Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Pennod 1

Cyflwyniad

Mae Trais yn erbyn Menywod a Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn endemig yn ein cymdeithas. Mae trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol wrth galon y rhan fwyaf o'r prif faterion sy'n wynebu ein cymdeithas heddiw - Tlodi Plant, Digartrefedd, Camddefnyddio Sylweddau. 

Er bod llofruddiaethau gan ddieithriaid yn ein synnu, mae llawer mwy o fenywod yn marw bob blwyddyn dan law dynion treisgar y maent yn eu hadnabod, ac mae miloedd mwy yn dioddef trais a rheolaeth sy'n amharu ar eu bywydau a'u cyfleoedd. I lawer, mae'r cartref yn dal i fod yn lle llawn arswyd. Mae menywod a merched yn dal i gael eu rheoli mewn perthynas â’u rhywioldeb a'u hunaniaeth yn sgil syniadau camarweiniol am anrhydedd neu yn sgil camfanteisio arnynt.

Mae datblygiadau mewn technoleg fodern wedi cyflwyno ffyrdd newydd o gam-drin. Mae digwyddiadau o stelcio ac aflonyddu drwy gyfryngau cymdeithasol, rhannu delweddau anweddus, a mathau digidol o reolaeth drwy orfodaeth i gyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae mynd i'r afael â VAWDASV yn golygu mwy na dim ond sicrhau bod menywod a phlant sy'n dianc rhag trais yn cael cymorth, mae'n ymwneud â'u hatal rhag dioddef niwed yn y lle cyntaf. Mae'n ymwneud â'u cadw'n ddiogel.

Mae'n golygu sicrhau bod ein hamgylchedd adeiledig - ein hysgolion, ein swyddfeydd, ein strydoedd - yn ddiogel. 

Mae'n golygu sicrhau bod ein seilwaith trafnidiaeth, ein trenau, ein bysiau, ein tacsis, yn ddiogel.

Mae'n golygu sicrhau bod technoleg ddigidol, y rhyngrwyd, cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel.

Mae'n golygu dysgu ein dynion ifanc a'n menywod ifanc beth yw perthnasoedd iach. Eu helpu i sicrhau bod yr iaith maent yn ei defnyddio i siarad â'i gilydd, bod y ffordd maent yn ymddwyn tuag atyn nhw eu hunain, ac eraill, yn ddiogel.

Mae'n golygu darparu rhaglenni a chymorth i'r rhai sy'n cam-drin, i'w hatal rhag aildroseddu.

Mae'n golygu helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd, mewn cymunedau maent yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw, gyda'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

Nid cyfrifoldeb ein gwasanaethau iechyd, ein heddlu a'n gwasanaethau cymdeithasol yn unig yw mynd i'r afael â VAWDASV. Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom. Dim ond drwy newid ein dull gweithredu, ein hagweddau a'n hymddygiad y gallwn obeithio gwneud Cymru'r lle diogel rydym am iddi fod.

Darperir y canllawiau hyn o dan adran 15 o'r Ddeddf VAWDASV ac maent yn disodli'r Canllawiau ar gyfer Strategaethau Lleol a gyhoeddwyd yn 2018, a'u bwriad yw helpu gwasanaethau cyhoeddus ac arbenigol i ddatblygu a darparu gwasanaethau mewn partneriaeth sy'n sicrhau bod pawb y mae VAWDASV yn effeithio arnynt yn cael cymorth i fyw eu bywydau mewn amgylcheddau diogel.

Pwrpas y Canllawiau

O dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod a Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ("y Ddeddf"), mae gan Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol ddyletswydd i baratoi, cyhoeddi a gweithredu strategaethau lleol ar y cyd ar gyfer mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  Mae'r strategaethau hyn bellach ar waith ar gyfer pob rhan o Gymru. 

Pwrpas y canllawiau hyn yw helpu Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol a'u partneriaid (cyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector) i gydweithio, datblygu a gweithredu strategaethau sy'n cydymffurfio â'r dyletswyddau, ac sy'n cyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf (atal, amddiffyn a chynorthwyo) gan ddarparu ymateb cydlynol a chynhwysfawr i VAWDASV. 

Yn ogystal â rhwymedigaethau statudol, mae'r canllawiau hyn yn annog arferion arloesol, dysgu parhaus, ac addasu i heriau sy'n dod i'r amlwg. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd dulliau sy'n canolbwyntio ar oroeswyr, gan sicrhau bod lleisiau'r rhai yr effeithir arnynt yn llywio polisi ac ymarfer.

Ar ben hynny, mae'r canllawiau hyn yn amlinellu'r angen i gasglu a dadansoddi data'n gadarn er mwyn sbarduno ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â data i fonitro effeithiau a chanlyniadau. Drwy ddeall pa mor gyffredin yw VAWDASV, a’r patrymau a'r effeithiau cysylltiedig, gallwn deilwra ein hymatebion yn fwy effeithiol a monitro cynnydd tuag at ein nod sylfaenol - gwneud Cymru'n lle mwy diogel i bob menyw.

Y Cyd-destun Cyfreithiol

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Pwrpas y Ddeddf yw gwella:

  • Y trefniadau ar gyfer atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 
  • Y trefniadau ar gyfer amddiffyn dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 
  • Y cymorth i bobl y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt. 

Cwmpas 

Darperir y canllawiau hyn o dan adran 15 o'r Ddeddf, yn enwedig adrannau 15 (1) ac 15 (2) g a h. 

Maent yn rhoi sylw i strategaethau lleol wedi'u deddfu o dan adrannau 5, 6, 7 ac 8 o'r Ddeddf, yn ogystal ag adran 13 (adroddiadau cynnydd blynyddol).

Cynulleidfa Darged

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol sydd â dyletswydd o dan adran 5 o'r Ddeddf, i ddatblygu strategaeth leol sy'n nodi sut maent yn bwriadu cyflawni amcanion penodol sy'n ymwneud â'r Ddeddf.

