Diwygiadau i Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynwaith i gwmpasu gwastraff pecynnu wedi'i daflu mewn biniau ac ar y stryd yng Nghymru
Rydyn ni eisiau eich barn chi ar y ffordd y dylid datblygu'r cynllun pEPR i gyfrif am wastraff pecynnu 'wrth fynd' sy'n cael ei roi mewn biniau cyhoeddus neu ei ollwng ar lawr yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhif: 53806
Llywodraeth Cymru
Dogfen ymgynghori
Diwygiadau i Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynwaith i gwmpasu gwastraff pecynnu wedi'i daflu mewn biniau ac ar y stryd yng Nghymru
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2026
Beth sydd angen i chi ei wneud: Ymateb erbyn 24 Ebrill 2026
Trosolwg
Bwriad polisi gwreiddiol y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer pecynwaith (pEPR) oedd y dylai cynhyrchwyr fod yn gyfrifol o dan y cynllun am gost casglu a gwaredu eitemau pecynnu sy'n cael eu gollwng fel sbwriel ar lawr neu eu taflu mewn biniau cyhoeddus. Dyma'r polisi a gynhwyswyd yn yr ymgynghoriad cyntaf i geisio barn am y rheoliadau pEPR drafft ym mis Chwefror 2019 [1] . Cafodd ei gynnal ar y cyd yn y pedair gwlad. Roedd yr ymgynghoriad hwnnw'n gofyn am y farn ynghylch cynnwys sbwriel o fewn cwmpas costau net llawn rheoli gwastraff pecynnu, fel rhan o’r pEPR. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys adran ar 'gostau sy'n ymwneud â deunydd pecynnu sydd wedi'i daflu'n sbwriel' a oedd yn cynnig bod ffioedd cynhyrchwyr yn cwmpasu'r gost lawn i awdurdodau lleol o ddelio â gwastraff pecynnu sydd wedi'i daflu'n sbwriel a'i dipio'n anghyfreithlon. Byddai angen rhagor o waith i bennu'r costau hyn a byddai angen ystyried unrhyw DRS a gyflwynir.
Cyhoeddwyd yr ymateb i'r ymgynghoriad ym mis Gorffennaf 2019 [2], lle mynegwyd cefnogaeth eang i'r cynnig hwn. Roedd yr ymateb i'r ymgynghoriad yn ymdrin hefyd â'r prif egwyddorion a chanlyniadau, y diffiniad o adennill costau net llawn, ffioedd a chymhellion i annog pecynnu mwy cynaliadwy, pwynt cydymffurfio a'r busnesau rhwymedig, cefnogi casgliadau a seilwaith gwell, labelu gorfodol, targedau ailgylchu, trefniadau llywodraethu, monitro cydymffurfiaeth a gorfodi.
Ym mis Mawrth 2021 cyhoeddwyd ail ymgynghoriad [3], yn nodi cynigion manylach. Y cynnig yn hwnnw oedd y dylai cynhyrchwyr deunydd pecynnu sy'n cael ei daflu'n sbwriel yn rheolaidd ysgwyddo'r cyfrifoldeb am gostau rheoli sbwriel, gan gynnwys gwastraff pecynnu oedd wedi'i daflu'n sbwriel mewn biniau ac ar lawr. Cynigiwyd y dylai hyn gynnwys y costau a ysgwyddir gan awdurdodau lleol, cyrff eraill â dyletswydd, awdurdodau sbwriel ac ymgymerwyr statudol. Byddai'n cynnwys hefyd gyfraniad at y costau a ysgwyddir gan elusennau, sefydliadau nid er elw ac ymgyrchoedd codi sbwriel, ac ar gyfer darparu biniau ar dir y mae'r cyhoedd yn cael mynd iddo heb dâl.
Cadarnhaodd yr ymateb ar y cyd gan lywodraethau pob un o'r pedair gwlad a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022 [4] y câi'r pEPR ei roi waith fesul cam, gyda gwastraff pecynnu aelwydydd a gwastraff pecynnu mewn biniau stryd o dan ofal awdurdodau lleol yn cael eu trin gyntaf. Gwneir gwaith pellach wedi hynny i archwilio opsiynau ar gyfer gwastraff a gesglir yn fasnachol. Dywedwyd yn yr ymateb hefyd y byddai ffioedd wedi'u modiwleiddio yn seiliedig ar ailgylchadwyedd yn cael eu cyflwyno ym mlwyddyn dau a rhoddwyd rhai manylion pellach am y trothwy ar gyfer cynhyrchwyr, labelu, targedau ailgylchu a phenodi gweinyddwr y cynllun.
O ran sbwriel, nodwyd yn yr ymateb i'r ymgynghoriad ym mis Mawrth 2022:
“In England and Northern Ireland, we will not introduce payments for packaging waste that is littered; Scotland and Wales are considering steps to obligate producers for these costs and will come forward with their proposals in due course.”
Nodwyd yn yr ymateb hefyd:
“The Scottish and Welsh Governments remain committed to the position set out in the consultation: that the cost of clearing packaging from the ground (referred to as ‘ground litter’ in the consultation) is included in producer costs, reflecting producers’ responsibility for packaging design and material choice, and that this obligation would incentivise producers to reduce the amount of single-use packaging and take other steps to prevent litter arising.”
“The Scottish and Welsh Governments are considering steps to obligate producers in respect of these costs, where this packaging is placed on the market in Scotland and Wales respectively and will set out their intentions in detail in due course.”
Cyhoeddwyd trydydd ymgynghoriad ym mis Mawrth 2022 [5] i geisio barn am rai o agweddau technegol a gweinyddol y cynllun, megis gofynion adrodd a'r berthynas â'r Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS). Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn ym mis Hydref 2022 [6]. Nid oedd yr ymgynghoriad hwn yn holi'n benodol am sbwriel.
Ym mis Gorffennaf 2023 cynhaliwyd pedwerydd ymgynghoriad [7] , gan rannu'r rheoliadau drafft a cheisio barn ynghylch eglurder cyfrifoldebau cynhyrchwyr, awdurdodau lleol ac eraill. Cadarnhaodd yr ymgynghoriad hefyd y gohirid codi tâl am ddeunydd pecynnu tan fis Hydref 2025, ac y gellid lleihau'r tâl i awdurdod lleol hyd at 20 y cant os gwelir nad yw'n darparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol.
Daeth Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchydd (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 i rym ar 1 Ionawr 2025 [8] . Dilynwyd hyn gan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchydd (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) (Diwygio) 2025 sy'n diwygio'r rheoliadau cychwynnol, a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2026 [9].
Pwrpas yr ymgynghoriad hwn felly yw casglu barn ar y ffordd y dylid datblygu'r cynllun pEPR i gyfrif am wastraff pecynnu 'wrth fynd' sy'n cael ei roi mewn biniau cyhoeddus neu ei ollwng ar lawr yng Nghymru. Byddai hyn yn gofyn am ddiwygio'r ddeddfwriaeth, gan ddefnyddio pwerau fel y rheini o dan Ddeddf yr Amgylchedd 2021.
