Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn trosglwyddo dyletswyddau cyfreithiol ar lunio cwricwla lleol 16 i 18 yng Nghymru o Weinidogion Cymru i'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr). Bwriedir i'r dyletswyddau hyn drosglwyddo o fis Ebrill 2026. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn eich barn ar y ‘canllawiau ar gwricwla 16 i 18’ a fydd yn gweithredu fel canllawiau statudol gan Lywodraeth Cymru i Medr mewn perthynas â'r dyletswyddau hyn.

1. Cyflwyniad

Sefydlodd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) fel corff newydd, sy'n gyfrifol am addysg ôl-16 yng Nghymru. Mae amrywiaeth o fuddiannau strategol ac ymarferol ac sy'n canolbwyntio ar y dysgwr yn deillio o sefydlu Medr, gan fod corff unigol bellach yn gyfrifol am addysg ôl-orfodol.

Mae'r broses o bontio i addysg ôl-16 yn bwysig iawn i ddysgwyr. Yn 16 oed, byddant yn cael y cyfle i arbenigo mewn cyrsiau sy'n adlewyrchu eu diddordebau a'u huchelgeisiau, ac sy'n eu galluogi i symud ymlaen i'r llwybr o'u dewis. Nid oes unrhyw gwricwlwm ôl-16 gorfodol yng Nghymru; ond mae cwricwla lleol i ddysgwyr 16 i 18 oed. Drwy'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, bydd Medr yn gyfrifol am lunio cynigion cwricwla lleol ar gyfer ardal pob awdurdod lleol, a rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion uwchradd a gynhelir ag adrannau chweched dosbarth ('ysgolion') a sefydliadau addysg bellach ('SABau') helpu Medr â'r ddyletswydd hon. Bwriedir i'r ddyletswydd hon i Medr drosglwyddo o fis Ebrill 2026.

Cynigion cwricwla lleol yw'r cyrsiau sy'n cael eu cynnig i ddysgwyr eu hastudio yn yr ardal leol, naill ai'n uniongyrchol drwy ysgol neu SAB y dysgwr, neu drwy drefniadau cydweithredol ag ysgolion neu SABau lleol eraill. Mae ymateb i ddewis dysgwyr yn elfen allweddol wrth sicrhau bod cwricwla lleol 16 i 18 yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr a bod cynigion lleol yn ddigon eang eu natur. O ystyried pwysigrwydd cynnig dewis eang o gyrsiau i ddysgwyr ar yr adeg y byddant yn arbenigo yn eu haddysg, rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion a SABau gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod cynifer o gyrsiau â phosibl ar gael.

Ar 1 Ebrill 2025, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad ysgrifenedig ar Lwybrau Dysgu 14 i 19, yn nodi ymrwymiad i ddiwygio'r canllawiau ar gwricwla lleol i fyfyrwyr 16 i 18 oed. Yn ogystal â phwysleisio pwysigrwydd cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau astudio (academaidd a galwedigaethol) i fyfyrwyr, ymrwymodd y datganiad ysgrifenedig hwn i archwilio sut y gellir gwella'r profiad dysgu ôl-16 ehangach, gan gefnogi ein blaenoriaeth i gynyddu cyfranogiad mewn addysg bellach ac uwch, a sicrhau bod cryfderau'r Cwricwlwm i Gymru yn parhau i fod o fudd i ddysgwyr wrth iddynt symud ymlaen i lwybrau ôl-16 mwy arbenigol.

Yn dilyn hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 ('y canllawiau hyn'), gan ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid drwy gydol y broses, gan gynnwys Medr, awdurdodau lleol, Cymwysterau Cymru, Estyn, Colegau Cymru, y Coleg Cymraeg, Prifysgolion Cymru, Cydag, UCM, ac arweinwyr ysgolion a SAB. 

2. Pam ein bod yn cyhoeddi canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18

Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu'r dyletswyddau rheoleiddiol ar lunio cwricwla lleol 16 i 18 a fydd yn trosglwyddo o Weinidogion Cymru i Medr o dan y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac maent yn nodi disgwyliadau polisi ehangach Llywodraeth Cymru wrth i Medr ymgymryd â'r dyletswyddau hyn.

