Neidio i'r prif gynnwy

Yr opsiynau

Dyma'r opsiynau a ystyrir: 

  • Opsiwn 1A. Ffi sbwriel ar gyfradd unffurf i bob cynhyrchydd
  • Option 1B. Canolbwyntio ar eitemau sy'n aml yn cael eu taflu'n sbwriel
  • Opsiwn 1C. Datrysiad hybrid 
  • Opsiwn 2. Cadw'r status quo (dim ffioedd sbwriel) 

Am ragor o fanylion am yr opsiynau, gweler y ddogfen ymgynghori.

Costau a manteision

Amcangyfrifir y costau a'r manteision yn y tabl isod. Ar gyfer opsiynau 1A ac 1C, mae'r ffigur o £14.7 miliwn yn seiliedig ar ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gan Raglen Gweithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP), sy'n nodi cyfanswm y costau casglu sbwriel pecynwaith (sbwriel ar y llawr ac mewn biniau cyhoeddus)  i awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r costau ar gyfer opsiwn 1B yn seiliedig ar 64 y cant o gost 1A, sef y gyfran o sbwriel pecynwaith yr amcangyfrifir ei fod yn cynnwys eitemau sy'n cael eu gadael fel sbwriel yn aml. 

Costau ac elwiau amcangyfrifedig
Costau blynyddol a manteisionOpsiwn 1AOption 1BOpsiwn 1COpsiwn 2
Costau i fusnesau£14.7 miliwn£9.4m£14.7 miliwn£0
Costau i’r sector cyhoeddusFawr ddimFawr ddimFawr ddim£0
Costau i gymdeithas----
Cyfanswm y costau£14.7 miliwn£9.4m£14.7 miliwn£0
Manteision i fusnesau----
Manteision i'r sector cyhoeddus£14.7 miliwn£9.4m£14.7 miliwn£0
Manteision i gymdeithasDdim yn hysbysDdim yn hysbysDdim yn hysbys-
Cyfanswm y manteision£14.7 miliwn£9.4m£14.7 miliwn£0
Effaith net £0£0£0£0

Ar gyfer opsiynau 1A, 1B ac 1C, mae costau ychwanegol, a'r cynhyrchwyr pecynwaith fyddai'n gyfrifol am y costau hynny a byddai awdurdodau lleol yn elwa ar fanteision ychwanegol. Byddai'r rhain yn gostau a manteision rheolaidd bob blwyddyn. Sero yw effaith net yr holl gostau a manteision ar gyfer pob opsiwn. 

Byddai hefyd gost untro i'r sector cyhoeddus o weithredu'r newidiadau, sydd heb ei feintioli ond tybir y bydd y costau yn isel iawn. 

Gall manteision posibl i gymdeithas gynnwys gostyngiad mewn pecynwaith wedi'i daflu'n sbwriel, ond nid yw hyn wedi'i feintioli. Bydd angen ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad ynghylch effeithiolrwydd, er mwyn asesu'r manteision i gymdeithas o ran lleihau sbwriel.     

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dewis opsiwn eto. Bydd yr opsiwn a ffefrir yn cael ei lywio gan ymatebion yr ymgynghoriad.

Asesiad o'r Gystadleuaeth

Bydd y cynnig yn effeithio ar gynhyrchwyr pecynwaith. 

Cynhaliwyd asesiad o'r gystadleuaeth a chanfu bod y cynnig yn annhebygol o gael effaith niweidiol sylweddol ar y gystadleuaeth. 

Prawf hidlo'r gystadleuaeth
Cwestiwn

Ateb

Ie neu Na

C1: Yn y farchnad neu farchnadoedd yr effeithir arnynt gan y rheoliad newydd, a oes gan unrhyw gwmni fwy nag 10% o gyfran y farchnad?Oes
C2: Yn y farchnad neu farchnadoedd yr effeithir arnynt gan y rheoliad newydd, a oes gan unrhyw gwmni fwy nag 20% o gyfran y farchnad?Nac oes
C3: Yn y farchnad neu farchnadoedd yr effeithir arnynt gan y rheoliad newydd, a oes gan y tri chwmni mwyaf gyda'i gilydd o leiaf 50% o gyfran y farchnad?Nac oes
C4: A fyddai costau’r rheoliad yn effeithio ar rai cwmnïau yn fwy o lawer nag eraill?Bydd
C5: A yw’r rheoliad yn debygol o effeithio ar strwythur y farchnad, gan newid nifer neu faint y cwmnïau?Nac ydy
C6: A fyddai’r rheoliad yn arwain at gostau sefydlu busnes uwch i gyflenwyr newydd neu ddarpar gyflenwyr, sy’n gostau nad oes rhaid i gyflenwyr presennol eu talu?Na fydd
C7: A fyddai’r rheoliad yn arwain at gostau rheolaidd uwch i gyflenwyr newydd neu ddarpar gyflenwyr, sy’n gostau nad oes rhaid i gyflenwyr presennol eu talu?Na fydd
C8: A yw newid technolegol cyflym yn nodwedd o'r sector?Nac ydy
C9: A fyddai’r rheoliad yn cyfyngu ar allu cyflenwyr i ddewis pris, ansawdd, amrywiaeth neu leoliad eu cynhyrchion?Na fydd

9. Adolygiad ar ôl gweithredu

Os yw'n briodol, esboniwch sut y dylid monitro effaith yr is-ddeddfwriaeth ac a fydd a sut y bydd yn cael ei hadolygu. 

Mae adolygiad ôl-weithredu yn sefydlu a yw gweithredu'r is-ddeddfwriaeth yn cael yr effaith a fwriadwyd.  

Dylid defnyddio'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol fel man cychwyn ar gyfer yr adolygiad. Dylai'r adolygiad sefydlu llinell sylfaen a chynnwys y meini prawf llwyddiant y bydd effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth wrth gyflawni'r amcan yn cael ei asesu yn eu herbyn. 

Rhaid rhoi syniad o pryd y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei hadolygu i sefydlu'r costau a'r manteision gwirioneddol ac a yw'n cyflawni'r effeithiau a ddymunir. Yn aml mae'n syniad da adolygu ar ôl tair blynedd ond bydd hyn yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth. 

I'w gwblhau ar ôl gweithredu.