Neidio i'r prif gynnwy

Llunio Polisïau ar gyfer Gweinidogion Cymru

Diben

4.1 Mae'r nodyn hwn yn nodi sut y gallwch ddisgwyl i weision sifil roi cyngor polisi ichi ar gyflawni eich amcanion polisi. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno ar ffurf Cyngor Gweinidogol. Mae'n rhoi gwybodaeth gryno am y broses a'r egwyddorion ar gyfer llunio polisïau da, asesu effaith, a'r berthynas â swyddogion. Mae hefyd yn fan cychwyn ar gyfer trafodaethau gyda swyddogion ynghylch cyflawni eich blaenoriaethau. Mae'r nodyn hwn yn cyd-fynd â fframwaith ehangach Cod y Gwasanaeth Sifil.

Cyngor polisi

4.2 Yr Ysgrifennydd Parhaol yw prif gynghorydd polisi'r Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru. Rôl y Gwasanaeth Sifil yw eich cefnogi i gyflawni'r ymrwymiadau a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu yn llwyddiannus drwy lunio polisïau a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol. Dylech ddisgwyl i'r Gwasanaeth Sifil ddarparu cyngor polisi o ansawdd uchel i gyflawni eich amcanion. Y nod yw eich helpu i wneud penderfyniadau y mae modd eu cyflawni, sy'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau sydd ar gael ac sy'n cydnabod gofynion a chyfyngiadau gwleidyddol.

4.3 Dylech ddisgwyl i swyddogion:

  • Sicrhau bod gwaith datblygu polisi yn canolbwyntio ar gyflawni'r ymrwymiadau a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu a chanlyniadau ac amcanion polisi datganedig.
  • Darparu cyngor cadarn, creadigol a diduedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys tystiolaeth o'r effaith bosibl (drwy Asesiad Effaith Integredig).
  • Gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws y sefydliad a chyda phartneriaid cyflawni allanol i sicrhau bod polisi yn cael ei ddatblygu a'i gyflawni mewn ffordd gydgysylltiedig ac effeithiol.

Y broses a'r egwyddorion ar gyfer llunio polisïau

4.4 Anogir swyddogion Llywodraeth Cymru i ddilyn pum cam y cylch polisi, ac i ystyried y pum prawf ar gyfer llunio polisïau, a'r pum ffordd o weithio'n gynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae hyn er mwyn adeiladu achos cynhwysfawr a chytbwys i'ch cynghori ar gyflawni eich amcanion polisi.

4.5 Mae pum cam y cylch polisi fel a ganlyn:

  1. Yr Achos dros Newid – Bwriad y cam hwn yw deall y broblem y mae'r Llywodraeth yn ceisio mynd i'r afael â hi, beth yw'r rhesymeg dros ymyrraeth y llywodraeth, a beth yw'r canlyniadau polisi a ddymunir.
  2. Yr Opsiynau – Bwriad y cam opsiynau yw nodi ac arfarnu'r dewisiadau amgen sydd ar gael i gyflawni'r canlyniad a ddymunir. Fel rhan o'r cam opsiynau, bydd swyddogion yn cyflwyno tystiolaeth ichi y maent wedi'i chasglu, gan gynnwys tystiolaeth o'r effaith bosibl. Erbyn diwedd y cam hwn, bydd swyddogion yn gallu rhoi cyngor ar sail tystiolaeth dda ichi, sy'n nodi gwahanol ffyrdd o gyflawni eich amcanion polisi ac argymhelliad cadarn. Yn ymarferol, efallai y bydd gwahanol fersiynau o gyngor yn cael eu rhoi ichi er mwyn ichi brofi a phennu cwmpas yr opsiynau hyn a'r argymhelliad a ffefrir.
  3. Yr Opsiwn a Ffefrir – Bwriad y cam hwn yw datblygu a phrofi'r opsiwn a ffefrir gennych ymhellach, gan sicrhau bod y cynnig yn canolbwyntio ar gyflawni drwyddi draw. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth fanylach am gostau, risgiau ac effaith.
  4. Gweithredu – Unwaith y byddwch wedi cymeradwyo'r opsiwn a ffefrir gennych, bydd swyddogion yn symud ymlaen i'r cam gweithredu. Yna, gellir trosglwyddo'r gwaith i swyddogion eraill a fydd yn arwain y gwaith o gyflawni a mireinio'r mecanweithiau gweithredu.
  5. Gwerthuso a monitro – Mae gwerthuso polisïau a dysgu gwersi ohonynt yn rhan hanfodol o wella. Dylai dadansoddi gwaith gwerthuso cynhwysfawr fod yn rhan hanfodol o ddatblygu a gweithredu polisi newydd.

4.6 Er bod y camau uchod yn cael eu cyflwyno mewn trefn gronolegol, bydd gwahanol fersiynau o gyngor polisi a allai gynnwys ailedrych ar gamau cynharach neu ailadrodd y cam opsiynau wrth fynd ymlaen i wneud penderfyniadau ynghylch gweithredu. Maent yn debyg i'r model busnes pum achos, ac yn ei ategu.