Ar ôl cwblhau'r fersiwn derfynol, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Medr ddefnyddio'r canllawiau hyn wrth weithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion a SABau yn ystod blwyddyn academaidd 2026 i 2027, mewn perthynas â'r cwricwla lleol a fydd ar gael ac yn cael eu cyflwyno o fis Medi 2027.

3. Nodweddion allweddol y canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18

Adran 1: y weledigaeth ar gyfer dysgu 16 i 18

Mae adran gyntaf y canllawiau yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu 16 i 18, y dylai'r polisi ar gwricwla lleol 16 i 18 ei chefnogi. Er nad yw'r Cwricwlwm i Gymru yn ehangu i addysg ôl-16 yng Nghymru, mae'r pedwar diben yn parhau'n sail i'n gweledigaeth y dylai dysgu 16 i 18 wneud y canlynol:

  • sicrhau bod cyfnodau pontio dysgwyr yn fwy esmwyth, a hynny:
    • Yn dilyn diwedd cyfnod addysg orfodol yn 16 oed; 
    • Wrth symud ymlaen i addysg drydyddol, hyfforddiant neu gyflogaeth yn 18 neu'n 19 oed – gan roi hyder i ddysgwyr symud ymlaen i'r camau nesaf a ddewiswyd ganddynt.
  • canolbwyntio ar y dysgwr a'i anghenion
  • cefnogi cyfraddau cyfranogi uwch, mewn addysg 16 i 18 ac mewn addysg uwch a phrentisiaethau
  • ymgorffori parch cydradd rhwng cymwysterau a llwybrau cyffredinol a galwedigaethol
  • cynllunio ar gyfer dysgu Cymraeg a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, cynnig mwy o gyfleoedd i wneud hynny ac annog y galw
  • rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i allu addasu drwy gydol eu bywydau mewn economi a chymdeithas sy'n newid yn barhaus

Adran 2: priod ddyletswyddau

Mae'r adran hon yn nodi dyletswyddau a rôl statudol Medr wrth lunio cwricwla lleol, fel y'u nodir mewn deddfwriaeth.

Rydym hefyd wedi nodi priod ddyletswyddau awdurdodau lleol, ysgolion a SABau er mwyn i ddefnyddwyr y canllawiau allu gweld yr holl ddyletswyddau mewn un man a deall sut maent yn berthnasol i'w gilydd.

Er mwyn gwneud y canllawiau yn fwy defnyddiol, mae'r adran hon hefyd yn nodi dyletswyddau perthnasol sy'n deillio o ddarnau eraill o ddeddfwriaeth, lle bônt yn berthnasol i lunio cwricwla lleol – yn arbennig mewn perthynas â'r Gymraeg. (Mae hyn hefyd yn berthnasol i Adran 3.) 

Adran 3: llunio a monitro cwricwla lleol

Rydym am sicrhau bod cwricwlwm mor eang â phosibl yn cael ei gynnig i bob dysgwr 16 i 18 a bod pob person ifanc, ni waeth beth fo'i gefndir, ei allu na'i uchelgais, yn dilyn llwybr ystyrlon i mewn i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae'r adran hon yn amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan Medr wrth lunio a monitro cwricwla lleol, er mwyn cefnogi'r amcanion hyn.

Mae'r adran hon yn cynnwys sawl maes y bydd yn bwysig ei ystyried wrth lunio cwricwla lleol, gan gynnwys: 

