Diben
4.1 Mae'r nodyn hwn yn nodi sut y gallwch ddisgwyl i weision sifil roi cyngor polisi ichi ar gyflawni eich amcanion polisi. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno ar ffurf Cyngor Gweinidogol. Mae'n rhoi gwybodaeth gryno am y broses a'r egwyddorion ar gyfer llunio polisïau da, asesu effaith, a'r berthynas â swyddogion. Mae hefyd yn fan cychwyn ar gyfer trafodaethau gyda swyddogion ynghylch cyflawni eich blaenoriaethau. Mae'r nodyn hwn yn cyd-fynd â fframwaith ehangach Cod y Gwasanaeth Sifil.
Cyngor polisi
4.2 Yr Ysgrifennydd Parhaol yw prif gynghorydd polisi'r Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru. Rôl y Gwasanaeth Sifil yw eich cefnogi i gyflawni'r ymrwymiadau a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu yn llwyddiannus drwy lunio polisïau a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol. Dylech ddisgwyl i'r Gwasanaeth Sifil ddarparu cyngor polisi o ansawdd uchel i gyflawni eich amcanion. Y nod yw eich helpu i wneud penderfyniadau y mae modd eu cyflawni, sy'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau sydd ar gael ac sy'n cydnabod gofynion a chyfyngiadau gwleidyddol.
4.3 Dylech ddisgwyl i swyddogion:
- Sicrhau bod gwaith datblygu polisi yn canolbwyntio ar gyflawni'r ymrwymiadau a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu a chanlyniadau ac amcanion polisi datganedig.
- Darparu cyngor cadarn, creadigol a diduedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys tystiolaeth o'r effaith bosibl (drwy Asesiad Effaith Integredig).
- Gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws y sefydliad a chyda phartneriaid cyflawni allanol i sicrhau bod polisi yn cael ei ddatblygu a'i gyflawni mewn ffordd gydgysylltiedig ac effeithiol.
Y broses a'r egwyddorion ar gyfer llunio polisïau
4.4 Anogir swyddogion Llywodraeth Cymru i ddilyn pum cam y cylch polisi, ac i ystyried y pum prawf ar gyfer llunio polisïau, a'r pum ffordd o weithio'n gynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae hyn er mwyn adeiladu achos cynhwysfawr a chytbwys i'ch cynghori ar gyflawni eich amcanion polisi.
4.5 Mae pum cam y cylch polisi fel a ganlyn:
- Yr Achos dros Newid – Bwriad y cam hwn yw deall y broblem y mae'r Llywodraeth yn ceisio mynd i'r afael â hi, beth yw'r rhesymeg dros ymyrraeth y llywodraeth, a beth yw'r canlyniadau polisi a ddymunir.
- Yr Opsiynau – Bwriad y cam opsiynau yw nodi ac arfarnu'r dewisiadau amgen sydd ar gael i gyflawni'r canlyniad a ddymunir. Fel rhan o'r cam opsiynau, bydd swyddogion yn cyflwyno tystiolaeth ichi y maent wedi'i chasglu, gan gynnwys tystiolaeth o'r effaith bosibl. Erbyn diwedd y cam hwn, bydd swyddogion yn gallu rhoi cyngor ar sail tystiolaeth dda ichi, sy'n nodi gwahanol ffyrdd o gyflawni eich amcanion polisi ac argymhelliad cadarn. Yn ymarferol, efallai y bydd gwahanol fersiynau o gyngor yn cael eu rhoi ichi er mwyn ichi brofi a phennu cwmpas yr opsiynau hyn a'r argymhelliad a ffefrir.
- Yr Opsiwn a Ffefrir – Bwriad y cam hwn yw datblygu a phrofi'r opsiwn a ffefrir gennych ymhellach, gan sicrhau bod y cynnig yn canolbwyntio ar gyflawni drwyddi draw. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth fanylach am gostau, risgiau ac effaith.
- Gweithredu – Unwaith y byddwch wedi cymeradwyo'r opsiwn a ffefrir gennych, bydd swyddogion yn symud ymlaen i'r cam gweithredu. Yna, gellir trosglwyddo'r gwaith i swyddogion eraill a fydd yn arwain y gwaith o gyflawni a mireinio'r mecanweithiau gweithredu.
- Gwerthuso a monitro – Mae gwerthuso polisïau a dysgu gwersi ohonynt yn rhan hanfodol o wella. Dylai dadansoddi gwaith gwerthuso cynhwysfawr fod yn rhan hanfodol o ddatblygu a gweithredu polisi newydd.
4.6 Er bod y camau uchod yn cael eu cyflwyno mewn trefn gronolegol, bydd gwahanol fersiynau o gyngor polisi a allai gynnwys ailedrych ar gamau cynharach neu ailadrodd y cam opsiynau wrth fynd ymlaen i wneud penderfyniadau ynghylch gweithredu. Maent yn debyg i'r model busnes pum achos, ac yn ei ategu.