4.7 Er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael yr effaith orau bosibl a'u bod o'r safon uchaf bosibl, yn gosteffeithiol ac yn gynhyrchiol, mae dilyn dull digidol yn rhan allweddol o ddatblygu polisi da. Nid technoleg yw hanfod trawsnewid digidol. Mae'n golygu newid meddylfryd, defnyddio offer a sgiliau modern, gweithio'n agored ac ar y cyd, a rhoi defnyddwyr wrth wraidd polisi a chyflawni. Mae'n golygu dylunio gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y bobl sy'n mynd i'w defnyddio, nid dylunio yn seiliedig ar strwythurau sefydliadol.

4.8 Mae gwaith trawsnewid digidol da yn golygu dylunio gwasanaethau sy'n hygyrch, yn ddiogel ac yn syml fel bod pobl yn dewis eu defnyddio. Mae darparu gwasanaethau digidol da yn defnyddio methodoleg ystwyth sy'n cynnwys y camau darganfod (gofyn i ddefnyddwyr beth sydd ei angen arnynt), alffa (creu prototeip o'r gwasanaeth / polisi), beta (ei adeiladu a'i brofi ar rai defnyddwyr), a byw (sicrhau ei fod ar gael i bob defnyddiwr). Cefnogir hyn i gyd gan fodel o welliant parhaus sy'n seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr. Mae methodoleg ystwyth yn cyd-fynd yn agos â'r cylch datblygu polisi.

4.9 Mae'r pum prawf a ystyrir ar bob un o'r camau llunio polisi sy'n llywio'r cyngor a gewch fel a ganlyn:

  1. Yn cyd-fynd â'r Rhaglen Lywodraethu a blaenoriaethau Gweinidogol
  2. Yr effaith ar Gymru a'i phobl, yn awr ac yn y dyfodol
  3. Costau'r penderfyniad a/neu'r buddsoddiad – fforddiadwyedd a gwerth am arian
  4. Y mecanweithiau sydd ar gael i gyflawni'r newidiadau sy'n ofynnol mewn modd sy'n cydymffurfio
  5. Y trefniadau rheoli (gan gynnwys lle bydd angen i sawl Gweinidog gymeradwyo)

4.10 Mae'r pum ffordd o weithio y dylid eu dilyn wrth lunio polisïau, ac y mae Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig iddynt o dan ddyletswydd llesiant (egwyddor datblygu cynaliadwy) Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fel a ganlyn: 

  1. Hirdymor – Meddwl am oblygiadau hirdymor y penderfyniad
  2. Integreiddio – Dilyn dull gweithredu integredig – drwy ddeall yr agweddau llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol 
  3. Cydweithio – Deall pwy fydd angen bod yn rhan o'r gwaith o gyflawni'r amcanion polisi (partneriaid cyflawni)
  4. Cynnwys – Sicrhau bod y bobl sy'n debygol o gael eu heffeithio gan y polisi wedi'u cynnwys
  5. Atal – Deall yr achosion sylfaenol y mae'r amcan polisi yn anelu at fynd i'r afael â nhw ac ystyried ffyrdd o atal y problemau hyn rhag digwydd yn y dyfodol, neu ffyrdd o'u lleihau

4.11 Mae defnyddio dull digidol yn helpu i gefnogi'r ffyrdd hyn o weithio. Bydd gwasanaethau cyhoeddus digidol cydgysylltiedig yn cael eu darparu drwy gydweithio ac integreiddio, gan ailddefnyddio cydrannau a buddsoddiad presennol, lle bo hynny'n bosibl, i sicrhau'r gwerth mwyaf am arian a gwella cysondeb y profiad i ddefnyddwyr. Mae ymgysylltu da yn ein helpu i ddylunio gwasanaethau i bobl a fydd yn atal aneffeithlonrwydd a phrofiadau anghyson i’r dinesydd. Mae dylunio gwasanaethau mewn ffordd ailadroddus ac ystwyth sy'n rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf yn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu dylunio ar gyfer yr hirdymor a'u bod yn ddiogel ac yn hygyrch i'w defnyddio.

Asesu effaith

4.12 Yn ogystal â bod yn ddyletswydd statudol mewn rhai achosion (e.e. cydraddoldeb a hawliau plant), mae asesu effaith debygol polisïau (cadarnhaol/andwyol) yn elfen allweddol o lunio polisïau da yn Llywodraeth Cymru. I fod yn effeithiol, mae angen i hyn ddechrau'n gynnar a bod yn weithgaredd ailadroddus drwy gydol y broses o ddatblygu polisi, ac mae angen i'r canfyddiadau gael eu defnyddio i lywio opsiynau a'r opsiwn a ffefrir. Gall asesu effaith gynnwys tynnu ar ffynonellau data, teithiau cwsmeriaid, profiadau bywyd, adborth gan ddefnyddwyr, a gweithgareddau cydgynhyrchu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddeall effeithiau tebygol y polisi ar grwpiau penodol o bobl (er enghraifft asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb, asesiad o'r effaith ar hawliau plant, asesiad o'r effaith ar y Gymraeg, asesiad o'r effaith ar ddiogelu data) ac ystyried effeithiau ehangach megis effaith amgylcheddol. Gall dull Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol helpu i sicrhau bod yr effeithiau hyn yn cael eu hystyried mewn ffordd integredig.

