Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

7.1 Caiff cysylltiadau rhynglywodraethol eu cynnal drwy amrywiaeth o strwythurau a phrosesau: mecanweithiau ffurfiol; perthnasoedd dwyochrog; strwythurau ar gyfer cydweithredu mewn meysydd pwnc; Fframweithiau Cyffredin; a chyfarfodydd ad-hoc. Mae'r strwythurau a'r prosesau hyn yn cynnwys ymgysylltu swyddogol a Gweinidogol, ond ni chânt eu hadlewyrchu yn y gyfraith yn gyffredinol.

7.2 Mae'r Tîm Cysylltiadau Rhynglywodraethol yn Is-adran y Cyfansoddiad a Thribiwnlysoedd Cymru yn gyfrifol am helpu i sicrhau bod llais Llywodraeth Cymru yn cael ei glywed ar draws y DU, a bod Llywodraeth Cymru yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd rhynglywodraethol effeithiol.

Yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol / Cyd-bwyllgor y Gweinidogion

7.3 Yn 2018, comisiynodd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion adolygiad ar y cyd o gysylltiadau rhynglywodraethol. Cytunwyd ar ganlyniad terfynol yr Adolygiad hwnnw gan bob un o'r pedair llywodraeth ym mis Ionawr 2022, ac yn ei sgil sefydlwyd y prif strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol ar gyfer y DU. Mae dogfen yr Adolygiad ar gael yma.

7.4 Mae'r Adolygiad yn nodi egwyddorion y cytunwyd arnynt, sy'n gymwys i bob math o weithio rhynglywodraethol:

  1. Cynnal cysylltiadau cadarnhaol ac adeiladol, yn seiliedig ar barch at gyfrifoldebau'r llywodraethau a'u rôl gyffredin o ran llywodraethiant y DU
  2. Meithrin a chynnal ymddiriedaeth, yn seiliedig ar gyfathrebu effeithiol
  3. Rhannu gwybodaeth a pharchu cyfrinachedd
  4. Hyrwyddo dealltwriaeth o'u gweithgarwch rhynglywodraethol ac atebolrwydd amdano
  5. Datrys anghydfodau yn unol â phroses glir y cytunwyd arni.

7.5 Sefydlodd yr Adolygiad hefyd system sylweddol ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol, sy'n cynnwys tair 'haen':

  • Cyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau
  • Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol a'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid
  • Y Grwpiau Rhyngweinidogol, sy'n gweithredu yn ôl portffolio.

7.6 Mae Ysgrifenyddiaeth annibynnol ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol wedi'i sefydlu i gefnogi gwaith a wneir o dan yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol - er mai'r llywodraethau, ac nid yr ysgrifenyddiaeth, sy'n atebol am gysylltiadau rhynglywodraethol i ddeddfwrfeydd ac yn ehangach.

7.7 Roedd yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol hefyd yn cynnwys mecanweithiau newydd i ganiatáu i lywodraethau godi 'anghydfodau' ffurfiol, a allai gael eu datrys drwy gyngor trydydd parti neu drwy gyfryngu (gweler, yn benodol, Atodiad D i'r Adolygiad). Nid oes unrhyw anghydfod wedi mynd drwy'r broses gyfan hyd yn hyn.

Y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

7.8 Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn rheolaidd am faterion sy'n ymwneud â chysylltiadau rhynglywodraethol yn y Cyfarfod Llawn, mewn pwyllgorau, a thrwy ddatganiadau a gohebiaeth. Cyhoeddir ein gohebiaeth ar wefan y Senedd.

7.9 O dan delerau'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol rhwng Llywodraeth Cymru a'r Senedd a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bwyllgorau'r Senedd am faterion sy'n ymwneud â chysylltiadau rhynglywodraethol, gan gynnwys eu hysbysu cyn cyfarfodydd ffurfiol a gynhelir o dan yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol a gosod Adroddiad blynyddol ar Gysylltiadau Rhynglywodraethol.

Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

7.10 Mae'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn un o'r sefydliadau a grëwyd fel rhan o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith (neu Gytundeb Belfast). Ei aelodau yw Gweriniaeth Iwerddon, Llywodraeth y DU, llywodraethau datganoledig Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban, a llywodraethau Tiriogaethau Dibynnol y Goron y DU: Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw. Ei ddiben ffurfiol yw hyrwyddo datblygu, mewn ffordd gytûn a buddiol i bob ochr, yr holl gysylltiadau ymhlith pobl yr ynysoedd hyn. Bydd y Cyngor yn cyfnewid gwybodaeth, trafod, ymgynghori a gwneud ei orau i ddod i gytundeb ynghylch cydweithredu ar faterion sydd o ddiddordeb i bob ochr ac sydd o fewn cymhwysedd y gweinyddiaethau perthnasol.