Nid ydym wedi cadarnhau eto amseriad y newidiadau posibl a drafodir yn y ddogfen ymgynghori hon a bydd yn dibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad. Fodd bynnag, mae'n debygol y byddai unrhyw newidiadau'n cael eu cyflwyno ar gyfer blwyddyn 3 y cynllun (2027-28) fan cynharaf.
Sut i ymateb
I ymateb i'r ymgynghoriad hwn, lawrlwythwch ein ffurflen ymateb yng nghefn y ddogfen hon, yna ei llenwi a'i e-bostio i: WelshGovernmentEPRProgramme@gov.wales neu ei phostio i:
Tîm Polisi pEPR
Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Mae fersiynau print bras a Braille o'r ddogfen hon ar gael ar gais ynghyd â chopïau mewn ieithoedd eraill.
Manylion cyswllt i gael mwy o wybodaeth:
Tîm Polisi EPR,
Yr Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau ac Economi Gylchol,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd CF10 3NQ
E-bost: WelshGovernmentEPRProgramme@gov.wales
Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd./This document is also available in English
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddan nhw'n dibynnu arnyn nhw i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut maen nhw'n arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch aton ni yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiadau pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata eraill sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'i weld
- i ofyn inni gywiro unrhyw ddata anghywir
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
- i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- cludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd y mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Manylion cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/
Cyflwyniad
Mae'r Cynllun Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig am becynwaith (pEPR) yn gynllun ar gyfer y DU gyfan a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2025 drwy Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchydd (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 [10]. Er bod Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig wedi'i ddatganoli, roedd pob un o'r pedair llywodraeth yn y DU wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun ar gyfer y DU. Mae'r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr dalu am holl gost rheoli gwastraff pecynnu aelwydydd. Mae'r costau hynny'n cynnwys costau casglu, didoli ac ailgylchu deunydd pecynnu a chael gwared arno, ar ôl iddo gael ei daflu gan ddefnyddwyr. Bydd gofyn i'r cynhyrchwyr dan sylw gofrestru gyda'r rheoleiddiwr yn y DU, cyflwyno data cywir am eu deunydd pecynnu, talu'r ffioedd perthnasol a chadw cofnodion perthnasol.
Y canlyniadau y bwriedir i'r rheoliadau pEPR eu sicrhau yw'r manteision amgylcheddol canlynol:
- Defnyddio deunydd pecynnu sy'n gynaliadwy o safbwynt yr amgylchedd;
- Cadw deunydd pecynnu rhag mynd yn wastraff;
- Ailddefnyddio mwy o ddeunydd pecynnu, a chynyddu swm a gwella ansawdd y deunydd pecynnu sy'n cael ei ailgylchu; a rhoi llai o ddeunydd pecynnu ar y farchnad.
Mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gan PackUK [11] , corff o dan ofal Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), sy'n gweithredu ar ran pedair gwlad y DU. Rhaid i gynhyrchwyr deunydd pecynnu dalu ffioedd sy'n amrywio gan ddibynnu ar faint o ddeunydd pecynnu y maen nhw'n eu cyflenwi a'i fath. Yn y flwyddyn gyntaf (2025-26), mae cynhyrchwyr yn talu ffioedd unffurf yn seiliedig ar faint o dunelli o bob math o ddeunydd y maen nhw'n ei gynhyrchu. O'r ail flwyddyn (2026-27), bydd ffioedd yn cael eu newid yn ôl ailgylchadwyedd, gan ddefnyddio system sgorio coch-ambr-gwyrdd.
Mae PackUK yn pasio'r ffioedd hyn i'r awdurdodau lleol sy'n casglu ac yn gwaredu gwastraff pecynnu aelwydydd. Disgwylir i 22 awdurdodau lleol Cymru dderbyn taliadau gwerth bron i £88.7m ym mlwyddyn un (2025-26), yn seiliedig ar y llythyrau a anfonwyd ym mis Gorffennaf 2025 [12]. Mae'r taliadau i awdurdodau lleol yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio model sy'n ystyried ffactorau fel amddifadedd a pha mor wledig yw'r awdurdod, polisïau'r llywodraeth, faint o wastraff a gesglir ac a reolir ac amcangyfrif o gyfansoddiad y gwastraff. Nid yw'r model yn cynnwys costau sy'n gysylltiedig â gwastraff busnesau, gwastraff biniau stryd na sbwriel ar lawr .
Nid yw'r gost o ddelio â sbwriel y llawr a gwagio biniau cyhoeddus wedi'i chynnwys yn y rheoliadau presennol [13].
Ni chaiff cynwysyddion diodydd rhwng 150ml a 3l o faint, sydd wedi'u gwneud o bolyethylen terephthalate (PET), dur neu alwminiwm eu cynnwys yn ffioedd gwaredu pEPR, wrth aros am gyflwyno'r Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS).
Bydd gofyn i gynhyrchwyr roi data pecynnu i'r rheoleiddiwr amgylcheddol perthnasol, sef Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yng Nghymru. CNC sy'n gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth a gorfodi.
Rhaid i gynhyrchwyr mawr gasglu a chyflwyno amrywiaeth o ddata, gan gynnwys a yw'r deunydd pecynnu maen nhw'n ei gynhyrchu yn ddomestig neu annomestig, a yw'n aml yn cael ei daflu mewn biniau cyhoeddus, a oes modd ei ailddefnyddio ac a yw'n gynhwysydd diod. Darperir rhestr o eitemau sy'n aml yn 'gorffen i fyny' mewn biniau cyhoeddus - "eitemau sy'n aml yn cael eu taflu'n sbwriel" - yn y canllawiau. [14]
Pam mae angen newid
Mae ymgynghoriadau blaenorol eisoes wedi gweld bod cefnogaeth i'r egwyddor o gynnwys sbwriel yn pEPR. Mae angen newid er mwyn alinio'r rheoliadau â bwriad polisi gwreiddiol pEPR, sef y byddai cynhyrchwyr yn gyfrifol am gost casglu a gwaredu eitemau pecynnu sydd wedi'u taflu ar lawr a'r rhai sydd wedi'u rhoi mewn biniau cyhoeddus.
Mae gwastraff sy'n cael ei daflu'n sbwriel yn broblem amgylcheddol a chymdeithasol fawr yng Nghymru. Mae'n llygru tir a dyfrffyrdd, yn anafu bywyd gwyllt, yn cael effaith negyddol ar y dirwedd weledol ac yn effeithio ar ymdeimlad o falchder pobl mewn lle [15]. Mae'r rhan fwyaf o'r sbwriel ar lawr ac mewn biniau (o gyfrif eitemau) yn wastraff pecynnu .
