Addasiadau Rhesymol i Gymwysterau Cyffredinol: asesiad effaith integredig
Asesiad o effaith y newidiadau i'r addasiadau rhesymol i gymwysterau cyffredinol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham
Y mater dan sylw
Mae Cymwysterau Cymru yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau, ac eithrio graddau, yng Nghymru. Ei rôl yw sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru yn effeithiol ynghyd â hybu ffydd y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru. Sefydlwyd Cymwysterau Cymru gan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 ac mae ei swyddogaethau wedi'u nodi yn y Ddeddf.
Mae gan Cymwysterau Cymru lefel o ymreolaeth ynghylch sut i reoli'r system gymwysterau ac mae ei rôl yn ehangach na rôl rheoleiddiwr cymwysterau confensiynol gan fod ganddo bwerau ychwanegol i gomisiynu cymwysterau newydd ac i gyfyngu ar yr ystod o gymwysterau a gynigir. Fodd bynnag, rhaid iddo roi sylw dyledus i bolisi a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Caiff meini prawf rheoleiddio ar gyfer cymwysterau eu nodi gan Cymwysterau Cymru, sydd wedyn yn cael eu datblygu'n fanylebau cymwysterau a'u cyflwyno gan gyrff dyfarnu, megis CBAC yng Nghymru.
Mae adran 96 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn gosod dyletswyddau amrywiol ar gyrff cymwysterau gan gynnwys dyletswyddau i beidio â gwahaniaethu wrth ddyfarnu cymwysterau. Yn bwysig, mae adran 96 hefyd yn cymhwyso'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn adran 20 o'r Ddeddf i gyrff cymwysterau. Mae' Fanyleb Addasiadau Rhesymol ('y Fanyleb') - a gyhoeddwyd mewn canllawiau statudol 'Addasiadau rhesymol o gymwysterau cyffredinol' yn nodi'r canllawiau a'r fframwaith i sicrhau nad yw dysgwyr yng Nghymru ag amhariadau a (neu) anableddau yn cael eu hatal rhag cael mynediad at gymwysterau o dan y system cymwysterau, gyda'r ddarpariaeth yn galluogi cyrff dyfarnu i wneud addasiadau i agweddau penodol ar yr asesiadau cymwysterau a lle bo angen dileu elfennau o'r asesiadau (drwy esemptiad) mewn amgylchiadau a ganiateir.
Mae adran 96 o'r Ddeddf hefyd yn rhoi pwerau i'r 'rheoleiddiwr priodol' bennu amgylchiadau lle na fydd y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn gymwys. I bob pwrpas, mae'n caniatáu i'r rheoleiddiwr priodol osod paramedrau'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Wrth wneud hynny, rhaid i'r rheoleiddiwr priodol roi sylw i'r angen i leihau'r graddau y mae pobl anabl yn cael eu rhoi dan anfantais, a'r angen i amddiffyn uniondeb y cymhwyster a chynnal ffydd y cyhoedd ynddo. Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Rheoleiddiwr Cyrff Cymwysterau Cyffredinol a Chymwysterau Perthnasol) (Cymru) 2010 yn penodi Gweinidogion Cymru fel y rheoleiddiwr priodol ar gyfer Cymru. Mae hyn yn golygu bod gan Weinidogion Cymru berchnogaeth o unrhyw fanylebau ynghylch darparu addasiadau rhesymol yn ogystal â'r rhestr o gymwysterau y gallai'r rhain fod yn gymwys iddynt.
Mae'r fanyleb gyfredol yn manylu na cheir defnyddio esemptiad fel addasiad rhesymol pan fyddai'n fwy na 40 y cant o'r marciau sydd ar gael (wedi'u pwysoli) ar gyfer cymhwyster. O dan y rheolau hyn, ni ellid defnyddio esemptiad o unrhyw gydran, neu gyfuniad o gydrannau, sy'n fwy na 40 y cant o gymhwyster fel addasiad rhesymol. Yn ogystal, ni cheir defnyddio esemptiad o ran o gydran fel addasiad rhesymol. Dim ond pan fydd ymgeisydd yn methu cael mynediad at unrhyw ran o’r gydran honno y ceir caniatáu esemptiadau ar gyfer cydran gyfan.
Yn ogystal â gosod y rheolau y mae'n rhaid i gyrff dyfarnu eu dilyn wrth wneud addasiadau i asesiadau, mae'r Fanyleb hefyd yn nodi lle y gellir rhoi esemptiad mewn perthynas â chymhwyster. Gellir rhoi esemptiad ar gyfer un neu fwy o'r asesiadau sy'n ffurfio'r cymhwyster (sy'n golygu nad yw'n ofynnol i'r dysgwr sefyll yr asesiad hwnnw), lle nad oes unrhyw addasiad rhesymol arall yn briodol i ddiwallu ei anghenion. Mae'n gytundeb a wneir gyda chorff dyfarnu, fel CBAC, cyn yr asesiad, sy'n golygu bod ymgeisydd anabl yn gallu cael esemptiad o gydran (neu gydrannau) cymhwyster.
Mae'n ofynnol i'r corff dyfarnu archwilio'r holl opsiynau eraill cyn ystyried esemptiad, gydag esemptiad yn cael ei ddefnyddio pan fydd popeth arall wedi methu, a rhaid darparu tystiolaeth o amgylchiadau unigol y dysgwr. Pan roddir esemptiad, ystyrir bod perfformiad y dysgwr yn y cydrannau a gwblhawyd yn nodweddiadol o'i berfformiad ar gyfer yr holl asesiadau. Defnyddir y perfformiad hwn i ddyfarnu'r radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.
Mae caniatáu esemptiadau yn lleihau'r anfantais i ddysgwyr anabl. Mae gosod cyfyngiadau penodol ar y defnydd a wneir ohonynt yn helpu i gynnal ffydd y cyhoedd ac i sicrhau bod y cymwysterau yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a phrofiad dysgwyr yng Nghymru.
Fel rhan o'u rôl, mae Cymwysterau Cymru wedi arwain rhaglen waith – Cymwys ar gyfer y Dyfodol – sydd wedi datblygu'r gofynion dylunio ar gyfer cyfres newydd o Gymwysterau Cenedlaethol 14 i 16 i gefnogi Cwricwlwm Cymru.
Ym mis Mehefin 2023 cyhoeddwyd y meini prawf terfynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Cenedlaethol newydd sydd i'w haddysgu o fis Medi 2025, gan gadarnhau'r cymwysterau TGAU sydd ar gael i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru. Yn dilyn hynny, mae CBAC, fel y corff dyfarnu, wedi datblygu manylebau manwl ar gyfer pob un o'r cymwysterau TGAU sydd wedi'u cymeradwyo'n derfynol gan Cymwysterau Cymru. Cyhoeddwyd y rhain ym mis Medi 2024, ar gyfer y cymwysterau hynny a addysgwyd am y tro cyntaf o fis Medi 2025 (Ton 1) ac ym mis Medi 2025 ar gyfer cymwysterau i'w haddysgu gyntaf ym mis Medi 2026 (Ton 2).
Mae'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol a'r TGAU Cymraeg Craidd (a fydd yn cael ei addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2025) yn cynnwys pedair uned gydag Unedau 1 a 2 yn cael eu hasesu drwy dasgau siarad a gwrando integredig, gan gyfrannu 50% o asesiad cyffredinol y cymhwyster. Byddai hyn yn golygu ei fod yn fwy na'r terfyn presennol a ganiateir, sef 40% o'r asesiad cyffredinol.
Mae'r cymwysterau TGAU dyfarniad sengl ar gyfer Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ac Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn cynnwys pedair uned. O ran TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, mae'r cymwysterau wedi'u cynllunio gyda phwyslais sylweddol ar lafaredd i gyd-fynd â ffocws y Cwricwlwm i Gymru a Llywodraeth Cymru ar lafaredd a chreu siaradwyr Cymraeg.
Adlewyrchir hyn yn y cymhwyster TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg lle caiff dwy uned (Unedau 2 a 3) eu hasesu trwy dasgau sy'n asesu sgiliau siarad a gwrando ochr yn ochr ag asesiadau ysgrifenedig, sy'n cyfrannu 40 y cant o asesiad cyffredinol y cymhwyster.
Mae'r cymwysterau TGAU dyfarniad dwbl ar gyfer Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ac Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn cynnwys chwe uned, gyda thair uned (Unedau 2, 3 a 5) yn cynnwys tasgau sy'n asesu sgiliau siarad a gwrando ochr yn ochr ag asesiadau ysgrifenedig, sydd hefyd yn cyfrannu 40 y cant o asesiad cyffredinol y cymhwyster.