Mae adran 5(4) o'r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth i strategaeth gynnwys camau gweithredu gan unrhyw awdurdod cyhoeddus sydd â swyddogaethau y mae modd iddynt gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon neu unrhyw gorff gwirfoddol neu berson arall y mae modd i’w weithgareddau gyfrannu at ymgyrraedd at y diben hwnnw.

Dyletswydd i ddilyn canllawiau 

Mae adran 17 o'r Ddeddf VAWDASV yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol ddilyn canllawiau statudol wrth gyflawni eu dyletswyddau, gan ganiatáu iddynt wyro oddi wrth y canllawiau hynny ar y cyd dim ond mewn amgylchiadau sydd wedi'u diffinio'n fanwl: rhaid iddynt gael rheswm da sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mabwysiadu polisi amgen sy'n dal i gefnogi diben y Ddeddf, a chyhoeddi datganiad polisi ffurfiol o dan adran 18 sy'n nodi beth fydd yn cael ei wneud yn wahanol a pham. Mae hefyd yn amlinellu'r gofynion gweithdrefnol ar gyfer cyhoeddi, diwygio neu ddirymu datganiadau o'r fath, gan gynnwys cyhoeddi a hysbysu ar gyfer Gweinidogion Cymru. O dan adran 19, caiff Gweinidogion Cymru ymyrryd os yw polisi amgen yn annhebygol o gyflawni nodau’r Ddeddf a gallant gyhoeddi cyfarwyddiadau ysgrifenedig – sy’n rhwymol ac yn orfodadwy – i sicrhau bod awdurdodau’n gweithredu’n unol â chanllawiau statudol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym Mhennod 3.

Canllawiau a Chyfarwyddiadau 

Yn unol ag adran 17 o'r Ddeddf, rhaid i Awdurdodau Perthnasol, sy'n cynnwys Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol, ddilyn y llwybr a nodir yn y canllawiau hyn. 

Fodd bynnag, nid yw'n ofynnol i Awdurdod Perthnasol ddilyn y canllawiau hyn yn yr amgylchiadau canlynol: 

  1. mae o’r farn bod rheswm da dros iddo beidio â dilyn y canllawiau mewn categorïau penodol o achosion, neu beidio â’u dilyn o gwbl
  2. mae o’r farn bod rheswm da dros iddo beidio â dilyn y canllawiau mewn categorïau penodol o achosion, neu beidio â’u dilyn o gwbl
  3. y bo datganiad polisi a ddyroddwyd gan yr awdurdod yn unol ag adran 18 o'r Ddeddf yn cael effaith

Mae adran 18 o’r Ddeddf yn darparu bod yn rhaid i’r datganiad polisi a gyhoeddir nodi sut mae’r Awdurdod Perthnasol yn cynnig bod swyddogaethau'n cael eu harfer yn wahanol i’r llwybr a nodir yn y canllawiau hyn, a rhesymau’r awdurdod dros gynnig y llwybr gwahanol hwnnw. Rhaid cyhoeddi'r datganiad polisi ac anfon copi at Weinidogion Cymru. 

Mae adran 19 o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo awdurdodau perthnasol i gymryd unrhyw gamau sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru at ddiben sicrhau bod yr awdurdod yn arfer swyddogaethau yn unol â’r adran hon o’r canllawiau pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw polisi amgen yr awdurdod (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yn debygol o gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf. Mae cyfarwyddyd yn orfodadwy drwy orchymyn gorfodol ar gais gan, neu ar ran, Gweinidogion Cymru. Mae methu dilyn gorchymyn gorfodol yn ddirmyg llys a gellir ei gosbi â dirwy.

Pennod 2

Paratoi strategaeth leol 

Mae adran 5 o'r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol i baratoi strategaeth leol ar y cyd ar gyfer ardal yr Awdurdod Lleol.

Mae gweithredu'r ddyletswydd hon ers i'r Ddeddf ddechrau wedi arwain at ddull gweithredu rhanbarthol yn cael ei gyflawni gydag ôl troed ehangach nag ardal awdurdod lleol unigol. Felly, wrth ddarllen y canllawiau hyn, gall “strategaethau lleol” gynnwys naill ai ardaloedd Awdurdod Lleol neu ranbarthol – yn dibynnu ar yr arferion gweithio ym mhob rhanbarth.

Adolygu a diwygio strategaeth 

Gan fod strategaethau ar waith ym mhob rhan o Gymru, mae tair sefyllfa lle mae strategaeth yn cael ei diwygio. Sef:

  1. mae angen adolygu pob strategaeth o fewn blwyddyn i etholiad llywodraeth leol. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod yn rhaid adolygu pob strategaeth sydd ar waith yng Nghymru o dan y Ddeddf VAWDASV erbyn 6 Mai 2027, neu
  2. gall Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu adolygu eu strategaeth ar unrhyw adeg
  3. os cânt eu cyfarwyddo yn ysgrifenedig i adolygu gan Weinidogion Cymru

Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol sydd i benderfynu a ydynt am ddiwygio eu strategaeth yn dilyn adolygiad.

Adolygu a diwygio strategaeth 

Rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol adolygu eu strategaeth leol o fewn blwyddyn ar ôl pob etholiad cyngor cyffredin. Cânt hefyd ei hadolygu ar unrhyw adeg arall a rhaid iddynt wneud hynny os bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd ysgrifenedig sy'n esbonio pam mae angen adolygu.

Yn y cyd-destun hwn, ystyr “etholiad cyffredin” yw etholiad cyngor lleol arferol a gynhelir o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Os bydd yr awdurdod a'r Bwrdd Iechyd, ar ôl adolygu'r strategaeth, yn penderfynu ei diwygio, rhaid iddynt gyhoeddi'r fersiwn wedi'i diweddaru cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosib.

Cyn cyhoeddi strategaeth ddiwygiedig – rhaid iddynt ymgynghori ag unrhyw un sy'n briodol yn eu barn nhw.