  • Y Gymraeg: Bydd y Gymraeg yn rhan bwysig o'r broses o gynllunio cwricwla lleol 16 i 18. Rhaid i Medr hybu'r Gymraeg a rhaid i ddysgwyr, lle bynnag y bo'n bosibl, allu parhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg wrth iddynt ddechrau addysg ôl-16. Mae'r canllawiau hyn yn ceisio sicrhau y caiff opsiynau Cymraeg eu cynnig i ddysgwyr, heb gyfyngu'r cyrsiau ehangach a gynigir drwy gwricwla lleol.
  • Diwygio cymwysterau 14 i 16: Wrth i gymwysterau cenedlaethol newydd gael eu cyflwyno i ddysgwyr 14 i 16 er mwyn cefnogi nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru, mae'n bwysig bod y cwricwla lleol a gaiff eu cynnig i ddysgwyr yn eu galluogi i wneud cynnydd ystyrlon yn y pynciau y maent wedi'u mwynhau ac wedi llwyddo ynddynt yn yr ysgol.
  • Cynnig cynhwysol: Er ein bod yn disgwyl mai cymwysterau lefel 3 y bydd cwricwla lleol 16 i 18 yn eu cynnwys yn bennaf, mae'n bwysig bod gan bob person ifanc lwybr ystyrlon i mewn i addysg bellach neu uwch, hyfforddiant, neu gyflogaeth. Felly mae angen bod amrywiaeth priodol o gyrsiau islaw lefel 3 ar gael i ddysgwyr i'w helpu i barhau i ymgymryd ag addysg bellach a gwneud cynnydd ar y cyflymder addas ar eu cyfer. 
  • Anghenion dysgu ychwanegol (ADY): Mae dyletswydd statudol ar Medr i hybu cyfle cyfartal ac annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol i bob dysgwr cymwys. Yma rhoddir ystyriaeth i sicrhau y caiff anghenion dysgu ychwanegol eu hadlewyrchu wrth lunio cwricwla lleol 16 i 18. 
  • Rôl llais y dysgwr a chwricwla seiliedig ar alw: Mae'r adran hon yn nodi pwysigrwydd dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dysgwr wrth ddylunio cwricwla lleol 16 i 18, gan gynnwys rhoi ystyriaeth ddigonol i'r galw gan ddysgwyr yn y cyrsiau a gaiff eu cynnwys mewn cwricwla lleol.
  • Yr economi a'r farchnad lafur: Yn ogystal â'r galw gan ddysgwyr, dylai cwricwla lleol 16 i 18 hefyd fod yn seiliedig ar wybodaeth am y farchnad lafur ac yn gydnaws â blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. 

Bydd cydlafurio a phartneriaeth, yn lleol ac yn ehangach, yn hanfodol er mwyn galluogi ein gweledigaeth ar gyfer cwricwla lleol 16 i 18. Bydd angen i ysgolion a SABau gydweithio i sicrhau bod cynifer o gyrsiau â phosibl ar gael i ddysgwyr a bydd Medr yn chwarae rôl allweddol wrth hwyluso ac annog ymdrechion i gydlafurio, yn gysylltiedig â dyletswyddau strategol Medr. Bydd Medr yn datblygu ei ganllawiau ei hun i awdurdodau lleol, ysgolion a SABau, yn nodi sut y bydd y cyrff hyn yn helpu Medr i lunio cynigion cwricwlwm lleol 16 i 18. Mae'r canllawiau hyn hefyd yn rhoi cyngor i Medr er mwyn monitro cwricwla lleol er mwyn helpu i gynnig cyfle cyfartal i ddysgwyr ledled Cymru. Wrth wneud hyn, rydym am iddynt sicrhau bod gofynion cwricwlaidd yn cael eu bodloni, a nodi ac ymchwilio i broblemau pan fyddant yn codi, gan weithio gyda chynllunwyr cwricwla i hwyluso datrysiadau cydweithredol.

Adran 4: cyllido a dylunio rhaglenni 16 i 18

Gan nad oes cwricwlwm cenedlaethol ôl-16 yng Nghymru, mae'r cyfleoedd dysgu y mae dysgwyr 16 i 18 oed yn eu cael wedi'u llywio'n bennaf gan y ffordd y caiff y rhaglenni y byddant yn eu dilyn a'r cymwysterau y byddant yn eu dewis eu dylunio. Felly mae'r adran hon yn rhoi canllawiau i Medr ar ddisgwyliadau polisi Llywodraeth Cymru y dylid eu hystyried wrth iddo ddylunio rhaglenni dysgu 16 i 18, sy'n sail i'r cwricwla lleol. Bwriedir hefyd i ysgolion a SABau ddefnyddio'r adran hon wrth gynllunio eu cynigion cwricwlwm 16 i 18 unigol.