Mae'r Fanyleb gyfredol yn nodi na cheir defnyddio esemptiad ar gyfer rhan o gydran fel addasiad rhesymol. Dim ond pan fydd ymgeisydd yn methu cael mynediad at unrhyw ran o’r gydran honno y ceir caniatáu esemptiadau ar gyfer cydran gyfan. Nid yw'r rheol hon yn atal Cyrff Dyfarnu rhag ystyried achosion ar gyfer eithriad, er mwyn diwallu anghenion dysgwyr, yng nghyd-destun y gyfres bresennol o gymwysterau TGAU, ond mae'r TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg diwygiedig (i’w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2025), wedi'u hintegreiddio. Mae hyn yn golygu bod yr asesiad llafar a'r asesiadau ysgrifenedig o fewn yr un Uned asesu. Mae hyn yn cyflwyno'r risg y gallai dysgwr gwblhau rhai o'r asesiadau ysgrifenedig o fewn yr Uned ond heb fod yn gallu cwblhau'r asesiad llafaredd. O dan yr amod neu rheol bresennol, byddai hyn yn dileu gallu corff dyfarnu i ystyried esemptio dysgwr o’r elfen lafaredd yn unig, os yw hynny’n angenrheidiol i ddiwallu ei anghenion.
Yn ei rôl fel rheoleiddiwr cymwysterau, mae Cymwysterau Cymru wedi cynghori Gweinidogion Cymru y dylid gwneud diwygiadau i'r Fanyleb. Hynny er mwyn sicrhau bod dysgwyr ag amhariadau a (neu) anableddau penodol fel mudandod achlysurol yn parhau i allu cael mynediad at y ddarpariaeth addasiad rhesymol, gan gynnwys y posibilrwydd o gael esemptiad o asesiad.
Camau gweithredu a gynigir
Llywodraeth Cymru i gyhoeddi diweddariad i'r canllawiau statudol o dan y Fanyleb Addasiadau Rhesymol.
Diben hyn yw gwneud rheol eithriadol ar gyfer esemptio o asesiad ar gyfer cymwysterau TGAU penodol. Cynigir y rheolau eithriadol hyn i ganiatáu i gyrff dyfarnu gymhwyso'r ddarpariaeth ar gyfer esemptiadau er mwyn i ddysgwyr ag amhariadau a (neu) anableddau penodol allu cael mynediad at y cymwysterau penodol hyn.
Dyma'r rheolau ar gyfer eithriadau:
- ychwanegu eithriad ar gyfer TGAU Cymraeg Craidd, fel y gellir esemptio 50% o asesiadau'r cymhwyster fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael.
- Ar gyfer y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith cyfredol, cynigir ychwanegu eithriad fel y gellir esemptio 50% (o'i gymharu â 40%) o asesiadau'r cymhwyster fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael, ar gyfer y dysgwyr hynny a fydd yn cael eu hasesu yn erbyn y cymhwyster hwnnw yng nghyfres arholiadau 2026. Ni fydd y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol yn cael ei addysgu mewn ysgolion i ddysgwyr Blwyddyn 10 newydd o fis Medi 2025 ymlaen, pan fydd yn cael ei ddisodli gan y cymhwyster TGAU Cymraeg Craidd.
- Ar gyfer TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, cynigir gwneud newid i'r manylebau er mwyn caniatáu esemptiad rhannol o un neu fwy o gydrannau fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael.
Y pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Y rheolau eithriadol ar esemptiad o asesiad ar gyfer cymwysterau TGAU penodol, a gynigir i roi cyfle i gyrff dyfarnu gymhwyso'r ddarpariaeth ar gyfer esemptiadau i alluogi dysgwyr ag amhariadau a (neu) anableddau penodol i gael mynediad at gymwysterau penodol, y cwbl yn gyson â'r nodau llesiant a'r ffyrdd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015:
Y tymor hir
Mae'r Cwricwlwm i Gymru wedi cael ei ddatblygu i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer byd sy'n newid yn gyflym iawn ac i sicrhau bod addysg yn cyflawni ei blaenoriaethau ac yn mynd i'r afael ag anghenion posibl busnesau a'r economi yn y dyfodol. Mae ffyniant, cydlyniant a llesiant cenedl yn seiliedig ar system addysg lwyddiannus.
Mae'r gyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig wedi'u datblygu i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Cwricwlwm Cymru. Mae ffocws ar gymwysterau fel ffordd i asesu i ba raddau y mae dysgwyr wedi datblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymagwedd at ddysgu y bydd eu hangen arnynt drwy gydol eu bywydau, ac y byddant yn eu helpu i ffynnu mewn addysg bellach neu ym myd gwaith.
Wrth ddatblygu'r cynigion ar gyfer dyluniad y cymwysterau TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig eraill ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed, mae Cymwysterau Cymru wedi gweithio'n agos gydag athrawon, dysgwyr, cynghorwyr arbenigol, a'r rhai sy'n dibynnu ar ganlyniadau cymwysterau fel cyflogwyr, colegau, darparwyr hyfforddiant a phrifysgolion. Maent hefyd wedi tynnu ar gyfoeth o waith ymchwil a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf i lywio eu teithi meddwl ynghylch dylunio cymwysterau ac asesiadau.
Mae gan y Gymraeg statws unigryw yn y cwricwlwm o ystyried nodau strategol ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio'r Gymraeg, gan gynnwys gosod targedau penodol ar gyfer deilliannau ieithyddol erbyn i ddysgwyr adael addysg orfodol. Mae'r Gymraeg yn rhan orfodol o'r cwricwlwm ar gyfer pob blwyddyn ysgol, gan gynnwys Blynyddoedd 10 ac 11. Dylid cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd parhaus o ran dysgu a defnyddio'r Gymraeg yn ystod y blynyddoedd hyn. Mae cymwysterau â rôl bwysig i'w chwarae o ran cefnogi ysgolion i gyflawni'r gofyniad hwn mewn ffordd sy'n adeiladu ar ddysgu blaenorol dysgwyr. Ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, mae ennill y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith, neu TGAU Cymraeg Craidd o fis Medi 2025, yn dangos lefel o gymhwysedd yn y Gymraeg a bydd hyn yn bwysig i bobl ifanc yng Nghymru o ran dewis a gwneud cynnydd mewn gyrfa.
Yn yr un modd, mae cael cymwysterau yn Saesneg yn bwysig iawn i ddysgwyr ar gyfer mynd ymlaen i addysg bellach a chyflogaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod disgwyliad bod holl ddysgwyr Blwyddyn 10 ac 11 yn dilyn 'cwrs heriol ac uchelgeisiol sy'n arwain at gymhwyster mewn Saesneg'. I'r rhan fwyaf o ddysgwyr, bydd hyn naill ai'n ddyfarniad dwbl neu sengl yn y TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg.
Atal
Bydd y dull arfaethedig o ganiatáu ystyried esemptiadau eithriadol ar gyfer cymwysterau penodol mewn amgylchiadau penodol, yn ei gwneud yn bosibl i ddysgwyr penodol gael mynediad at y cymhwyster a allent gael eu rhwystro rhag cael y mynediad hwnnw gan anabledd sy'n eu hatal rhag ymgymryd â'r elfennau llafaredd, i ddangos eu galluoedd a'u cymhwysedd yn agweddau eraill yr asesiad o'r uned.
Os nad oes cynnydd yn lefel yr esemptiad, rydym yn ystyried y gallai hyn amharu'n annheg ar allu pobl ag anableddau penodol, megis mudandod achlysurol, i ennill y cymhwyster TGAU penodol neu o leiaf gael gradd uwch. Heb y newid hwn mae'n bosibl y byddai dysgwr yn colli 50% o'r marciau sydd ar gael ar gyfer y cymhwyster. Yn yr amgylchiadau hynny mae'n bosibl y gallai gradd is amharu ar ei allu i gael swydd yn y dyfodol neu fynediad at ddarpariaeth ôl-16 a chyrsiau addysg bellach sy'n gofyn am radd uwch yn y cymwysterau TGAU penodol hynny fel trothwy.
Integreiddio
Mae cymwysterau yn elfen bwysig o ddysgu rhwng 14 a 16 oed ac maent yn asesiad a gydnabyddir yn gyffredinol o allu dysgwr i ddangos eu gwybodaeth a'u sgiliau, sy'n hanfodol i'w llwyddiant drwy gydol eu bywydau ac i ffyniant ehangach Cymru. Mae cymwysterau a gyflawnwyd yn 14 i 16 oed yn cyd-fynd yn uniongyrchol â chyfleoedd i symud ymlaen i addysg bellach ac uwch ac i'r byd gwaith, gyda chymwysterau penodol fel y rhai yn y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr y dyfodol mewn marchnad lafur gystadleuol.
Yn ogystal â gosod y rheolau y mae'n rhaid i gyrff dyfarnu eu dilyn wrth wneud addasiadau i asesiadau, mae'r Fanyleb hefyd yn nodi lle y gellir rhoi esemptiad. Gellir rhoi esemptiad ar gyfer un neu fwy o'r asesiadau sy'n ffurfio'r cymhwyster (sy'n golygu nad yw'n ofynnol i'r dysgwr sefyll yr asesiad hwnnw), lle nad oes unrhyw addasiad rhesymol arall yn briodol i ddiwallu ei anghenion. Mae'n gytundeb a wneir gyda chorff dyfarnu, fel CBAC, cyn yr asesiad, sy'n golygu bod ymgeisydd anabl yn gallu cael esemptiad o gydran (neu gydrannau) cymhwyster.
