Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Ebrill 2026.

Cyfnod ymgynghori:
5 Chwefror 2026 i 30 Ebrill 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym am eich barn ar newidiadau arfaethedig i ganllawiau ar baratoi strategaethau lleol ar gyfer mynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDSAV).

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn diweddaru ein canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol sydd â dyletswydd o dan Adran 5 o Ddeddf VAWDASV 2015 i baratoi strategaethau lleol ar gyfer mynd i'r afael â VAWDASV.

Nod ein dull gweithredu wedi'i ddiweddaru yw:

  • cyhoeddi'r Canllawiau o dan Adran 15 o Ddeddf VAWDASV 2015, a fydd yn rhoi sail statudol i'r canllawiau, pa gyrff o dan adran 17 o'r Ddeddf sydd â dyletswydd i'w dilyn
  • darparu strwythur clir ar gyfer paratoi strategaethau lleol
  • egluro'r atebolrwydd am weithredu’r  strategaethau lleol
  • egluro rolau a chyfrifoldebau sefydliadau sy'n ymwneud â pharatoi a weithredu’r strategaeth 
  • cryfhau'r trefniadau partneriaeth a chydweithredu rhwng sefydliadau
  • darparu arweiniad ar bwysigrwydd rhannu data wrth baratoi strategaethau
  • darparu templedi ar gyfer Asesiadau o Anghenion a'r strategaethau lleol i gefnogi cysondeb ac eglurder ledled Cymru

Bydd ymgynghori a/neu ymgysylltu pellach yn digwydd os yw'n briodol.

Gwybodaeth ychwanegol

Nodyn: Anonymeiddio ymatebion

Mae'r ddogfen ymgynghori a gyhoeddwyd yn rhan o’r ymgynghoriad hwn yn adlewyrchu fersiwn gynharach o eiriad Llywodraeth Cymru ynghylch anonymeiddio ymatebion. Ers hynny mae ein gweithdrefnau wedi'u diweddaru fel bod ymatebion i ymgynghoriad yn cael eu trin fel rhai dienw yn ddiofyn. Mae unrhyw ddata personol bellach yn cael eu tynnu cyn cyhoeddi’r ymateb, oni bai bod ymatebwyr yn gofyn yn benodol fel arall.

Bydd y dull wedi'i ddiweddaru hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl ymatebion a ddaw i law ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.

Newidiadau i’r ymgynghoriad

Mae rhai cywiriadau bach wedi'u gwneud i'r ddogfen ymgynghori i fynd i'r afael â rhai gwallau. Nid yw'r rhain yn effeithio ar gynnwys yr ymgynghoriad.