7.11 Mae'r aelod-weinyddiaethau yn gweithio gyda'i gilydd ar nifer o sectorau gwaith, gan gynnwys Ieithoedd Brodorol, Lleiafrifol a Llai eu Defnydd a'r Polisi Blynyddoedd Cynnar (sy'n cael ei arwain gan Gymru), Cynhwysiant Cymdeithasol (sy'n cael ei arwain ar y cyd gan Gymru â'r Alban), ac Ynni ymhlith eraill.

7.12 Yn gyffredinol, cynhelir uwchgynadleddau'r Cyngor ddwywaith y flwyddyn, ac mae pob gweinyddiaeth yn cymryd ei thro i'w cynnal yn seiliedig ar rota y cytunwyd arni. Yn draddodiadol, mae pob uwchgynhadledd yn ystyried sector gwaith penodol ynghyd â materion ehangach sy'n effeithio ar y gweinyddiaethau. Yn gyffredinol, bydd y Prif Weinidog yn mynd i'r uwchgynadleddau, ac weithiau bydd y Gweinidog perthnasol dros y sector gwaith neu'r pwnc sy'n cael ei drafod yn mynd hefyd. Yn ogystal, mae'n bosibl y bydd y Cyngor yn cynnal uwchgynadleddau eithriadol pan fydd angen trafod mater amserol brys. Cliciwch ar y dolenni canlynol i gael rhagor o wybodaeth am gefndir a rôl y Cyngor:

Rhagor o wybodaeth am gefndir a rôl y Cyngor.

Fforymau gweinidogol eraill

7.13 Gall Prif Weinidog y DU, neu un o Weinidogion eraill Llywodraeth y DU fel y bo'n briodol, wahodd Gweinidogion Cymru (a Gweinidogion o'r llywodraethau datganoledig eraill), i ymuno â chyfarfodydd Pwyllgor Argyfyngau Sifil Posibl y DU (y cyfeirir ato'n gyffredinol fel 'COBR' - Ystafell Friffio Swyddfa'r Cabinet) a sefydlir, weithiau heb fawr ddim rhybudd, i ymateb i ddigwyddiadau / argyfyngau mawr. Gweler Adran 2 uchod, 'Gwydnwch ac Argyfyngau' (paragraffau 2.64-2.78). Yn fwyaf diweddar, mae COBR wedi cyfarfod i drafod materion sy'n gysylltiedig â phandemig y Coronafeirws. COBR yw'r uwch gorff gwneud penderfyniadau Gweinidogol sy'n goruchwylio ymateb y DU i argyfwng.

7.14 Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi sefydlu cyngor newydd o'r enw Cyngor y Gwledydd a'r Rhanbarthau, a gyfarfu am y tro cyntaf ym mis Hydref 2024.

Fframweithiau cyffredin

7.15 Mae Fframweithiau Cyffredin yn gytundebau rhynglywodraethol sy'n nodi sut y bydd llywodraethau'r DU yn gweithio gyda'i gilydd i reoli meysydd polisi a lywodraethwyd yn flaenorol gan yr UE, ond sydd bellach yn rhan o feysydd datganoledig. Sefydlwyd y Rhaglen Fframweithiau Cyffredin gan Gyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ym mis Hydref 2017 (ac fe'i cymeradwywyd wedyn gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon ym mis Mehefin 2020). Yr Hysbysiad cysylltiedig yw'r ddogfen graidd sylfaenol o hyd. Fe wnaeth bodolaeth y rhaglen hwyluso'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr UE (Ymadael), gan gefnogi Llywodraeth Cymru yn y pen draw i argymell rhoi cydsyniad a darparu cyd-destun pwysig ar gyfer cytundeb y Senedd.

7.16 Mae dogfennaeth y Rhaglen a'r fframweithiau yn eiddo i'r pedair gwlad. Yn Llywodraeth Cymru, caiff Fframweithiau unigol eu rheoli o fewn meysydd portffolio, ac mae'r Tîm Fframweithiau Cyffredin yn Is-adran y Cyfansoddiad a Thribiwnlysoedd Cymru yn cydlynu gwaith Llywodraeth Cymru ar y rhaglen, yn cefnogi timau polisi ac yn ceisio sicrhau dulliau cydlynol o ymdrin â'r materion trawsbynciol sy'n codi (megis rhyngweithio â materion rhyngwladol).