Mae'n ofynnol i'r corff dyfarnu archwilio'r holl opsiynau eraill cyn ystyried esemptiad, gydag esemptiad yn cael ei ddefnyddio pan fydd popeth arall wedi methu, a rhaid darparu tystiolaeth o amgylchiadau unigol y dysgwr. Pan roddir esemptiad, ystyrir mai perfformiad y dysgwr yn y cydrannau a gwblhawyd yw ei berfformiad ar gyfer yr holl asesiadau. Defnyddir y perfformiad hwn i ddyfarnu'r radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster. Mae caniatáu esemptiadau yn lleihau'r anfantais i ddysgwyr anabl. Mae gosod cyfyngiadau penodol ar y defnydd a wneir ohonynt yn cynnal ffydd y cyhoedd ac yn helpu i sicrhau bod y cymwysterau yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a phrofiad dysgwyr yng Nghymru.
Oherwydd dyluniad y cymwysterau a nodwyd, gallai methiant i ddiwygio'r Fanyleb Addasiadau Rhesymol er mwyn cynyddu'r esemptiad mwyaf posibl amharu'n annheg o bosibl ar allu pobl ag anableddau penodol (fel mudandod achlysurol neu dethol) i ennill y cymhwyster neu o leiaf gael gradd uwch, gan effeithio felly ar eu cyflogadwyedd yn y dyfodol.
Bydd y cymhwyster yn dal i roi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y sawl sy'n ei ennill.
Cydweithredu
Cafodd swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â rheoleiddio cymwysterau a system gymwysterau Cymru eu diddymu yn 2015 wrth sefydlu Cymwysterau Cymru. Fel y rheoleiddiwr annibynnol, mae gan Cymwysterau Cymru gyfrifoldeb i sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru yn effeithiol a hybu ffydd y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru. Mae CBAC fel y corff dyfarnu yn goruchwylio gweinyddu'r system arholi.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar gyrff cymwysterau i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl. Mae trin ymgeiswyr yn deg, ac ar yr un pryd sicrhau bod y cymhwyster yn parhau i fod yn ddilys, yn ystyriaeth bwysig. Mae adran 96 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn gosod dyletswyddau amrywiol ar gyrff cymwysterau gan gynnwys dyletswyddau i beidio â gwahaniaethu wrth ddyfarnu cymwysterau. Yn bwysig, mae adran 96 hefyd yn cymhwyso'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn adran 20 o'r Ddeddf i gyrff cymwysterau. Mae adran 96 o'r Ddeddf hefyd yn rhoi pwerau i'r 'rheoleiddiwr priodol' bennu amgylchiadau lle na fydd y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn gymwys. I bob pwrpas, mae'n caniatáu i'r rheoleiddiwr priodol osod paramedrau'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Wrth wneud hynny, rhaid i'r rheoleiddiwr priodol roi sylw i'r angen i leihau'r graddau y mae pobl anabl yn cael eu rhoi dan anfantais, a'r angen i amddiffyn uniondeb y cymhwyster a chynnal ffydd y cyhoedd ynddo.
Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Rheoleiddiwr Cyrff Cymwysterau Cyffredinol a Chymwysterau Perthnasol) (Cymru) 2010 yn penodi Gweinidogion Cymru fel y rheoleiddiwr priodol ar gyfer Cymru. Mae hyn yn golygu bod gan Weinidogion Cymru berchnogaeth o unrhyw fanylebau ynghylch darparu addasiadau rhesymol yn ogystal â'r rhestr o gymwysterau y gallai'r rhain fod yn gymwys iddynt.
Mae'r dull arfaethedig o ganiatáu esemptiadau eithriadol wedi'i ddatblygu ar y cyd rhwng Gweinidogion Cymru a Chymwysterau Cymru o fewn cwmpas eu rolau dynodedig, yn dilyn cyngor gan yr olaf yn ei rinwedd fel rheoleiddiwr cymwysterau. Fel rhan o broses gyn-ymgynghori gadarn, ymgynghorwyd â CBAC fel y corff dyfarnu ar gyfer cymwysterau cyffredinol yng Nghymru gydol y broses i ystyried effeithiau technegol y cynnig. Mae'r cynigion wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ac wedi'u rhannu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid â diddordeb trwy rwydweithiau mewnol. Yn ogystal, mae'r Adran Addysg yn Lloegr wedi cael gwybod am y cynigion i nodi unrhyw effaith ar Loegr o ran cymhariaeth ar draws y ffin cymwysterau TGAU tebyg ac i liniaru unrhyw ganfyddiadau anghywir mewn perthynas â'r cynnig.
Roedd y diwygiadau cyfyngedig a phenodol i'r Fanyleb Addasiad Rhesymol yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 01 Medi 2025 a 24 Hydref 2025.
Cyfranogiad
Drwy eu rhaglen waith Cymwys ar gyfer y Dyfodol, mae Cymwysterau Cymru wedi datblygu'r gofynion dylunio ar gyfer cyfres newydd o Gymwysterau Cenedlaethol 14 i 16 i gefnogi Cwricwlwm Cymru. Yn dilyn hynny, mae CBAC, fel y corff dyfarnu, wedi datblygu manylebau manwl ar gyfer pob un o'r cymwysterau TGAU sydd wedi'u cymeradwyo'n derfynol gan Cymwysterau Cymru.
Yn ystod y gwaith o gyd-adeiladu cynigion ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd – gan gynnwys y rhai a amlygwyd fel rhan o'r cam gweithredu hwn – mae Cymwysterau Cymru felly wedi gweithio'n agos gydag athrawon, dysgwyr, cynghorwyr arbenigol, a'r rhai sy'n dibynnu ar ganlyniadau cymwysterau fel cyflogwyr, colegau, darparwyr hyfforddiant a phrifysgolion i lywio'r cymwysterau a'r dulliau asesu.
Yn ei rôl fel rheoleiddiwr cymwysterau yng Nghymru, mae Cymwysterau Cymru wedi cynghori Gweinidogion Cymru y dylid gwneud diwygiadau i'r Fanyleb er mwyn sicrhau bod dysgwyr ag amhariadau a (neu) anableddau penodol fel mudandod achlysurol yn parhau i allu manteisio ar y ddarpariaeth addasiadau rhesymol, gan gynnwys y potensial ar gyfer esemptiad o asesiad, ar ôl cyflwyno'r cymwysterau TGAU newydd.
Effaith
Ochr yn ochr â gweithredu Deddf Cwricwlwm Cymru 2021 a diwygio'r cwricwlwm, mae Cymwysterau Cymru, fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, wedi arwain rhaglen waith – Cymwys ar gyfer y Dyfodol – sydd wedi datblygu'r gofynion dylunio ar gyfer cyfres newydd o Gymwysterau Cenedlaethol 14 i 16 i gefnogi Cwricwlwm Cymru. Mae'r Cwricwlwm i Gymru a wnelo â rhoi'r amrywiaeth gywir o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau i bobl ifanc i'w paratoi ar gyfer bywyd mewn byd cydgysylltiedig sy'n newid yn barhaus. Mae'n hanfodol bod ein cymwysterau newydd yn adlewyrchu ac yn galluogi hyn. Mae'r gwaith hwn yn cwmpasu'r cynnig cymwysterau 14 i 16, gan gynnwys TGAU.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 ('y Ddeddf') yn gosod dyletswydd ar gyrff cymwysterau i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl mewn perthynas â chael mynediad at gymwysterau. Mae trin ymgeiswyr yn deg, a sicrhau ar yr un pryd bod y cymhwyster yn parhau i fod yn ddilys, yn ystyriaeth bwysig. Mae adran 96(7) o'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru (fel y rheoleiddiwr priodol ar gyfer corff cymwysterau sy'n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru) bennu lle na ddylid gwneud addasiad rhesymol i gymwysterau cyffredinol.
Wrth ddatblygu'r manylebau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried:
- yr angen i leihau'r graddau y mae pobl anabl yn cael eu rhoi dan anfantais oherwydd eu hanableddau wrth geisio ennill cymhwyster
- yr angen i sicrhau bod y cymhwyster yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y sawl sydd yn ei ennill
- yr angen i gynnal ffydd y cyhoedd yn y cymhwyster
Mae dyletswydd gyfreithiol ar sefydliadau dyfarnu o hyd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl a rhaid iddynt ystyried pa addasiadau all fod yn rhesymol mewn unrhyw gyfres benodol o amgylchiadau. Mae arferion cyfredol y sefydliadau dyfarnu o ran defnyddio addasiadau rhesymol i gymwysterau cyffredinol yn seiliedig ar gyhoeddiad y Cyd-gyngor Cymwysterau 'Access Arrangements, Reasonable Adjustments and Special Consideration - General and Vocational Qualifications', sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol.
