Llawlyfr y Cabinet - Adran 5: Busnes y Senedd
Canllaw sy'n rhoi cyflwyniad i Lywodraeth Cymru ar gyfer gweinidogion newydd, eu swyddfeydd preifat ac eraill ar draws y llywodraeth yw llawlyfr y Cabinet.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
5.1 Mae gan y Senedd bedair rôl allweddol: mae'n cynrychioli Cymru a'i phobl; hi yw'r ddeddfwrfa sy'n deddfu i Gymru; mae'n cytuno ar drethi Cymru; ac mae'n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
5.2 Comisiwn y Senedd yw enw corff corfforaethol y Senedd. Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am ddarparu'r eiddo, y staff a'r gwasanaethau sydd eu hangen i alluogi'r Senedd i weithredu. Mae'r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod arall, pob un wedi'i enwebu gan y pedwar grŵp gwleidyddol mwyaf (neu wedi'i ddewis drwy bleidlais gan Aelodau'r Senedd os nad oes pedwar grŵp). Cyflogir staff y Comisiwn gan y Comisiwn ac mae Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd yn bennaeth arnynt.
Rheolau sefydlog
Mae’r Rheolau Sefydlog yn nodi’r gweithdrefnau y mae'r Senedd yn eu dilyn. Rhaid cytuno ar unrhyw newidiadau drwy bleidlais fwyafrifol o ddwy ran o dair yn y Cyfarfod Llawn. Gellir dod o hyd i'r Rheolau a'r canllawiau ategol presennol yma.
Craffu ar Lywodraeth Cymru
5.4 Mae craffu effeithiol ar waith Llywodraeth wrth wraidd unrhyw broses ddemocrataidd, ac mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan y Senedd drwy nifer o fecanweithiau, yn bennaf:
- Mewn Cyfarfodydd Llawn, lle gall yr Aelodau holi'r gweinidogion yn bersonol, ymateb i Ddatganiadau Llafar Gweinidogol a chymryd rhan mewn dadleuon.
- Mewn Pwyllgorau, lle gall yr Aelodau gymryd tystiolaeth gan y Gweinidogion a thystion eraill fel rhan o ymchwiliadau, dod i gasgliadau a gwneud argymhellion.
- Drwy system o Gwestiynau Ysgrifenedig.
Y Cyfarfod Llawn
5.5 Cyfarfod o'r Senedd gyfan yw'r Cyfarfod Llawn, a gynhelir yn Siambr drafod y Senedd. Cynhelir y Cyfarfod Llawn ddwywaith yr wythnos fel arfer, pan fydd y Senedd yn eistedd, ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, ac mae fel arfer yn dechrau am 1.30pm. Gall yr Aelodau gymryd rhan yn bersonol yn y Siambr neu o bell drwy Zoom.
5.6 Gall aelodau o'r cyhoedd wylio'r trafodion yn yr oriel drwy archebu seddi neu ar-lein ar wefan senedd.tv. Mae Cofnod y Trafodion, sef trawsgrifiad o bob Cyfarfod Llawn, ar gael yn gyflym iawn ar ôl pob Cyfarfod Llawn a gellir chwilio drwyddo. Gellir dod o hyd i agendâu Cyfarfodydd Llawn yma, a gellir dod o hyd i ddolen i Gofnod y Trafodion yma.
5.7 Mae tua dau draean o amser y Cyfarfod Llawn yn cael ei neilltuo i'r Llywodraeth, a'r Llywodraeth yn unig sy'n pennu'r rhaglen fusnes. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu amser y Cyfarfod Llawn i gyd ar ddydd Mawrth ac o 1.30pm tan 3.00pm ar ddydd Mercher.