Nid oes gan Weinidogion Cymru na'r Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV unrhyw rôl yn y gwaith o adolygu neu ddiwygio strategaethau lleol. Yn hytrach, mae gan Weinidogion Cymru bŵer i gyfarwyddo bwrdd i adolygu ei gynllun llesiant lleol; neu i gyfeirio cynllun at bwyllgor craffu perthnasol yr awdurdod lleol os nad ystyrir ei fod yn ddigonol; er enghraifft, oherwydd adroddiad anffafriol gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru neu bryder Gweinidogol nad yw dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni

Nid yw'r Ddeddf yn diffinio cwmpas a natur diwygiad i strategaeth leol. Yn y cyd-destun hwn, mae diwygio strategaeth leol yn golygu gwneud newidiadau sylweddol i'r amcanion. Byddai newidiadau sy'n cynnwys dileu neu newid yr amcanion yn cael eu hystyried yn ddiwygiad. Ni fyddai newidiadau i amserlenni a chamau gweithredu o dan yr amcanion yn cael eu hystyried yn sylweddol. Rhaid i unrhyw ddiwygiad gael ei ategu gan dystiolaeth a rhaid i newidiadau i amcanion fod yn rhesymegol, yn gymesur ac yn ymatebol i ystyriaethau perthnasol. 

Lle mae deddfwriaeth yn gofyn am ymgynghori (fel y mae'r Ddeddf VAWDASV yn ei wneud cyn diwygio strategaeth), rhaid i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol ystyried a yw'r newidiadau arfaethedig yn ddigon sylweddol i sbarduno dyletswyddau ymgynghori. Os bydd y newidiadau'n newid amcanion strategaeth yn sylweddol mewn ffordd y byddai'n rhesymol i randdeiliaid ddisgwyl gallu rhoi sylwadau arni, mae angen ymgynghori er mwyn osgoi annhegwch gweithdrefnol.

Cynnwys eich strategaeth leol ddiwygiedig

Er nad yw cynnwys na strwythur y strategaeth leol wedi'i ragnodi, mae'r Ddeddf VAWDASV yn mynnu bod yn rhaid i'r strategaeth leol gynnwys tri pheth. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • amcanion penodol i gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben (atal, amddiffyn a chynorthwyo) y Ddeddf
  • amserlen benodol ar gyfer cyflawni'r amcanion hynny
  • y camau i'w cymryd er mwyn cyflawni'r amcanion penodedig

Dylai eich strategaeth hefyd:

  1. Nodi sut y bydd yr Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cyfrannu at drefniadau comisiynu rhanbarthol ar gyfer dylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau VAWDASV effeithiol. 
  2. Nodi’n glir sut rydych chi wedi gweithio gyda sefydliadau partner, gan gynnwys sefydliadau arbenigol y trydydd sector, a goroeswyr, i ddatblygu eich strategaeth.
  3. Dylech gynnwys darpariaeth ar gyfer pawb a phob gweithred o gam-drin / trais sy'n dod o dan y Ddeddf.

Amcanion a chamau gweithredu 

O dan y Ddeddf VAWDASV, rhaid i strategaethau lleol nodi amcanion a chamau gweithredu. Mae'r rhain yn elfennau gwahanol ond cysylltiedig o gynllunio strategol statudol

Mae'r Ddeddf yn creu hierarchaeth o bethau y dylech CHI eu disgrifio a'u gwneud.

Amcanion

Rhaid i amcanion fod yn gwbl berthnasol i bwerau a dyletswyddau'r Ddeddf VAWDASV, a swyddogaethau'r cyrff sy'n cytuno ar y strategaeth. 

Rhaid i awdurdodau cyhoeddus gadarnhau:

  • mae'r amcan o fewn cwmpas eu cymhwysedd cyfreithiol
  • maent wedi ystyried yr holl ddyletswyddau statudol perthnasol (ee y ddyletswydd cydraddoldeb, safonau'r Gymraeg, dyletswyddau llesiant)

Dylai amcanion:

  • fod yn seiliedig ar y ffactorau y mae'r statud yn bwriadu i'r awdurdod eu hystyried (ee asesiadau o anghenion, tystiolaeth o niwed, anghydraddoldebau, blaenoriaethau strategol)
  • gael eu hategu gan dystiolaeth gadarn, gan gynnwys asesiadau, dadansoddiadau, mewnbwn gan randdeiliaid, a dyletswyddau data statudol
  • fod wedi'u hysgrifennu'n glir ac mewn iaith syml, yn ddealladwy i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac i'r cyhoedd
  • fod yn ddigon penodol i lywio camau gweithredu manwl (gweler isod)
  • gyfrannu'n uniongyrchol at ddiben y Ddeddf VAWDASV
  • alluogi monitro, adrodd a chraffu ystyrlon

Camau gweithredu

Mae'r Ddeddf yn mynnu eich bod yn nodi'r camau gweithredu fel rhan o'r strategaeth. Mae hyn yn golygu bod angen sylweddol i fod wedi datblygu'r amcanion a'r camau gweithredu yn ystod proses y strategaeth. O ystyried bod yr ymateb i VAWDASV yn datblygu, efallai y bydd camau gweithredu newydd yn dod i'r amlwg a allai, yn eich barn chi, gyfrannu mwy at y diben ac felly eich bod yn dymuno symud adnoddau i gyflawni'r camau gweithredu hynny. Mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ichi adolygu'r strategaeth a'i chadw'n gyfredol. Gall hyn gynnwys amcanion diwygiedig neu newydd, a/neu gamau gweithredu diwygiedig neu wedi'u haddasu.

