Defnyddiodd yr ymchwil hon astudiaeth Delphi, sy'n defnyddio cyfres o holiaduron i gasglu barn ac sydd â'r nod o gyrraedd cydsyniad, i ddatblygu set o ddangosyddion i fesur a monitro iechyd democrataidd yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Fe wnaeth astudiaeth Delphi gydag arbenigwyr nodi chwe phrif ddangosydd allweddol ar gyfer monitro iechyd democrataidd yng Nghymru. Mae'r rhain yn rhychwantu pum dimensiwn:
- Democratiaeth etholiadol
- Democratiaeth gyfranogol
- Democratiaeth egalitaraidd
- Ymateb sefydliadol
- Tryloywder a rhyddid y cyfryngau
Mae'r dangosyddion yn cynnwys:
- nifer y pleidleiswyr
- ymgysylltiad dinasyddion â chynghorwyr
- cynrychiolaeth ddemograffig ymhlith swyddogion etholedig
- boddhad â democratiaeth
- mesurau dewis etholiadol, ac atebolrwydd
Mae dau ddangosydd, sef dewis etholiadol a thryloywder, yn gofyn am ddadansoddiad arbenigol newydd ac nid ydynt ar gael yng Nghymru eto. Fel ateb dros dro tra bod y mesurau hyn yn cael eu datblygu, awgrymir mesurau amgen o arolygon presennol.
Adroddiadau
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 860 KB
Crynodeb , HTML
Atodiadau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 992 KB
Cyswllt
Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn:
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