4.13 Y ffordd rydym yn cofnodi ac yn tystiolaethu bod y Llywodraeth wedi asesu effaith penderfyniad neu bolisi penodol yw drwy gwblhau adrannau perthnasol o'n templed 'Asesiad Effaith Integredig'. Mae hon yn ddogfen sy'n cofnodi'r holl ffactorau sydd wedi'u hystyried, a lle bo hynny'n berthnasol ac yn gyfreithiol ofynnol, yn dogfennu'r effeithiau ar fater, poblogaeth neu leoliad penodol etc. Mae hefyd yn gyfle i lunio polisi mewn ffordd sy'n cyfrif am effeithiau posibl os caiff ei wneud yn ddigon cynnar. Yn dibynnu ar y gofynion cyfreithiol, bydd rhannau o'r Asesiad Effaith Integredig ac asesiadau eraill (e.e. cydraddoldeb a hawliau plant) yn cael eu cyhoeddi ar llyw.cymru.

Cael cyngor polisi

4.14 Fel y nodir uchod, mae Gweinidogion yn cael cyngor polisi ffurfiol drwy'r broses Cyngor Gweinidogol. Weithiau, bydd Cyngor Gweinidogol yn gofyn i Weinidog ei nodi yn unig. Pan ofynnir i Weinidogion wneud penderfyniad (h.y. ar gyllid), bydd Adroddiad ar Benderfyniad yn cael ei gyhoeddi gan swyddogion.

4.15 Bydd gan bob dogfen Cyngor Gweinidogol Ddatganiad Sicrwydd wedi'i lofnodi gan y Dirprwy Gyfarwyddwr. Mae hyn yn cadarnhau ei fod wedi'i fodloni bod blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru a goblygiadau trawsbortffolio wedi cael eu hystyried. Mae'r Dirprwy Gyfarwyddwr hefyd yn cadarnhau bod y drefn briodol wedi'i dilyn o ran y broses llunio polisïau, yn yr ystyr bod effeithiau wedi'u hasesu, defnyddwyr a rhanddeiliaid wedi'u cynnwys, opsiynau wedi'u hasesu, a dull cydweithredol ac integredig wedi'i ddilyn. Ni fydd angen ichi o reidrwydd weld manylion llawn y gwaith dadansoddi polisi, ond bydd angen ichi wybod canlyniadau'r asesiadau fel y gall y rhain lywio eich penderfyniadau.

Risgiau o ran llunio polisïau

4.16 Yn aml, bydd yn anodd dilyn y broses orau bosibl ar gyfer llunio polisïau a bydd adegau pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau ar frys, yn seiliedig ar dystiolaeth anghyflawn, a heb allu ymgysylltu'n llawn â'r rhai y mae'r penderfyniadau'n effeithio arnynt. Gall hyn arwain at ganlyniadau anfwriadol y gallai fod angen eu rheoli neu eu lliniaru yn ddiweddarach a dibynnu ar fwy o waith monitro a gwerthuso polisïau fel y gellir gwneud gwelliannau yn y dyfodol. Gall hefyd arwain at effeithiau y tu hwnt i dymor y Llywodraeth ar genedlaethau'r dyfodol. O dan yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd angen dull gweithredu cymesur.

4.17 Yn ymarferol, yr ymrwymiadau yn y maniffesto yw'r 'dewis a ffefrir' yn y cylch polisi. Fodd bynnag, gellir defnyddio'r broses datblygu polisi mewn ffordd ddefnyddiol o hyd i sefydlu ffordd gadarn a chosteffeithiol o weithredu'r maniffesto. O ran trosi'r ymrwymiadau yn y maniffesto yn bolisi a strategaeth weithredu glir, mae'n bosibl y bydd angen profi'r achos dros newid o hyd, gan gynnwys y dystiolaeth ar gyfer ymyrryd, anghenion defnyddwyr, materion allweddol ac opsiynau i sicrhau y gellir cyflawni'r canlyniad a ddymunir gan Weinidogion Cymru drwy bolisi penodol.

4.18 Mae ansawdd y berthynas rhwng Gweinidogion a swyddogion yn cael effaith sylweddol ar y gallu i gyflwyno opsiynau a chyngor amgen mwy creadigol, ac ar hynny'n cael ei dderbyn a'i ystyried yn llawn. Efallai y bydd adegau pan fydd swyddogion yn eich herio ar yr amcan neu'r canlyniad polisi yr hoffech ei gyflawni, ac yn ei dro gall Gweinidogion herio swyddogion. Dylid gwneud hyn i gyd yn seiliedig ar barch tuag at y naill a'r llall. Er enghraifft, gallai'r her gynnwys cyflwyno opsiynau amgen neu ddiwygiadau i'r polisi. Gall hyn fod er mwyn sicrhau bod modd cyflawni'r polisi a'i fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â bod dealltwriaeth dda o ganlyniadau bwriadol ac anfwriadol y polisi.

Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

4.19 Nod Llywodraeth Cymru yw ymgorffori amrywiaeth o dystiolaeth yn ei phrosesau llunio polisïau ar gyfer y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Ochr yn ochr â Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cefnogi llunwyr polisi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i gyrchu a defnyddio ymchwil, tystiolaeth ac arbenigedd annibynnol sy'n helpu i wella prosesau llunio a chyflawni polisïau. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am gyflwyno rhaglen waith Gweinidogol Llywodraeth Cymru, ac fel rhan o hynny mae'n darparu tystiolaeth a chyngor annibynnol. Mae'r Ganolfan yn fenter gydweithredol a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Mae rhaglen waith Gweinidogol Llywodraeth Cymru wedi'i chynllunio i gyflwyno prosiectau i lywio camau cynnar y broses llunio polisïau e.e. ateb cwestiynau polisi fel 'beth sy'n gweithio'. Y Prif Weinidog yw perchennog y rhaglen waith Gweinidogol, ac mae'n gyfrifol am ei chymeradwyo. Mae cyfle fel rhan o'r rhaglen waith i'r Prif Weinidog a'r Gweinidogion nodi blaenoriaethau ymchwil y gall y Ganolfan eu cefnogi. Mae goruchwyliaeth weinyddol o'r Ganolfan yn faes cyfrifoldeb i'r Cyfarwyddwr Gwelliant Parhaus a Phennaeth y Proffesiwn Polisi.

