Newidiadau arfaethedig i ganllawiau strategaethau lleol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (ymgynghoriad): asesiad effaith integredig
Asesiad o effaith y newidiadau i ganllawiau strategaethau lleol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: pa gamau y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diweddaru a diwygio canllawiau ar gyfer paratoi strategaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol lleol a’u rhoi ar waith. Pwrpas y canllawiau hyn yw cynorthwyo awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a'u partneriaid i ddatblygu strategaethau lleol sy’n cydymffurfio â gofynion a dibenion y Ddeddf.
Cyhoeddwyd canllawiau blaenorol yn 2018, ond ni wnaed hynny o dan Adran 15 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015, felly nid oedd sail statudol iddynt. Mae hyn yn golygu, er y cynghorwyd awdurdodau perthnasol i ddilyn y canllawiau, nad oedd unrhyw ddisgwyliad statudol iddynt wneud hynny. O ganlyniad, paratowyd strategaethau gyda lefelau ymgysylltu amrywiol gan rai o'r partneriaid allweddol.
Wrth ddiwygio'r canllawiau, rydym yn cynnig:
- cyhoeddi'r Canllawiau o dan Adran 15 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015, a fydd yn rhoi'r canllawiau ar sail statudol, y mae gan gyrff o dan adran 17 o'r Ddeddf ddyletswydd i'w dilyn
- darparu strwythur clir ar gyfer paratoi strategaethau lleol
- egluro'r atebolrwydd dros roi strategaethau lleol ar waith
- egluro rolau a chyfrifoldebau sefydliadau sy'n ymwneud â pharatoi'r strategaeth a'i rhoi ar waith
- cryfhau'r cytundebau partneriaeth a chydweithio rhwng sefydliadau
- darparu arweiniad ar bwysigrwydd rhannu data wrth baratoi strategaethau
- darparu templedi ar gyfer Asesiadau o Anghenion a'r strategaethau lleol i gefnogi cysondeb ac eglurder ledled Cymru
Tymor hir
- Mae'r canllawiau statudol wedi'u cynllunio i gefnogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i baratoi eu strategaethau lleol ar gyfer mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a rhoi'r strategaethau hynny ar waith. Rhaid adolygu'r strategaethau ar ôl pob etholiad llywodraeth leol, ond fel arall nid oes ganddynt ddyddiad gorffen. Mae'r camau gweithredu a'r gwasanaethau a amlinellir yn y strategaethau yn cael effeithiau hirdymor, felly mae'r canllawiau'n adlewyrchu pwysigrwydd sicrhau bod y strategaethau'n effeithiol.
Atal
- Mae’r strategaethau lleol wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r gofynion yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) sy’n ceisio mynd i’r afael ag effaith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws cymdeithas. Mae atal niwed yn hanfodol i lwyddiant y Ddeddf.
Integreiddio
- Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio ar bawb o bob oed, o bob cefndir. Mae ei effaith ar rannau eraill o gymdeithas yn enfawr. Mae materion fel digartrefedd, tlodi plant, camddefnyddio sylweddau ac ati yn aml yn deillio yn sgil trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Felly, rhaid i bob agwedd ar gymdeithas fod yn gyfrifol am gyflawni yn erbyn dibenion y Ddeddf. Mae'r canllawiau'n atgyfnerthu pwysigrwydd gweithio ar draws y gwahanol sectorau.
Cydweithio
- Mae nifer o bartneriaid wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r canllawiau hyn, gan gynnwys cydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, CLlLC, Cynghorwyr Rhanbarthol, a'r trydydd sector. Mae grwpiau Gorchwyl a Gorffen, sy’n cynnwys partneriaid mewnol ac allanol, wedi profi pob fersiwn o’r canllawiau. Mae'r canllawiau'n gam gweithredu pwysig o fewn y ffrwd waith Dull Cynaliadwy ar draws Systemau, ac mae aelodau'r ffrwd waith wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o'u datblygu.
