Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Heddiw rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Waith Cam 2 sydd yn yr arfaeth ar Bont Menai. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i sicrhau bod ‑y strwythur hwn, sydd ag arwyddocâd rhyngwladol, yn parhau i weithredu'n ddiogel yn y tymor hir, wrth i'w deucanmlwyddiant nesáu.
Mae gwaith Cam 2 yn cynnwys pecyn cynhwysfawr o waith cynnal a chadw – ond y gwaith mwyaf nodedig yw ail-baentio'r strwythur.
Yn dilyn‑ UK Highways A55 Ltd yn ailystyried y rhaglen, ac o ystyried yr asesiadau peirianneg ychwanegol sydd eu hangen ar ôl i broblem godi ynghylch y trawstiau croes critigol y llynedd, mae bellach ddisgwyl i'r gwaith Cam 2 ailddechrau ym mis Chwefror, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2027. Mae'r dyddiadau hyn yn wahanol i'r dyddiadau yn yr amserlenni cynharach, yr effeithiwyd arnynt gan waith diogelwch hanfodol.
Bydd y bont yn parhau i fod ar agor i gerbydau hyd at 7.5 tunnell drwy gydol gwaith Cam 2, a bydd trefniadau rheoli traffig ar waith am gyfnodau byr i gwblhau elfennau allweddol.
Mae'r partïon wedi gweithio ar y cyd i ailgynllunio'r fethodoleg yn y rhaglen ddiwygiedig er mwyn lleihau'n sylweddol yr angen am reoli traffig ar y bont, o'i gymharu â'r cynlluniau cynharach, a thrwy hynny leihau tarfu ar drigolion, cymudwyr a busnesau.
Mae gorfodi'r terfyn pwysau 7.5‑tunnell yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y bont yn cael ei gweithredu mewn ffordd ddiogel wrth i'r gwaith fynd rhagddo, felly gofynnwn yn barchus i ddefnyddwyr y bont gydymffurfio â'r terfyn pwysau er mwyn osgoi cau ymhellach.
Mae trefniadau mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys ar waith pe bai gwyntoedd cryfion neu unrhyw ddigwyddiad arall yn effeithio ar Bont Britannia, gan sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i weithredu. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru y byddent yn helpu os bydd unrhyw sefyllfa frys yn effeithio ar Bont Britannia lle y byddai angen defnyddio Pont Menai i gael mynediad.
Mae UK Highways A55 Ltd, gyda chefnogaeth Spencers Bridge Engineering a COWI, yn parhau i gyflawni'r gwaith ar ran Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion wedi gofyn am sicrwydd gan y contractwr ynghylch y camau sy'n cael eu cymryd i atal oedi pellach, yn dilyn yr heriau mewn perthynas ag amserlennu, caffael a gorfodi hyd yn hyn.
Rwyf eisoes wedi cwrdd ag uwch gynrychiolwyr Equitix, sefydliad goruchwylio UK Highways A55 Ltd, i geisio sicrwydd y bydd y gwaith yn cael ei gyflawni mewn modd diogel a chyn gynted â phosibl. Hoffwn ailadrodd yn blwmp ac yn blaen y rhwystredigaeth a'r siom dwfn a deimlir ynglŷn â'r oedi i'r rhaglen.
Ni ellir gorbwysleisio arwyddocâd Pont Menai, fel seilwaith critigol ac fel tirnod eiconig, yn enwedig wrth inni ddathlu ei deucanmlwyddiant. Er ein bod i gyd yn siomedig na ellid cwblhau'r gwaith cyn y garreg filltir arwyddocaol hon, rhaid i ddiogelwch a chadernid strwythurol barhau i fod yn flaenoriaeth bob amser.
Ein nod bob amser fu parhau i gynnal y strwythur eiconig hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Bydd fy swyddogion yn parhau i oruchwylio'r rhaglen yn agos i sicrhau ei bod yn cadw at yr amserlenni yn y cynllun.
Mae'r dudalen cwestiynau cyffredin ar gyfer y mater hwn yn cael ei diweddaru A5 Pont Menai : cwestiynau cyffredin | LLYW. CYMRU a hoffwn i ddiolch ichi am eich amynedd a'ch dealltwriaeth barhaus.