Datblygu eich strategaeth

Wrth ddatblygu eich strategaeth ddiwygiedig, bydd angen ichi sicrhau eich bod yn cymryd rhai camau pwysig:

  1. Fel y ddau sefydliad sy'n gyfrifol am ddatblygu'r strategaeth, bydd angen i'r Awdurdod(au) Lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol gytuno pa un ohonynt sy'n arwain y gwaith o gynhyrchu'r strategaeth ar ran y lleill yn eu rhanbarth / ardal.
  2. Rhaid i'r Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu pa un ohonynt fydd yn arwain y strategaeth yn strategol.   Ar ôl penderfynu, dylai'r arweinydd wedyn benderfynu pa wybodaeth y bydd ei hangen arno, a gan bwy y bydd angen mewnbwn arno. Gallai hyn gynnwys asesiadau o anghenion cyhoeddedig, setiau data penodol, neu adroddiadau tystiolaethol. Ar y pwynt hwn, mae'n bwysig bod y prif ddarparwr yn galluogi bob rhan o'r sector i gyfrannu. Bydd hyn yn cynnwys sefydliadau trydydd sector arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol, yn ogystal â grwpiau eraill sydd â diddordeb, gan gynnwys, ymysg eraill, pobl ifanc, pobl hŷn, grwpiau ffydd ac ati.
  3. Yna, bydd angen iddynt gasglu'r dystiolaeth a'r data a gasglwyd o bob rhan o'r rhanbarth i bennu blaenoriaethau'r strategaeth.
  4. Sicrhau bod y partneriaid priodol yn cael eu cynnwys ar y pwynt hwn.  Mae hyn yn arbennig o wir o ran cynnwys barn goroeswyr i sicrhau bod y strategaeth yn ystyriol o drawma.
  5. Gall strategaeth leol gynnwys amcanion ar gyfer unrhyw awdurdod cyhoeddus, mudiad gwirfoddol neu berson arall a all fod yn cyfrannu at gyflawni. Er enghraifft, efallai y bydd darparwr gwasanaeth cam-drin domestig yn y trydydd sector mewn ardal awdurdod lleol yn dymuno cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth ar y cyd â'r awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol. Petai pob parti'n cytuno, gellid cynnwys manylion y cam gweithredu hwn yn y strategaeth leol ar gyfer yr ardal honno.
  6. Ar ôl drafftio'r strategaeth, dylid ei gwirio yn erbyn y blaenoriaethau yn Strategaeth VAWDASV ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, cyn mynd drwy broses graffu ffurfiol drwy brosesau mewnol.
  7. Yna, bydd angen cyhoeddi'r strategaeth ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol.
  8. Ar ôl cwblhau’r strategaeth, mae'n arfer da cyflwyno'r strategaeth i Lywodraeth Cymru a'r Cynghorydd Cenedlaethol graffu arni ymhellach, ond nid oes gofyniad statudol i wneud hynny.
  9. Cyn cyhoeddi, bydd angen i'r strategaeth gael ei llofnodi a'i chytuno'n ffurfiol gan Brif Weithredwyr pob un o'r awdurdodau perthnasol.
  10. Ar ôl cyhoeddi'r strategaeth, bydd angen rhoi proses fonitro a gwerthuso glir ar waith - mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru.

Cryfhau'r ddealltwriaeth a'r camau gweithredu mewn perthynas â VAWDASV yn y sefydliad

Er mwyn i'r strategaethau hyn fod yn wirioneddol effeithiol, rhaid i’r gwaith o integreiddio ymdrechion i fynd i'r afael â VAWDASV ddod yn rhan annatod o arferion gweithredol eich sefydliad a'ch rhanbarth.

Mae VAWDASV yn effeithio ar bob agwedd ar weithrediadau. Mae mynd i'r afael â'r mater hwn yn gofyn am ddealltwriaeth drylwyr o'i oblygiadau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau. Dim ond drwy drawsnewid ein harferion sefydledig y bydd newid ystyrlon yn digwydd. 

Rhaid ichi ystyried sut mae pob gwasanaeth rydych chi'n ei ddarparu yn effeithio ar oroeswyr VAWDASV. Boed yn siapio polisi tai, yn cyflwyno mesurau iechyd, neu'n blaenoriaethu gwasanaethau iechyd meddwl, mae'n bwysig asesu'r effaith ar y rhai y mae VAWDASV yn effeithio arnynt.

Dim ond drwy newid y dull o ddarparu gwasanaethau gellir lleihau effaith VAWDASV. Nid yw heriau VAWDASV wedi'u hynysu i eraill; mae'n berthnasol i bob un ohonom gyda'n gilydd. Nid problem i rywun arall yw VAWDASV, mae'n broblem i bawb, a bydd angen i bawb wneud y gwahaniaeth sydd ei angen. 

Mae sicrhau bod unigolion sy'n gweithio yn y sector yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau yn rhan hanfodol o hyn. Dim ond gyda'r wybodaeth hon gall newid ddigwydd. Mae hyfforddiant effeithiol yn elfen hanfodol o hyn. Nod y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yw gwella dealltwriaeth y gweithlu cyffredinol, ac felly'r ymateb i'r rhai sy'n profi VAWDASV. 

Rhaid sbarduno'r newid hwn ar y lefelau uchaf o arweinyddiaeth, gan ddylanwadu ar uwch benderfynwyr ym mhob sefydliad. Mae'n hanfodol bod Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr yn cydnabod effaith sylweddol VAWDASV ar y wlad ac yn cymryd cyfrifoldeb dros fynd i'r afael â hyn. Mae angen ymdrechion rhagweithiol i atal rhagor o niwed, gan gynnwys trawma i blant a pharhad misogynedd a syniadau niweidiol am wrywdod ymysg dynion a bechgyn. Mae'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn cynnwys elfennau sydd wedi'u hanelu'n benodol at y rhengoedd uwch o gyflenwi gwasanaethau, ac mae'n hanfodol bod arweinwyr mewn swyddi o awdurdod yn deall sut gall y gwaith maent yn ei wneud ddylanwadu ar wasanaethau a'u gwella ar gyfer y rhai y mae VAWDASV yn effeithio arnynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Os ydynt yn methu gwneud hynny, rhaid eu dal yn atebol.

Mae gan Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol ddyletswydd glir i fynd i'r afael â VAWDASV. Gellir eu dal yn atebol hefyd os nad ydynt yn gwneud y newidiadau sydd eu hangen i wella canlyniadau. Felly, rhaid cynyddu'r gwaith o fonitro'r ddarpariaeth, a rhaid i effaith y ddarpariaeth honno gael ei gwerthuso'n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru a'r awdurdodau perthnasol.