5.8 Mae busnes y Llywodraeth yn cynnwys:
- Cwestiynau'r Prif Weinidog a Chwestiynau Llafar i Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol
- Y Datganiad a'r Cyhoeddiad Busnes
- Datganiadau Llafar
- Dadleuon o dan arweiniad y Llywodraeth
- Deddfwriaeth ac is-ddeddfwriaeth a noddir gan y Llywodraeth
- Cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer deddfwriaeth neu is-ddeddfwriaeth y DU.
5.9 Mae'r traean sy'n weddill o amser y Cyfarfod Llawn wedi'i neilltuo ar gyfer busnes anllywodraethol, ac mae'r rhaglen fusnes yn cael ei phennu gan y Pwyllgor Busnes, sy'n cynnwys Aelodau sy'n cynrychioli pob un o'r prif grwpiau gwleidyddol ac unrhyw Aelodau cymwys eraill.
5.10 Mae busnes anllywodraethol yn cynnwys:
- Cwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys
- Cwestiynau Llafar i Gomisiwn y Senedd
- Datganiadau gan yr Aelodau
- Dadleuon o dan arweiniad grwpiau gwleidyddol, Aelodau unigol neu grwpiau o Aelodau, neu Bwyllgorau
- Deddfwriaeth anllywodraethol
- Dadleuon byr.
Cwestiynau'r Senedd
5.11 Ym mhob wythnos eistedd, rhaid i'r Prif Weinidog ateb Cwestiynau Llafar a rhaid i bob un o Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Senedd ateb Cwestiynau Llafar bob pedair wythnos eistedd ar sail cylchdro rheolaidd. Mae'r amserlen ar gyfer cwestiynau Gweinidogol yn cael ei chynnig gan y llywodraeth ac fe'i nodir gan y Pwyllgor Busnes cyn gynted â phosibl ar ôl unrhyw newid yn y Gweinidogion.
5.12 Caiff hyd at ddeuddeg o’r cwestiynau a gyflwynwyd eu hateb mewn 45 munud. Cyhoeddir cwestiynau bum diwrnod gwaith cyn pob cyfarfod (ar gyfer y Gweinidogion a'r Cwnsler Cyffredinol) a thri diwrnod gwaith ar gyfer y Prif Weinidog. Gall y Gweinidogion ofyn i'r Dirprwy Weinidogion ateb cwestiynau am feysydd y mae ganddynt gyfrifoldeb amdanynt.
5.13 Yn ymarferol, mae'r Llywydd fel arfer yn caniatáu i'r sesiwn holi barhau y tu hwnt i 45 munud hyd nes y bydd o leiaf wyth cwestiwn wedi'u hateb.
5.14 Yn y Cyfarfod Llawn, mae pob cwestiwn a gyflwynwyd yn cael ateb byr, wedi'i baratoi ac ar ôl hynny gofynnir cwestiynau cysylltiedig nas gwelwyd yn ôl disgresiwn y Llywydd (Cwestiynau Atodol). Mae unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd na chyrhaeddir o fewn y 45 munud yn cael ateb ysgrifenedig, sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi ar Gofnod y Trafodion. Mae disgwyl i gwestiynau ac atebion fod yn gryno.
5.15 Ar ôl cwestiwn 2 ym mhob sesiwn, gall Arweinwyr y Grwpiau (ar gyfer y Prif Weinidog) a llefarwyr perthnasol y grwpiau (ar gyfer y Gweinidogion) ofyn nifer penodol o gwestiynau nas gwelwyd.
5.16 Gall yr Aelodau hefyd gyflwyno nifer diderfyn o Gwestiynau Ysgrifenedig. Mae cyfyngiadau ar nifer y cwestiynau y gall pob Aelod eu cyflwyno yn ystod toriadau'r Nadolig, y Pasg a'r haf.