Yn ogystal ag esemptiad fel yr opsiwn olaf a archwilir (ar ôl methu â defnyddio addasiadau rhesymol eraill i alluogi'r dysgwr i sefyll yr asesiad penodedig), os yw corff dyfarnu yn cymeradwyo esemptiad o dan y ddarpariaeth hon, mae'n cael ei nodi ar yr ardystiad cymhwyster y mae'r dysgwr yn ei gael. Mae hyn yn darparu tryloywder i'r dysgwr ac i'r rhai a allai fod yn asesu addasrwydd y dysgwr neu ei gais ar gyfer cymhwyster lefel uwch yn y ddisgyblaeth honno, neu ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
Mae Ofqual fel Rheoleiddiwr Cymwysterau Lloegr wedi cyhoeddi manylebau cyfatebol sy'n cwmpasu cymwysterau a ddyfernir yn Lloegr. Mae Canllawiau cyffredinol gan y JCQ yn sicrhau bod cyrff dyfarnu'n cydymffurfio â'r manylebau hyn yn ogystal â'r rhai a gyhoeddir yng Nghymru (mae'r rheolau ar esemptio yr un fath ar hyn o bryd yn y ddwy fanyleb). Er bod Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio cymwysterau cymeradwy, ac y byddai'n monitro CBAC yn unol â manylebau Llywodraeth Cymru, mae'n bwysig nad yw CBAC yn gwyro oddi wrth ganllawiau'r JCQ ar addasiadau rhesymol.
Costau ac Arbedion
Mae cyhoeddi Manyleb ddiwygiedig wedi'i gynllunio i gefnogi ysgolion a chyrff dyfarnu i ddeall y disgwyliadau ohonynt o dan y darpariaethau Addasiadau Rhesymol presennol a nodir mewn deddfwriaeth. Mae'r newidiadau a fydd yn cael eu gwneud yn benodol ac yn gyfyngedig, felly nid ydym yn rhagweld y bydd yn arwain at unrhyw gostau uniongyrchol ychwanegol i ysgolion.
Mecanwaith
Mae cyrff dyfarnu ar gyfer cymwysterau a chanolfannau eisoes yn ymwybodol o gwmpas y Fanyleb a'r amodau ar gyfer cael mynediad at addasiadau rhesymol. Pwrpas y newidiadau penodol a chyfyngedig i'r Fanyleb yw sicrhau bod ysgolion, canolfannau a chyrff dyfarnu yn ymwybodol bod dysgwyr ag amhariadau a (neu) anableddau penodol fel mudandod achlysurol yn parhau i gael mynediad at y ddarpariaeth addasiadau rhesymol, gan gynnwys y potensial ar gyfer esemptiad o asesiad, yn dilyn newidiadau i'r strwythur cymwysterau.
Adran 8: casgliad
8.1 Sut cafodd y bobl, y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt, eu cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu
Bu ymgysylltu cyn-ymgynghori â phartneriaid allanol gan gynnwys Cymwysterau Cymru fel rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol a CBAC fel y corff dyfarnu ar gyfer cymwysterau cyffredinol yng Nghymru, gan gynnwys y cymwysterau hynny a nodwyd yn benodol fel rhai o fewn cwmpas y cynigion.
Roedd y diwygiadau cyfyngedig arfaethedig i'r Fanyleb Addasiadau Rhesymol yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 01 Medi 2025 a 24 Hydref 2025.
Bydd cwmpas y trefniadau esemptiadau eithriadol yn effeithio ar ychydig iawn o ddysgwyr yn uniongyrchol, gyda'r fanyleb yn cyfyngu ar y defnydd o'r ddarpariaeth i gael ei ystyried dim ond ar ôl archwilio'r holl addasiadau eraill. Dylid nodi hefyd y cynnig i gynyddu agwedd benodol ar y ddarpariaeth ar gyfer cymwysterau diffiniedig (cyfanswm o 4) yng nghyd-destun y ffaith nad yw'r ddarpariaeth ei hun, yn ei hanfod, yn ddarpariaeth a ddefnyddir yn gyffredin. Fodd bynnag, mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cefnogi'r safbwynt y gallai fod rhagfarn yn erbyn rhai dysgwyr na fyddai'n gallu dangos eu galluoedd a'u sgiliau oherwydd anabledd (megis mudandod achlysurol neu dethol) heb y diwygiadau arfaethedig i'r Fanyleb Addasiadau Rhesymol.
8.2 Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol
Mae'r diwygiadau yn benodol, yn gyfyngedig, ac wedi'u cyfiawnhau'n gadarn mewn perthynas â'r cymwysterau newydd a newidiadau sylweddol i ofynion arholiadau. Bydd y cynnig yn cynnal trylwyredd a thegwch ac ar yr un pryd yn gwella hygyrchedd a hyrwyddo arferion cynhwysol yn unol â rhwymedigaethau cyfreithiol a blaenoriaethau addysgol Llywodraeth Cymru. Fel y cadarnhawyd yn yr ymgynghoriad, ystyrir bod y gwelliannau yn taro dull cytbwys o fynd ati, sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac yn osgoi anfanteisio dysgwyr anabl a (neu'r) rhai sydd ag amhariadau penodol o ran y cymwysterau a enwir.
Mae'r rheolau presennol ar gyfer esemptiadau yn cyfyngu ar fynediad i ddysgwyr na allant gymryd rhan mewn elfennau llafar, yn enwedig pan fo'r rhain yn ffurfio cyfran sylweddol o'r cymhwyster, fel yn y cymwysterau TGAU newydd Cymraeg Craidd, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ac Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg. Heb y newidiadau arfaethedig, mae'r dysgwyr hyn mewn perygl o fethu ag ennill cymhwyster llawn neu o fod dan anfantais oherwydd iddynt gael eu hasesu mewn ffordd nad yw'n adlewyrchu eu gwir allu.
Mae'r diwygiadau yn cyd-fynd yn agos â'r ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cymwysterau wneud addasiadau rhesymol i sicrhau nad yw dysgwyr anabl dan anfantais wrth gael eu hasesu. Trwy wneud esemptiadau eithriadol yn bosibl ar gyfer cymwysterau TGAU penodol, mae'r diwygiadau yn sicrhau nad yw dysgwyr ag amhariadau fel mudandod achlysurol yn cael eu cosbi'n annheg gan fodelau asesu na allant gael mynediad llwyr atynt oherwydd eu cyflwr.
Mae'r newidiadau hefyd yn cyd-fynd â deddfwriaeth sy'n benodol i Gymru mewn perthynas â dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod ADY (2021)) sy'n pwysleisio cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'r ddyletswydd ar ddarparwyr addysg i leihau rhwystrau rhag dysgu.
8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant a yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol
Dim ond mewn achosion eithriadol mae'r diwygiadau arfaethedig yn berthnasol, lle nad oes unrhyw drefniant mynediad neu addasiad rhesymol arall yn bosibl ac maent yn caniatáu ar gyfer esemptiadau rhannol neu lawn o gydrannau penodol ac ar yr un pryd yn cadw uniondeb cyffredinol y cymhwyster. Yn yr achosion hyn, mae'r elfennau sy'n weddill a asesir yn cynnig mesur dilys a thrwyadl o gyrhaeddiad y dysgwr yn y pwnc TGAU.
Mae'n bwysig bod uniondeb wrth gael mynediad at gymwysterau ac asesu yn cael ei gynnal a bod hyder y cyhoedd yn y drefn o ddyfarnu cymwysterau yn cael ei ddiogelu. Pan roddir esemptiad, bydd hyn yn cael ei nodi'n glir ar dystysgrif y dysgwr, gan sicrhau tryloywder i ddarparwyr addysg bellach a chyflogwyr. Trwy alluogi mynediad teg i ddysgwyr ag anableddau sy'n gysylltiedig â chyfathrebu, heb gyfaddawdu o ran safonau neu ddisgwyliadau'r cymhwyster, mae'r dull arfaethedig o weithredu'n cefnogi tegwch a dibynadwyedd wrth asesu.
Er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb i bob dysgwr, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau clir a manwl ar y meini prawf ar gyfer esemptiadau eithriadol. Lle'r corff dyfarnu cymwysterau perthnasol fydd darparu proses dryloyw, wedi'i rheoleiddio'n dda ar gyfer cymhwyso esemptiadau llawn neu rannol o asesiadau.
Bydd alinio'r broses hon â phrotocolau sefydledig sydd eisoes ar waith ar gyfer caniatáu esemptiadau yn helpu i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch esemptio yn cael eu cymhwyso'n gyson ar draws canolfannau, gan ddiogelu tegwch ac ar yr un pryd yn cynnal hyder yn uniondeb y system gymwysterau a lliniaru effeithiau negyddol. Yn bwysig, mae'r cynigion yn cynnwys mesurau i ddiogelu tryloywder ac uniondeb o fewn y system gymwysterau. Byddai pob esemptiad, boed yn llawn neu'n rhannol, yn cael ei gymeradwyo gan y corff dyfarnu gan ddefnyddio cysondeb o ran dull gweithredu, wedi'i gydbwyso ag amgylchiadau ac anghenion unigol y dysgwr ac wedi'i nodi'n glir ar dystysgrif cymhwyster y dysgwr.
