Neidio i'r prif gynnwy

Hoffem gael eich barn ar y canllawiau drafft ar gwricwla lleol 16 i 18.

Sut i ymateb

Ymgynghoriad yn cau:
31 Mawrth 2026
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar:

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau drafft a fydd yn:

  • gweithredu fel canllawiau statudol gan Lywodraeth Cymru i Medr ar lunio cwricwla lleol 16 i 18 yng Nghymru
  • amlinellu’r dyletswyddau ar gyfer Medr, ysgolion uwchradd a gynhelir ag adrannau chweched dosbarth, sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol wrth lunio a threfnu cwricwla lleol 16 i 18 yng Nghymru

Nodyn: anonymeiddio ymatebion

Mae'r ddogfen ymgynghori a gyhoeddwyd yn rhan o’r ymgynghoriad hwn yn adlewyrchu fersiwn gynharach o eiriad Llywodraeth Cymru ynghylch anonymeiddio ymatebion. Ers hynny mae ein gweithdrefnau wedi'u diweddaru fel bod ymatebion i ymgynghoriad yn cael eu trin fel rhai dienw yn ddiofyn. Mae unrhyw ddata personol bellach yn cael eu tynnu cyn cyhoeddi’r ymateb, oni bai bod ymatebwyr yn gofyn yn benodol fel arall.

Bydd y dull wedi'i ddiweddaru hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl ymatebion a ddaw i law ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.

Dogfennau ymgynghori

Canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 395 KB

PDF
395 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwybodaeth ychwanegol

Cynhelir yr ymgynghoriad am gyfnod o wyth wythnos. Dylid e-bostio/postio ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i’r cyfeiriad isod i gyrraedd erbyn 30 Mawrth 2026 fan bellaf.

Rydym wedi ymgysylltu'n helaeth â Medr a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu'r canllawiau drafft hyn. Bydd dod â'r ymgynghoriad i ben ym mis Mawrth yn ein galluogi i gyhoeddi'r canllawiau terfynol yn ystod tymor yr haf, a gall Medr wedyn eu defnyddio yn ystod blwyddyn academaidd 2026 i 2027.

Gellir gwneud cais am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille neu mewn ieithoedd eraill.

e-bost: Dysgu.16-18.Learning@llyw.cymru.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 31 Mawrth 2026, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

Ffurflen ar-lein

Post

Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.

Cwblhewch a dychwelyd i:

Llwybrau Dysgu 16-18
Yr Is-adran Llwybrau Dysgu
Y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