yn 2026-27.
Rydym hefyd wedi adolygu amgylcheddau a chyfleusterau cleifion mewnol ac wedi cynnal adolygiad thematig o fathau o wasanaethau cleifion mewnol. Mae'r rhain wedi rhoi darlun cynhwysfawr o'r ddarpariaeth bresennol a'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag dychwelyd i leoliadau cymunedol. Bydd y gwaith hwn yn llywio'r newidiadau sydd eu hangen nawr mewn gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau cleifion mewnol.
Am weddill y tymor hwn, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar wella profiadau pobl o gael eu rhyddhau o'r ysbyty, gan gynnwys lleihau oedi wrth ryddhau. Byddwn yn parhau i fireinio ac ymgorffori'r data a'r wybodaeth allweddol sy'n helpu i hyrwyddo gwelliannau i'r system a byddwn yn cyhoeddi'r datganiad ansawdd integredig cyntaf ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.
Rwy'n glir bod rhaid parhau i flaenoriaethu camau gweithredu i wella canlyniadau i bobl ag anableddau dysgu.
Felly, rwy'n cefnogi rhaglen trawsnewid gwasanaethau anableddau dysgu integredig tair blynedd ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a thai, o fis Ebrill 2026 i fis Mawrth 2029.
Mae LDMAG wedi bod yn ein cynghori ar y blaenoriaethau ar gyfer gweithredu a bydd y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod â'n partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol, tai a'r trydydd sector ynghyd i gefnogi darparu gofal cymunedol integredig yn lleol i bobl ag anableddau dysgu.
Mae gan Gymru hanes hir a balch o wella bywydau pobl ag anableddau dysgu. Mae'r llywodraeth hon yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i barhau â'r daith honno, gan sicrhau y gall pawb gael mynediad at y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt, yn y lleoliad sy'n diwallu eu hanghenion orau.