8.4 Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau
CBAC, fel y corff dyfarnu, sy'n gyfrifol am y ddarpariaeth hon, gyda Cymwysterau Cymru fel rheoleiddiwr, a Gweinidogion Cymru fel rheoleiddiwr ar gyfer y ddarpariaeth ei hun, hefyd â rolau diffiniedig yn y cyd-destun hwn. Cymwysterau Cymru fyddai'r corff arbenigol, sy'n gyfrifol am sicrhau bod y cymwysterau eu hunain yn cynnal hyder y cyhoedd (drwy fod yn ddangosydd cadarn o wybodaeth a sgiliau dysgwr).
Bydd Cymwysterau Cymru, CBAC a Llywodraeth Cymru ar y cyd yn sicrhau bod y newidiadau i'r Fanyleb Addasiadau Rhesymol yn cael eu mynegi'n glir ac yn ystyried ffyrdd y gellir rhoi'r rhain ar led i swyddogion arholi a canolfannau arholi i ddatblygu dealltwriaeth bellach o'u goblygiadau i ddysgwyr, yn enwedig y rhai a allai fod dan anfantais ynghyd ag ystyried ymhellach pa gamau y gellir eu cymryd i gefnogi eu cymhwyso yn gyson.
Byddwn yn archwilio gyda CBAC a Cymwysterau Cymru a oes cyfleoedd i ystyried gwerthusiad pellach o batrymau defnydd, canlyniadau dysgwyr a chysondeb canolfannau drwy fonitro'r broses hon. Gall hyn gynnwys dadansoddiad pellach o'r data ar y mathau o esemptiadau a roddir o fewn cyfres o arholiadau. Wrth nodi y bydd trefniadau mynediad, addasiadau rhesymol a chael esemptiadau yn briodol i anghenion a gofynion y dysgwr unigol, byddwn hefyd yn ymchwilio'n ddyfnach a allai fod yn briodol ystyried cynnal gwerthusiad yn y dyfodol o weithrediad rheolau esemptio i sicrhau arfer cyson, monitro tryloyw, a datblygiad proffesiynol priodol i ysgolion ac ymarferwyr.
Atodiad A: Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb
Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar bobl â nodweddion gwarchodedig fel y’u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar gyrff cymwysterau i wneud addasiadau rhesymol i ddysgwyr anabl (ymgeiswyr) wrth gynnal asesiadau ar gyfer cymwysterau fel rhan o ddyfarnu cymhwyster. Mae trin ymgeiswyr yn deg, a gwneud yn siŵr bod y cymhwyster yn parhau i fod yn ddilys, yn ystyriaeth bwysig.
Mae adran 96 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswyddau amrywiol ar gyrff cymwysterau gan gynnwys dyletswyddau i beidio â gwahaniaethu wrth ddyfarnu cymwysterau. Yn bwysig, mae adran 96 hefyd yn cymhwyso'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn adran 20 o'r Ddeddf i gyrff cymwysterau. Mae'r Fanyleb Addasiadau Rhesymol ('y Fanyleb') - a gyhoeddwyd yn y canllawiau statudol 'Addasiadau rhesymol i gymwysterau cyffredinol' yn nodi'r canllawiau a'r fframwaith i sicrhau nad yw dysgwyr yng Nghymru ag amhariadau a (neu) anableddau yn cael eu hatal rhag cael mynediad at gymwysterau o dan y system gymwysterau, gyda'r ddarpariaeth yn galluogi cyrff dyfarnu i wneud addasiadau i agweddau penodol ar yr asesiadau cymwysterau a lle bo angen yn dileu elfennau o'r asesiadau (drwy esemptiad) mewn amgylchiadau a ganiateir.
Mae adran 96 o Ddeddf 2010 hefyd yn rhoi pwerau i'r 'rheoleiddiwr priodol' bennu amgylchiadau lle na fydd y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn gymwys. I bob pwrpas, mae'n caniatáu i'r rheoleiddiwr priodol osod paramedrau'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Wrth wneud hynny, rhaid i'r rheoleiddiwr priodol roi sylw i'r angen i leihau'r graddau y mae pobl anabl yn cael eu rhoi dan anfantais, a'r angen i amddiffyn uniondeb y cymhwyster a chynnal ffydd y cyhoedd ynddo.
Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Rheoleiddiwr Cyrff Cymwysterau Cyffredinol a Chymwysterau Perthnasol) (Cymru) 2010 yn penodi Gweinidogion Cymru fel y rheoleiddiwr priodol ar gyfer Cymru. Mae hyn yn golygu bod gan Weinidogion Cymru berchnogaeth o unrhyw fanylebau ynghylch darparu addasiadau rhesymol yn ogystal â'r rhestr o gymwysterau y gallai'r rhain fod yn gymwys iddynt.
Wrth ddatblygu'r manylebau, rhaid i Weinidogion ystyried:
- yr angen i leihau'r graddau y mae pobl anabl yn cael eu rhoi dan anfantais oherwydd eu hanableddau wrth geisio ennill cymhwyster;
- yr angen i sicrhau bod y cymhwyster yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y sawl sydd yn ei ennill;
- yr angen i gynnal ffydd y cyhoedd yn y cymhwyster.
Mae dyletswydd gyfreithiol ar sefydliadau dyfarnu o hyd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl a rhaid iddynt ystyried pa addasiadau all fod yn rhesymol mewn unrhyw gyfres benodol o amgylchiadau. Mae arferion cyfredol y sefydliadau dyfarnu o ran defnyddio addasiadau rhesymol i gymwysterau cyffredinol yn seiliedig ar gyhoeddiad y Cyd-gyngor Cymwysterau 'Access Arrangements, Reasonable Adjustments and Special Consideration - General and Vocational Qualifications', sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol.
Fel y nodir yn y Ddogfen Fanyleb, mae'n ofynnol i'r corff dyfarnu archwilio pob opsiwn arall a allai gefnogi dysgwr i ymgymryd â'r asesiad cymwysterau, cyn ystyried esemptiad rhag asesu. Byddai'n ofynnol i'r corff dyfarnu hefyd fodloni eu hunain bod y cymhwyster y maent yn ei ddyfarnu i ddysgwr yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth a sgiliau'r dysgwr ac nad yw ei ddyfarnu yn peryglu ffydd y cyhoedd yn y cymhwyster yn gyffredinol.
Cynnig i sicrhau bod dysgwyr ag amhariadau a (neu) anableddau penodol yn parhau i allu cael mynediad at y ddarpariaeth Addasiad Rhesymol
Yn ei rôl fel y rheoleiddiwr cymwysterau, mae Cymwysterau Cymru wedi cynghori Gweinidogion Cymru y dylid gwneud diwygiadau i'r Fanyleb. Hynny er mwyn sicrhau bod dysgwyr ag amhariadau a (neu) anableddau penodol fel mudandod achlysurol yn parhau i allu cael mynediad at y ddarpariaeth addasiadau rhesymol, gan gynnwys y posibilrwydd o gael esemptiad o asesiad. Yn dilyn y cyngor hwn, gwnaethom ymgynghori ar gynigion, a gymeradwywyd gan y rheoleiddiwr, i wneud newidiadau penodol a chyfyngedig i'r Fanyleb i fynd i'r afael â hyn.
Yn ogystal â gosod y rheolau y mae'n rhaid i gyrff dyfarnu eu dilyn wrth wneud addasiadau i asesiadau, mae'r Fanyleb hefyd yn nodi lle y gellir rhoi esemptiad. Gellir rhoi esemptiad ar gyfer un neu fwy o'r asesiadau sy'n ffurfio'r cymhwyster (sy'n golygu nad yw'n ofynnol i'r dysgwr sefyll yr asesiad hwnnw), lle nad oes unrhyw addasiad rhesymol arall yn briodol i ddiwallu ei anghenion. Mae'n gytundeb a wneir gyda chorff dyfarnu, fel CBAC, cyn yr asesiad, sy'n golygu bod ymgeisydd anabl yn gallu cael esemptiad o gydran (neu gydrannau) cymhwyster.
Mae'n ofynnol i'r corff dyfarnu archwilio'r holl opsiynau eraill cyn ystyried esemptiad, gydag esemptiad yn cael ei ddefnyddio pan fydd popeth arall wedi methu, a rhaid darparu tystiolaeth o amgylchiadau unigol y dysgwr. Pan roddir esemptiad, ystyrir mai perfformiad y dysgwr yn y cydrannau a gwblhawyd yw ei berfformiad ar gyfer yr holl asesiadau. Defnyddir y perfformiad hwn i ddyfarnu'r radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.
