Bydd Cymru yn ymuno â holl genhedloedd y Deyrnas Unedig i gymryd rhan ym Mlwyddyn Darllen Genedlaethol 2026, er mwyn ysbrydoli pobl i garu darllen gydol eu hoes.
Mae'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yn ymgyrch ledled y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru bydd yr ymgyrch ddwyieithog yn ychwanegu at waith sydd eisoes ar y gweill i gefnogi ysgolion, dysgwyr a theuluoedd, i wella safonau llythrennedd a meithrin yr arfer parhaol o fwynhau darllen. Bydd yr ymgyrch - Ymgolli (Go all in) - yn annog pobl i wneud yn union hynny, ymgolli mewn llyfr a mwynhau darllen.
Bydd ysgolion, awdurdodau lleol, llyfrgelloedd a grwpiau cymunedol hefyd yn chwarae rhan hanfodol ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn er mwyn dangos pa mor hyfryd yw'r profiad o ddarllen i bobl o bob oedran.
Mae'r ymgyrch hefyd yn cyd-fynd ag ymdrechion Estyn i ganolbwyntio'n fanylach ar ddarllen. Mae hyn yn golygu y bydd yr arolygiaeth yn cydweithio â'r holl ddarparwyr addysg i sicrhau bod gwella sgiliau darllen pob dysgwr yng Nghymru yn flaenoriaeth.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
"Mae Cymru'n enwog am ei thraddodiad llên cyfoethog, ac mae wedi ysbrydoli llawer o awduron a beirdd. Nod yr ymgyrch hon yw annog a meithrin cariad at ddarllen. Mae darllen yn sgil gydol oes, ond rydyn ni eisiau i bobl garu darllen gydol eu hoes hefyd.
"Rwy'n falch iawn bod Cymru yn ymuno â holl genhedloedd y Deyrnas Unedig i ddathlu'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol. Mae llythrennedd yn greiddiol i wella safonau a chyrhaeddiad yn ein hysgolion a bydd yr ymgyrch hon yn helpu i gefnogi ein ffocws parhaus ar y maes blaenoriaeth allweddol hwn.
"Gan gydweithio â phartneriaid a sefydliadau ledled Cymru, bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at y gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd ac yn cefnogi mentrau yn y dyfodol."
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sergeant:
"Mae llyfrgelloedd wrth wraidd ein cymunedau, ac mae'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yn gyfle perffaith i ddathlu'r rôl y maen nhw'n yn ei chwarae bob dydd. Boed yn helpu plant i feithrin cariad at lyfrau, rhoi cefnogaeth i oedolion i fagu hyder wrth darllen neu ddarparu mannau croesawgar i bobl ddysgu a chysylltu, mae llyfrgelloedd yn gwneud darllen yn hygyrch i bawb. Mae eu cyfraniad nid yn unig yn werthfawr, ond yn hanfodol i sicrhau bod y Flwyddyn Darllen Genedlaethol hon yn llwyddiant ac yn cyrraedd pob cwr o Gymru."
Mae rhagor o wybodaeth am y Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol ar gael, ac mae'n cynnwys adnoddau a chynnwys penodol i Gymru. Bydd calendr o weithgareddau ar gael ar Hwb drwy gydol y flwyddyn i helpu ysgolion a chymunedau i gael y newyddion ddiweddaraf am yr ymgyrch.
