Bydd rhaglen Cyswllt Ffermio newydd gwerth £11m ar gael i ffermwyr yng Nghymru i'w cefnogi wrth iddynt baratoi i symud i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
Cyhoeddwyd y rhaglen gan y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn ystod ymweliad â Fferm Ystâd Penllyn.
Bydd y Rhaglen yn rhan annatod o'r SFS a bydd yn rhoi cefnogaeth i roi y Cynllun ar waith. Y prif nodau fydd helpu busnesau fferm i fagu gwytnwch ac i gynhyrchu mwy trwy weithio ar feysydd fel gwella iechyd pridd, iechyd a lles anifeiliaid, rheoli plâu, meincnodi a meithrin sgiliau a gwybodaeth ychwanegol ar amrywiaeth o bynciau.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
Rwy'n falch o gyhoeddi £11 miliwn cychwynnol fel y gall Cyswllt Ffermio barhau i ddarparu ei wasanaethau pwysig i ffermwyr ledled Cymru am flwyddyn arall.
"Mae'r gefnogaeth honno'n bwysicach nag erioed. Bydd Cyswllt Ffermio yn chwarae rôl allweddol wrth helpu ffermwyr i symud tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac mae'r cyllid hwn yn dangos ein hymrwymiad i'w cefnogi drwy'r trawsnewidiad hwnnw.Byddwn yn annog ffermwyr i ddarganfod mwy a gwneud y gorau o'r cymorth sydd ar gael.
Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Mentera, sydd wedi ennill y contract i gyflawni'r rhaglen Cyswllt Ffermio drwy dendr cystadleuol:
Rydym yn falch o'n record o gyflawni'r rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru ers 2011 ac rydym yn falch iawn o allu parhau â'r gwaith hwn ar adeg mor dyngedfennol i ffermio Cymru. Ein blaenoriaeth yw parhau i gefnogi diwydiant gwledig Cymru gyda gwasanaethau ymarferol, dibynadwy sy'n helpu busnesau fferm i symud ymlaen. Rydym wedi ymrwymo i fod yn bartner sefydlog, adeiladol i'r sector wrth iddo lywio'r newidiadau sydd o'n blaenau.
Yn ystod ei ymweliad, siaradodd y Dirprwy Brif Weinidog â Tom Homfray, Ystâd Penllyn a chlywed mwy am sut mae Cyswllt Ffermio wedi cefnogi'r busnes dros y blynyddoedd. Dywedodd Mr Homfray:
Mae Cyswllt Ffermio wedi bod yn adnodd hanfodol i'n busnes. Mae aelodau o'n tîm wedi ymgymryd â chyrsiau hyfforddi hanfodol ar amrywiaeth enfawr o beiriannau, gan gynnwys llwythwyr telesgopig, chwistrellwyr, llifau cadwyn a beiciau cwad. Fe wnaethant gefnogi ein rheolwr fferm gyda chwblhau ei gwrs sylfaen BASIS, ac mae ein bugail wedi gwneud cyrsiau ar laswelltir, maeth a rheoli parasitiaid.
Mae nhw hefyd wedi ein helpu i baratoi cynlluniau busnes ar gyfer ceisiadau grant. Mae'n ddefnydd da iawn o arian cyhoeddus; maent yn gwella sgiliau technegol, yn gwella diogelwch ffermydd, yn darparu cyfleoedd i rwydweithio, ac yn y pen draw yn helpu i roi hwb i broffidioldeb fferm trwy well perfformiad.