Mae caniatáu esemptiadau yn lleihau'r anfantais i ddysgwyr anabl. Mae gosod cyfyngiadau penodol ar y defnydd a wneir ohonynt yn cynnal ffydd y cyhoedd ac yn helpu i sicrhau bod y cymwysterau yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a phrofiad dysgwyr yng Nghymru.
O dan yr amodau presennol, ni cheir defnyddio esemptiad fel addasiad rhesymol os byddai'n fwy na 40% o'r marciau sydd ar gael (wedi'u pwysoli) ar gyfer cymhwyster. O dan y rheolau hyn, ni ellid defnyddio esemptiad o unrhyw gydran, neu gyfuniad o gydrannau, sy'n fwy na 40% o gymhwyster fel addasiad rhesymol.
Yn ogystal, ni cheir defnyddio esemptiad ar gyfer rhan o gydran (neu Uned) fel addasiad rhesymol. Dim ond pan fydd ymgeisydd yn methu cael mynediad at unrhyw ran o’r gydran honno y ceir caniatáu esemptiadau ar gyfer cydran gyfan.
Fel rhan o'u rôl, mae Cymwysterau Cymru wedi arwain rhaglen waith - Cymwys ar gyfer y Dyfodol - sydd wedi datblygu'r gofynion dylunio ar gyfer cyfres newydd o Gymwysterau Cenedlaethol 14 i 16 i gefnogi Cwricwlwm Cymru. Mae'r Cwricwlwm i Gymru a wnelo â rhoi'r amrywiaeth gywir o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau i bobl ifanc i'w paratoi ar gyfer bywyd mewn byd cydgysylltiedig sy'n newid yn barhaus. Mae'n hanfodol bod ein cymwysterau newydd yn adlewyrchu ac yn galluogi hyn. Mae'r gwaith hwn a wneir gan Gymwysterau Cymru yn cwmpasu'r cynnig cymwysterau Cenedlaethol 14 i 16, gan gynnwys TGAU.
Mae'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol a'r TGAU Cymraeg Craidd (a fydd yn cael ei addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2025) yn cynnwys pedair uned gydag Unedau 1 a 2 ill dau yn cael eu hasesu drwy dasgau siarad a gwrando integredig, gan gyfrannu 50% o asesiad cyffredinol y cymhwyster. Byddai hyn yn golygu na fyddai esemptiad yn cael ei ganiatáu pe bai addasiadau rhesymol eraill yn methu â diwallu anghenion unigol dysgwr (gan y byddai dros y trothwy o 40%).
Cynnig i esemptio rhannau o gydrannau
Mae'r Fanyleb gyfredol yn nodi na cheir defnyddio esemptiad ar gyfer rhan o gydran fel addasiad rhesymol. Dim ond pan fydd ymgeisydd yn methu cael mynediad at unrhyw ran o’r gydran honno y ceir caniatáu esemptiadau ar gyfer cydran gyfan. Nid yw'r rheol hon yn atal Cyrff Dyfarnu rhag ystyried achosion ar gyfer esemptiadau, er mwyn diwallu anghenion dysgwyr, yng nghyd-destun y gyfres bresennol o gymwysterau TGAU, ond mae'r TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg diwygiedig (ar gyfer eu haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2025), wedi'u hintegreiddio. Mae hyn yn golygu bod yr asesiad llafar a'r asesiadau ysgrifenedig o fewn yr un Uned asesu.
Mae hyn yn cyflwyno'r risg y gallai dysgwr gwblhau rhai o'r asesiadau ysgrifenedig o fewn yr Uned ond heb fod yn gallu cwblhau'r asesiad llafaredd. O dan y rheol a amod presennol, byddai hyn yn dileu gallu corff dyfarnu i ystyried achos i esemptio dysgwr o'r elfen lafaredd yn unig, os oes angen gwneud hynny i ddiwallu ei anghenion (ac eto fel dewis olaf un, pan nad oedd addasiadau rhesymol eraill yn diwallu anghenion unigol y dysgwyr).
Adlewyrchir hyn yn y cymhwyster TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg lle caiff dwy uned (Unedau 2 a 3) eu hasesu trwy dasgau sy'n asesu sgiliau siarad a gwrando ochr yn ochr ag asesiadau ysgrifenedig, gan gyfrannu 40% o gyfanswm asesiad cyffredinol y cymhwyster.
Mae'r cymwysterau TGAU dyfarniad dwbl ar gyfer Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ac Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn cynnwys chwe uned, gyda thair uned (Unedau 2, 3 a 5) yn cynnwys tasgau sy'n asesu sgiliau siarad a gwrando ochr yn ochr ag asesiadau ysgrifenedig, sydd hefyd yn cyfrannu 40% o asesiad cyffredinol y cymhwyster.
O ganlyniad, byddai paramedrau presennol y Fanyleb Addasiadau Rhesymol yn effeithio ar ddysgwyr sy'n ymgymryd â'r cymwysterau hyn y gallai eu hanabledd effeithio ar eu gallu i gwblhau'r asesiad llafaredd yn unedau'r cymwysterau.
Yn eu rôl fel rheoleiddiwr cymwysterau, mae Cymwysterau Cymru wedi cynghori Gweinidogion Cymru y dylid gwneud diwygiadau i'r Fanyleb er mwyn sicrhau bod dysgwyr ag amhariadau a (neu) anableddau penodol fel mudandod achlysurol yn gallu cael mynediad at y ddarpariaeth addasiadau rhesymol, gan gynnwys y potensial am esemptiad o asesiad, pan fydd y gyfres newydd o gymwysterau TGAU ar gael i'w haddysgu.
Yn dilyn y cyngor hwn, buom yn ymgynghori ar gynigion i wneud newidiadau penodol a chyfyngedig i'r Fanyleb i fynd i'r afael â hyn a gwneud rheol eithriadol ar esemptiad o asesiad ar gyfer y cymwysterau TGAU penodol hyn. Cynigir y rheolau eithriadol hyn i ganiatáu i gyrff dyfarnu gymhwyso'r ddarpariaeth ar gyfer esemptiadau er mwyn i ddysgwyr ag amhariadau a (neu) anableddau penodol allu cael mynediad at y cymwysterau penodol hyn.
Dyma'r rheolau eithriadol a gynigir:
- Ychwanegu eithriad ar gyfer TGAU Cymraeg Craidd, fel y gellir esemptio 50% o asesiadau'r cymhwyster fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael.
- Ar gyfer y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith cyfredol, cynigir ychwanegu eithriad fel y gellir esemptio 50% (yn hytrach na 40%) o asesiadau'r cymhwyster fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael, ar gyfer y dysgwyr hynny a fydd yn cael eu hasesu yn erbyn y cymhwyster hwnnw yng nghyfres arholiadau 2026. Ni fydd y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol yn cael ei addysgu mewn ysgolion i ddysgwyr Blwyddyn 10 o fis Medi 2025 ymlaen, pan fydd yn cael ei ddisodli gan y cymhwyster TGAU Cymraeg Craidd.
- Ar gyfer TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, cynigir gwneud newid i'r manylebau er mwyn caniatáu esemptiad rhannol o un neu fwy o gydrannau fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael.
Sut y bydd y cynnig yn hyrwyddo cydraddoldeb
Mae'r Cwricwlwm i Gymru wedi cael ei ddatblygu i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer byd sy'n newid yn gyflym iawn ac i sicrhau bod addysg yn cyflawni ei blaenoriaethau ac yn mynd i'r afael ag anghenion posibl busnesau a'r economi yn y dyfodol. Mae ffyniant, cydlyniant a llesiant cenedl yn seiliedig ar system addysg lwyddiannus.
Mae'r gyfres newydd o TGAU a chymwysterau cysylltiedig wedi'u datblygu i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Cwricwlwm Cymru. Mae ffocws ar gymwysterau fel ffordd i asesu i ba raddau y mae dysgwyr wedi datblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymagwedd at ddysgu y bydd eu hangen arnynt drwy gydol eu bywydau, ac y byddant yn eu helpu i ffynnu mewn addysg bellach neu ym myd gwaith.
Mae gan y Gymraeg statws unigryw yn y cwricwlwm o ystyried nodau strategol ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio'r Gymraeg, gan gynnwys gosod targedau penodol ar gyfer deilliannau ieithyddol erbyn i ddysgwyr adael addysg orfodol. Mae'r Gymraeg yn rhan orfodol o'r cwricwlwm ar gyfer pob blwyddyn ysgol, gan gynnwys Blynyddoedd 10 ac 11. Dylid cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd parhaus o ran dysgu a defnyddio'r Gymraeg yn ystod y blynyddoedd hyn. Mae cymwysterau â rôl bwysig i'w chwarae o ran cefnogi ysgolion i gyflawni'r gofyniad hwn mewn ffordd sy'n adeiladu ar ddysgu blaenorol dysgwyr. Ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, mae ennill y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith, neu TGAU Cymraeg Craidd o fis Medi 2025, yn dangos lefel o gymhwysedd yn y Gymraeg a bydd hyn yn bwysig i bobl ifanc yng Nghymru o ran cynnydd a dewis gyrfa.
