Mesur a monitro iechyd democrataidd yng Nghymru: astudiaeth Delphi (crynodeb)
Defnyddiodd yr ymchwil hon astudiaeth Delphi, sy'n defnyddio cyfres o holiaduron i gasglu barn ac sydd â'r nod o gyrraedd cydsyniad, i ddatblygu set o ddangosyddion i fesur a monitro iechyd democrataidd yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Y cefndir a nodau’r ymchwil
Mae llawer o ddemocratiaethau modern yn profi bwlch cynyddol rhwng dinasyddion a'r sefydliadau sydd wedi'u cynllunio i'w cynrychioli ('A Crisis of Political Trust? Global Trends in Institutional Trust from 1958 to 2019' Valgarðsson et al, 2025). Mae hyn wedi arwain at anfodlonrwydd cyffredin â systemau gwleidyddol, llai o ymddiriedaeth mewn sefydliadau, a rhaniadau cymdeithasol a gwleidyddol cynyddol. Mae ffactorau fel caledi economaidd, canfyddiadau o lygredigaeth, anghydraddoldeb ac argyfyngau fel pandemig COVID-19 i gyd wedi dwysáu’r rhaniadau hyn ('Global Public Opinion in an Era of Democratic Anxiety' Wike a Fetterolf, 2021). Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos, er bod democratiaeth gynrychiadol yn parhau i gael ei chefnogi’n eang, bod anfodlonrwydd ynghylch sut mae'n gweithredu wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd canolrif o 59% o bobl ar draws 24 gwlad wedi mynegi anfodlonrwydd â democratiaeth, gan ddweud bod swyddogion etholedig yn colli cysylltiad fwyfwy a bod pleidiau gwleidyddol yn methu â chynrychioli eu safbwyntiau’n effeithiol ('Representative Democracy Remains a Popular Ideal, but People Around the World Are Critical of How It’s Working' Pew Research Center, 2024).
Mae democratiaeth iach yn hanfodol i gymdeithas sy’n weithredol ac yn gynrychioladol, er mwyn sicrhau atebolrwydd, gwirio pŵer, diogelu hawliau, a chymdeithas sy’n fwy sefydlog at ei gilydd ('The importance of democracy' Chatham House, 2024). Fodd bynnag, er mwyn penderfynu a oes gan wlad ddemocratiaeth iach ac er mwyn gweld lle mae angen canolbwyntio ymdrechion i gryfhau hynny, rhaid cael mecanwaith i fesur a monitro iechyd democrataidd. Dylai'r mecanwaith hwn gyfleu cymhlethdod llawn democratiaeth ac ymgysylltu dinesig, gan fynd y tu hwnt i fetrigau gor-syml fel y nifer sy'n pleidleisio.
Ar hyn o bryd, mae mesurau rhyngwladol ar gyfer iechyd democrataidd yn gysylltiedig â'r DU; fodd bynnag, nid yw'r rhain yn cael eu dadgyfuno yn ôl lefel genedlaethol, felly ni allant adlewyrchu'r cyd-destun penodol yng Nghymru. O ganlyniad i hyn, comisiynodd Llywodraeth Cymru Alma Economics i ystyried y prif ganfyddiadau a’r argymhellion o waith ymchwil blaenorol ('Diffinio, Mesur a Monitro Iechyd Democrataidd yng Nghymru' Valgardsson et al, 2023) gan archwilio sut mae iechyd democrataidd yn cael ei ddiffinio, ei fesur a’i fonitro ledled y byd, gan ganolbwyntio’n benodol ar sut gellid cymhwyso'r hyn sy’n cael ei ddysgu yng Nghymru. Nododd astudiaeth ymchwil Alma Economics yr opsiynau y gellid eu datblygu i ddatblygu set benodol o fesurau a dangosyddion i olrhain, monitro ac asesu gwahanol elfennau democratiaeth yng Nghymru.
Methodoleg
Cynhaliwyd yr astudiaeth mewn tri cham yn olynol, fel yr amlinellir isod.