Cyflwynodd y canllawiau statudol i ysgolion ar ddysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru yr hawl i ddysgu 14 i 16. Mae'r hawl yn cyfleu pedair elfen dysgu 14 i 16, sef yr elfennau pwysicaf i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11 ym marn Llywodraeth Cymru. Mae'r canllawiau hyn yn ceisio adeiladu ar y pedair elfen hyn mewn cwricwla lleol 16 i 18, gan ddangos y mathau o barhad sy'n bodoli rhwng dysgu cyn-16 a dysgu ôl-16, gan ar yr un pryd bwysleisio'r ffaith bod mwy o ddewis a hyblygrwydd i ddysgwyr 16 i 18. Wrth i ddysgwyr symud ymlaen i raglenni dysgu mwy arbenigol ôl-16, rydym am sicrhau bod eu dysgu yn cynnwys y canlynol:

  • myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ar gyfer y camau nesaf
  • datblygu sgiliau mewn llythrennedd a rhifedd
  • prif gymwysterau
  • dysgu a phrofiadau ehangach

Pwysigrwydd addysg a chymorth gyrfaoedd wrth gynllunio ar gyfer y cyfnod ôl-18

Wrth i ddysgwyr symud ymlaen drwy eu haddysg ôl-16 a pharhau i gynllunio ar gyfer eu camau nesaf, mae'n bwysig bod dysgwyr yn cael amser a chyngor penodol i ystyried yr ystod lawn o opsiynau sydd ar gael iddynt ar ddiwedd eu haddysg 16 i 18, a'u bod yn cael cymorth wedi hynny i gyrraedd y gyrchfan y maent yn anelu ati. Felly rydym am i gwricwla lleol a rhaglenni 16 i 18 gael eu dylunio er mwyn i ysgolion a SABau barhau i gefnogi dysgwyr wrth iddynt gynllunio, a chydweithio a phartneriaid, gan gynnwys Gyrfa Cymru, i sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o'r opsiynau sydd ar gael iddynt. 

Polisi ‘ailsefyll’ TGAU

Mae niferoedd uchel o ddysgwyr sy'n ymgymryd ag addysg 16 i 18 yn ailsefyll cymwysterau TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg pan na fyddant wedi cyflawni lefel 2 (gradd C) yn yr ysgol. Er bod cyflawni llwyddiant lefel 2 yn bwysig er mwyn i lawer o ddysgwyr symud ymlaen i addysg uwch a chyflogaeth yn y dyfodol a'i fod yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar eu bywydau fel oedolion, nid oes digon o'r dysgwyr hynny sy'n ailsefyll y cymwysterau TGAU hyn yn llwyddo i gyflawni lefel 2 erbyn 19 oed. Mae risg y gall methu wrth ailsefyll y cymwysterau hyn gael effaith negyddol ar lesiant dysgwyr a'u hunan-barch, a'u hawydd i barhau i ymgymryd ag addysg.

Felly mae'r canllawiau hyn yn egluro disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran cymwysterau Cymraeg, Saesneg a Mathemateg i ddysgwyr 16 i 18 nad ydynt wedi cyflawni lefel 2. Rydym am i'r holl ddysgwyr hyn gael cymorth i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ac i gael y cyfle i ennill cymhwyster lefel 2 sy'n dangos eu cyrhaeddiad yn y sgiliau hyn. Dylai'r ysgol neu'r SAB a'r dysgwr benderfynu ar y cyd a ddylid cofrestru'r dysgwr i ailsefyll cymhwyster TGAU, gan ystyried cyrhaeddiad blaenorol y dysgwr yn y cymwysterau hyn a'i ddyheadau a'i lwybrau tebygol o ran addysg bellach neu gyflogaeth yn 18 oed. Mae'r canllawiau yn nodi'n glir mai gweithio tuag at gymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif a (neu) Sgiliau Cyfathrebu fydd y llwybr mwyaf priodol i rai dysgwyr. 