Yn yr un modd, mae cael cymwysterau yn Saesneg yn bwysig iawn i ddysgwyr ar gyfer mynd ymlaen i addysg bellach a chyflogaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod disgwyliad bod holl ddysgwyr Blwyddyn 10 ac 11 yn dilyn 'cwrs heriol ac uchelgeisiol sy'n arwain at gymhwyster mewn Saesneg'. I'r rhan fwyaf o ddysgwyr, bydd hyn naill ai'n ddyfarniad dwbl neu sengl yn y TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg.
Mae cymwysterau yn elfen bwysig o ddysgu rhwng 14 a 16 oed ac maent yn asesiad a gydnabyddir yn gyffredinol o allu dysgwr i ddangos eu gwybodaeth a'u sgiliau, sy'n hanfodol i'w llwyddiant drwy gydol eu bywydau ac i ffyniant ehangach Cymru. Mae cymwysterau a gyflawnwyd yn 14 i 16 oed yn cyd-fynd yn uniongyrchol â chyfleoedd i symud ymlaen i addysg bellach ac uwch ac i'r byd gwaith, gyda chymwysterau penodol fel y rhai yn y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr y dyfodol mewn marchnad lafur gystadleuol.
Rhan hanfodol o godi dyheadau i bob dysgwr yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gael mynediad at gymwysterau rhwng 14 a 16 oed i helpu i gadw dysgwyr yn ymddiddori yn eu haddysg. Bydd y dull arfaethedig o ganiatáu ystyried esemptiadau eithriadol ar gyfer cymwysterau penodol mewn amgylchiadau penodol, yn ei gwneud yn bosibl i ddysgwyr penodol gael mynediad at gymhwyster y gallent gael eu rhwystro rhag cael y mynediad ato gan anabledd sy'n eu hatal rhag ymgymryd â'r elfennau llafaredd, ac i ddangos eu galluoedd a'u cymhwysedd yn agweddau eraill yr asesiad o'r uned.
Os nad oes cynnydd yn lefel yr esemptiad, rydym yn ystyried y gallai hyn amharu'n annheg ar allu pobl ag anableddau penodol, megis mudandod achlysurol, i ennill y cymhwyster TGAU penodol neu o leiaf gael gradd uwch. Heb y newid hwn mae'n bosibl y byddai dysgwr yn colli 50% o'r marciau sydd ar gael ar gyfer y cymhwyster. Yn yr amgylchiadau hynny mae'n bosibl y gallai gradd is amharu ar ei allu i gael swydd yn y dyfodol neu fynediad at ddarpariaeth ôl-16 a chyrsiau addysg bellach sy'n gofyn am radd uwch yn y cymwysterau TGAU penodol hynny fel trothwy.
Gellir rhoi esemptiad ar gyfer un neu fwy o'r asesiadau sy'n ffurfio'r cymhwyster (sy'n golygu nad yw'n ofynnol i'r dysgwr sefyll yr asesiad hwnnw), lle nad oes unrhyw addasiad rhesymol arall yn briodol i ddiwallu ei anghenion. Mae'n gytundeb a wneir gan ysgol gyda chorff dyfarnu, fel CBAC, cyn asesiad, sy'n golygu bod ymgeisydd anabl yn gallu cael esemptiad o gydran (neu gydrannau) o gymhwyster.
Mae'n ofynnol i'r corff dyfarnu archwilio pob opsiwn arall cyn ystyried esemptiad, gydag esemptiad yn cael ei ddefnyddio pan fydd popeth arall wedi methu, a rhaid darparu tystiolaeth o amgylchiadau unigol y dysgwr. Pan roddir esemptiad, ystyrir mai perfformiad y dysgwr yn y cydrannau a gwblhawyd yw ei berfformiad ar gyfer yr holl asesiadau. Defnyddir y perfformiad hwn i ddyfarnu'r radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster. Mae caniatáu esemptiadau yn lleihau'r anfantais i ddysgwyr anabl. Mae gosod cyfyngiadau penodol ar y defnydd a wneir ohonynt yn helpu i gynnal ffydd y cyhoedd ac i sicrhau bod y cymwysterau yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a phrofiad dysgwyr yng Nghymru.
Oherwydd dyluniad y cymwysterau a bennwyd, efallai y gallai methiant i ddiwygio'r Fanyleb Addasiadau Rhesymol i gynyddu'r esemptiad mwyaf amharu ar allu pobl ag anableddau penodol (megis mudandod achlysurol neu dethol) i ennill y cymhwyster neu o leiaf gael gradd uwch, gan effeithio ar eu cyflogadwyedd yn y dyfodol.
Gyda chefnogaeth Cymwysterau Cymru ac mewn ymgynghoriad â CBAC, ni ystyrir bod y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar ddibynadwyedd na dilysrwydd y cymwysterau wrth ddangos gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y sawl sy'n eu hennill.
Sut byddwn yn mesur effaith
Mae'r dull arfaethedig o ganiatáu esemptiadau eithriadol wedi'i ddatblygu ar y cyd rhwng Gweinidogion Cymru a Cymwysterau Cymru o fewn cwmpas eu rolau dynodedig, yn dilyn cyngor gan yr olaf yn ei rinwedd fel rheoleiddiwr cymwysterau.
Fel rhan o broses gyn-ymgynghori gadarn, ymgynghorwyd â CBAC fel y corff dyfarnu ar gyfer cymwysterau cyffredinol yng Nghymru i ystyried effeithiau technegol y cynnig. Mae'r cynigion wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ac wedi'u rhannu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid â diddordeb trwy rwydweithiau mewnol. Ymgynghorodd Cymwysterau Cymru ag Ofqual, y corff cyfatebol yn Lloegr, a gadarnhaodd na ellid defnyddio'r cynigion i dynnu cymariaethau annefnyddiol â Lloegr oherwydd dyluniad gwahanol y cymwysterau a lle unigryw'r Gymraeg yng Nghymru ac yn ein cwricwlwm.
Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru rhwng 1 Medi a 24 Hydref 2025. Cafodd ysgolion uwchradd eu hysbysu o'r ymgynghoriad drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Dysg a Llywodraeth Cymru. Rhannwyd dolenni i'r ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys cyrff dyfarnu, Rheoleiddwyr Cymwysterau'r DU, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sefydliadau Cymraeg, yr Adrannau Addysg yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a chysylltiadau a rhwydweithiau allweddol Cydraddoldeb mewn Addysg. Ar y cyfan, roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gadarnhaol ac yn cefnogi'r newidiadau arfaethedig i'r Fanyleb.
Yn yr ymgynghoriad, gwnaethom ofyn y cwestiwn canlynol.
Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y bydd y polisi a amlinellir yn y Canllawiau Dysgu 14 i 16 yn eu cael ar anghenion amrywiol dysgwyr unigol, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig a'r rhai sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig (fel y nodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010).
Nododd adborth mewn ymateb i'r cwestiwn hwn fod y diwygiadau arfaethedig yn cael eu hystyried yn fwy fel ffordd o gywiro anghysondeb sy'n deillio o'r cymwysterau newydd yn hytrach nag unrhyw ehangiad i'r ystod o Addasiadau Rhesymol sydd ar gael i ddysgwyr ag anghenion penodol.
Ymhellach, nododd yr ymatebion fod y diwygiadau arfaethedig i'r Fanyleb Addasiadau Rhesymol yn gam cadarnhaol a chymesur tuag at ddiwallu anghenion amrywiol dysgwyr unigol, gyda'r newidiadau yn cryfhau cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 2010 drwy gynnig mwy o hyblygrwydd i ddysgwyr a fyddai fel arall dan anfantais gan ddyluniad asesiadau llafaredd o fewn y cymwysterau TGAU Cymraeg a Saesneg newydd. Bydd cynnwys rheol esemptio eithriadol, lle nad oes unrhyw addasiad rhesymol arall yn bosibl, o fudd arbennig i ddysgwyr ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, megis y rhai sy'n profi mudandod dethol, Anhwylder Iaith Datblygiadol (DLD), neu anawsterau lleferydd sy'n gysylltiedig â phryder. Ar gyfer y dysgwyr hyn, mae'r trothwy esemptiad presennol o 40% a diffyg esemptiadau rhannol o gydrannau yn creu rhwystrau sylweddol i gyrhaeddiad.
Yn ogystal, gall dysgwyr ag amhariad ar y clyw, anawsterau lleferydd neu anhwylderau prosesu weld asesiadau llafar yn anghymesur o heriol. Gallai dileu'r elfen lafar hyrwyddo mwy o degwch mewn asesu trwy ganolbwyntio ar sgiliau ysgrifennu a derbyn.