Roedd Cam 1 yn cynnwys adolygiad desg o lenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth lwyd (er enghraifft, dogfennau polisi) i ddeall y prif faterion yn well, datblygu deunyddiau ymchwil dilynol, a nodi meysydd i ymchwilio ymhellach iddynt. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar y dystiolaeth bresennol ynghylch sut mae iechyd democrataidd yn cael ei fesur yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ogystal â chymariaethau rhwng y mesurau sy'n cael eu defnyddio'n rhyngwladol. Cafodd arolygon a setiau data sydd ar gael yng Nghymru ac adroddiadau ar ganlyniadau etholiadau eu hadolygu hefyd. Lluniwyd rhestr hir o ddangosyddion o ganlyniad i hyn, wedi'u categoreiddio yn ôl y chwe dimensiwn iechyd democrataidd a amlinellir yn adroddiad WCPP ‘Diffinio, Mesur a Monitro Iechyd Democrataidd yng Nghymru’ (Valgardsson et al, 2023): i) democratiaeth etholiadol, ii) democratiaeth gyfranogol, iii) democratiaeth gydgynghorol, iv) democratiaeth gydraddol, v) ymatebolrwydd sefydliadol, a vi) tryloywder a rhyddid y cyfryngau. Rhannwyd y dangosyddion ymhellach yn ddau grŵp: y dangosyddion hynny sydd eisoes yn cael eu casglu yng Nghymru, a dangosyddion sydd ar gael mewn mannau eraill (yn y DU neu'n rhyngwladol) ond nad ydynt yn cael mesur eto yng Nghymru. Ar sail yr adolygiad o dystiolaeth, cafodd Fframwaith Asesu Ansawdd pwrpasol ei greu hefyd i werthuso'r dangosyddion a nodwyd yng nghamau diweddarach yr ymchwil.
Roedd Cam 2 yn cynnwys cynnal dau weithdy ar-lein i dynnu ar wybodaeth ac arbenigedd y rhanddeiliaid allweddol i gyfrannu at ddyluniad astudiaeth Delphi yng Ngham 3. Roedd y rhain yn para hyd at 90 munud ac yn dechrau gyda chyflwyniad byr ar fesurau iechyd democrataidd presennol fel y nodwyd yn ystod Cam 1, yna trafodaeth ar y rhestr hir o ddangosyddion a'r Fframwaith Asesu Ansawdd. Cyfrannodd wyth o randdeiliad at gynllun astudiaeth Delphi a chwblhau'r Fframwaith Asesu Ansawdd yn derfynol drwy'r gweithdai hyn.
Roedd Cam 3 yn cynnwys astudiaeth Delphi ('How to Conduct a Delphi Study' Chuenjitwongsa, 2017), a oedd yn cynnwys tri holiadur olynol wedi’u dylunio i nodi lle roedd consensws ymhlith panel amrywiol o arbenigwyr ar y dangosyddion gorau i fesur iechyd democrataidd. Roedd pob holiadur ar gael i'w lenwi am rhwng pythefnos a phedair wythnos. I ffurfio'r Panel Arbenigol, cynhaliwyd ymarfer mapio rhanddeiliaid i nodi arbenigwyr a oedd: i) yn gyfarwydd ag iechyd democrataidd Cymru neu gyd-destun tebyg, ii) wedi defnyddio/gweithio gyda mesurau tebyg yn y gorffennol (er enghraifft, Freedom House, V-Dem, ac ati), iii) ag o leiaf dair blynedd o brofiad ac enw da proffesiynol sefydledig mewn proffesiynau fel y byd academaidd, polisi, cymdeithas sifil, neu gomisiynu etholiadol, a iv) yn siarad Saesneg neu Gymraeg. Drwy'r dull hwn, ffurfiwyd Panel Arbenigol o 23 o gyfranogwyr o Gymru, y DU yn ehangach, a lleoliadau rhyngwladol. O ystyried natur heriol cymryd rhan mewn astudiaeth Delphi, anogwyd y Panel Arbenigol i gwblhau pob rownd o’r astudiaeth, ond ni chafodd cyfranogwyr eu cosbi am golli rownd a chawsant gwblhau rhai dilynol.
Roedd rownd gyntaf astudiaeth Delphi yn canolbwyntio ar lunio rhestr fer gychwynnol o ddangosyddion a nodwyd drwy’r adolygiad desg, ac a gafodd eu mireinio yn ystod y gweithdai arbenigol gyda 22 o gyfranogwyr. Roedd yr ail rownd yn canolbwyntio ar werthuso'r dangosyddion a roddwyd ar y rhestr fer yn Rownd 1 yn erbyn y Fframwaith Asesu Ansawdd, gan ofyn i arbenigwyr nodi i ba raddau roeddent yn cytuno â chyfres o feini prawf asesu ansawdd ar gyfer pob dangosydd. Oherwydd bod yr ail rownd yn dechnegol iawn, cafodd ei rhannu'n ddwy ran. Cyfrannodd 16 o arbenigwyr yn ystod Rhan A, ac yn Rhan B, cyfrannodd 10 o arbenigwyr. Roedd y drydedd rownd, a rownd olaf astudiaeth Delphi, yn canolbwyntio ar gasglu adborth ar y rhestr fer derfynol o ddangosyddion arfaethedig i fesur a monitro iechyd democrataidd yng Nghymru, gan fod y rhain wedi cael eu cydgasglu ar sail canlyniadau rownd 2, gan gadarnhau consensws ynghylch pa ddangosyddion sydd fwyaf perthnasol, ymarferol a dibynadwy i'w defnyddio yng nghyd-destun Cymru. Roedd 21 o gyfranogwyr yn rhan o'r rownd derfynol hon.