Hefyd, mae sbwriel yn faich ariannol ar awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ei gasglu a'i waredu.
Yr egwyddor 'llygrydd sy'n talu' yw sylfaen y rheoliadau pEPR. Yr egwyddor yw bod cynhyrchwyr yn gyfrifol am gylch bywyd cyfan y cynhyrchion a'r deunydd pecynnu y maen nhw'n eu rhoi ar y farchnad, gan gynnwys costau rheoli gwastraff ar ddiwedd ei oes.
Awdurdodau lleol (a sefydliadau eraill weithiau) sy fel arfer yn talu am gasglu a gwaredu gwastraff sy’n cael ei daflu’n sbwriel, yn hytrach na'r cynhyrchwyr. Felly, nid yw'r cynllun pEPR presennol yn cwmpasu holl gostau rheoli'r holl wastraff pecynnu ac mae angen o hyd iddo gynnwys deunydd pecynnu sy'n cael ei daflu'n sbwriel.
Mae sbwriel ar lawr yn ganlyniad weithiau i ymddygiad anghyfreithlon rhai defnyddwyr, ac nid yw'n bosib dal pawb sy'n taflu sbwriel a'u dwyn i gyfraith. Mae ymchwil gan Keep Britain Tidy wedi dangos bod camau gorfodi yn gostus, heb gael fawr o effaith ar y rheini sy'n taflu sbwriel[16] . Mae profiad Cadwch Gymru'n Daclus yn ategu'r farn honno, gan ddweud na all "gorfodi weithio ar ei ben ei hun" a'i fod yn golygu heriau sylweddol [17] .
P'run bynnag, nid yw anghyfreithlondeb neu fel arall y dull gwaredu yn berthnasol i gyfrifoldeb y cynhyrchydd rhwymedig. Ni ddylai'r ffaith bod pecyn wedi'i ollwng ar lawr yn anghyfreithlon olygu y dylai'r cynhyrchydd gael osgoi cost rheoli'r sbwriel hwnnw, fel na ddylai chwaith olygu na ddylai'r awdurdod lleol fod yn gyfrifol am ddelio ag e'. Ni wnaiff defnyddwyr bob amser ddilyn y trefniadau cywir wrth gael gwared ar wastraff, Nid yw'r ffaith y gallai person roi deunydd pecynnu ailgylchadwy mewn bin gwastraff yn hytrach na'i ailgylchu yn newid rhwymedigaeth y cynhyrchydd i dalu costau rheoli'r gwastraff hwnnw. Mae'r un peth yn wir am drefniadau rheoli holl wastraff awdurdodau lleol, gan gynnwys sbwriel.
Ond nid yw pob sbwriel ar lawr yno o ganlyniad i weithgarwch anghyfreithlon. Gall gwyntoedd cryf a biniau llawn hefyd arwain at sbwriel ar lawr. Mae rhoi sbwriel mewn biniau stryd yn ddull gwaredu cyfreithlon sy'n golygu costau i awdurdodau lleol i'w gasglu.
Mae Llywodraeth Cymru'n dal i fod wedi ymrwymo i'r safbwynt a fynegwyd mewn ymgynghoriadau blaenorol, sef mai'r cynhyrchwyr ddylai fod yn gyfrifol am gostau clirio gwastraff pecynnu ar lawr ac mewn biniau cyhoeddus, i adlewyrchu'r ffaith mai cynhyrchwyr sy'n gyfrifol am ddyluniad a gwneuthuriad y deunydd pecynnu. Byddai'r cyfrifoldeb hwnnw'n cymell cynhyrchwyr i leihau swm y deunydd pecynnu untro a chymryd camau i rwystro pobl rhag ei daflu'n sbwriel.
Mae costau rheoli sbwriel yng Nghymru'n cynnwys:
Mae costau rheoli sbwriel yn cynnwys:
- darparu biniau
- darparu cerbydau ac offer i'w casglu
- costau gwagio biniau a chludo'r gwastraff i gyfleuster trin
- costau casglu sbwriel ar lawr a'i gludo i gyfleuster trin
- costau cyfathrebu ac ymgyrchoedd atal sbwriel
- costau monitro ac archwilio glendid strydoedd
Yn aml iawn, mae biniau'n cael eu gwagio a sbwriel ar lawr yn cael ei gasglu yr un pryd ag mae strydoedd yn cael eu glanhau a gwasanaethau eraill fel cynnal a chadw tiroedd, clirio ffosydd a dileu graffiti yn cael eu cynnal, ac nid ar chwarae bach y mae eu gwahanu. Gall yr un bobl, cerbydau ac offer wneud sawl gorchwyl gwahanol ar yr un pryd. Mae cyfuno gorchwylion fel hyn yn fwy cost-effeithiol na chynnal y gwasanaethau ar wahân ond mae'n ei gwneud yn anodd mesur cost pob gweithgaredd unigol. Mae cyfran uchel o'r costau yn sefydlog (megis staff, offer a cherbydau) waeth faint o sbwriel a gesglir. Ar ben hynny, nid yw pob sbwriel yn ddeunydd pecynnu, a bydd angen casglu mathau eraill o sbwriel hefyd p’run bynnag.
Er y gellid ystyried y byddai'n deg rhannu costau gwasanaeth integredig a phriodoli'r gyfran ofynnol i ddeunydd pecynnu, rhaid cofio na fyddai'r gyfran honno o'r gost yn cael ei harbed pe na bai angen i awdurdod lleol gasglu'r deunydd hwnnw, oherwydd byddai dal angen cynnal y gwasanaethau eraill, megis casglu sbwriel nad yw'n ddeunydd pecynnu.
Byddai'n ddoeth peidio â chynnwys costau gwaredu/trin gwastraff sydd wedi'i daflu'n sbwriel, rhag ei gyfrif ddwywaith, oherwydd mae'r costau hyn yn debygol o fod wedi'u cynnwys eisoes yn y cynllun pEPR presennol. Credir bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol fel arfer yn gwaredu sbwriel gyda gwastraff arall, ar ôl ei gasglu, trwy drefniadau trosglwyddo gwastraff. Mae'r newidiadau sy'n cael eu cynnig yn fan hon felly yn canolbwyntio ar gostau casglu yn unig.
Mae dadansoddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o gostau awdurdodau lleol i gasglu sbwriel mewn biniau ac ar lawr yn awgrymu bod rheoli deunydd pecynnu sy'n sbwriel yn gallu costio tua £15-16m y flwyddyn yng Nghymru. Amcangyfrifir bod deunydd pecynnu sy'n sbwriel ar lawr yn cyfrif am oddeutu dwy ran o dair o'r gost hon, gyda'r traean sy'n weddill yn wastraff pecynnu mewn biniau cyhoeddus. Mae'r gost o gasglu gwastraff sydd wedi'i daflu'n sbwriel yn llawer uwch fesul tunnell na chost casglu gwastraff ar garreg drws neu drwy ganolfannau ailgylchu gwastraff aelwydydd.