Llywodraethu ar gyfer y dyfodol / llywodraethu cynaliadwy

Diben

4.20 Bwriad y nodyn yw darparu man cychwyn ar gyfer sut y gallwch ddefnyddio'r dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i ymgymryd â datblygu cynaliadwy, a hyrwyddo hynny, yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gyflawni eich amcanion polisi datganedig. Ategir y nodyn hwn gan y canllaw 'Hanfodion' sy'n rhoi trosolwg o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Llywodraethu cynaliadwy

4.21 Un o'r agweddau mwy nodedig ar y llywodraeth yng Nghymru fu'r ddyletswydd i hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Dechreuodd hyn yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998 a 2006, ac yn 2015 datblygodd y ddyletswydd hon yn fframwaith ehangach, mwy cynhwysfawr yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a oedd yn cynnwys nid yn unig y llywodraeth ond hefyd gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

4.22 Mae datblygu cynaliadwy yn ddull ymarferol sy'n sicrhau'r canlyniadau cadarnhaol mwyaf posibl drwy gydnabod y rhyngddibyniaethau rhwng yr economi, yr amgylchedd, cymdeithas a diwylliant. Mae'n ymwneud â sicrhau llesiant hirdymor, gan weithio mewn ffyrdd sy'n edrych i'r tymor hir, yn cyflawni cydlyniaeth rhwng polisïau ac yn cynnwys pobl sy'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru. Mae hefyd yn ymwneud â chydweithio â phartneriaid i ddarparu atebion a rennir ac atal problemau cyn iddynt godi.

4.23 Pan gaiff ei roi ar waith yn briodol, mae'n gysyniad sy'n caniatáu meddwl yn greadigol am natur gydberthynol problemau cymhleth a phellgyrhaeddol, ac sy'n cynhyrchu atebion newydd ac arloesol. Felly, mae datblygu cynaliadwy yn ddull sy'n seiliedig ar systemau ar gyfer sicrhau newid cadarnhaol, parhaus. Yn y Llywodraeth, fel yn ein bywydau bob dydd, mae'r problemau sy'n ein hwynebu yn aml yn cael eu hystyried yn sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau ynysig nad ydynt yn gysylltiedig â'i gilydd, y byd o'n cwmpas na byd cenedlaethau'r dyfodol. Yn aml, gall y pwysau dyddiol a wynebir gan Weinidogion a swyddogion, ynghyd â'r pwysau gan y cyfryngau a'r cyhoedd i ymateb ar unwaith i ddigwyddiadau, annog dull ynysig o ymdrin â materion.

4.24 Mae sawl myth o hyd am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, o ran y pethau y mae'n eu gwneud a'r pethau nad yw'n eu gwneud ac mae'r rhain yn tanseilio'r ymrwymiadau a'r dyheadau hirsefydlog i gyflawni datblygu cynaliadwy. Yn benodol, nid yw'r Ddeddf yn rhagnodi'r atebion na'r penderfyniadau y gall Gweinidogion Cymru ac eraill ddod iddynt. Yr hyn a wna'n bennaf yw codi'r safon a'r disgwyliadau o ran sut y caiff penderfyniadau eu gwneud yng Nghymru.

Dyletswyddau ar Weinidogion Cymru

4.25 Mae tair elfen i'r dyletswyddau datblygu cynaliadwy ar Weinidogion Cymru.

1. Fframwaith Cenedlaethol a Gweithredu

4.26 Mae dyletswyddau statudol wedi'u gosod ar Weinidogion Cymru, a all gyda'i gilydd gefnogi dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o feddwl yn y tymor hwy a darparu ar gyfer rhannau allweddol o'r fframwaith Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys

