Segura llonydd yw pan fydd cerbyd yn stopio ar ffordd gyhoeddus gyda'r injan yn dal i redeg.
Cynnwys
Lleihau allyriadau o drafnidiaeth ar y ffyrdd yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol y gallwn wella ansawdd aer. Gall diffodd eich injan pan fyddwch yn parcio helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Gall diffodd hefyd arbed tanwydd ac arian.
Mae'n drosedd gadael eich injan i redeg. Gallech dderbyn dirwy o hyd at £150 am wneud hynny o'r 30 Medi 2026.
Mae Rheol 123 o Reolau'r Ffordd Fawr yn dweud bod rhaid i yrwyr ddefnyddio'r brêc parcio a diffodd yr injan pan fydd eu cerbyd yn llonydd ar ffordd gyhoeddus.
Rhesymau dros osgoi segura
- Mae'n creu llygredd aer a sŵn sy'n niweidiol i iechyd y cyhoedd. Bob munud mae injan car yn cael ei adael yn segur, mae'n cynhyrchu digon o allyriadau egsôst i lenwi hyd at 150 o falwnau â llygryddion niweidiol, gan gynnwys cyanid [1].
- Mae segura llonydd yn cyfrannu at ystod o broblemau gan gynnwys clefydau'r galon a'r ysgyfaint. Gall cysylltiad byrdymor â lefelau uchel o lygredd aer achosi effeithiau iechyd ar unwaith, ac mae cysylltiad hirdymor yn gysylltiedig â disgwyliad oes byrrach [2]. Mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn amcangyfrif y gallai llygredd aer fod yn gysylltiedig â thua 30,000 o farwolaethau yn 2025 yn y DU.
- Mae plant, pobl ifanc a phobl â chyflyrau iechyd yn arbennig o agored i niwed. Mae ymchwil wedi dangos bod crynodiadau llygryddion yn aml yn uwch gerllaw lefel y ddaear [3]. Felly, gall babanod mewn cadeiriau gwthio, plant ifanc, pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn neu sgwteri symudedd, a grwpiau eraill sy'n agored i niwed ddod i fwy o gysylltiad â llygredd mewn ardaloedd lle mae injans yn cael eu gadael yn segura [4].
- Mae segura llonydd yn gwastraffu tanwydd a gall effeithio ar bobl y tu mewn i'r car, yn ogystal â'r tu allan. Gall ansawdd yr aer y tu mewn i gerbyd fod yr un mor wael â'r tu allan, neu'n waeth, yn enwedig pan fydd y cerbyd yn segura'n llonydd gerllaw cerbydau eraill sy'n gwneud yr un peth [5]. Gall segura am awr wastraffu hanner galwyn (dau litr a chwarter) o danwydd neu fwy [6].
Sut y gallwch chi helpu
Pan fydd eich cerbyd wedi'i barcio am fwy nag ychydig funudau, cofiwch ddiffodd eich injan. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, y gallai fod achlysuron pan fydd angen i'ch injan segura:
- Os yw'n ymddangos bod gan eich injan nam ac mae angen ei redeg at ddibenion diagnostig neu gynnal a chadw
- Os yw'ch cerbyd yn llonydd oherwydd traffig.
- Enghreifftiau o pan nad yw'n dderbyniol gadael eich injan i redeg:
- Os ydych yn aros i godi neu ollwng teithwyr
- Os ydych yn gwefru ffôn neu'n gwrando ar gerddoriaeth
- Gweithredu systemau gwresogi / oeri am gysur
Beth rydyn ni'n ei wneud?
Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol bod segura llonydd yn drosedd. Rydym yn codi ymwybyddiaeth ac yn annog gyrwyr i ddiffodd yr injan i arbed arian a chadw ein haer yn lân.
Rydym hefyd yn newid y ddirwy cosb benodedig bresennol o £20 gydag ystod cosb uwch o £75-£150 o 30 Medi 2026. Bydd hyn yn adlewyrchu canlyniadau difrifol llygredd aer.
References
- ‘Ymgyrch 'Engine Off Every Stop gan Idling Action London
- Llygredd aer a iechyd yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru),
Canllawiau llygredd aer gan Public Health England,
Erthygl ar y we: ‘Air pollution linked to 30,000 UK deaths in 2025 and costs the economy and NHS billions, warns Royal College of Physicians’ - Erthygl cyfnodolyn wyddonol: 'Maximum ground level concentration of air racutant' gan Embaby, Mayhoub, Essa ac Etman, Atmósfera 2002, 15(3)
- Erthygl cyfnodolyn gwyddonol: ‘A review of factors surrounding the air pollution exposure to in-pram babies and mitigation strategies’ by Sharma and Kumar, Environment International, Volume 120, 2018,
Erthygl ar y we: ‘Air pollution: A threat to children's rights’ by UNICEF,
Erthygl ar y we: ‘How air pollution affects your child's lungs’ by Asthma + Lung UK - Pollution and air quality information by Cheshire West and Chester Council
- Gwybodaeth am ansawdd aer a llygredd aer gan Fwrdeistref Merton yn Llundain