5.17 Gall pob Aelod hefyd wneud cais i ofyn un Cwestiwn Amserol bob wythnos. O blith y rhain, gall y Llywydd ddewis rhai i'w hateb, ar yr amod eu bod yn gysylltiedig â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol lle mae ymateb Gweinidogol cyflym yn ddymunol. Hysbysir Llywodraeth Cymru pan fydd cwestiynau'n cael eu cyflwyno a phryd y dewisir y cwestiynau terfynol (amser cinio dydd Mercher). Gofynnir y Cwestiynau Amserol ar ôl y Cwestiynau Llafar bob dydd Mercher, ac mae'r ddwy set o gwestiynau yn dilyn yr un strwythur. Felly, caiff y cwestiynau a'r atebion eu cyhoeddi ar Gofnod y Trafodion.
5.18 O dan amgylchiadau eithriadol, gall yr Aelodau hefyd wneud cais i ofyn Cwestiwn Brys. Bydd y Llywydd yn penderfynu a yw'r cwestiwn o arwyddocâd cenedlaethol brys lle mae angen ymateb Gweinidogol ar unwaith. Hysbysir Llywodraeth Cymru am unrhyw gais ac mae'n gallu rhoi cyngor i'r Llywydd i'w helpu i benderfynu. Gofynnir y cwestiynau a dderbynnir cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael eu derbyn ac maent yn dilyn yr un strwythur â'r Cwestiynau Llafar. Felly, caiff y cwestiynau a'r atebion hefyd eu cyhoeddi ar Gofnod y Trafodion.
Datganiadau (Llafar ac Ysgrifenedig)
5.19 Fel arfer, cyflwynir cyhoeddiadau a diweddariadau pwysig, proffil uchel, dadleuol neu amserol yn y Cyfarfod Llawn drwy Ddatganiad Llafar. Mae Datganiadau Llafar a gyflwynir gan y Gweinidogion, y Dirprwy Weinidogion neu'r Cwnsler Cyffredinol yn eitem o fusnes y Llywodraeth. Gall Cadeiryddion Pwyllgorau hefyd wneud Datganiadau Llafar yn ystod amser anllywodraethol.
5.20 Fel arfer, caiff 30 neu 45 munud ei neilltuo ar gyfer Datganiadau Llafar. Mae gan y Gweinidog arweiniol 10 munud i gyflwyno datganiad a baratowyd ymlaen llaw ac ar ôl hynny gall yr Aelodau (gan ddechrau gyda llefarwyr a chadeiryddion pwyllgorau perthnasol) ofyn cwestiynau nas gwelwyd. Bydd y Gweinidog yn ateb y rhain yn eu tro. Lle bynnag y bo'n bosibl, darperir testun y Datganiad Llafar ymlaen llaw i lefarwyr y grŵp o leiaf awr cyn cyflwyno Datganiad Llafar fel cwrteisi i alluogi llefarwyr i baratoi cwestiynau (fel y nodir yng Nghod y Gweinidogion). Yn ymarferol, nod y llywodraeth yw gwneud hyn erbyn 1pm ar y diwrnod cyflwyno. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn bosibl. Yn yr un modd, nod y llywodraeth yw darparu unrhyw ddogfennau cysylltiedig i'r holl Aelodau ychydig oriau ymlaen llaw.
5.21 Caiff Datganiad Llafar ei wneud bob tro y bydd Bil yn cael ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Senedd. Gelwir hyn yn Ddatganiad Deddfwriaethol ac mae fel arfer wedi'i drefnu am 60 munud.
5.22 Cyhoeddir Datganiadau Llafar a'r cwestiynau a'r atebion dilynol ar Gofnod y Trafodion.
5.23 Gellir hysbysu'r Aelodau ar y cyd am faterion mwy arferol drwy Ddatganiadau Ysgrifenedig sy'n cael eu hanfon atynt drwy e-bost yn ddwyieithog cyn eu cyhoeddi wedyn ar wefan Llywodraeth Cymru, yma ac ar Gofnod y Trafodion (dolen uchod).