Cynnwys
- Mae nifer o randdeiliaid allweddol wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r canllawiau a bydd ganddynt rôl hollbwysig yn y gwaith o baratoi'r strategaethau a’u rhoi ar waith. Drwy ymgynghori â'r sector y penderfynwyd diwygio'r canllawiau a chymryd y cam pwysig o'u cyhoeddi yn unol ag adran 15 y Ddeddf, a thrwy hynny eu gwneud yn statudol.
Effaith
- Mae'r canllawiau presennol yn ddiffygiol a soniodd rhanddeiliaid yn y sector am ddiffyg cyfeiriad ac eglurder. Nod y canllawiau diwygiedig yw mynd i'r afael â'r pryderon hyn i sicrhau eu bod yn syml ac yn hawdd eu deall, ond eu bod hefyd yn darparu lefel briodol o gyfarwyddyd a chefnogaeth, ac yn hollbwysig, yn helpu awdurdodau perthnasol i gyflawni strategaeth leol sy'n cefnogi'r strategaeth genedlaethol ac yn ei gwneud yn haws i awdurdodau perthnasol ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i gyflawni yn erbyn y dyletswyddau yn y Ddeddf.
- Yn gyffredinol, ni fydd y diwygiadau i'r canllawiau yn cael fawr ddim effaith uniongyrchol, os o gwbl, ar ddinasyddion Cymru. Bydd yr eglurder a'r arferion gorau a awgrymir yn y canllawiau yn cael effaith, os cânt eu rhoi ar waith yn effeithiol. Bydd awdurdodau cyfrifol, wrth ddeall anghenion trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu hardal leol, yn defnyddio eu strategaethau lleol/rhanbarthol i rymuso ymyriadau ac adnoddau i'w rhoi ar waith i ddiwallu'r anghenion hynny ac unrhyw adnoddau sydd eu hangen i wneud hynny.
- Bydd paratoi strategaethau lleol neu ranbarthol cadarn yn cael effaith gadarnhaol ar bawb y mae cam-drin domestig a rhywiol yn effeithio arnynt, dynion, menywod a phlant sy’n ddioddefwyr, a'r rheini sy'n cyflawni trais, er mwyn cael cymorth i roi diwedd ar yr ymddygiadau.
- Rydym yn ymwybodol bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael effaith anghymesur ar rai grwpiau, menywod yn bennaf, a phlant sy’n ddioddefwyr eu hunain pan fyddant yn dod i gysylltiad â cham-drin domestig. Gall pobl anabl, pobl LHDTC+, a phobl niwrowahanol hefyd brofi mwy o achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn ogystal â menywod Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
- Mae’r canllawiau hyn hefyd yn cael effaith ar ddynion, sef y rhai sy'n cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn bennaf - gan arwain at strategaethau lleol/rhanbarthol mwy effeithiol y gellir eu rhoi ar waith i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac ymyriadau ar gyfer y rhai sy’n cyflawni trais o'r fath.
- Bydd y canllawiau hyn, os cânt eu rhoi ar waith yn effeithiol, yn cefnogi'r gwaith o ganfod ac ymateb yn well i ymyrryd yn gynnar ac atal a bydd cymorth i ddioddefwyr o fudd i'r grwpiau hyn o bobl.
Adran 8: casgliad
Sut mae’r bobl sydd fwyaf tebygol o deimlo effeithiau’r cynnig wedi bod yn rhan o’r gwaith o’i ddatblygu?
Mae nifer o randdeiliaid allweddol wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r canllawiau a bydd ganddynt rôl hollbwysig yn y gwaith o baratoi'r strategaethau a’u rhoi ar waith. Drwy ymgynghori â'r sector y penderfynwyd diwygio'r canllawiau a chymryd y cam pwysig o'u cyhoeddi yn unol ag adran 15 y Ddeddf, a thrwy hynny eu gwneud yn statudol.