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch a sgiliau ehangach

Mae'r canllawiau hyn yn nodi buddiannau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac yn amlinellu ein polisi ar ddefnyddio'r fagloriaeth fel rhan o raglenni 16 i 18. Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn parhau i gefnogi ac asesu datblygiad dysgwyr wrth feithrin sgiliau cyfannol y Cwricwlwm i Gymru, y gwyddom eu bod yn bwysig er mwyn llwyddo ym maes addysg uwch ac i gyflogwyr. Felly mae'r canllawiau yn disgwyl i'r Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch fod ar gael a chael ei chynnig i bob dysgwr 16 i 18 oed ar gwrs lefel 3 dwy flynedd. Rydym am i bob dysgwr cymwys gael ei annog i gwblhau'r Fagloriaeth, er y dylai ysgolion a SABau ystyried anghenion ac amgylchiadau unigol dysgwyr, fel y byddent yn ei wneud ar gyfer unrhyw gymhwyster.

O ystyried pwysigrwydd sicrhau bod pob dysgwr 16 i 18 yn parhau i ddatblygu ei sgiliau ehangach, gan gynnwys y dysgwyr hynny ar gyrsiau galwedigaethol islaw lefel 3, mae'r canllawiau yn cynnig y dylid o bosibl ddefnyddio cymwysterau'r Gyfres Sgiliau a'r Prosiect Personol Gwneud-i-Gymru newydd i gefnogi'r dysgwyr hyn. 

4. Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

I ba raddau rydych chi'n cytuno bod y canllawiau i Medr ar gwricwla lleol i ddysgwyr 16 i 18 ('canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18') yn nodi rôl Medr wrth lunio cwricwla lleol yn glir?

Cwestiwn 2

I ba raddau rydych chi'n cytuno y bydd y canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 yn cefnogi'r weledigaeth ar gyfer dysgu 16 i 18 sydd wedi'i nodi ynddynt?

Cwestiwn 3

I ba raddau rydych chi'n cytuno bod y canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 yn eich helpu i ddeall y ffactorau a'r blaenoriaethau y dylai Medr eu hystyried wrth weithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach (SABau) i lunio cwricwla lleol?

Cwestiwn 4

I ba raddau rydych chi'n cytuno y bydd yr hyn a ddisgwylir gan Medr a sefydliadau eraill yn y canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 yn arwain at lunio cwricwla lleol sy'n cynnig dewis eang o gymwysterau i ddysgwyr, a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i'r camau nesaf a ddewiswyd ganddynt o ran addysg neu gyflogaeth?

Cwestiwn 5

I ba raddau rydych chi'n cytuno â'r polisi arfaethedig yn y canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 ar ddefnyddio cymwysterau TGAU Cymraeg, Saesneg a Mathemateg a chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru fel rhan o raglenni ôl-16?

Cwestiwn 6

I ba raddau rydych chi'n cytuno â'r polisi arfaethedig yn y canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 ar ddefnyddio cymwysterau sgiliau fel rhan o raglenni ôl-16, gan gynnwys Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch a chymwysterau'r Gyfres Sgiliau?

Cwestiwn 7

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y bydd y polisi a amlinellir yn y canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 yn eu cael ar weithlu ysgolion a SABau, gan gynnwys unrhyw effaith y gallai ei chael ar lwythi gwaith.

Cwestiwn 8

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y bydd y polisi a amlinellir yn y canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 yn eu cael ar anghenion amrywiol dysgwyr unigol, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd dan anfantais a'r rhai sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig (fel y'u nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010).

Cwestiwn 9

Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 10

Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 er mwyn:

  • sicrhau eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu 
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar y defnydd o'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ymateb i'r cwestiynau uchod.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych chi’n dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113.

Gwefan: Wefan ICO.