Rydym yn gofyn am eich barn ar ddiwygio llywodraethu dŵr i Gymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Sefydlodd Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, y Comisiwn Dŵr Annibynnol (y Comisiwn) ar y cyd i ddarparu cyngor annibynnol ar ddyfodol llywodraethu dŵr yng Nghymru a Lloegr. Cyhoeddodd y Comisiwn adroddiad ym mis Gorffennaf 2025 yn tynnu sylw at ganfyddiadau ac argymhellion y Comisiwn gyda'r nod o "ailosod" y sector dŵr yn sylfaenol.
Mae'r Papur Gwyrdd hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i lunio dyfodol llywodraethu dŵr yng Nghymru. Mae'n:
- cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Comisiwn Dŵr Annibynnol;
- yn rhoi cyfle i ystyried ble y gallai fod angen newidiadau i bolisi a deddfwriaeth i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer dŵr yng Nghymru; ac
- yn helpu i lywio'r ddadl ar newidiadau posibl i'r sector dŵr yng Nghymru.
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 913 KB
Help a chymorth
Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch: CCES.StrategyAndChangeTeam@gov.wales
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 7 Ebrill 2026, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
E-bost
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i: CCES.StrategyAndChangeTeam@gov.wales
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Yr Is-adran Newid Hinsawdd a Chynaliadwyedd Amgylcheddol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