Mae'r canllawiau'n cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn galluogi partïon eraill sydd â diddordeb, a'r cyhoedd, i'w hystyried ymhellach.
Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Bydd y canllawiau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi o dan adran 15 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015, a fydd yn rhoi'r canllawiau ar sail statudol, y mae gan gyrff o dan adran 17 o'r Ddeddf ddyletswydd i'w dilyn.
Bydd yn rhoi strwythur clir i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ar gyfer paratoi'r strategaethau ac yn egluro atebolrwydd dros eu rhoi ar waith.
Mae'r canllawiau'n egluro rolau a chyfrifoldebau sefydliadau sy'n ymwneud â pharatoi'r strategaethau a’u rhoi ar waith. Eu nod yw cryfhau'r trefniadau partneriaeth a chydweithio rhyngddynt.
Mae pwysigrwydd tystiolaeth gadarn i lywio asesiadau o anghenion wedi'i gynnwys yn y canllawiau, gyda phwyslais ar rannu data'n rhagweithiol rhwng sefydliadau.
Nod y canllawiau yw cefnogi dull mwy cyson a chydlynol o ddatblygu strategaethau lleol a’u rhoi ar waith ledled Cymru er mwyn cyflawni gofynion y Ddeddf yn well.
Os bydd awdurdodau perthnasol yn dilyn y canllawiau ac yn cynhyrchu strategaeth leol/ranbarthol gadarn, disgwylir i'r effaith fod yn gadarnhaol. Mae hyn yn ymwneud yn benodol â menywod a phlant fel dioddefwyr, a'r rheini y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio'n anghymesur arnynt, gan gynnwys pobl anabl, pobl LHDTC+ a menywod Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:
Bydd gwell cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn cryfhau ein darpariaeth yn unol â'r nodau llesiant.
Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth i’r cynnig ddatblygu, ac ar ôl iddo ddod i ben?
Bydd gwell monitro a gwerthuso ar draws y ddarpariaeth leol ac o fewn Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod y canllawiau'n cael effaith gadarnhaol a bod y strategaethau lleol yn cyflawni gofynion y Ddeddf mewn ffordd strategol a chynaliadwy.
Iaith Gymraeg
Cyfeirnod yr Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg: 01.02.2026.
A yw’r cynnig yn dangos cysylltiad clir â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg?
(Cymraeg 2050 Miliwn o siaradwyr Cymraeg a’r Rhaglen Waith gysylltiedig ar gyfer 2021 i 2026).
Nid ydym yn rhagweld unrhyw effaith gadarnhaol na negyddol ar allu defnyddwyr gwasanaeth i gael gafael ar wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg wrth gyhoeddi’r canllawiau. Fodd bynnag, gall effeithiau cadarnhaol gynnwys mynd ati i annog dwyieithrwydd, cynhwysiant diwylliannol, a grymuso cymunedol. Gall awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a Llywodraeth Cymru helpu i greu amgylchedd mwy cynhwysol sydd o fudd i siaradwyr Cymraeg ac sy’n gwella ymgysylltiad cymunedol ar ôl derbyn gwasanaethau yn Gymraeg.
Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar y Gymraeg ac eglurwch sut byddwch yn mynd i’r afael â’r effeithiau hyn er mwyn gwella canlyniadau i’r Gymraeg. Sut bydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oed (effeithiau cadarnhaol a/neu niweidiol)? Dylech nodi eich ymatebion i’r canlynol wrth ateb y cwestiwn hwn, ynghyd ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall:
Sut bydd y cynnig yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith (effeithiau cadarnhaol a/neu niweidiol)?
- (Gall y rhain fod yn gymunedau gwledig clos, rhwydweithiau cymdeithasol gwasgaredig mewn lleoliadau trefol, ac mewn cymunedau rhithiol sy’n ymestyn dros ardaloedd daearyddol).