Canfu dadansoddiad diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fod y rhan fwyaf o'r sbwriel ar lawr (tua dwy ran o dair ohono) yn ddeunydd pecynnu, yn ôl nifer yr eitemau. Mae cyfansoddiad y gwastraff mewn biniau cyhoeddus yn destun astudiaeth ar wahân a gomisiynwyd gan Defra ar gyfer y DU.
Pa newidiadau y gellid eu gwneud?
Rydym yn ystyried yr opsiynau i newid y ddeddf a'r prosesau a fyddai'n caniatáu i sbwriel pecynnu ar lawr neu mewn biniau gael ei gynnwys yn pEPR i Gymru. Byddai hynny’n caniatáu adennill costau awdurdodau lleol am gasglu sbwriel ar lawr ac o finiau cyhoeddus. Ceir rhagor o fanylion am yr opsiynau isod.
Am yr ymgynghoriad hwn
Mae'r ymgynghoriad hwn yn para am ddeuddeg wythnos, rhwng 30 Ionawr a 24 Ebrill 2026.
Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw casglu barn rhanddeiliaid am yr opsiynau polisi ar gyfer cynnwys sbwriel mewn biniau ac ar lawr yng nghwmpas pEPR Cymru.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Rydyn ni am glywed eich barn chi am y canlynol:
- Rhan un – opsiynau polisi posibl ar gyfer sut i gyfrifo ffioedd ar gyfer cynhyrchwyr deunydd pecynnu sy'n cael ei daflu'n sbwriel
- Rhan dau - sut i neilltuo taliadau i awdurdodau lleol, a sut i fesur eu heffeithlonrwydd a'u heffeithiolrwydd wrth reoli sbwriel
- Rhan tri - y diffiniad o 'awdurdodau perthnasol' sy'n rheoli sbwriel
Rhan Un – Opsiynau polisi ffioedd cynhyrchwyr
Rydym yn ystyried tri opsiwn polisi posibl ar gyfer dyrannu ffioedd sbwriel i gynhyrchwyr. Darperir disgrifiad o bob opsiwn isod, ynghyd â diagram o lif y broses.
Opsiwn A - Ffi unffurf
O dan yr opsiwn hwn, bydd yr holl gynhyrchwyr yn talu ffi unffurf fesul tunnell o ddeunydd pecynnu y maen nhw'n ei roi ar y farchnad. Gallai costau sbwriel felly naill ai gael eu hymgorffori yn eu costau rheoli deunydd pecynnu gwastraff neu gellid codi amdanynt ar gynhyrchwyr ar wahân. Bydd cynhyrchydd yn talu costau sbwriel sy’n cyfateb i faint o ddeunydd pecynnu y mae'n ei gynhyrchu.
Mae'r opsiwn hwn yn syml ac yn gymharol rad i'w weithredu a gallai olygu na fydd gofyn i awdurdodau lleol roi adroddiad ar wahân bob blwyddyn ar gostau rheoli gwastraff sy’n cael ei daflu’n sbwriel. Ond byddai'n dal i fod yn ddefnyddiol casglu gwir gostau rheoli sbwriel o'r fath oddi wrth awdurdodau lleol yn gyfnodol (megis bob 3 i 5 mlynedd) fel pwynt cyfeirio i sicrhau bod y pris fesul uned yn dal i fod yn briodol. Yr opsiwn hwn yw'r symlaf i'w weithredu.
Yr anfantais yw nad yw'r system yn annog cynhyrchwyr penodol i gymryd camau i leihau sbwriel, ac mae'n gosod costau cyfartal ar gynhyrchwyr, gan gynnwys y rheini nad yw eu cynhyrchion yn cael eu taflu'n sbwriel yn aml. Hefyd, mae'n gwyro oddi wrth y datganiad blaenorol o'r bwriad i wahanu costau casglu sbwriel a chostau casglu gwastraff aelwydydd fel y disgrifiwyd mewn ymgynghoriad blaenorol ar pEPR.
Er mwyn penderfynu ar lefel y ffi unffurf, bydd angen data ar gostau casglu sbwriel ar lawr ac mewn biniau. Gellir cyfrifo cost rheoli tunnell o ddeunydd pecynnu sydd wedi'i daflu'n sbwriel trwy rannu cyfanswm cost rheoli deunydd pecynnu sydd wedi'i daflu'n sbwriel yr holl awdurdodau lleol â phwysau'r holl sbwriel sy'n cael ei gasglu (mewn tunelli). Byddai angen tynnu elfen gasglu prif ffioedd y pEPR (sy'n amrywio yn ôl deunydd) o hyn, er mwyn cyfrifo dim ond y gost ychwanegol o gasglu'r eitemau a daflwyd yn sbwriel (yn lle eu casglu wrth garreg drws neu drwy lwybrau priodol eraill). Byddai'r gost ychwanegol hon o gasglu tunnell o wastraff pecynnu sydd wedi'i daflu'n sbwriel, wedyn yn cael ei rannu rhwng yr holl ddeunydd pecynnu a roddir ar y farchnad, yn ôl y gyfran sy'n gorffen i fyny fel gwastraff sydd wedi'i daflu'n sbwriel.
| Cam 1 | Crynhoi cyfanswm costau rheoli gwastraff a daflwyd fel sbwriel pob ALl |
| Cam 2 | Casglu data ar bwysau'r holl wastraff a daflwyd fel sbwriel a gesglir |
| Cam 3 | Cyfrifo cost gyfartalog casglu tunnell o wastraff a daflwyd fel sbwriel (cyfanswm y gost wedi'i rhannu â chyfanswm y pwysau) |
| Cam 4 | Tynnu'r elfen gasglu yn ffioedd y prif pEPR (cost gyfartalog casglu tunnell o wastraff a daflwyd fel sbwriel minws cost gyfartalog casglu tunnell o wastraff cyffredin = cost ychwanegol tunnell o ddeunydd pecynnu sydd wedi'i daflu'n sbwriel). |
| Cam 5 | Cyfrifo'r gyfran o'r holl ddeunydd pecynnu sy'n cael ei daflu mewn bin neu ei ollwng ar lawr. |
| Cam 6 | Cyfrifo ffi sbwriel unffurf ar gyfer cynhyrchwyr (y gost ychwanegol fesul tunnell, wedi'i luosi â chyfran y deunydd pecynnu sy'n cael ei daflu'n sbwriel) |
| Cam 7 | Pennu ffi sbwriel ar bob tunnell o ddeunydd pacio a roddir ar y farchnad yng Nghymru |
Opsiwn B – Canolbwyntio ar eitemau sy'n aml yn cael eu taflu'n sbwriel
Yn yr opsiwn hwn, dim ond cynhyrchwyr eitemau sy'n cael eu taflu'n sbwriel yn aml fyddai'n talu ffi am eu deunydd pecynnu sy'n cael ei roi ar y farchnad, gyda ffioedd yn cael eu pennu yn ôl math o gynnyrch, maint a'r deunydd y'i gwnaed ohono.