Mae angen inni wrando, ac mae angen inni weithredu. 

Mae'n hanfodol bod gwasanaethau'n cael eu siapio gan safbwyntiau a phrofiadau unigolion y mae VAWDASV yn effeithio'n uniongyrchol arnynt. Felly, wrth lunio neu ddiwygio strategaeth, mae gofyn am safbwyntiau'r unigolion hynny'n hanfodol er mwyn sicrhau bod unrhyw fesurau arfaethedig yn briodol. 

Partneriaethau a Chydweithredu

Rhaid i'r awdurdodau perthnasol, fel y nodir yn y Ddeddf VAWDASV - Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Tân ac Achub ac Ymddiriedolaethau'r GIG - flaenoriaethu VAWDASV a chydnabod pwysigrwydd cydweithio i sicrhau bod unigolion y mae VAWDASV yn effeithio arnynt yn cael gwasanaethau cydgysylltiedig priodol.

Fodd bynnag, wrth ddatblygu strategaethau lleol, mae'n bwysig bod yr awdurdodau perthnasol yn cydweithio mewn partneriaeth. Mater i'r awdurdodau perthnasol yw penderfynu ar yr union drefniadau a roddir ar waith i gyflawni eu dyletswyddau, ond rhaid ystyried y canlynol:

  • Awdurdodau Lleol (yr holl wasanaethau y mae VAWDASV yn effeithio arnynt, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i wasanaethau cymdeithasol, addysg, tai, cynllunio, hamdden, trafnidiaeth, diogelwch cymunedol, a gwasanaethau datblygu economaidd)
  • Byrddau Iechyd Lleol (yr holl wasanaethau y mae VAWDASV yn effeithio arnynt, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ofal sylfaenol, gwasanaethau cymunedol, gofal eilaidd ac arbenigol, a gwasanaethau iechyd meddwl)
  • Awdurdod Tân ac Achub
  • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • Cynrychiolwyr yr heddlu a chyfiawnder troseddol, gan gynnwys gwasanaethau prawf.
  • Cymorth Tai a Digartrefedd
  • Gwasanaethau Arbenigol y Trydydd Sector
  • Gwasanaethau Cwnsela a Chymorth
  • Goroeswyr y mae VAWDASV yn effeithio arnynt

Rolau a Chyfrifoldebau

Wrth ddatblygu eich strategaeth, mae'n bwysig bod pob sefydliad yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau a sut mae'r rhain yn plethu â'i gilydd.

Mewnbwn

Cyn paratoi eich strategaeth bydd angen ichi gasglu tystiolaeth a data. Bydd gan yr holl bartneriaid ar draws Iechyd, Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, Gwasanaethau Arbenigol y Trydydd Sector, awdurdodau perthnasol, yr Heddlu ac ati, rôl i'w chwarae o ran helpu i gasglu'r wybodaeth hon.

Datblygu

Bydd gan Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol a Chynghorwyr Rhanbarthol rôl i'w chwarae o ran paratoi a datblygu'r strategaeth leol.

Craffu

Bydd gan Oroeswyr, Gwasanaethau Arbenigol y Trydydd Sector a Byrddau Rhanbarthol rôl bwysig o ran craffu a herio cynnwys a thargedau'r strategaeth leol.

Cyflenwi

Bydd gan Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau perthnasol a gwasanaethau arbenigol dan gontract rôl i'w chwarae o ran cyflenwi'r targedau yn y strategaeth leol.

Cyfrifoldeb

Cyfrifoldeb cyffredinol yr Awdurdodau Lleol a'r Byrddau Iechyd Lleol yw cynhyrchu a chyflenwi'r strategaeth leol a'i chynnwys.

Gofyn am safbwyntiau

Wrth ddatblygu eich strategaeth leol, mae'n hollbwysig eich bod yn sicrhau bod lleisiau defnyddwyr gwasanaeth dilys yn cael eu clywed.

Mae nifer o sefydliadau a all helpu i hwyluso trafodaethau â grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli:

[i'w ychwanegu yn dilyn ymgynghoriad]

Rhaid ichi fod yn ymwybodol wrth ddrafftio eich strategaeth sut y bydd yn effeithio ar y canlynol:

  • Plant a Phobl Ifanc
  • Pobl Hŷn
  • Cymunedau Ffydd
  • Pobl Anabl
  • Cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Dioddefwyr sy'n Fudwyr a'r rhai heb hawl i gyllid cyhoeddus (NRPF)
  • Cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • Cymunedau LHDTC+
  • Defnyddwyr Gwasanaeth Dilys - goroeswyr a throseddwyr
  • Cymunedau Gwledig

Wrth ofyn am safbwyntiau goroeswyr, neu aelodau eraill o'r cyhoedd, mae'n bwysig cofio y gallai fod angen rhyw fath o dâl arnynt i dalu am eu hamser. Peidiwch â disgwyl i unigolion fod yn barod i gyfrannu heb hynny.

Asesiadau o Anghenion

Mae nifer o wahanol Ddeddfau a Dyletswyddau yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ddatblygu asesiadau cadarn o angen. Nid oes gofyniad i awdurdodau perthnasol gynnal asesiad ar wahân i lywio'r strategaeth leol ar gyfer VAWDASV ar yr amod bod y rhai sydd eisoes yn bodoli yn cynnig yr wybodaeth sydd ei hangen i bennu angen yn effeithiol.

Mae adran 7(1) yn amlinellu nifer o faterion y mae'n rhaid i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol roi sylw iddynt wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol.