Nid oes unrhyw effaith uniongyrchol nac anuniongyrchol ar addysg cyfrwng Cymraeg na dysgwyr Cymraeg, ond byddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob awdurdod lleol sicrhau bod gwybodaeth am fynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar gael yn rhwydd i bob defnyddiwr gwasanaeth wrth iddynt ddechrau defnyddio'r gwasanaeth (boed hynny mewn sefyllfa argyfwng neu beidio) os oes angen adleoli.
Sut bydd y cynnig yn effeithio ar y gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg (effeithiau cadarnhaol a/neu niweidiol)? (ee iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth, tai, digidol, ieuenctid, seilwaith, yr amgylchedd, llywodraeth leol ac ati)
- (Nod Strategaeth y Gymraeg yw cynyddu ystod y gwasanaethau a gynigir i siaradwyr Cymraeg, a gweld cynnydd yn y gwasanaethau Cymraeg a ddefnyddir).
Mae'r canllawiau'n ymwneud â darparu gwasanaethau i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu yn yr iaith o ddewis i'r cleient yn elfen hanfodol o'r dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n cael ei argymell ar gyfer pob darpariaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy’n cefnogi Thema 3 strategaeth Cymraeg 2050, Creu amodau ffafriol. Mae'r awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd lleol y cyfeirir atynt yn rhwym wrth Safonau'r Gymraeg ac felly mae ganddynt ddyletswyddau i ddarparu gwasanaethau'n briodol. Bydd disgwyl i unrhyw ddarparwyr 3ydd parti sicrhau bod darpariaeth gwasanaeth Cymraeg ar gael ar yr un pryd â darpariaeth Saesneg. Dylid sicrhau bod gwasanaethau, deunyddiau, arwyddion, digwyddiadau neu negeseuon yn cael eu darparu'n ddwyieithog, gan beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Bydd y canllawiau diwygiedig yn effeithio ar lywodraeth leol ac awdurdodau lleol mewn modd cadarnhaol gan y byddant yn gallu cyfeirio at y canllawiau'n ddwyieithog. Dylai hyn ei gwneud yn haws iddynt roi darpariaethau addas a digonol ar waith i’r rhai sydd angen gwasanaethau Cymraeg.
Sut byddwch chi’n sicrhau bod pobl yn gwybod am wasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg a’u bod yn gallu cael gafael arnynt a’u defnyddio mor hawdd ag y gallant yn Saesneg? Pa dystiolaeth / data ydych chi wedi’u defnyddio fel sail i’ch asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan siaradwyr Cymraeg neu grwpiau buddiant Cymraeg?
Nid yw’r canllawiau presennol yn nodi sut dylid rhannu negeseuon am wasanaethau, ond anogir enghreifftiau o arfer gorau, er enghraifft defnyddio brawddeg fer yn nodi bod “gwasanaeth Cymraeg yn cael ei gynnig” ar waith papur y cyfweliad cychwynnol.
Bydd canllawiau yn cael eu cyhoeddi a byddant ar gael i'r cyhoedd, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Nid ydym yn rhagweld unrhyw effaith gadarnhaol na negyddol ar allu defnyddwyr gwasanaeth i gael gafael ar wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Pa dystiolaeth arall fyddai’n eich helpu i gynnal asesiad gwell?
Dylai'r data a gesglir fel rhan o'r asesiadau o anghenion a'r adroddiadau blynyddol ar gynnydd ddarparu rhagor o wybodaeth am ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau.
Sut byddwch chi’n gwybod a yw eich polisi’n llwyddiant?
Bydd y canllawiau hyn, os cânt eu rhoi ar waith yn effeithiol, yn cefnogi'r gwaith o ganfod ac ymateb yn well i ymyrryd yn gynnar ac atal a bydd cymorth i ddioddefwyr o fudd i bob grŵp o bobl sy'n sicrhau cymorth yn eu dewis iaith.