Canlyniad yr opsiwn hwn fydd bod y cynhyrchwyr hynny sy'n cynhyrchu eitemau sy'n cael eu taflu fel sbwriel amlaf yn ysgwyddo baich costau rheoli'r sbwriel. Mae'r opsiwn hwn felly'n targedu'r eitemau sy'n cael eu taflu'n sbwriel amlaf.
Ond byddai'r dewis hwn yn gymhlethach i'w weinyddu; byddai angen mwy o ddata a chostau rheoli sbwriel cliriach, a byddai angen diweddaru data am gyfansoddiad sbwriel yn fwy rheolaidd. Hefyd, efallai y bydd angen i'r data a ddarperir gan gynhyrchwyr am ddeunydd pacio a roddir ar y farchnad fod yn fanylach nag y mae'r system pEPR bresennol yn gofyn amdano, os caiff eitemau gwahanol eu rhoi ar y rhestr yn y dyfodol, er mwyn gallu adnabod eitemau sy'n cael eu taflu'n sbwriel yn aml yn gywir.
Trwy ganolbwyntio ffioedd ar eitemau sy'n cael eu taflu'n sbwriel yn aml yn unig yn golygu na fydd modd adennill costau eitemau eraill nad ydynt ar y rhestr. Mae ymchwil ddiweddar gan WRAP yn awgrymu mai dim ond 64 y cant (yn ôl pwysau) o'r sbwriel a gasglwyd oedd yn cynnwys eitemau sydd ar hyn o bryd ar y rhestr eitemau sy'n cael eu taflu'n sbwriel yn aml. Hefyd, mae'n cynnwys rhai cynwysyddion diodydd a allai fod yn rhan o DRS yn y dyfodol ac efallai felly'n llai tebygol o gael eu taflu'n sbwriel yn y dyfodol. Nid dim ond unigolion sy'n gollwng sbwriel. Caiff ei ollwng hefyd ar ddiwrnodau casglu wrth garreg y drws a chan swmp-gludwyr a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff, sy'n golygu y gallai unrhyw eitem o ddeunydd pecynnu orffen i fyny fel sbwriel. Pe bai ffioedd pEPR yn cael eu hychwanegu at eitemau sy'n cael eu taflu'n sbwriel yn aml yn unig, ac os na chaiff y rhestr eitemau ei newid, yna dim ond tua 64 y cant o gostau rheoli sbwriel pecynnu fyddai'n cael eu hadfer.
| Cam 1 | Crynhoi cyfanswm costau rheoli gwastraff a daflwyd fel sbwriel pob ALl |
| Cam 2 | Casglu data ar bwysau'r holl wastraff a daflwyd fel sbwriel a gesglir |
| Cam 3 | Cyfrifo cost gyfartalog casglu tunnell o wastraff a daflwyd fel sbwriel (cyfanswm y gost wedi'i rhannu â chyfanswm y pwysau) |
| Cam 4 | Tynnu'r elfen gasglu yn ffioedd y prif pEPR (cost gyfartalog casglu tunnell o wastraff a daflwyd fel sbwriel minws cost gyfartalog casglu tunnell o wastraff cyffredin = cost ychwanegol tunnell o ddeunydd pecynnu sydd wedi'i daflu'n sbwriel). |
| Cam 5 | Cyfrifo'r gyfran o'r holl ddeunydd pecynnu sy'n cael ei daflu mewn bin neu ei ollwng ar lawr. |
| Cam 6 | Cyfrifo ffi sbwriel unffurf ar gyfer cynhyrchwyr (y gost ychwanegol fesul tunnell, wedi'i luosi â chyfran y deunydd pecynnu sy'n cael ei daflu'n sbwriel) |
| Cam 7 | Casglu data ar gyfansoddiad sbwriel i bennu'r cyfran (yn ôl pwysau) sy'n 'eitemau sy'n cael eu taflu'n sbwriel yn aml' |
| Cam 8 | Pennu ffi ar bob tunnell o ddeunydd pecynnu sy'n cael ei daflu'n sbwriel yn aml a roddir ar y farchnad yng Nghymru |
Opsiwn C - Hybrid
Byddai Opsiwn Hybrid yn gofyn i gynhyrchwyr eitemau sy'n cael eu taflu'n sbwriel yn aml dalu am gyfran o'r costau (yn unol ag opsiwn B) gyda’r holl gynhyrchwyr deunydd pecynnu (yn unol ag opsiwn A) yn talu’r gweddill, gyda ffioedd uwch i gynhyrchwyr eitemau sy'n cael eu taflu'n sbwriel yn aml.
Anfanteision yr opsiwn hwn fyddai ei gost a chymhlethdod ei reoli, yn gymhlethach hyd yn oed nag opsiwn B. Ond manteision yr opsiwn hwn yw y byddai'n adennill holl gostau’r sbwriel a byddai'n rhannu costau'n decach rhwng cynhyrchwyr eitemau sy'n aml yn cael eu taflu'n sbwriel a chynhyrchwyr eraill.
| Cam 1 | Crynhoi cyfanswm costau rheoli gwastraff a daflwyd fel sbwriel pob ALl |
| Cam 2 | Casglu data ar bwysau'r holl wastraff a daflwyd fel sbwriel a gesglir |
| Cam 3 | Cyfrifo cost gyfartalog casglu tunnell o wastraff a daflwyd fel sbwriel (cyfanswm y gost wedi'i rhannu â chyfanswm y pwysau) |
| Cam 4 | Tynnu'r elfen gasglu yn ffioedd y prif pEPR (cost gyfartalog casglu tunnell o wastraff a daflwyd fel sbwriel minws cost gyfartalog casglu tunnell o wastraff cyffredin = cost ychwanegol tunnell o ddeunydd pecynnu sydd wedi'i daflu'n sbwriel). |
| Cam 5 | Cyfrifo'r gyfran o'r holl ddeunydd pecynnu sy'n cael ei daflu mewn bin neu ei ollwng ar lawr. |
| Cam 6 | Cyfrifo cyfartaledd ffioedd sbwriel cynhyrchydd (cost ychwanegol fesul tunnell, wedi'i luosi â chyfran y deunydd pecynnu sy'n cael ei daflu mewn bin neu ar lawr) |
| Cam 7 | Casglu data ar gyfansoddiad sbwriel i bennu'r cyfran (yn ôl pwysau) sy'n 'eitemau sy'n cael eu taflu'n sbwriel yn aml' |
| Cam 8 | Cyfrifo sut i fodiwleiddio ffioedd sbwriel i bennu ffioedd uwch ac is. |
| Cam 9 | Gosod ffi sbwriel uwch ar bob tunnell o ddeunydd pecynnu sy'n cael ei daflu'n sbwriel yn aml, a ffi is ar gynhyrchwyr deunydd pecynnu arall a roddir ar y farchnad yng Nghymru |
Cwestiwn 1. Pa opsiwn polisi o ran ffioedd cynhyrchwyr sydd yn eich barn chi’n cynnig yr ateb gorau?