Dadleuon
5.24 Mae dadleuon yn rhoi cyfle i ystyried materion yn fanylach a chynnal pleidleisiau ar faterion i basio (neu beidio â phasio) cynigion y Senedd. Mae sawl math o ddadl, er enghraifft:
- Dadleuon o dan arweiniad y Llywodraeth
- Dadleuon o dan arweiniad un o bwyllgorau'r Senedd
- Dadleuon o dan arweiniad grŵp gwrthblaid
- Dadleuon o dan arweiniad Aelod unigol (neu grwpiau ohonynt)
- Dadleuon byr
- Dadleuon ar ddeddfwriaeth (a drafodir ar wahân isod).
5.25 Rhaid cynnwys dadl ar y Datganiad Busnes a chyflwyno'r cynnig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn i'r ddadl gael ei chynnal. Ar gyfer dadleuon y Llywodraeth, cyflwynir y cynnig yn enw'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am fusnes y Cyfarfod Llawn (y Trefnydd) ond caiff ei gytuno gan y Gweinidog arweiniol. Ar gyfer y rhan fwyaf o ddadleuon, mae gan y Llywodraeth neu grwpiau gwrthblaid ddau ddiwrnod gwaith i gyflwyno gwelliannau. Mae rhai dadleuon, fel y ddadl ar y Gyllideb Derfynol nad oes modd eu newid. Yn ôl y drefn, ni fydd y Llywydd yn dewis gwelliannau i ddadleuon ar adroddiadau Pwyllgor y Senedd.
5.26 Mae'r rhan fwyaf o ddadleuon yn dilyn yr un strwythur. Mae'r Aelod arweiniol (y Gweinidog arweiniol dros ddadl gan y Llywodraeth) yn agor gydag araith ragarweiniol i wneud y cynnig yn ffurfiol. Yna, gelwir yr Aelodau sy'n gwneud y gwelliannau, llefarwyr y grwpiau ac Aelodau eraill sydd â diddordeb penodol (er enghraifft, cadeirydd y Pwyllgor perthnasol) i siarad. Os oes amser, bydd y Llywydd yn galw Aelodau eraill. Yn olaf, mae'r Aelod arweiniol yn cael ei alw eto i ymateb i'r sylwadau a wnaed yn ystod y ddadl ac i'w chloi.
5.27 Pan fydd cynnig yn cael cefnogaeth unfrydol, gellir cytuno arno heb bleidlais, oni bai bod Rheolau Sefydlog y Senedd yn mynnu bod pleidlais wedi'i chofnodi yn cael ei chynnal. Fodd bynnag, os bydd unrhyw raniad mewn barn, caiff pleidlais ei gohirio fel arfer tan yr amser pleidleisio ar ddiwedd pob Cyfarfod Llawn pan fydd pleidlais ar bob dadl a gynhaliwyd y diwrnod hwnnw wedi'i chynnal. Paratoir cyngor pleidleisio ar gyfer pob dadl gan swyddogion polisi arweiniol mewn cydweithrediad â Chynghorwyr Arbennig ac fe'i cytunir gan Weinidogion arweiniol. Mewn pleidlais, mae angen mwyafrif syml er mwyn cytuno ar gynnig oni bai bod y Rheolau Sefydlog yn nodi fel arall. Os bydd y bleidlais yn gyfartal, mae gan y Llywydd bleidlais fwrw, ac oni bai bod cyfle pellach i drafod mater, bydd yn pleidleisio yn erbyn cynnig neu welliant. Cyhoeddir canlyniad pob pleidlais ar Gofnod y Trafodion.
5.28 Mae'r ddadl fer hefyd yn cael ei thrin yn wahanol. Fel arfer, cynhelir un ddadl fer yr wythnos ac mae'n seiliedig ar bwnc (yn hytrach na chynnig) felly ni chynhelir pleidlais. Caiff pynciau eu cyflwyno gan Aelodau unigol sy'n cael eu dewis drwy bleidlais. Mae gan yr Aelod hyd at bymtheg munud i siarad am ei fater ac mae gan y Gweinidog arweiniol hyd at bymtheg munud i ymateb. Ni chynhelir pleidlais, ac ni all Aelodau eraill ond gyfrannu gyda chytundeb yr Aelod arweiniol.