Prif ganfyddiadau
Arweiniodd astudiaeth Delphi at set o chwech o ddangosyddion a oedd yn cael eu hystyried yn effeithiol ac yn berthnasol ar gyfer mesur a monitro iechyd democrataidd yng Nghymru.
- Democratiaeth Etholiadol: A oes gan bleidleiswyr ddewisiadau ystyrlon rhwng ymgeiswyr? Nid yw'r dangosydd hwn ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n gofyn am ddadansoddiad arbenigol i asesu a oedd gan bleidleiswyr ddewisiadau gwirioneddol mewn etholiad. Mae V-Dem yn mesur hyn drwy ei amrywiolyn ‘Etholiadau aml-blaid’, ac mae’r prosiect Canfyddiadau o Uniondeb Etholiadau yn gwerthuso a oedd pleidleiswyr wedi cael dewis gwirioneddol yn y blwch pleidleisio. Sicrhaodd gonsensws o 67% ymysg arbenigwyr yn nhrydedd rownd astudiaeth Delphi.
- Democratiaeth Gyfranogol: Nifer sy’n pleidleisio yn yr etholiadau Cyffredinol, etholiadau'r Senedd ac etholiadau Lleol. Mae'r dangosydd hwn ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’n mesur cyfran y pleidleiswyr cymwys sydd yn bwrw pleidlais mewn gwirionedd, ar sail cofnodion swyddogol etholiadau cyffredinol (House of Commons Library), etholiadau'r Senedd (Senedd Cymru), ac etholiadau lleol (Y Comiswn Etholiadol). Sicrhaodd gonsensws o 81% ymysg arbenigwyr yn nhrydedd rownd astudiaeth Delphi.
- Democratiaeth Gyfranogol: “Ydych chi wedi cysylltu â'ch cynghorydd lleol yn ystod y 12 mis diwethaf, er enghraifft, gydag ymholiad, cwyn neu broblem?” Mae'r dangosydd hwn ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Casglwyd y pwyntiau data sydd ar gael ar gyfer y dangosydd hwn drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru rhwng 2018 a 2022. Sicrhaodd gonsensws o 71% ymysg arbenigwyr yn nhrydedd rownd astudiaeth Delphi.
- Democratiaeth Gydraddol: Cydraddoldeb ymgysylltiad gwleidyddol a chynrychiolaeth ddemograffig gytbwys yn y llywodraeth ac ymhlith deddfwyr: nodweddion demograffig ymgeiswyr etholedig. Mae'r dangosydd hwn yn cael ei gasglu yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r pwyntiau data sydd ar gael ar gyfer y dangosydd hwn yn cael eu casglu drwy Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol (yn amodol ar gyfraddau ymateb) a Chofrestr Ymgeiswyr Etholiadau'r Senedd (House of Commons Library) (nid yw’r gofrestr yn un hunangofnodi, ond mae’n cael ei chasglu o adroddiadau arbenigwyr). Sicrhaodd gonsensws o 71% ymysg arbenigwyr yn nhrydedd rownd astudiaeth Delphi.
- Ymatebolrwydd Sefydliadol: “Ar y cyfan, ydych chi'n fodlon neu'n anfodlon â'r ffordd y mae democratiaeth yn gweithio: a) yn y DU yn ei chyfanrwydd; b) yng Nghymru?” Mae’r dangosydd hwn ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, a chaiff ei gasglu fesul cyfnod fel rhan o Astudiaeth Etholiadau Cymru. Sicrhaodd gonsensws o 81% ymysg arbenigwyr yn nhrydedd rownd astudiaeth Delphi.
- Tryloywder a Rhyddid y Cyfryngau: A ellir adnabod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a'u dal yn atebol am benderfyniadau polisi a gwariant mawr? Nid yw'r dangosydd hwn ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r dull hwn yn defnyddio’r fethodoleg Mynegai-T ar gyfer asesu tryloywder, gan ddefnyddio’r Mynegai Canfyddiadau o Lygredigaeth (Transparency International) yn benodol. Mae'r mesur yn seiliedig ar 14 o gwestiynau wedi'u codio gan arbenigwyr. Sicrhaodd gonsensws o 71% ymysg arbenigwyr yn nhrydedd rownd astudiaeth Delphi.