Rhaid ichi ddewis un o'r opsiynau canlynol:
- Opsiwn A - Ffi unffurf
- Opsiwn B – Etemau sy'n cael eu taflu'n sbwriel yn aml
- Opsiwn C – Hybrid
- Cynnig arall – rhowch fanylion yn eich ateb i gwestiwn 2 isod.
- Ddim yn siŵr neu ddim yn ffafrio'r un ohonynt
Cwestiwn 2. Rhowch esboniad neu resymau dros y polisi rydych yn ei ffafrio.
(Blwch ar gyfer eich ateb)
Un broblem sydd gyda phob un o'r opsiynau i’r un graddau yw sut i adnabod y cynhyrchwyr ddylai dalu costau sbwriel Cymru yn benodol, gan nad oes gennym ddata ar hyn o bryd ynghylch faint o ddeunydd pecynnu y mae pob gwlad unigol yn ei roi ar y farchnad. Os dim ond data ar lefel y DU sydd gennym, ond dim ond yng Nghymru y telir costau rheoli sbwriel, yna mae angen methodoleg i ddyrannu'r gyfran o ddeunydd pecynnu a roddir ar y farchnad sy’n cael ei waredu yng Nghymru. Rhagdybiaeth resymol fyddai dweud bod deunydd pecynnu yn cael ei ddosbarthu'n gyfartal ar draws y boblogaeth. Fodd bynnag, efallai y bydd angen eithriad i gynhyrchwyr sy'n gallu profi nad yw eu cynnyrch yn cael eu gwerthu yng Nghymru ond yn rhannau eraill o'r DU yn unig.
Cwestiwn 3. Beth yn eich barn chi yw'r ffordd orau o sicrhau bod ffioedd cynhyrchwyr yn cael eu talu’n gymesur gan gynhyrchwyr sy'n cyflenwi cynnyrch i Gymru?
Rhaid ichi ddewis un o'r opsiynau canlynol:
- Dyrannu eu cyfran o'r ffioedd i'r holl gynhyrchwyr ar sail cyfran poblogaeth y DU sy'n byw yng Nghymru
- Defnyddio data a ddarperir gan gynhyrchwyr i nodi cyfran y cynhyrchion a werthir yng Nghymru ar gyfer pob cynhyrchydd
- Dull arall - rhowch fanylion yn eich ateb i gwestiwn 4 isod.
- Ddim yn siŵr neu ddim yn ffafrio'r un ohonynt
Cwestiwn 4. Rhowch esboniad neu resymau dros eich ateb i'r cwestiwn blaenorol.
(Blwch ar gyfer eich ateb)
Rhan Dau – Taliadau i awdurdodau lleol, eu heffeithlonrwydd a'u heffeithiolrwydd
Cwestiwn 5. Beth yw'r ffordd orau o bennu cyfanswm costau rheoli sbwriel awdurdodau lleol (sy’n cynnwys gwagio biniau cyhoeddus a chlirio sbwriel ar lawr) at ddiben pEPR?
Rhaid ichi ddewis un o'r opsiynau canlynol:
- Defnyddio amcangyfrifon cost o ymchwil ddiweddar gan y Rhaglen Weithredu Gwastraff ac Adnoddau (WRAP).
- Gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno data costau rheoli sbwriel bob blwyddyn i PackUK
- Dull arall – rhowch fanylion isod mewn ymateb i gwestiwn 6
- Ddim yn siŵr neu ddim yn ffafrio'r un ohonynt
Cwestiwn 6. Rhowch esboniad neu resymau dros eich ateb i'r cwestiwn blaenorol.
(Blwch ar gyfer eich ateb)
Gallai ffioedd cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pecynnu sydd wedi'i daflu fel sbwriel gael eu pasio i awdurdodau lleol yn ôl pwysau'r sbwriel maen nhw'n ei gasglu. Byddai hyn yn gymharol syml, os oes gan awdurdodau lleol gofnodion o bwysau'r sbwriel ar lawr ac mewn biniau y maen nhw'n ei gasglu.
Os oedd cyfraddau yn wahanol ar gyfer gwahanol ddeunyddiau, yna byddai angen dadansoddi cyfansoddiad y sbwriel a gesglir hefyd. Gellid cytuno ar gyfansoddiad tybiedig lle nad oes data gwirioneddol am gyfansoddiad y sbwriel ar gael.
Fel arall, gellid dyrannu taliadau sefydlog i awdurdodau lleol gyda'r gyfradd yn seiliedig ar boblogaeth, nifer yr aelwydydd, a/neu arwynebedd y tir perthnasol y mae sbwriel yn cael ei glirio ohono.
Cwestiwn 7. Beth yw'r ffordd orau o ddyrannu taliadau sbwriel i bob awdurdod lleol?
Rhaid ichi ddewis un o'r opsiynau canlynol:
- Talu cyfradd unffurf ar gyfer yr holl sbwriel, gyda thaliadau sbwriel i awdurdodau lleol unigol yn seiliedig ar bwysau'r sbwriel a gesglir.
- Cyfraddau gwahanol ar gyfer gwahanol ddeunyddiau, gyda thaliadau i awdurdodau lleol yn seiliedig ar bwysau a chyfansoddiad y sbwriel a gesglir
- Dyrannu taliadau sbwriel i awdurdodau lleol ar sail poblogaeth neu nifer yr aelwydydd
- Dyrannu taliadau sbwriel i awdurdodau lleol ar sail arwynebedd y 'tir perthnasol' y caiff sbwriel ei glirio ohono [18]
- Cyfuniad o’r uchod
- Dull arall (rhowch fanylion yn eich ateb i gwestiwn 8 isod)
- Ddim yn siŵr neu ddim yn ffafrio'r un ohonynt
Cwestiwn 8. Rhowch esboniad neu resymau dros eich ateb i'r cwestiwn blaenorol.
(Blwch ar gyfer eich ateb)
Effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
Yn y rheoliadau pEPR, "the “efficient disposal costs” of a relevant authority are the disposal costs the relevant authority would incur if it provided an efficient waste management service".
“a relevant authority provides an efficient waste management service if the disposal costs of the authority are as low as reasonably possible, taking into account— (a)the waste management service provided by the authority; and (b) any other factors specific to that authority, or to the area in relation to which it exercises its waste management functions, which in the opinion of the scheme administrator are likely to affect its disposal costs”.