  • Dyletswydd i osod a sefydlu Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol i Gymru a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar Lesiant Cymru. Ceir 50 o ddangosyddion llesiant cenedlaethol i Gymru sydd wedi'u cynllunio i fesur a dangos cynnydd 'ledled Cymru' tuag at y saith nod llesiant yn y Ddeddf. Ni fwriedir iddynt fod yn ddangosyddion perfformiad ar gyfer sefydliad unigol, ond yn fodd o ysgogi cyfraniad y llywodraeth a chyrff cyhoeddus tuag at y canlyniadau cyffredinol.
    Mae’r tudalennau dangosyddion cenedlaethol yn cynnwys data ar gyfer yr holl ddangosyddion cenedlaethol, ynghyd â dolenni i’r ffynonellau data a, lle bo rhai ar gael, cyhoeddiadau ystadegol lle mae’r dangosyddion yn cael eu dadansoddi’n fanylach.
  • Cyhoeddir yr adroddiad blynyddol ar Lesiant Cymru ym mis Medi bob blwyddyn. Mae'r adroddiad yn ystyried cynnydd yn erbyn y 50 o ddangosyddion cenedlaethol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddata perthnasol eraill. Mae’r adroddiad yn ddull allweddol o sicrhau atebolrwydd, i fod yn dryloyw ynghylch y cynnydd mae Cymru yn ei wneud tuag at ei nodau llesiant. Rydym wedi ymrwymo i lunio adroddiadau atodol ochr yn ochr â’r prif adroddiad lle mae angen gwneud hynny.
  • Dyletswydd i osod Cerrig Milltir Cenedlaethol i Gymru. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod cerrig milltir (targedau) cenedlaethol mewn perthynas â’r dangosyddion cenedlaethol a fyddai, ym marn Gweinidogion Cymru, yn eu helpu i fesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant. Datblygwyd 17 o gerrig milltir, cytunodd y Cabinet arnynt ac fe'u gosodwyd gerbron y Senedd rhwng mis Ionawr 2021 a mis Tachwedd 2022.
  • Dyletswydd i lunio Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol ar gyfer Cymru. Mae'r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd dystiolaeth ar y tueddiadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sy'n debygol o lunio dyfodol Cymru. Mae'n helpu Gweinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus i nodi heriau yn y dyfodol, ac ymateb iddynt, mewn ffordd ragweithiol. Rhaid ei gyhoeddi o fewn deuddeg mis i etholiad y Senedd (Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf yn 2017 a'r ail ym mis Rhagfyr 2021).

4.27 Nid yw'r cyfrifoldebau hyn o reidrwydd yn dod o dan un portffolio Gweinidogol.

4.28 Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd hefyd i ddarparu canllawiau statudol ar gyfer cyrff cyhoeddus, byrddau gwasanaethau cyhoeddus a chynghorau tref a chymuned. Cyhoeddwyd y canllawiau hyn yn 2016.

4.29 Gan fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cwmpasu 48 o gyrff cyhoeddus (ychwanegwyd wyth corff arall ym mis Mehefin 2024), bydd cyrff yn dod o dan bortffolios Gweinidogol gwahanol, gan gynnwys y cyfrifoldeb dros oruchwylio gwaith Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a sefydlwyd gan y Ddeddf. 

2. Dyletswydd llesiant (y Cabinet)

4.30 Mae'r ddyletswydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgymryd â datblygu cynaliadwy, ac wrth wneud hynny osod amcanion llesiant sydd wedi'u cynllunio i wneud y mwyaf o'u cyfraniad at y saith nod llesiant. Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd gyhoeddi datganiad llesiant wrth osod eu hamcanion llesiant, ac adrodd yn flynyddol ar gynnydd. Unwaith y bydd amcanion llesiant wedi'u gosod, bydd angen i benderfyniadau'r Llywodraeth ddangos sut y maent yn helpu i'w cyflawni.

4.31 Gall hyn olygu bod angen cytundeb ar lefel y Cabinet o amcanion llesiant o'r fath. Er mwyn cyflawni'r bwriad o sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw'r brif egwyddor drefniadol ganolog, cynghorir cynnwys yr amcanion llesiant yn y Rhaglen Lywodraethu. Wrth osod amcanion llesiant, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

3. Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion (portffolio)

4.32 Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac i weithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae pob un o'r Gweinidogion yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cyflawni'r dyletswyddau hyn ac yn eu rhoi ar waith wrth wneud penderfyniadau yn eu portffolio. Rhaid iddynt wneud y canlynol:

  1. gwneud y mwyaf o'u cyfraniad at gyflawni'r nodau drwy gyflawni amcanion llesiant y Llywodraeth;
  2. gweithredu'n unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, sy'n golygu ceisio sicrhau bod anghenion cenedlaethau'r presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain;
  3. defnyddio'r pum ffordd o weithio fel rhan o'r egwyddor datblygu cynaliadwy (hirdymor, integreiddio, atal, cynnwys a chydweithio).

Bydd hyn yn ymdrin â llunio polisïau, penderfyniadau ariannol yn ogystal â dylanwadu ar eraill drwy grantiau, caffael a noddi cyrff cyhoeddus.

Sut y gall Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol gefnogi Gweinidogion Cymru?

Er bod gan Weinidogion Cymru ddyletswyddau penodol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae'n parhau i fod yn offeryn a all uno'r Llywodraeth, cyrff cyhoeddus, busnesau a'r cyhoedd yn ehangach i fynd i'r afael â'r heriau cynaliadwyedd hirdymor sy'n wynebu Cymru (e.e. anghydraddoldeb, newid yn yr hinsawdd, gwaith teilwng, iechyd).

Gall y fframwaith a ddarperir gan y Ddeddf helpu Gweinidogion Cymru i gyflawni eu hamcanion datganedig mewn ffordd fwy integredig, ac oherwydd bod y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried amcanion llesiant Gweinidogion Cymru, gall ddarparu ysgogiad ar gyfer dylanwadu ar weithredu lleol.

Dylai'r Ddeddf alluogi Gweinidogion i gael gwell cyngor ar gyfleoedd ac effaith ehangach penderfyniadau, gan gynnwys yr effeithiau ar genedlaethau'r dyfodol. Mae cyngor ar wahân ar y broses o ddatblygu polisi wedi'i ddarparu. Her allweddol yw sicrhau nad yw'r fframwaith a'r gwaith o weithredu'r gofynion cyfreithiol yn cael eu hystyried fel 'ymarfer cydymffurfio arall' ond fel ffordd o alluogi darpariaeth fwy effeithiol a mwy integredig.