Mae hynny'n cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • Yr asesiad o anghenion diweddaraf a baratowyd o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Tai Cymru 2024
  • Eu strategaeth dai leol 
  • Eu hadroddiad diweddaraf ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol lleol, a baratowyd o dan adran 37 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Unrhyw Asesiad o Anghenion Strategol a gwblhawyd fel rhan o'r Ddyletswydd Trais Difrifol, a fyddai hefyd yn ymdrin â'r gofynion yn Neddf Trosedd ac Anhrefn 1998
  • Camau gweithredu i gyflenwi'r Cynllun Iechyd Menywod i Gymru
  • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Deddf Hawliau Dynol 1998

Dylai cynnwys yr asesiadau hyn ddarparu gwybodaeth ddigonol i lywio'r gwaith o lunio strategaethau lleol. Mae asesu anghenion lleol yn gywir yn hanfodol er mwyn datblygu strategaeth effeithiol.owever

Gall nifer o wahanol asesiadau o anghenion greu dryswch ac atal cynnydd, felly mae'n hanfodol bod effaith VAWDASV yn cael ei hintegreiddio i'r asesiadau hyn o anghenion ar y dechrau, ac nid fel rhywbeth ychwanegol. 

Rhaid gwreiddio VAWDASV yn y prosesau presennol, ac ni ddylid ei drin fel pryder ynysig.

Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu nad yw'r asesiadau hyn yn ddigonol, mae'r Ddeddf yn rhoi'r pŵer iddynt wneud rheoliadau i’w gwneud yn orfodol ar Awdurdod Lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol i gynnal asesiadau o anghenion ychwanegol.

Rhannu Data

Mae asesiadau cywir yn dibynnu ar ddata o ansawdd uchel. Rhaid i sefydliadau rannu data gyda'i gilydd i wella cywirdeb eu hasesiadau. Caniateir rhannu data o fewn ffiniau'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), a deddfwriaeth diogelu data arall, cyn belled bod hynny'n cael ei wneud yn deg, yn gyfreithlon, yn dryloyw, a bod mesurau diogelwch ac amddiffyn priodol ar waith.

Rhaid i bob sefydliad lynu wrth GDPR y DU a deddfwriaeth diogelu data arall wrth ddarparu gwasanaethau i roi cymorth ar gyfer VAWDASV. Dim ond drwy gydweithio, rhannu gwybodaeth a darparu gwasanaethau ar y cyd y gallwn ddechrau mynd i'r afael ag effeithiau VAWDASV ar ein gwlad.

Wrth gyflawni dyletswyddau o dan y Ddeddf VAWDASV, mae data sy'n cyfrannu at strategaethau lleol yn cael ei gasglu gan nifer o wahanol bartneriaid ar draws y sector, ac mae'n hanfodol bwysig bod yr holl bartneriaid hyn yn gallu ac yn barod i rannu data ag eraill. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw wedi ei chyfyngu, i'r canlynol:

  • Proffiliau Trais yn Erbyn Menywod a Merched a Thrais a Throseddau Rhywiol Difrifol yr Heddlu
  • Data'r Ddyletswydd Trais Difrifol - asesiad o anghenion strategol 
  • Data Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 
  • Cynadleddau Asesu Risg Aml-Asiantaeth. Prosesau Cyd-drefnu a Gorchwylio Aml-Asiantaeth, a Phrosesau Amddiffyn y Cyhoedd Aml-Asiantaeth
  • Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid
  • Data trydydd sector
  • Data iechyd 
  • Data’r ONS

Comisiynu

Mae Canllawiau Statudol ar gyfer Comisiynu Gwasanaethau VAWDASV yng Nghymru ar gael i gefnogi awdurdodau perthnasol i gomisiynu cyngor arbenigol neu gymorth arall sy'n ymwneud â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig, neu drais rhywiol. Ei fwriad yw darparu ffocws strategol ar y materion hyn a sicrhau ystyriaeth gyson i fecanweithiau ataliol, amddiffynnol a chymorth wrth ddarparu gwasanaethau.

Craffu 

Ar ôl paratoi strategaeth leol, dylid craffu arni'n drylwyr. Mae adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu ar gyfer penodi pwyllgor craffu o fewn yr Awdurdod Lleol. Efallai y bydd yn briodol i'r pwyllgorau hyn graffu ar y strategaethau lleol i sicrhau ansawdd ac effeithiolrwydd y targedau a'r amcanion sydd ynddynt, a chanlyniadau ac effaith arfaethedig y strategaeth o ran mynd i'r afael â VAWDASV yn y rhanbarth lleol.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol ymgynghori â'r rhai sy'n briodol yn eu barn nhw cyn cyhoeddi eu strategaeth leol. Mae'r Ddeddf yn gadael i Awdurdodau Lleol benderfynu pwy maent yn teimlo sy'n briodol i ymgynghori â nhw, ond fel canllaw, disgwylir i'r canlynol gael eu cynnwys:

  • Goroeswyr VAWDASV
  • Heddluoedd a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu
  • Gwasanaethau Prawf
  • Gwasanaethau Addysg
  • Awdurdodau Lleol (gan gynnwys yr holl wasanaethau y mae VAWDASV yn effeithio arnynt, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i addysg, tai, gwasanaethau cymdeithasol, cynllunio, hamdden, trafnidiaeth, diogelwch cymunedol, a gwasanaethau datblygu economaidd)
  • Byrddau Iechyd Lleol (yr holl wasanaethau y mae VAWDASV yn effeithio arnynt, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ofal sylfaenol, gwasanaethau cymunedol, gofal eilaidd ac arbenigol, a gwasanaethau iechyd meddwl)
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdod Tân ac Achub
  • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • Cynrychiolwyr yr heddlu a chyfiawnder troseddol, gan gynnwys gwasanaethau prawf
  • Cymorth Tai a Digartrefedd
  • Gwasanaethau Arbenigol y Trydydd Sector
  • Gwasanaethau Cwnsela a Chymorth

Ar ben hynny, dylai ymgynghori ystyrlon geisio safbwyntiau unigolion a sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a phobl hŷn, yn ogystal â chynrychiolwyr o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol. Dylid hefyd ystyried gwahodd adborth gan grwpiau cymunedol, arweinwyr ffydd, ac eiriolwyr dros boblogaethau lleiafrifol neu ymylol, er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn adlewyrchu'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau yn yr ardal.

Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol ichi gynnal asesiad cymheiriaid gyda rhanbarthau eraill.