4.7 Er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael yr effaith orau bosibl a'u bod o'r safon uchaf bosibl, yn gosteffeithiol ac yn gynhyrchiol, mae dilyn dull digidol yn rhan allweddol o ddatblygu polisi da. Nid technoleg yw hanfod trawsnewid digidol. Mae'n golygu newid meddylfryd, defnyddio offer a sgiliau modern, gweithio'n agored ac ar y cyd, a rhoi defnyddwyr wrth wraidd polisi a chyflawni. Mae'n golygu dylunio gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y bobl sy'n mynd i'w defnyddio, nid dylunio yn seiliedig ar strwythurau sefydliadol.
4.8 Mae gwaith trawsnewid digidol da yn golygu dylunio gwasanaethau sy'n hygyrch, yn ddiogel ac yn syml fel bod pobl yn dewis eu defnyddio. Mae darparu gwasanaethau digidol da yn defnyddio methodoleg ystwyth sy'n cynnwys y camau darganfod (gofyn i ddefnyddwyr beth sydd ei angen arnynt), alffa (creu prototeip o'r gwasanaeth / polisi), beta (ei adeiladu a'i brofi ar rai defnyddwyr), a byw (sicrhau ei fod ar gael i bob defnyddiwr). Cefnogir hyn i gyd gan fodel o welliant parhaus sy'n seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr. Mae methodoleg ystwyth yn cyd-fynd yn agos â'r cylch datblygu polisi.
4.9 Mae'r pum prawf a ystyrir ar bob un o'r camau llunio polisi sy'n llywio'r cyngor a gewch fel a ganlyn:
- Yn cyd-fynd â'r Rhaglen Lywodraethu a blaenoriaethau Gweinidogol
- Yr effaith ar Gymru a'i phobl, yn awr ac yn y dyfodol
- Costau'r penderfyniad a/neu'r buddsoddiad – fforddiadwyedd a gwerth am arian
- Y mecanweithiau sydd ar gael i gyflawni'r newidiadau sy'n ofynnol mewn modd sy'n cydymffurfio
- Y trefniadau rheoli (gan gynnwys lle bydd angen i sawl Gweinidog gymeradwyo)
4.10 Mae'r pum ffordd o weithio y dylid eu dilyn wrth lunio polisïau, ac y mae Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig iddynt o dan ddyletswydd llesiant (egwyddor datblygu cynaliadwy) Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fel a ganlyn:
- Hirdymor – Meddwl am oblygiadau hirdymor y penderfyniad
- Integreiddio – Dilyn dull gweithredu integredig – drwy ddeall yr agweddau llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol
- Cydweithio – Deall pwy fydd angen bod yn rhan o'r gwaith o gyflawni'r amcanion polisi (partneriaid cyflawni)
- Cynnwys – Sicrhau bod y bobl sy'n debygol o gael eu heffeithio gan y polisi wedi'u cynnwys
- Atal – Deall yr achosion sylfaenol y mae'r amcan polisi yn anelu at fynd i'r afael â nhw ac ystyried ffyrdd o atal y problemau hyn rhag digwydd yn y dyfodol, neu ffyrdd o'u lleihau
4.11 Mae defnyddio dull digidol yn helpu i gefnogi'r ffyrdd hyn o weithio. Bydd gwasanaethau cyhoeddus digidol cydgysylltiedig yn cael eu darparu drwy gydweithio ac integreiddio, gan ailddefnyddio cydrannau a buddsoddiad presennol, lle bo hynny'n bosibl, i sicrhau'r gwerth mwyaf am arian a gwella cysondeb y profiad i ddefnyddwyr. Mae ymgysylltu da yn ein helpu i ddylunio gwasanaethau i bobl a fydd yn atal aneffeithlonrwydd a phrofiadau anghyson i’r dinesydd. Mae dylunio gwasanaethau mewn ffordd ailadroddus ac ystwyth sy'n rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf yn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu dylunio ar gyfer yr hirdymor a'u bod yn ddiogel ac yn hygyrch i'w defnyddio.
Asesu effaith
4.12 Yn ogystal â bod yn ddyletswydd statudol mewn rhai achosion (e.e. cydraddoldeb a hawliau plant), mae asesu effaith debygol polisïau (cadarnhaol/andwyol) yn elfen allweddol o lunio polisïau da yn Llywodraeth Cymru. I fod yn effeithiol, mae angen i hyn ddechrau'n gynnar a bod yn weithgaredd ailadroddus drwy gydol y broses o ddatblygu polisi, ac mae angen i'r canfyddiadau gael eu defnyddio i lywio opsiynau a'r opsiwn a ffefrir. Gall asesu effaith gynnwys tynnu ar ffynonellau data, teithiau cwsmeriaid, profiadau bywyd, adborth gan ddefnyddwyr, a gweithgareddau cydgynhyrchu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddeall effeithiau tebygol y polisi ar grwpiau penodol o bobl (er enghraifft asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb, asesiad o'r effaith ar hawliau plant, asesiad o'r effaith ar y Gymraeg, asesiad o'r effaith ar ddiogelu data) ac ystyried effeithiau ehangach megis effaith amgylcheddol. Gall dull Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol helpu i sicrhau bod yr effeithiau hyn yn cael eu hystyried mewn ffordd integredig.