Partneriaeth gymdeithasol

4.33 Daeth Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn gyfraith ym mis Mai 2023, sy'n cyflawni'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i roi statws statudol i bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru. Ymhlith ei darpariaethau eraill, sefydlodd y Ddeddf Gyngor Partneriaeth Gymdeithasol statudol sy'n cynnwys Gweinidogion Cymru, cynrychiolwyr cyflogwyr (y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn ogystal ag addysg uwch ac addysg bellach), a chynrychiolwyr gweithwyr a enwebwyd gan TUC Cymru.

4.34 Mae'r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswyddau newydd ar Weinidogion Cymru. Mae'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar Weinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r llywodraeth ymgynghori â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol am y camau y mae'n bwriadu eu cymryd i weithredu ei nodau llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ym mis Ionawr 2024, cytunodd y Cabinet y byddai'r ddyletswydd yn cael ei chyflawni drwy ymgynghori â'r Cyngor yn flynyddol ar y tri sbardun trosfwaol sy'n sail i'r dull strategol o gyflawni Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru: y dull o flaenoriaethu cyllid drwy'r broses flynyddol o bennu'r gyllideb; blaenoriaethu deddfwriaeth fel y nodir yn y datganiad deddfwriaethol blynyddol; a'r asesiad o gynnydd drwy'r adolygiad blynyddol o amcanion llesiant. Cymeradwyodd y Cyngor y dull hwn yn ei gyfarfod cyntaf ar 1 Chwefror 2024.

4.35 Mae'r Ddeddf hefyd yn darparu ar gyfer dyletswyddau caffael a rheoli contractau cymdeithasol gyfrifol newydd ar awdurdodau contractio yng Nghymru sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt geisio gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol wrth ymgymryd â chaffael, gosod amcanion mewn perthynas â nodau llesiant, a chyhoeddi strategaeth gaffael. Bydd disgwyl i gyrff cyhoeddus gyflawni dyletswyddau rheoli contractau er mwyn iddynt geisio sicrhau canlyniadau cymdeithasol gyfrifol drwy gadwyni cyflenwi.

4.36 Bydd gan gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru gyfrifoldebau adrodd mewn perthynas â'r dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol a chaffael.

4.37 Mae'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol statudol yn ymgorffori safle undebau llafur a chynrychiolwyr cyflogwyr wrth roi cyngor i Weinidogion ar y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol a chaffael cymdeithasol gyfrifol a mynd ar drywydd nod llesiant "Cymru lewyrchus" gan gyrff cyhoeddus.

4.38 Mae model partneriaeth gymdeithasol Cymru o ymgysylltu yn mynd y tu hwnt i'r darpariaethau yn y ddeddfwriaeth. Ers datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi annog gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol fel ffordd o ddod o hyd i'r atebion gorau i'r heriau sy'n wynebu Cymru. Felly, mae llawer o drefniadau partneriaeth gymdeithasol ar draws portffolios Gweinidogol gydag undebau llafur a chynrychiolwyr cyflogwyr. Er mwyn creu ffyrdd mwy aeddfed o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, mae dull mwy cyson o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn cael ei fabwysiadu ar gyfer trefniadau partneriaeth gymdeithasol ar lefel genedlaethol. Mae partneriaethau cymdeithasol ffurfiol yn seiliedig ar ffordd o weithio sydd wedi'i chynllunio i fynd ar drywydd buddion cyffredin yng nghyd-destun datblygu a gweithredu polisi, neu newid dull gweithredu, ond na chaiff ei defnyddio'n bennaf fel fforwm ar gyfer cyfnewid gwybodaeth neu fargeinio ar y cyd.

Cymraeg 2050

4.39 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygiad a chynaliadwyedd hirdymor y Gymraeg a dwyieithrwydd yng Nghymru. Mae Cymraeg 2050 yn darparu sail ac uchelgais polisi hirdymor ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a chynyddu canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bob dydd o 10% (yn 2013 i 2015) i 20% erbyn 2050 yn unol â Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol. Yn ogystal â'r polisi allanol hwn, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi'i rhwymo gan ddyletswyddau deddfwriaethol ac uchelgais i weithredu fel sefydliad sy'n dangos esiampl o ran polisi dwyieithog.

4.40 Mae ail raglen waith Cymraeg 2050 (2021-2026) yn parhau i ganolbwyntio ar sefydlu seilwaith i gyflawni ein targedau hirdymor drwy gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg, cryfhau ein cymunedau Cymraeg, meithrin gallu cynllunio ieithyddol ac arbenigedd gwyddorau ymddygiadol, dyfnhau ein sylfaen dystiolaeth, a datblygu strategaeth gynhwysol ar gyfer sut rydym yn 'siarad' am yr iaith.

