Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rhaglen Cyswllt Ffermio newydd gwerth £11m ar gael i ffermwyr yng Nghymru i'w cefnogi wrth iddynt baratoi i symud i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y rhaglen gan y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn ystod ymweliad â Fferm Ystâd Penllyn.  

Bydd y Rhaglen yn rhan annatod o'r SFS a bydd yn rhoi cefnogaeth i roi y Cynllun ar waith.  Y prif nodau fydd helpu busnesau fferm i fagu gwytnwch ac i gynhyrchu mwy trwy weithio ar feysydd fel gwella iechyd pridd, iechyd a lles anifeiliaid, rheoli plâu, meincnodi a meithrin sgiliau a gwybodaeth ychwanegol ar amrywiaeth o bynciau. 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: 

Rwy'n falch o gyhoeddi £11 miliwn cychwynnol fel y gall Cyswllt Ffermio barhau i ddarparu ei wasanaethau pwysig i ffermwyr ledled Cymru am flwyddyn arall. 
"Mae'r gefnogaeth honno'n bwysicach nag erioed. Bydd Cyswllt Ffermio yn chwarae rôl allweddol wrth helpu ffermwyr i symud tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac mae'r cyllid hwn yn dangos ein hymrwymiad i'w cefnogi drwy'r trawsnewidiad hwnnw. 

Byddwn yn annog ffermwyr i ddarganfod mwy a gwneud y gorau o'r cymorth sydd ar gael.

Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Mentera, sydd wedi ennill y contract i gyflawni'r rhaglen Cyswllt Ffermio drwy dendr cystadleuol: 

Rydym yn falch o'n record o gyflawni'r rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru ers 2011 ac rydym yn falch iawn o allu parhau â'r gwaith hwn ar adeg mor dyngedfennol i ffermio Cymru. Ein blaenoriaeth yw parhau i gefnogi diwydiant gwledig Cymru gyda gwasanaethau ymarferol, dibynadwy sy'n helpu busnesau fferm i symud ymlaen. Rydym wedi ymrwymo i fod yn bartner sefydlog, adeiladol i'r sector wrth iddo  lywio'r newidiadau sydd o'n blaenau.

Yn ystod ei ymweliad, siaradodd y Dirprwy Brif Weinidog â Tom Homfray, Ystâd Penllyn a chlywed mwy am sut mae Cyswllt Ffermio wedi cefnogi'r busnes dros y blynyddoedd.  Dywedodd Mr Homfray: 

Mae Cyswllt Ffermio wedi bod yn adnodd hanfodol i'n busnes. Mae aelodau o'n tîm wedi ymgymryd â chyrsiau hyfforddi hanfodol ar amrywiaeth enfawr o beiriannau, gan gynnwys llwythwyr telesgopig, chwistrellwyr, llifau cadwyn a beiciau cwad. Fe wnaethant gefnogi ein rheolwr fferm gyda chwblhau ei gwrs sylfaen BASIS, ac mae ein bugail wedi gwneud cyrsiau ar laswelltir, maeth a rheoli parasitiaid.  

Mae nhw hefyd wedi ein helpu i baratoi cynlluniau busnes ar gyfer ceisiadau grant. Mae'n ddefnydd da iawn o arian cyhoeddus; maent yn gwella sgiliau technegol, yn gwella diogelwch ffermydd, yn darparu cyfleoedd i rwydweithio, ac yn y pen draw yn helpu i roi hwb i broffidioldeb fferm trwy well perfformiad.