Pwyllgorau'r Senedd
Pwyllgorau ar senedd.cymru
5.29 Cytunir ar deitlau, cylchoedd gwaith a dyraniad cadeiryddion ac aelodaeth grwpiau gwleidyddol drwy bleidlais yn y Senedd yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Busnes. Ers 2016, caiff Cadeiryddion Pwyllgorau eu hethol gan y Senedd gyfan gyda'r bwriad o wella eu hannibyniaeth.
5.30 Y ddau eithriad yw'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, sy'n cael ei gadeirio gan y Dirprwy Lywydd ac sy'n cynnwys Cadeiryddion Pwyllgorau eraill, a'r Pwyllgor Busnes.
5.31 Cyhoeddir agendâu, papurau, cofnodion a thrawsgrifiadau cyfarfodydd Pwyllgorau'r Senedd ar wefan y Senedd. Gall aelodau o'r cyhoedd wylio cyfarfod Pwyllgor yn fyw o'r oriel wylio, pe bai ganddynt ddiddordeb yn y pwnc, a gallant archebu tocynnau drwy Gomisiwn y Senedd.
5.32 Mae Ysgrifenyddiaeth y Cabinet yn gyfrifol am hwyluso presenoldeb Gweinidogion ar gyfer sesiynau sy'n craffu ar bolisi, tra mae Uned y Rhaglen Ddeddfwriaethol a'i Llywodraethiant yn trefnu presenoldeb Gweinidogion ar gyfer unrhyw ddeddfwriaeth ddomestig.
5.33 Mae'r Pwyllgor Busnes fel arfer yn cyfarfod yn wythnosol pan fydd y Senedd yn eistedd. Mae'n cael ei gadeirio gan y Llywydd ac mae'n cynnwys y Trefnydd a Rheolwr Busnes o bob un o'r prif grwpiau gwleidyddol. Mae'r Dirprwy Lywydd hefyd yn bresennol. Caiff Aelodau nad ydynt yn gysylltiedig ag unrhyw grwpiau yn y Senedd ffurfio grŵp at y diben hwnnw yn unig, a allai gael ei gynrychioli wedyn yn y Pwyllgor Busnes. Gallant ymuno â chyfarfod o'r Pwyllgor a phleidleisio'n unigol dim ond os nad oes digon ohonynt i ffurfio grŵp o'r fath (h.y. llai na thri). Fel arfer, cynhelir trafodion yn breifat ac felly maent ar gau i'r cyhoedd. Fodd bynnag, gall y Pwyllgor ddewis cyfarfod yn gyhoeddus wrth drafod gweithdrefn ac ymarfer y Senedd.
5.34 Ym mhob cyfarfod, mae'r Pwyllgor Busnes yn gwneud penderfyniadau ynghylch trefnu busnes y Senedd a gall wneud sylwadau ar drefnu busnes y Llywodraeth. Mae'r rhain yn cyfuno i fod yn sail i'r Datganiad Busnes a'r Cyhoeddiad sydd wedyn yn cael ei gyhoeddi yn y Cyfarfod Llawn gan y Trefnydd er mwyn nodi'r busnes ar gyfer y cyfarfod hwnnw a'r tair wythnos ganlynol.
5.35 Mae'r Pwyllgor Busnes hefyd yn gyfrifol am: sefydlu amserlen y Senedd; pennu nifer, enw, aelodaeth a chylch gwaith pwyllgorau; sefydlu'r amserlen ar gyfer craffu ar y Gyllideb a deddfwriaeth Cymru; a chynnig newidiadau i weithdrefnau, arferion a Rheolau Sefydlog y Senedd.
