Mae'r tablau yn rhoi cipolwg ar economi Cymru ac yn manylu ar y perthnasoedd prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau rhwng pob rhan ohoni ar gyfer 2022.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn
Tablau cyflenwad, defnydd a thablau mewnbwn-allbwn
Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyflwyno’r ail set o dablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn ar gyfer Cymru, sy’n cwmpasu 2022.
Rydym yn cyhoeddi 3 thabl craidd:
- tabl cyflenwad cryno sy’n dangos cyflenwad pob cynnyrch yn ôl tarddiad daearyddol, trethi, cymorthdaliadau, a gorsymiau masnachu dosbarthwyr
- tabl defnydd sy’n dangos sut mae diwydiannau a defnyddwyr terfynol yn defnyddio pob cynnyrch, gan gynnwys y defnydd ar gyfer buddsoddi ac allforion
- tabl mewnbwn-allbwn sy’n dangos beth mae pob diwydiant yn ei brynu gan ddiwydiannau eraill yng Nghymru, rôl mewnforion yn y broses gynhyrchu, a sut mae’r allbwn yn cael ei ddefnyddio yn y pen draw
Gyda’i gilydd, mae’r tablau hyn yn dangos llifoedd nwyddau a gwasanaethau rhwng diwydiannau Cymru, aelwydydd, llywodraeth, gweddill y DU a gweddill y byd.
Mae’r tablau a’r gael ar y dudalen hon mewn fformat Taenlen OpenDocument (ODS) ac ar StatsCymru. Mae adroddiad methodoleg manwl hefyd ar gael ar y dudalen hon.
Lluosyddion economaidd dangosol
Rydym hefyd yn cyhoeddi lluosyddion economaidd dangosol ar gyfer 2022. Mae’r rhain yn dangos sut y gallai newidiadau yn y galw am allbwn diwydiant effeithio economi Cymru yn ehangach.
Mae’r lluosyddion ar gael ar y dudalen hon ar ffurf ODS ac ar StatsCymru. Rydym yn annog defnyddwyr i adolygu’r erthygl ystadegol ategol am arweiniad ar sut i ddehongli a defnyddio’r lluosyddion.
Cymharu â chyhoeddiadau blaenorol
Ni ddylid cymharu’r tablau a’r lluosyddion â chyhoeddiad 2019, gan fod y dulliau, ffynonellau data a’r ffordd y cyflwynir y data wedi cael eu haddasu’n sylweddol.
Ansawdd
Dynodir y tablau hyn yn Ystadegau Swyddogol o dan Ddatblygiad (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau). Mae’r adroddiad methodoleg yn amlinellu’r cyfyngiadau sy’n wybyddus, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud ag argaeledd ac ansawdd data.
Byddwn yn parhau i ddatblygu’r ystadegau hyn drwy::
- ymgysylltu â defnyddwyr i ddeall eu gofynion yn well
- wella’r dulliau a ddefnyddir i greu’r tablau
- weithio gyda darparwyr data i wella argaeledd ac ansawdd data economaidd ar gyfer Cymru
- archwilio potensial ffynonellau data newydd i wella’r tablau
Adborth
Rydym yn croesawu adborth ar yr ystadegau hyn. Anfonwch sylwadau drwy e-bost i tablaumewnbwnallbwn@llyw.cymru.
Diolchiadau
Hoffem ddiolch i’r Athro Calvin Jones am ei gymorth a’i arbenigedd drwy gydol y prosiect hwn.
Rydym hefyd yn diolch i gyd-weithwyr yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Llywodraeth yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon am eu harweiniad.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Tablau cyflenwad, defnydd a thablau mewnbwn-allbwn: 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 321 KB
Cyswllt
Tîm tablau mewnbwn-allbwn
E-bost: tablaumewnbwnallbwn@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
