Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r tablau yn rhoi cipolwg ar economi Cymru ac yn manylu ar y perthnasoedd prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau rhwng pob rhan ohoni ar gyfer 2022.

Tablau cyflenwad, defnydd a thablau mewnbwn-allbwn

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyflwyno’r ail set o dablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn ar gyfer Cymru, sy’n cwmpasu 2022.

Rydym yn cyhoeddi 3 thabl craidd:

  • tabl cyflenwad cryno sy’n dangos cyflenwad pob cynnyrch yn ôl tarddiad daearyddol, trethi, cymorthdaliadau, a gorsymiau masnachu dosbarthwyr
  • tabl defnydd sy’n dangos sut mae diwydiannau a defnyddwyr terfynol yn defnyddio pob cynnyrch, gan gynnwys y defnydd ar gyfer buddsoddi ac allforion
  • tabl mewnbwn-allbwn sy’n dangos beth mae pob diwydiant yn ei brynu gan ddiwydiannau eraill yng Nghymru, rôl mewnforion yn y broses gynhyrchu, a sut mae’r allbwn yn cael ei ddefnyddio yn y pen draw

Gyda’i gilydd, mae’r tablau hyn yn dangos llifoedd nwyddau a gwasanaethau rhwng diwydiannau Cymru, aelwydydd, llywodraeth, gweddill y DU a gweddill y byd.

Mae’r tablau a’r gael ar y dudalen hon mewn fformat Taenlen OpenDocument (ODS) ac ar StatsCymru. Mae adroddiad methodoleg manwl hefyd ar gael ar y dudalen hon.

Lluosyddion economaidd dangosol

Rydym hefyd yn cyhoeddi lluosyddion economaidd dangosol ar gyfer 2022. Mae’r rhain yn dangos sut y gallai newidiadau yn y galw am allbwn diwydiant effeithio economi Cymru yn ehangach.

Mae’r lluosyddion ar gael ar y dudalen hon ar ffurf ODS ac ar StatsCymru. Rydym yn annog defnyddwyr i adolygu’r erthygl ystadegol ategol am arweiniad ar sut i ddehongli a defnyddio’r lluosyddion.

Cymharu â chyhoeddiadau blaenorol

Ni ddylid cymharu’r tablau a’r lluosyddion â chyhoeddiad 2019, gan fod y dulliau, ffynonellau data a’r ffordd y cyflwynir y data wedi cael eu haddasu’n sylweddol.

Ansawdd

Dynodir y tablau hyn yn Ystadegau Swyddogol o dan Ddatblygiad (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau). Mae’r adroddiad methodoleg yn amlinellu’r cyfyngiadau sy’n wybyddus, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud ag argaeledd ac ansawdd data.

Byddwn yn parhau i ddatblygu’r ystadegau hyn drwy::

  • ymgysylltu â defnyddwyr i ddeall eu gofynion yn well
  • wella’r dulliau a ddefnyddir i greu’r tablau
  • weithio gyda darparwyr data i wella argaeledd ac ansawdd data economaidd ar gyfer Cymru
  • archwilio potensial ffynonellau data newydd i wella’r tablau

Adborth

Rydym yn croesawu adborth ar yr ystadegau hyn. Anfonwch sylwadau drwy e-bost i tablaumewnbwnallbwn@llyw.cymru.

Diolchiadau

Hoffem ddiolch i’r Athro Calvin Jones am ei gymorth a’i arbenigedd drwy gydol y prosiect hwn.

Rydym hefyd yn diolch i gyd-weithwyr yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Llywodraeth yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon am eu harweiniad.

Cyswllt

Tîm tablau mewnbwn-allbwn

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.