4.13 Y ffordd rydym yn cofnodi ac yn tystiolaethu bod y Llywodraeth wedi asesu effaith penderfyniad neu bolisi penodol yw drwy gwblhau adrannau perthnasol o'n templed 'Asesiad Effaith Integredig'. Mae hon yn ddogfen sy'n cofnodi'r holl ffactorau sydd wedi'u hystyried, a lle bo hynny'n berthnasol ac yn gyfreithiol ofynnol, yn dogfennu'r effeithiau ar fater, poblogaeth neu leoliad penodol etc. Mae hefyd yn gyfle i lunio polisi mewn ffordd sy'n cyfrif am effeithiau posibl os caiff ei wneud yn ddigon cynnar. Yn dibynnu ar y gofynion cyfreithiol, bydd rhannau o'r Asesiad Effaith Integredig ac asesiadau eraill (e.e. cydraddoldeb a hawliau plant) yn cael eu cyhoeddi ar llyw.cymru.
Cael cyngor polisi
4.14 Fel y nodir uchod, mae Gweinidogion yn cael cyngor polisi ffurfiol drwy'r broses Cyngor Gweinidogol. Weithiau, bydd Cyngor Gweinidogol yn gofyn i Weinidog ei nodi yn unig. Pan ofynnir i Weinidogion wneud penderfyniad (h.y. ar gyllid), bydd Adroddiad ar Benderfyniad yn cael ei gyhoeddi gan swyddogion.
4.15 Bydd gan bob dogfen Cyngor Gweinidogol Ddatganiad Sicrwydd wedi'i lofnodi gan y Dirprwy Gyfarwyddwr. Mae hyn yn cadarnhau ei fod wedi'i fodloni bod blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru a goblygiadau trawsbortffolio wedi cael eu hystyried. Mae'r Dirprwy Gyfarwyddwr hefyd yn cadarnhau bod y drefn briodol wedi'i dilyn o ran y broses llunio polisïau, yn yr ystyr bod effeithiau wedi'u hasesu, defnyddwyr a rhanddeiliaid wedi'u cynnwys, opsiynau wedi'u hasesu, a dull cydweithredol ac integredig wedi'i ddilyn. Ni fydd angen ichi o reidrwydd weld manylion llawn y gwaith dadansoddi polisi, ond bydd angen ichi wybod canlyniadau'r asesiadau fel y gall y rhain lywio eich penderfyniadau.
Risgiau o ran llunio polisïau
4.16 Yn aml, bydd yn anodd dilyn y broses orau bosibl ar gyfer llunio polisïau a bydd adegau pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau ar frys, yn seiliedig ar dystiolaeth anghyflawn, a heb allu ymgysylltu'n llawn â'r rhai y mae'r penderfyniadau'n effeithio arnynt. Gall hyn arwain at ganlyniadau anfwriadol y gallai fod angen eu rheoli neu eu lliniaru yn ddiweddarach a dibynnu ar fwy o waith monitro a gwerthuso polisïau fel y gellir gwneud gwelliannau yn y dyfodol. Gall hefyd arwain at effeithiau y tu hwnt i dymor y Llywodraeth ar genedlaethau'r dyfodol. O dan yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd angen dull gweithredu cymesur.
4.17 Yn ymarferol, yr ymrwymiadau yn y maniffesto yw'r 'dewis a ffefrir' yn y cylch polisi. Fodd bynnag, gellir defnyddio'r broses datblygu polisi mewn ffordd ddefnyddiol o hyd i sefydlu ffordd gadarn a chosteffeithiol o weithredu'r maniffesto. O ran trosi'r ymrwymiadau yn y maniffesto yn bolisi a strategaeth weithredu glir, mae'n bosibl y bydd angen profi'r achos dros newid o hyd, gan gynnwys y dystiolaeth ar gyfer ymyrryd, anghenion defnyddwyr, materion allweddol ac opsiynau i sicrhau y gellir cyflawni'r canlyniad a ddymunir gan Weinidogion Cymru drwy bolisi penodol.
4.18 Mae ansawdd y berthynas rhwng Gweinidogion a swyddogion yn cael effaith sylweddol ar y gallu i gyflwyno opsiynau a chyngor amgen mwy creadigol, ac ar hynny'n cael ei dderbyn a'i ystyried yn llawn. Efallai y bydd adegau pan fydd swyddogion yn eich herio ar yr amcan neu'r canlyniad polisi yr hoffech ei gyflawni, ac yn ei dro gall Gweinidogion herio swyddogion. Dylid gwneud hyn i gyd yn seiliedig ar barch tuag at y naill a'r llall. Er enghraifft, gallai'r her gynnwys cyflwyno opsiynau amgen neu ddiwygiadau i'r polisi. Gall hyn fod er mwyn sicrhau bod modd cyflawni'r polisi a'i fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â bod dealltwriaeth dda o ganlyniadau bwriadol ac anfwriadol y polisi.