Yn gofyn am adborth ar gynigion i gyflwyno cyfnod gofynnol rhwng pasio prawf theori gyrru a chymryd prawf gyrru ymarferol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r Adran Drafnidiaeth (DfT) yn ceisio barn ar gyflwyno cyfnod amser gofynnol rhwng pasio prawf theori a chymryd prawf gyrru ymarferol.
Mae'r ymgynghoriad yn ymdrin â phrofion gyrru a gymerir ar gyfer trwydded categori B, y drwydded safonol a ddefnyddir i yrru car.
Ar hyn o bryd, gall dysgwr wneud cais am brawf gyrru ymarferol cyn gynted ag y byddant yn cael trwydded dros dro ac yn pasio'r prawf theori.
Heb ddigon o amser yn gyrru, mae llawer o ddysgwyr yn wynebu sefyllfaoedd ac amodau ar y ffordd nad oes ganddynt unrhyw brofiad â hwy, oherwydd diffyg ymarfer.
Y nod yw cyflwyno dull strwythuredig sy'n rhoi mwy o amser i ddysgwyr gynyddu eu cymhwysedd a'u profiad cyn cymryd prawf.
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn holi barn am:
- cyflwyno nifer o oriau gofynnol o yrru ymarferol dan oruchwyliaeth
- creu maes llafur dysgu gorfodol
- y ffyrdd y gellid cynnal unrhyw ddysgu angenrheidiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar gov.uk