4.41 Heb os, cafodd y pandemig effaith ar sgiliau plant a phobl ifanc, yn enwedig o ran eu hyder yn yr iaith. Fe wnaeth effeithio hefyd ar hyfywedd cymunedau Cymraeg. Mae ein cynlluniau gweithredu blynyddol diweddaraf ar gyfer Cymraeg 2050 wedi cynnwys prosiectau a chynlluniau i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Canlyniadau Cyfrifiad 2021

4.42 Ar 6 Rhagfyr 2022, cyhoeddwyd y data cyntaf sy'n ymwneud â'r Gymraeg o Gyfrifiad 2021, gan roi'r arwydd gwrthrychol cyntaf inni o gynnydd tuag at gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr (Y Gymraeg yng Nghymru - Cyfrifiad 2021).

4.43 Roedd Cyfrifiad 2021 yn nodi bod 538,300 o bobl tair oed neu hŷn yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, neu 17.8% o’r boblogaeth. Roedd hyn 1.2 pwynt canran yn is neu 23,700 o bobl yn llai ers Cyfrifiad 2011, lle'r oedd tua 562,000 o siaradwyr Cymraeg (neu 19.0% o’r boblogaeth).

4.44 Dau faes pwysig i'w nodi yw'r cwymp ymhlith plant 5–15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg a'r newid yn ein cymunedau Cymraeg. Mae'r data yn ein hatgoffa bod rhaid inni ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  1. Mae angen cryfhau ein dull o addysgu'r Gymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg. Bydd Bil y Gymraeg ac Addysg, a osodwyd gerbron y Senedd ar 15/07/24, yn allweddol i sicrhau gwell deilliannau iaith i ddysgwyr ym mhob ysgol, gan gynnwys y rhai sydd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Y nod yw y bydd pob disgybl, beth bynnag fo'r cyfrwng addysgu, yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg statudol ac yn awyddus i ddefnyddio ei sgiliau iaith yn y gymuned, yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd.
  2. Roedd yr ail ddirywiad nodedig yn ein cymunedau Cymraeg traddodiadol. Mae arolwg ieithyddol-gymdeithasol mawr ar y gweill i ddeall yn well beth sydd y tu ôl i'r dirywiad er mwyn inni allu cyflwyno ymyriadau priodol i wyrdroi'r tueddiad.
    Bydd y gwaith hwn yn cefnogi cylch gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a sefydlwyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd ym mis Awst 2022. Roedd creu Comisiwn yn un o argymhellion yr adroddiad Ail Gartrefi: Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru (2021), a amlygodd yr heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg o ganlyniad i ailstrwythuro economaidd-gymdeithasol, a hynny yn sgil penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd ac effaith pandemig COVID-19.
    Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad terfynol a'i argymhellion i Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2024. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gynnar yn 2025, a bydd y Comisiwn yn awr yn edrych ar yr heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg mewn rhannau eraill o Gymru a thu hwnt. Bydd y rhain yn cynnwys ardaloedd twf yn y De-ddwyrain.

4.45 Mae arolygon eraill yn dangos tueddiadau gwahanol o ran nifer y bobl a all siarad Cymraeg. Er enghraifft, dengys yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth bod 862,700 o bobl tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, neu 28.0% o’r boblogaeth. Ym mis Ebrill 2023, fe wnaethom gyhoeddi cynllun gwaith ar y cyd â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n manylu ar waith pellach y byddwn yn ei wneud gyda'n gilydd i wella ein dealltwriaeth o'r gwahaniaethau hyn er mwyn parhau i gynhyrchu ystadegau gwerthfawr a defnyddiol am y Gymraeg.

4.46 Rhaid cofio nad yw’r arolygon hyn yn mesur defnydd iaith. Mae'r niferoedd sy'n defnyddio ein hiaith yr un mor bwysig i weledigaeth Cymraeg 2050 ag yw nifer y siaradwyr, ac ni ddylem golli golwg ar hynny.

4.47 Mae datblygu polisi iaith Gymraeg yn gofyn am weithredu a sylw ar draws y rhan fwyaf o feysydd polisi'r llywodraeth, o dai i'r economi, o amaethyddiaeth i iechyd ac o ddiwylliant i gynllunio. Mae gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg yn gynhwysol, hynny yw bod y Gymraeg yn ased cenedlaethol, yn iaith i bawb ac yn ffordd o uno pobl o wahanol gefndiroedd yn gyfartal. Mae'r neges hon yn rhan o'n naratif mewnol ac allanol yn ogystal â'n hymdeimlad o bwy ydym ni yng Nghymru.

4.48 Bydd cynnydd tuag at yr uchelgeisiau a nodir yn Cymraeg 2050 yn gofyn am y canlynol:

  • ymyriadau cynllunio ieithyddol a newid ymddygiad penodol o dan arweiniad portffolio Gweinidogol y Gymraeg
  • gweithredu ar draws pob maes polisi i greu amodau economaidd-gymdeithasol ffafriol i hwyluso nodau'r strategaeth

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg o fewn y sefydliad: strategaeth defnydd mewnol a chydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg

Cyflwyniad i strategaeth Llywodraeth Cymru ar y defnydd mewnol o'r Gymraeg: 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd'

4.49 Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw bod yn sefydliad cwbl ddwyieithog erbyn 2050, sy'n golygu y bydd y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu defnyddio'n naturiol ac yn gyfnewidiol fel ieithoedd gwaith y Llywodraeth. Er mwyn cyflawni hyn, ein nod yw y bydd holl staff Llywodraeth Cymru yn gallu deall y Gymraeg erbyn 2050. Mae defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle yn rhoi mwy o bwrpas a pherthnasedd i'r iaith, ac mae hyn yn arbennig o wir i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg. Mae copi o'r strategaeth ar gael yma: Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd.