Mae'r wybodaeth a geir o'r ymgynghoriadau hyn nid yn unig yn cryfhau perthnasedd ac ymatebolrwydd y strategaeth ond hefyd yn meithrin ymdeimlad o gydberchnogaeth, gan wella ymgysylltiad cymunedol a chefnogaeth i'w rhoi ar waith.

Efallai y byddai'n ddefnyddiol ichi siarad â sefydliadau sector arbenigol (er enghraifft Cymorth i Fenywod Cymru, Bawso a Llais) sy'n gallu darparu llwybr ar gyfer ymgynghori â goroeswyr ac eraill y mae VAWDASV yn effeithio arnynt.

Mae mewnbwn gan bobl y mae VAWDASV yn effeithio arnynt yn hanfodol er mwyn sicrhau bod strategaethau lleol yn mynd i'r afael ag anghenion gwirioneddol, yn hytrach nag anghenion tybiedig. Mae'n bosibl y bydd Panel Cenedlaethol Llais Goroeswyr, Craffu a Chynnwys yn craffu ac yn herio'n effeithiol

Cyhoeddi strategaethau lleol

Rhaid cyhoeddi strategaethau lleol cyn gynted â phosibl yn dilyn adolygiad o'r strategaeth bresennol.

Cytundeb gan Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol ar wahân i'r strategaeth.

Fel arall, gellir cynnwys strategaeth leol neu strategaeth ddiwygiedig mewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae'r awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol yn aelod ohono.

Monitro a Gwerthuso

Rhaid i awdurdodau perthnasol roi prosesau monitro cadarn ar waith i olrhain ac adrodd ar gyflawni'r strategaeth leol yn effeithiol. Yn unol ag adran 13 o'r Ddeddf, rhaid i Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ar y cynnydd y maent wedi'i wneud o ran cyflawni'r amcanion yn eu strategaeth leol.

Er nad oes gofyniad o dan y Ddeddf i gyflwyno strategaethau lleol i Lywodraeth Cymru, byddai'n arfer da gwneud hynny.

Adrodd ar gynnydd

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol gyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol sy'n nodi sut maent wedi cyflawni'r amcanion yn eu strategaeth. Rhaid cyhoeddi'r adroddiad cynnydd blynyddol hwn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi, ond dim hwyrach na 31 Rhagfyr.

Mewn blwyddyn yn dilyn etholiad llywodraeth leol cyffredin, pan fydd strategaeth newydd yn cael ei pharatoi a'i chyhoeddi, nid oes gofyniad i gynhyrchu adroddiad blynyddol hefyd. Rhaid i'r strategaeth newydd neu ddiwygiedig nodi'r cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r amcanion yn y strategaeth flaenorol, ac i ba raddau y cyflawnwyd yr amcanion hynny. 

Nid yw'r Ddeddf yn nodi strwythur a chynnwys adroddiadau blynyddol, ond yng nghyd-destun y dyletswyddau i baratoi, adolygu a gweithredu strategaethau, dylai adroddiad cynnydd blynyddol Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol: 

  • gael ei gytuno gan yr Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol
  • gael ei anfon at Weinidogion Cymru a'r Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV

Rôl y Cynghorydd Cenedlaethol

Efallai y bydd y Cynghorydd Cenedlaethol yn gallu cynorthwyo a chynghori Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol ar ddatblygu ac adolygu eu strategaethau i sicrhau cynllunio strategol cyson o ansawdd uchel ar y materion hyn, ac i wella cyd-drefniant a chysondeb. Gall y Cynghorydd Cenedlaethol graffu ar asesiadau o anghenion y strategaethau a chefnogi'r gwaith o ddadansoddi'r asesiad o anghenion i lywio amcanion cadarn.

Pennod 3

Dyletswydd i weithredu strategaethau lleol

Ar ôl cymeradwyo'r strategaeth leol, dylid canolbwyntio ar ei gweithredu'n effeithiol. Mae'r Ddeddf VAWDASV yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol, wrth arfer eu swyddogaethau, gymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r amcanion a nodir yn y strategaeth leol ddiweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer eu hardal.

Wrth wneud hynny, dylai'r Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol weithio gyda'u partneriaid allanol, gan gynnwys y sector gwasanaethau arbenigol, a sefydliadau sydd heb eu datganoli.

Y ddyletswydd graidd yn y Ddeddf yw bod yn rhaid ichi osod amcanion sy'n cyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf VAWDASV.

Atebolrwydd

Mae Adran 5 o'r Ddeddf VAWDASV yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol i baratoi strategaeth leol ar y cyd ar gyfer ardal yr Awdurdod Lleol. Fodd bynnag, ni ddylid ystyried creu'r strategaethau hyn fel diben ynddo'i hun. Er mwyn cyflawni'r amcan o wneud Cymru'n amgylchedd diogel i fenywod a merched, mae angen trosi'r strategaethau hyn yn gamau gweithredu ystyrlon ac amserol. Ar ben hynny, mae gweithredu effeithiol yn dibynnu ar sefydlu mesurau atebolrwydd clir.

Disgwylir i Brif Weithredwyr yr awdurdodau perthnasol ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros y materion hyn. Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd o dan adran 4 o'r Ddeddf i gyflawni ei rhwymedigaethau i fynd i'r afael â VAWDASV, a dylent sicrhau bod mesurau atebolrwydd priodol yn cael eu gorfodi.

Dylai pob strategaeth leol gael ei chymeradwyo gan Brif Weithredwyr yr awdurdodau perthnasol yn yr ardal neu'r rhanbarth perthnasol. Os yw strategaeth yn cynnwys nifer o asiantaethau, disgwylir i bob Awdurdod Lleol lofnodi'r strategaeth yn ffurfiol, gan gydnabod a derbyn cyfrifoldeb dros gyflawni ei ofynion yn ei ardal.

Pwerau Cyfarwyddo

Mae gan Weinidogion Cymru ddau bŵer cyfarwyddo o dan y Ddeddf.

Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i gyfarwyddo Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol i adolygu eu strategaeth leol. Byddant yn gwneud hynny'n ysgrifenedig. 