Felly, gwasanaeth effeithlon yw un sy'n cyflawni canlyniadau'r cynllun mewn ffordd sy'n rhoi gwerth am arian. Byddai'n rhesymol mewn egwyddor i roi llai o gyllid i awdurdodau sydd ddim yn rhedeg eu gwasanaeth yn effeithlon, gan ystyried ffactorau perthnasol ar lefel genedlaethol ac sy'n benodol i'r gwasanaeth, yr awdurdod a'r ardal. Fodd bynnag, mae mesur beth sy'n werth da am arian o ran casglu sbwriel yn anodd.
Yn yr hinsawdd ariannol bresennol sy'n wynebu awdurdodau lleol, efallai mai dim ond yr isafswm sy'n angenrheidiol a ddarperir ganddynt o ran sbwriel, ac felly rhagdybiaeth resymol yw bod y costau a delir ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol yn adlewyrchu costau effeithlon. Dyma'r man cychwyn. Yn y dyfodol, rhag cynyddu gwariant nad yw'n effeithlon, gellid cyflwyno gofyniad ar i awdurdodau lleol roi tystiolaeth i weinyddwr y cynllun bod y gwariant cynyddol yn angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth casglu sbwriel effeithlon ac effeithiol.
Mae PackUK yn nodi y bydd ei asesiad o effeithiolrwydd yn ystyried “... number of listed factors, such as the proportion of packaging waste (both in each packaging material stream and overall) being recycled, total amount of packaging waste managed and the demographic and geographical characteristics of the authority area ". [19]
Mae'n anodd cymhwyso'r diffiniadau hyn yn uniongyrchol i reoli deunydd pecynnu sy'n cael ei daflu'n sbwriel. Efallai y bydd cyfran y sbwriel sy'n cael ei ailgylchu o ddiddordeb, ond nid yw hynny'n mesur effaith y gwasanaeth clirio a chasglu sbwriel, sef codi'r sbwriel o'r llawr a gwagio'r biniau. Fel y disgrifir uchod, mae'n debygol y bydd gwaredu a / neu ailgylchu'r sbwriel hwn yn cael ei integreiddio â gwaredu ac ailgylchu ffrydiau gwastraff eraill a’r rhai a gesglir wrth garreg y drws, sy'n golygu bod yr elfen waredu eisoes yn dod o dan y pEPR. Nid yw faint o ddeunydd pecynnu gwastraff sy'n cael ei reoli chwaith yn fesur o effeithiolrwydd y gwasanaeth casglu sbwriel, gan y gallai rheoli mwy o sbwriel olygu bod mwy o sbwriel i ddechrau, ac efallai na fydd yn arwydd o'r gyfran a gliriwyd.
Yn gyffredinol, gellir ystyried bod gwasanaeth sbwriel yn effeithiol os yw’n cael yr effaith a ddymunir, sef yn y pen draw, tirwedd heb sbwriel. Mae'r Cod Ymarfer ar Sbwriel a Gwastraff (CoPLAR) yn disgrifio dyletswyddau awdurdodau lleol, dynodiadau ar gyfer gwahanol ddefnyddiau tir, y safonau glendid y mae'n rhaid eu cynnal a'r amseroedd ymateb hiraf a ganiateir ar gyfer adfer tir â sbwriel ar lawr i'r safon dderbyniol ar gyfer pob dynodiad defnydd tir. Mae'r System Archwilio a Rheoli Amgylcheddol Leol (LEAMS) yn un ffordd o asesu perfformiad yn erbyn CoPLAR. Fodd bynnag, mae CoPLAR a LEAMS yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Hefyd, mae archwiliadau amgylcheddol rheolaidd a thrwyadl yn ddrud.
Gallai gwella effeithiolrwydd hefyd gynyddu costau, gan y gall olygu darparu gwasanaethau ychwanegol, naill ai clirio'n amlach, clirio mwy o leoliadau neu darparu mwy o finiau.
Dewis arall fyddai ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddangos eu bod wedi cymryd camau penodol megis creu strategaeth sbwriel a darparu lefel ofynnol o wasanaethau rheoli sbwriel. Ni fyddai'r opsiwn hwn yn dibynnu ar CoPLAR, LEAMS nac arolygon, felly byddai'n haws ei roi ar waith. Yn lle hynny, er mwyn iddyn nhw ddangos eu bod yn cynnal gwasanaeth effeithiol, gellid gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno tystiolaeth a/neu ddatganiadau blynyddol o'r gweithgareddau rheoli sbwriel y maen nhw wedi'u cynnal.
Gallai hyn gynnwys:
- strategaeth rheoli sbwriel gyfredol, gyda gweithgareddau wedi'u nodi i leihau sbwriel
- adroddiad ar weithgareddau rheoli sbwriel, gyda dangosyddion perfformiad allweddol (e.e. cyfran y strydoedd/ardaloedd sy'n cael eu clirio, amlder y casgliadau, pwysau'r sbwriel a gesglir y pen, cyfran y sbwriel sy'n cael ei algylchu)
- tystiolaeth bod ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus yn erbyn taflu sbwriel yn cael eu cynnal
- adroddiad ar y gwaith cydymffurfio a gorfodi sydd wedi'i wneud
Gan fod awdurdodau lleol Cymru yn gorfod wynebu pob math o gostau ar hyn o bryd wrth gynnal gweithgareddau rheoli sbwriel, yn ein barn ni dylid gohirio unrhyw newid i'r taliadau i awdurdodau lleol i ystyried effeithlonrwydd a/neu effeithiolrwydd am o leiaf ddeuddeg mis ar ôl cyflwyno taliadau sbwriel, er mwyn rhoi amser i gynnal mwy o ymchwil ac i ddeall y data costau a'r dylanwadau yn well.
Cwestiwn 9. Ydych chi'n cytuno y dylid gohirio newid y taliadau sbwriel i awdurdodau lleol i ystyried effeithlonrwydd a/neu effeithiolrwydd am ddeuddeg mis ar ôl cyflwyno taliadau sbwriel, er mwyn rhoi amser i gasglu data ychwanegol ar berfformiad rheoli sbwriel awdurdodau lleol?
Rhaid ichi ddewis un o'r opsiynau canlynol:
- Ydw – gohirio eu newid am ddeuddeg mis ar ôl cyflwyno taliadau sbwriel
- Nac ydw – cyflwyno newidiadau yr un pryd â chyflwyno taliadau sbwriel
- Ddim yn siwr neu ddim yn ffafrio'r naill na'r llall
Cwestiwn 10. Beth ydych chi'n meddwl yw'r ffordd orau o fesur effeithlonrwydd wrth reoli sbwriel awdurdodau lleol?
Rhaid ichi ddewis un o'r opsiynau canlynol:
- Cost fesul tunnell o sbwriel a gesglir
- Cost y pen
- Cost fesul hectar o dir perthnasol y clirir sbwriel ohono
- Cyfuniad o’r uchod
- Dull arall (rhowch fanylion isod)
- Ddim yn siwr neu ddim yn ffafrio un ohonynt
Cwestiwn 11. Beth ydych chi'n meddwl yw'r ffordd orau o fesur effeithiolrwydd wrth reoli sbwriel awdurdodau lleol?