Casgliadau ac argymhellion
Drwy gyfrwng tair rownd o ymgysylltu ag arbenigwyr, datgelodd ymchwil Delphi gonsensws arbenigol ynghylch set benodol o chwe dangosydd sy'n cwmpasu pump o’r chwe dimensiwn democrataidd a gynigiwyd yn wreiddiol: i) democratiaeth etholiadol, ii) democratiaeth gyfranogol (dau ddangosydd), iii) democratiaeth gydraddol, iv) ymatebolrwydd sefydliadol, a v) thryloywder a rhyddid y cyfryngau. Yn benodol, nid oedd unrhyw ddangosyddion o'r dimensiwn democratiaeth gydgynghorol yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y rhestr fer, gan adlewyrchu'n bennaf bryderon arbenigwyr am y goddrychedd sy'n rhan annatod o asesu ansawdd cydgynghori a'u diffyg hyder yn y dulliau mesur sydd ar gael sydd wedi'u codio gan arbenigwyr ar gyfer pob dangosydd yn y dimensiwn hwn. Sicrhaodd y set ar y rhestr fer gonsensws o 62% ymysg arbenigwyr yn nhrydedd rownd astudiaeth Delphi.
Drwy gydol yr astudiaeth, cododd arbenigwyr nifer o ystyriaethau ynghylch casglu data a chadernid methodolegol. Ar gyfer dangosyddion sy'n seiliedig ar farn arbenigol, roeddent yn tanlinellu pwysigrwydd diffiniadau cysyniadol clir, fframweithiau codio tryloyw, a, lle bo hynny'n ymarferol, defnyddio technegau fel Damcaniaeth Ymateb i Eitem (Cambridge University Press) i gyfrif am amrywiad mewn sgoriau arbenigwyr ac i osgoi gorddibynnu ar asesiad unrhyw ymatebydd unigol. Ar gyfer dangosyddion sy'n deillio o ystadegau swyddogol, tynnodd arbenigwyr sylw at eu dibynadwyedd a'u cymaroldeb dros amser. Ond nodwyd hefyd y gallai ffynonellau o'r fath anwybyddu mathau anffurfiol neu newydd o ymgysylltu democrataidd ac y gallant gael eu cyfyngu gan ddosbarthiadau ac arferion adrodd presennol. Ar gyfer dangosyddion sy'n seiliedig ar arolygon, roeddent yn cyfeirio at risgiau o ran rhagfarn dymunoldeb cymdeithasol, camgofnodi, a gwahaniaethau o ran perthnasedd ar draws grwpiau, gan bwysleisio'r angen am eirio cwestiynau’n ofalus a dadgyfuno yn ôl newidynnau demograffig a daearyddol allweddol.
Mae'r dangosyddion sydd ar y rhestr fer o dan ddemocratiaeth etholiadol a thryloywder a rhyddid y cyfryngau yn destun dadansoddiad arbenigol, ac nid yw'r naill na’r llall ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Deellir y gall fod angen llawer o adnoddau ac amser i sefydlu dau ddangosydd newydd. Er mwyn gallu mesur a monitro iechyd democrataidd yng Nghymru yn y cyfamser, mae dau ddangosydd amgen, sy'n cofnodi agweddau tebyg, wedi cael eu nodi. Fodd bynnag, mae cafeatau ynghlwm wrth y ddau ddewis amgen hyn, gan nad oedd y dangosyddion hyn wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer.
Gellid disodli'r dangosydd sy'n mesur dewisiadau ystyrlon rhwng ymgeiswyr â dangosydd arall o'r un dimensiwn, er ei fod yn cofnodi uniondeb etholiadol, nid cystadleurwydd: “Pa mor hyderus, os o gwbl, ydych chi eich bod yn gwybod sut i fynd ati i gofrestru i bleidleisio?” (a fesurir yng Nghymru ar hyn o bryd drwy’r Arolwg o Agweddau’r Cyhoedd (Y Comisiwn Etholiadol). Nid oedd dewis arall o'r dimensiwn tryloywder a rhyddid y cyfryngau i ddisodli’r dangosydd ar atebolrwydd am benderfyniadau polisi a gwariant mawr. Felly daw'r ail ddewis o'r dimensiwn ymatebolrwydd sefydliadol, sy’n cofnodi bodlonrwydd dinasyddion â'r llywodraeth a'r system wleidyddol: “I ba raddau ydych chi'n meddwl bod eich cyngor/cynghorau lleol yn gweithredu ar bryderon trigolion lleol?” (a fesurir yng Nghymru ar hyn o bryd drwy’r Arolwg Cenedlaethol o Breswylwyr (Data Cymru)). Mae ystyried y ddau ddangosydd newydd hyn yn lleihau ymhellach y dimensiynau a gynrychiolir yn y set derfynol o chwe dangosydd o bump i bedwar. Felly, dim ond fel ateb dros dro y mae'r ddau opsiwn arall yn cael eu hawgrymu nes bydd y ddau ddangosydd dadansoddi arbenigol yn barod i'w mesur ar gyfer Cymru.
Manylion cyswllt
Awduron: Alma Economics
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: ymchwil.GwasanaethauCyhoeddus@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 17/2026
ISBN digidol: 978-1-83715-977-2