Os bydd Awdurdod Lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol yn dewis sefydlu polisi amgen i'r canllawiau hyn, mae'n rhaid iddynt sicrhau bod yr holl rwymedigaethau statudol o dan y Ddeddf yn cael eu diffinio a'u cyfleu'n glir. Gall diffyg cydymffurfio beri i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddiadau sy'n rhwymo mewn cyfraith, gan orfodi ymatebion penodol gan yr Awdurdod Lleol neu'r Bwrdd Iechyd Lleol.

Bydd defnyddio pwerau cyfarwyddo yn cael ei gadw'n ôl ar gyfer achosion lle mae tystiolaeth gadarn o wyro'n sylweddol oddi wrth amcanion y Ddeddf. Bydd cyfarwyddiadau o'r fath yn cael eu rhoi'n ysgrifenedig a byddant ar gael i'r cyhoedd er mwyn cynnal tryloywder, a bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i Awdurdodau Cyhoeddus lynu wrthynt.

Gall methu cydymffurfio â chyfarwyddiadau ysgrifenedig beri i Weinidogion Cymru fynd ar drywydd gorfodi barnwrol, a allai gynnwys achosion dirmyg neu lys yn mynnu bod camau gofynnol yn cael eu cyflawni ar draul yr awdurdod perthnasol.

Chapter 4

Deddfau a Dyletswyddau Perthnasol

Deddfwriaeth berthnasol arall

Rydym yn cydnabod y gall darparwyr gwasanaethau wynebu heriau wrth gyflawni eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf wrth fynd i'r afael â rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â nifer o flaenoriaethau deddfwriaethol eraill ar yr un pryd. Isod ceir rhestr o'r prif ddeddfau sy'n cynnwys dyletswyddau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â gweithredu strategaeth ar gyfer VAWDASV. Wrth ddatblygu strategaethau lleol, mae'n hanfodol ystyried gorgyffwrdd posib ac effeithiau cyfun y gofynion deddfwriaethol hyn.

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn benodol adrannau 14 a 15 (sy'n ymwneud ag adran 7 o'r Ddeddf) 
  • Deddf Tai (Cymru) 2014
  • Deddf Cam-drin Domestig 2021
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37), yn benodol adran 6 (sy'n ymwneud ag adran 7 o'r Ddeddf) 
  • Deddf Troseddau Rhywiol (2003) 
  • Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (2003) (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Troseddau Difrifol 2015)
  • Deddf Priodas Dan Orfod (Amddiffyn Sifil) 2007 
  • Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 
  • Deddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011
  • Deddf Hawliau Dynol 1998
  • Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023

Polisïau Cysylltiedig

Y Ddyletswydd Trais Difrifol

Mae'r Ddyletswydd Trais Difrifol yn mynnu bod Awdurdodau Lleol yn cydweithio i ganfod a mynd i'r afael â thrais difrifol, gan gynnwys cam-drin domestig a throseddau rhywiol, drwy gynllunio strategol ac ymgynghori â chyrff addysgol, cyrff carchardai a chyrff ieuenctid yn y ddalfa perthnasol. Mae cyfran sylweddol o droseddau treisgar yn gysylltiedig â cham-drin domestig, a dylai strategaethau lleol gynnwys mesurau i fynd i'r afael â throseddau o'r fath. Mae gorgyffwrdd amlwg mewn ffactorau risg ar gyfer trais ieuenctid, gangiau a phartner clòs, fel cam-drin plant, goruchwyliaeth wael a chamddefnyddio sylweddau, gan argymell ymyrryd yn gynnar ac atal. Dylai strategaethau hefyd ystyried yr effaith ar blant a'u profiadau niweidiol o ganlyniad i effeithiau parhaol cam-drin domestig a rhywiol yn ystod plentyndod.

Wrth ddrafftio eu strategaethau lleol i fynd i'r afael â VAWDASV, dylai awdurdodau sy'n cael eu rheoleiddio ystyried sut mae'r rhain yn cyd-fynd â chyfrifoldebau ehangach y Ddyletswydd Trais Difrifol.

Cynllun Iechyd Menywod Cymru

Cafodd y cynllun ei greu gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, ac mae’n nodi sut bydd sefydliadau’r GIG yng Nghymru yn cau’r bwlch iechyd rhwng y rhywiau drwy ddarparu gwell gwasanaethau iechyd i fenywod, sicrhau bod pobl yn gwrando arnynt, a bod eu hanghenion iechyd yn cael eu deall.

Mae VAWDASV yn un o wyth maes blaenoriaeth yn y cynllun, sy'n cynnwys nodau tymor byr, tymor canolig a thymor hir. Dylid cefnogi'r ffordd y mae'r nodau hyn yn cael sylw, a'r effeithiau a fwriedir drwy wneud hynny, drwy'r strategaethau lleol hyn er mwyn mynd i'r afael â VAWDASV.

Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod y Cenhedloedd Unedig 

Y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW) yw'r cytundeb hawliau dynol rhyngwladol sy'n canolbwyntio'n benodol ar gydraddoldeb rhwng menywod a dynion ym mhob agwedd ar fywyd. Cyfeirir ato’n aml fel y ‘bil hawliau menywod’. Cafodd CEDAW ei gadarnhau gan y DU yn 1986. Drwy dderbyn y Confensiwn, mae'r DU wedi ymrwymo i roi cyfres o fesurau ar waith i roi terfyn ar bob math o wahaniaethu yn erbyn menywod, gan gynnwys: 

  • ymgorffori'r egwyddor o gydraddoldeb rhwng dynion a menywod yn y system gyfreithiol, dileu pob cyfraith wahaniaethol, a mabwysiadu rhai priodol sy'n gwahardd gwahaniaethu yn erbyn menywod
  • sefydlu tribiwnlysoedd a sefydliadau cyhoeddus eraill i sicrhau bod menywod yn cael eu hamddiffyn yn effeithiol rhag gwahaniaethu
  • sicrhau bod pobl, sefydliadau neu fentrau yn dileu pob gweithred o wahaniaethu yn erbyn menywod