Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi cyflwyno Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27. Mae’r Gyllideb Derfynol yn adeiladu ar y cynlluniau gwario a nodwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2026-27 a gyflwynwyd ar 14 Hydref (amlinellol) a 3 Tachwedd 2025 (manwl).

Mae’r Gyllideb Derfynol yn darparu £27.5bn ar gyfer pobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau ar draws Cymru. Mae hyn yn £1.2bn yn fwy nag yn 2025-26 a £400m yn fwy nag yn y Gyllideb Ddrafft.

Mae hyn yn cynnwys £300m o gyllid ar gyfer llywodraeth leol a’r GIG, wedi ei sicrhau drwy gytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae hyn yn rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus, wrth sicrhau bod gan y llywodraeth nesaf yr adnoddau sydd ei hangen arni i gyflawni ei blaenoriaethau.

Mae dogfennau’r Gyllideb Derfynol ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru ac maent yn cynnwys:

  • Cynnig y Gyllideb Flynyddol
  • Adroddiad y Gyllideb Derfynol
  • Canllaw i’r Gyllideb Derfynol
  • Tablau’r Prif Grwpiau Gwariant a Llinellau Gwariant yn y Gyllideb Terfynol
  • Tablau sy’n Cefnogi’r Gyllideb Derfynol
  • Yr Asesiad Effaith Integredig Strategol
  • Canllaw Cyflym Cyfraddau Treth Incwm Cymru
  • Cynllun buddsoddi yn Seilwaith Cymru: Diweddariad ar y Llif Prosiectau

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hefyd wedi diweddaru eu hasesiad annibynnol o’n cynigion ar gyfer trethi – Rhagolwg Trethi Cymreig, diweddariad Ionawr 2026. Mae dolen i’r ddogfen hon ar gael ochr yn ochr â’r Dogfennau Cyllidebol.

Cynhelir y ddadl a’r bleidlais ar y Gyllideb Derfynol yn y Senedd ar 27 Ionawr.