Nododd ymatebion fod y diwygiadau arfaethedig yn datgan bod rhaid i'r corff dyfarnu archwilio pob opsiwn arall cyn ystyried esemptiad, gydag esemptiad yn cael ei ddefnyddio pan fydd popeth arall wedi methu, a rhaid darparu tystiolaeth o amgylchiadau unigol y dysgwr. Bydd dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig y bydd eu hamgylchiadau unigol yn arwain at esemptio ar sail tystiolaeth ac yn caniatáu iddynt gael mynediad i'r cymhwyster. Gellir dweud yr un peth am ddysgwyr unigol sydd â nodweddion gwarchodedig eraill, heblaw anabledd, fel y nodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Cofnod o Effeithiau yn ôl nodwedd warchodedig
| Grŵp neu nodwedd warchodedig | Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig | Y rhesymau sydd wrth wraidd eich penderfyniad (yn cynnwys tystiolaeth) | Sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau |
|---|---|---|---|
| Oed (meddyliwch am wahanol grwpiau oedran) | Bydd y cynigion i ddiwygio'r fanyleb Addasiad Rhesymol yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr ym mlwyddyn 10 ac 11. | Bydd yn sicrhau bod dysgwyr ag amhariadau a (neu) anableddau penodol fel mudandod achlysurol yn parhau i allu cael mynediad i'r ddarpariaeth addasiadau rhesymol, gan gynnwys y potensial ar gyfer esemptiad o asesiad, pan fydd y gyfres newydd o gymwysterau TGAU ar gael i'w haddysgu. | Byddwn yn archwilio gyda CBAC a Chymwysterau Cymru a oes cyfleoedd i ystyried gwerthusiad pellach o batrymau defnyddio, canlyniadau dysgwyr a chysondeb y ganolfan drwy fonitro'r broses hon. Gall hyn gynnwys dadansoddiad pellach o'r data ar y mathau o esemptiadau a roddir o fewn cyfres o arholiadau. Gan nodi ar yr un pryd y bydd trefniadau mynediad, addasiadau rhesymol ac esemptiadau a roddir yn briodol i anghenion a gofynion y dysgwr unigol. |
| Anabledd (ystyriwch y model cymdeithasol o anabledd a sut y gallai eich cynnig achosi’n anfwriadol, neu sut y gallid ei ddefnyddio'n rhagweithiol i ddileu, y rhwystrau sy’n anablu pobl â gwahanol fathau o amhariadau) (Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r model cymdeithasol o anabledd. Rydym yn deall nad yw pobl anabl yn cael eu hanablu gan eu hamhariadau ond gan y rhwystrau y maent yn dod ar eu traws mewn cymdeithas. Y ffordd orau o wella cydraddoldeb i bobl anabl yw drwy sicrhau mai dileu rhwystrau y bydd eich cynnig, yn hytrach na’u creu. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r fewnrwyd a chwilio am ‘model cymdeithasol’) | Rhan hanfodol o godi dyheadau i bob dysgwr yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gael mynediad at gymwysterau rhwng 14 a 16 oed i helpu i gadw dysgwyr yn ymddiddori yn eu haddysg. Effaith gadarnhaol y dull arfaethedig o ganiatáu i esemptiadau eithriadol ar gyfer cymwysterau penodol gael eu hystyried mewn amgylchiadau penodol, yw y bydd yn caniatáu i ddysgwyr penodol gael mynediad at gymwysterau penodol y gallent gael eu rhwystro rhag cael mynediad atynt gan anabledd sy'n eu hatal rhag ymgymryd â'r elfennau llafaredd, ac i ddangos eu galluoedd a'u cymhwysedd yn yr agweddau eraill ar yr asesiad o'r uned. Bydd yn sicrhau bod dysgwyr ag amhariadau a (neu) anableddau penodol fel mudandod achlysurol yn parhau i fod yn gallu cael mynediad at y ddarpariaeth addasiadau rhesymol, gan gynnwys y potensial i gael esemptiad o asesiad, pan fydd y gyfres newydd o gymwysterau TGAU ar gael i'w haddysgu. | Bydd yn sicrhau bod dysgwyr ag amhariadau a (neu) anableddau penodol fel mudandod achlysurol yn parhau i allu cael mynediad i'r ddarpariaeth addasiadau rhesymol, gan gynnwys y potensial ar gyfer esemptiad o asesiad, pan fydd y gyfres newydd o gymwysterau TGAU ar gael i'w haddysgu. | Byddwn yn archwilio gyda CBAC a Chymwysterau Cymru a oes cyfleoedd i ystyried gwerthusiad pellach o batrymau defnyddio, canlyniadau dysgwyr a chysondeb y ganolfan drwy fonitro'r broses hon. Gall hyn gynnwys dadansoddiad pellach o'r data ar y mathau o esemptiadau a roddir o fewn cyfres o arholiadau. Gan nodi ar yr un pryd y bydd trefniadau mynediad, addasiadau rhesymol ac esemptiadau a roddir yn briodol i anghenion a gofynion y dysgwr unigol. |
| Ailbennu Rhywedd (y weithred o drawsnewid a phobl drawsryweddol) | Nid ydym yn rhagweld effaith. | ||
| Beichiogrwydd a mamolaeth | Nid ydym yn rhagweld effaith. | ||
| Hil (dylid cynnwys gwahanol leiafrifoedd ethnig, Sipsiwn a Theithwyr a Mudwyr, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid) | Nid ydym yn rhagweld effaith. | ||
| Crefydd, cred a dim cred | Nid ydym yn rhagweld effaith. | ||
| Rhyw / Rhywedd | Nid ydym yn rhagweld effaith. | ||
| Cyfeiriadedd rhywiol (lesbiaidd, hoyw a deurywiol) | Nid ydym yn rhagweld effaith. | ||
| Priodas a phartneriaeth sifil | Nid ydym yn rhagweld effaith. | ||
| Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed | Disgwylir effaith gadarnhaol. Fel y manylir uchod. | Rhan hanfodol o godi dyheadau i bob dysgwr yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gael mynediad at gymwysterau rhwng 14 a 16 oed i helpu i gadw dysgwyr yn ymddiddori yn eu haddysg. | |
| Aelwydydd incwm isel | Disgwylir effaith gadarnhaol. Fel y manylir uchod. | Mae trefniadau hunanwerthuso ysgolion eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ddangos sut maent yn galluogi pob dysgwr, yn enwedig y rhai a nodweddion gwarchodedig, a'r rhai o gefndiroedd economaidd ddifreintiedig, i wneud cynnydd ar hyd ei lwybr dysgu unigol ei hun, gan ystyried ei anghenion amrywiol. Mae ysgolion hefyd wedi cael eu cynghori y dylai ystyried lles dysgwyr hefyd fod wrth wraidd eu proses hunanwerthuso a bod yn rhaid ystyried cynnydd a chyflawniad pob dysgwr, waeth beth fo'u cefndir neu incwm. |
Hawliau Dynol a Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig
A ydych yn credu y bydd y polisi hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar hawliau dynol pobl? (Cyfeiriwch at bwynt 1.4 yng Nghanllawiau’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i gael rhagor o wybodaeth am Hawliau Dynol a Chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig).
| Hawliau Dynol | Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig | Y rhesymau sydd wrth wraidd eich penderfyniad (yn cynnwys tystiolaeth) | Sut y byddwch yn lliniaru’r effeithiau negyddol |
|---|---|---|---|
| Protocol 1, Erthygl 2: Yr hawl i addysg | Rhan hanfodol o godi dyheadau i bob dysgwr yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gael mynediad at gymwysterau rhwng 14 a 16 oed i helpu i gadw dysgwyr yn ymddiddori yn eu haddysg. Effaith gadarnhaol y dull arfaethedig o ganiatáu i esemptiadau eithriadol ar gyfer cymwysterau penodol gael eu hystyried mewn amgylchiadau penodol, yw y bydd yn caniatáu i ddysgwyr penodol gael mynediad at gymwysterau penodol y gallent gael eu rhwystro rhag cael mynediad atynt gan anabledd sy'n eu hatal rhag ymgymryd â'r elfennau llafaredd, ac i ddangos eu galluoedd a'u cymhwysedd yn yr agweddau eraill ar yr asesiad o'r uned. | Mae cymwysterau yn elfen bwysig o ddysgu rhwng 14 a 16 oed ac maent yn asesiad a gydnabyddir yn gyffredinol o allu dysgwr i ddangos eu gwybodaeth a'u sgiliau, sy'n hanfodol i'w llwyddiant drwy gydol eu bywydau ac i ffyniant ehangach Cymru. Mae cymwysterau a gyflawnwyd yn 14 i 16 oed yn cyd-fynd yn uniongyrchol â chyfleoedd i symud ymlaen i addysg bellach ac uwch ac i'r byd gwaith, gyda chymwysterau penodol fel y rhai yn y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr y dyfodol mewn marchnad lafur gystadleuol. | Ni fyddai’r cynnig hwn yn cael unrhyw effaith negyddol. |
