Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 7 Ebrill 2026.

Cyfnod ymgynghori:
3 Chwefror 2026 i 7 Ebrill 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn gofyn am eich barn ar ddiwygio llywodraethu dŵr i Gymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Sefydlodd Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, y Comisiwn Dŵr Annibynnol (y Comisiwn) ar y cyd i ddarparu cyngor annibynnol ar ddyfodol llywodraethu dŵr yng Nghymru a Lloegr. Cyhoeddodd y Comisiwn adroddiad ym mis Gorffennaf 2025 yn tynnu sylw at ganfyddiadau ac argymhellion y Comisiwn gyda'r nod o "ailosod" y sector dŵr yn sylfaenol.  

Mae'r Papur Gwyrdd hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i lunio dyfodol llywodraethu dŵr yng Nghymru. Mae'n: 

  • cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Comisiwn Dŵr Annibynnol; 
  • yn rhoi cyfle i ystyried ble y gallai fod angen newidiadau i bolisi a deddfwriaeth i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer dŵr yng Nghymru; ac 
  • yn helpu i lywio'r ddadl ar newidiadau posibl i'r sector dŵr yng Nghymru.

Nodyn: Anonymeiddio ymatebion

Mae'r ddogfen ymgynghori a gyhoeddwyd yn rhan o’r ymgynghoriad hwn yn adlewyrchu fersiwn gynharach o eiriad Llywodraeth Cymru ynghylch anonymeiddio ymatebion. Ers hynny mae ein gweithdrefnau wedi'u diweddaru fel bod ymatebion i ymgynghoriad yn cael eu trin fel rhai dienw yn ddiofyn. Mae unrhyw ddata personol bellach yn cael eu tynnu cyn cyhoeddi’r ymateb, oni bai bod ymatebwyr yn gofyn yn benodol fel arall.

Bydd y dull wedi'i ddiweddaru hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl ymatebion a ddaw i law ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 913 KB

PDF
913 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Help a chymorth

Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch: CCES.StrategyAndChangeTeam@gov.wales