4.50 Cafodd y strategaeth hon ei lansio ym mis Ebrill 2020. Yn ystod y pum mlynedd gyntaf, rydym wedi rhannu nodau'r strategaeth yn eang er mwyn dangos arweinyddiaeth ac ysbrydoli sefydliadau eraill i ystyried eu hamcanion hirdymor wrth hyrwyddo'r iaith i'w gweithlu a chwarae eu rhan wrth gyflawni nod y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Gweithredu'r Strategaeth a'r amcan cychwynnol 2020-2025

4.51 Mae dod yn sefydliad dwyieithog yn golygu newid graddol, ac mae'r egwyddorion canlynol wedi bod yn sail i'n gweithgareddau wrth weithredu'r strategaeth yn ystod y pum mlynedd gyntaf:

  • Gwneud ymrwymiad hirdymor ac arwain y ffordd: newid yn raddol, dros amser, gan arwain drwy esiampl yn y gweithle.
  • Buddsoddi yn ein staff a chynnig cyfleoedd iddynt ddysgu Cymraeg a meithrin sgiliau ieithyddol: mae'n hanfodol darparu hyfforddiant effeithiol a hwylus, gan roi amser a chymhelliant i bobl wella'u sgiliau Cymraeg yn barhaus.
  • Parhau i fod yn sefydliad agored, cynhwysol ac amrywiol: mae gan bawb y potensial i fod yn siaradwr Cymraeg – er y bydd sgiliau Cymraeg yn fwyfwy angenrheidiol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi, nid yw meithrin gweithle dwyieithog yn golygu nac yn awgrymu bod y sgiliau hynny'n ofynnol ar gyfer ymuno â Llywodraeth Cymru.
  • Mynd ati'n rheolaidd i adolygu ein ffyrdd o weithio er mwyn hwyluso mwy o ddefnydd o'r Gymraeg: pan fyddwn yn cyflwyno polisïau a mentrau mewnol newydd, byddwn yn adolygu i ba raddau maent yn cynnig cyfleoedd pellach i'r staff ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith beunyddiol.

4.52 Mae deg cam gweithredu wedi'u nodi yn y strategaeth, sydd wedi ein helpu i gyflawni'r amcan o ddod yn sefydliad sy'n dangos esiampl dros y pum mlynedd gyntaf. Mae'r camau hyn yn seiliedig ar y themâu canlynol: arweinyddiaeth, dysgu, recriwtio a thechnoleg.

4.53 Mae ein cynnig dysgu iaith i staff yn gynnig amrywiol a hyblyg sy'n darparu opsiynau ar gyfer dysgu sy'n addas ar gyfer ystod eang o arddulliau dysgu. Mae ei hyblygrwydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu dwys, cyrsiau preswyl, dysgu hunangyfeiriedig ar-lein yn ogystal â dysgu traddodiadol wythnosol yn y dosbarth. Mae wedi gafael yn nychymyg staff Llywodraeth Cymru gyda chynnydd o dros 740% yn nifer y dysgwyr sydd bellach yn dilyn rhaglen ddysgu ffurfiol ers 2020. Yn ein llenyddiaeth recriwtio, rydym yn pwysleisio bod y Gymraeg yn cael ei gweld fel ased yn y sefydliad, ni waeth beth yw'r rôl, ac rydym wedi canolbwyntio ar rannu negeseuon gyda'n huwch-arweinwyr ynghylch modelu ymddygiad enghreifftiol yn y ffordd y maent yn arwain ar y Gymraeg. Rydym yn parhau i hyrwyddo'r offer digidol sydd ar gael i helpu ein staff i weithio'n ddwyieithog. Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn prosiect dwy flynedd o dan arweiniad Comisiynydd y Gymraeg ar ddatblygu gweithleoedd dwyieithog. Nod y prosiect yw rhannu gwybodaeth ac arferion da gyda gweithleoedd ledled Cymru wrth weithio tuag at weledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

4.54 Rydym bellach yn gweithio ar ddatblygu amcanion ar gyfer y fersiwn nesaf o'r strategaeth ac yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi i olrhain taith y gweithlu o ran sgiliau Cymraeg hyd at 2050.

Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru â Safonau’r Gymraeg

4.55 Mae'n wyth mlynedd ers i Safonau'r Gymraeg ddod i rym, o dan ofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi gweld gofynion y dyletswyddau yn dod yn rhan annatod o'r sefydliad. Mae staff Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i'r newidiadau ac mae ymwybyddiaeth o ofynion y Safonau yn uchel ar y cyfan. Mae'r Safonau wedi cael dylanwad cadarnhaol ar y defnydd o'r Gymraeg yn y llywodraeth, yn enwedig ar y gwasanaethau y gall y cyhoedd, ein rhanddeiliaid a'n staff eu disgwyl drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae dealltwriaeth gyffredinol ymhlith staff bod cydymffurfio â'r Safonau yn golygu cynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol a bod hyn yn sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid dwyieithog o ansawdd uchel.

4.56 Dros y cyfnod nesaf, byddwn yn canolbwyntio'n benodol ar y safonau llunio polisïau ar gyfer y Safonau ac yn sicrhau bod ystyriaethau ieithyddol yn cael eu prif ffrydio drwy ein prosesau polisi a deddfwriaethol.