Daeth yr ymgynghoriad i ben 24 Ebrill 2026.
Adolygu ymatebion
Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Yn sgil etholiadau’r Senedd a’r ffaith y daeth Llywodraeth newydd i rym mis Mai 2026 mae oedi wedi bod o ran cyhoeddi’r ymateb. Byddwn yn cyhoeddi’r canlyniad cyn gynted ag y bydd wedi’i gwblhau.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydyn ni eisiau eich barn chi ar y ffordd y dylid datblygu'r cynllun pEPR i gyfrif am wastraff pecynnu 'wrth fynd' sy'n cael ei roi mewn biniau cyhoeddus neu ei ollwng ar lawr yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Nodyn: Anonymeiddio ymatebion
Mae'r ddogfen ymgynghori a gyhoeddwyd yn rhan o’r ymgynghoriad hwn yn adlewyrchu fersiwn gynharach o eiriad Llywodraeth Cymru ynghylch anonymeiddio ymatebion. Ers hynny mae ein gweithdrefnau wedi'u diweddaru fel bod ymatebion i ymgynghoriad yn cael eu trin fel rhai dienw yn ddiofyn. Mae unrhyw ddata personol bellach yn cael eu tynnu cyn cyhoeddi’r ymateb, oni bai bod ymatebwyr yn gofyn yn benodol fel arall.
Bydd y dull wedi'i ddiweddaru hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl ymatebion a ddaw i law ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.
Dogfennau ymgynghori
Help a chymorth
Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch: WelshGovernmentEPRProgramme@gov.wales