Rhaid ichi ddewis un o'r opsiynau canlynol:
- Archwiliadau cydymffurfio COPLAR
- Glendid strydoedd yn seiliedig ar arolygon – fel LEAMS
- Cyfraddau ailgylchu'r sbwriel a gesglir
- Tystiolaeth o strategaeth rheoli sbwriel a chynllun gweithredu
- Cyfuniad o’r uchod
- Dull arall (rhowch fanylion isod)
- Ddim yn siŵr neu ddim yn ffafrio'r un ohonynt
Cwestiwn 12. Rhowch esboniad neu resymau dros eich ateb i gwestiynau 9, 10 ac 11.
(Blwch ar gyfer eich ateb)
Rhan Tri – Awdurdodau perthnasol
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i gadw 'tir perthnasol' yn eu hardal yn glir o sbwriel, i'r graddau bod hynny'n ymarferol. Mae tir perthnasol yn cynnwys pob tir sy'n agored i'r aer ar o leiaf un ochr a naill ai bod y cyhoedd yn rhydd i fynd iddo neu ei fod o dan reolaeth y cyngor. Mae'n cynnwys traethau, a'r priffyrdd y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw.
Fodd bynnag, nid yw'r holl gostau sy'n gysylltiedig â rheoli sbwriel yn gyfrifoldeb awdurdodau lleol. Bydd rhywfaint o sbwriel yn gorffen i fyny mewn mannau sy'n dod o dan gyfrifoldeb cyrff eraill sydd â dyletswydd, megis:
- dyfrffyrdd
- cefnffyrdd, sy'n gyfrifoldeb Asiantau Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru [20]
- tir sy'n eiddo i awdurdodau'r Goron, sefydliadau addysgol, Network Rail a gweithredwyr rheilffyrdd a thramiau, a chwmnïau dŵr – mae'r sefydliadau hyn yn gyfrifol am y sbwriel sydd ar eu tir.
Mae sbwriel hefyd yn cael ei gasglu weithiau gan grwpiau cymunedol a'r sector gwirfoddol. Nid oes rhestr ddiffiniol o gyrff â dyletswydd sy'n casglu gwastraff. Ar ben hynny, nid oes ffynhonnell ganolog o ddata am gostau casglu sbwriel y cyrff dyletswydd eraill hyn chwaith, felly byddai angen rhagor o waith i bennu costau o'r fath.
Er bod yn rhaid i awdurdodau lleol gadw ardaloedd yn ddi-sbwriel, nid oes gofyn statudol penodol ar awdurdodau lleol i ddarparu biniau sbwriel. Cynghorau plwyf neu dref sy'n aml yn eu darparu.
Mae'r rheoliadau pEPR cyfredol yn ymdrin â gwastraff yr aelwyd yn unig. Yng Nghymru, mae rheoliadau ailgylchu yn y gweithle yn berthnasol i leoedd fel canolfannau trafnidiaeth. Mae'r diffiniad o wastraff aelwyd at ddibenion pEPR yn wahanol i'r diffiniad at ddibenion ailgylchu yn y gweithle.
Am hynny, credwn ei bod yn rhesymol canolbwyntio i ddechrau ar fodelu costau manwl ar gyfer awdurdodau lleol. Fodd bynnag, rydym yn ystyried a ddylai fod yna 'bot bidio' y gallai PackUK ei weinyddu, er mwyn i gyrff dyletswydd a grwpiau sbwriel eraill allu bidio am ffrydiau refeniw cyflenwi aml-flwyddyn.
Cwestiwn 13. Ydych chi'n meddwl y dylid gwneud taliadau rheoli sbwriel i sefydliadau eraill sy'n rheoli sbwriel, yn ogystal ag i awdurdodau lleol?
Rhaid ichi ddewis un o'r opsiynau canlynol:
- Ydw
- Nac ydw
- Ddim yn siŵr neu ddim yn ffafrio'r un ohonynt
Cwestiwn 14. Ydych chi'n cefnogi'r syniad o bot bidio ar gyfer sefydliadau eraill sy'n rheoli sbwriel?
Rhaid ichi ddewis un o'r opsiynau canlynol:
- Ydw
- Nac ydw
- Ddim yn siŵr neu ddim yn ffafrio'r un ohonynt
Cwestiwn 15. A oes gennych unrhyw syniadau eraill ar sut i fynd i'r afael â sefydliadau eraill heblaw am awdurdodau lleol sy'n rheoli sbwriel? Os felly, nodwch nhw yma.
(Blwch ar gyfer eich ateb)
Cwestiwn 16. Rhowch esboniad neu resymau dros eich ateb i gwestiynau 13, 14 ac 15.
(Blwch ar gyfer eich ateb)
Pob rhan
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA) drafft wedi'i baratoi i gefnogi'r ymgynghoriad hwn. Mae hwn ar gael fel dogfen ar wahân ar wefan yr ymgynghoriad.
Cwestiwn 17: Rhowch wybod inni os oes gennych chi unrhyw sylwadau am yr RIA.
(Blwch ar gyfer eich ateb)
Cwestiwn 18: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw yn benodol, gallwch eu nodi yma:
(Blwch ar gyfer eich ateb)
Troednodau
[1] Consultation on reforming the UK packaging producer responsibility system - DEFRA.GOV.UK
[2]Packaging waste: changing the UK producer responsibility system for packaging waste - GOV.UK
[3] Extended Producer Responsibility for Packaging- DEFRA.GOV.UK
[4] Extended Producer Responsibility for
Packaging: Summary of consultation responses and Government
response- GOV.UK
[5] Consultation on Reforms to the Packaging Waste Recycling Note (PRN) and Packaging Waste Export Recycling Note (PERN) System and Operator Approval - DEFRA.GOV.UK
[6]Packaging waste recycling notes reform - GOV.UK
[7] Draft producer responsibility obligations (packaging and packaging waste) regulations- GOV.UK
[8]The Producer Responsibility Obligations (Packaging and Packaging Waste) Regulations 2024
[9] Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) (Diwygio) 2025
[10]The Producer Responsibility Obligations (Packaging and Packaging Waste) Regulations 2024
[11]PackUK - GOV.UK
[12]Gwerthoedd y taliadau i Awdurdodau Lleol: Cymru - GOV.UK
[13] Methodology and procedure for calculating 2025 to 2026 payments - GOV.UK
[14]Packaging data: what to collect for extended producer responsibility - GOV.UK
[15]Dadansoddiad o gyfansoddiad gwastraff sbwriel yng Nghymru
[16] The Effectiveness of Enforcement
on Behaviour Change - IPSOS.COM
[17] Rethinking enforcement for littering and dog fouling - KEEPWALESTIDY.CYMRU
[18] Litter and refuse: council responsibilities to keep land clear - GOV.UK
