Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn bwriadu newid cofrestru gwartheg ac adrodd symud.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth sy’n newid?

Bwriedir symud y broses cofrestru gwartheg a chofnodi symudiadau yng Nghymru oddi wrth Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) a'r System Olrhain Gwartheg (CTS) i EIDCymru. 

EIDCymru yw'r system adnabod da byw yng Nghymru sydd eisoes yn rheoli cofnodi symudiadau defaid, geifr a cheirw. Y bwriad yw creu un system Gymreig ar gyfer cofrestru da byw a chofnodi symudiadau. 

Mae'r newid hwn wedi'i gynllunio ar gyfer yn ddiweddarach eleni (gaeaf 2026). 

Beth mae hyn yn ei olygu i geidwaid gwartheg?

Am y tro, does dim byd yn newid. 

Dylech barhau i: 

  • gofrestru genedigaethau gwartheg 
  • rhoi gwybod am symudiadau gwartheg 
  • rhoi gwybod am farwolaethau gwartheg 

trwy BCMS, yn union fel rydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd. 

Pan fydd y newid yn digwydd yn y dyfodol: 

  • bydd ceidwaid gwartheg yng Nghymru yn rhoi gwybod am gofrestriadau a symudiadau gwartheg drwy EIDCymru yn hytrach na BCMS neu CTS Ar-lein 
  • bydd cymorth ac arweiniad ar gael 
  • byddwch yn cael gwybodaeth glir am yr hyn y mae angen i chi ei wneud 

Ni fydd disgwyl i neb newid systemau heb rybudd. 

Pryd fydd hyn yn digwydd?

Mae'r symud i EIDCymru ar gyfer ceidwaid gwartheg Cymru wedi'i gynllunio ar gyfer hwyrach eleni, ond dyw'r union ddyddiadau ddim ar gael eto. 

Byddwch yn:  

  • cael gwybod am y trefniadau ymhell ymlaen llaw 
  • cael cyfarwyddiadau ac arweiniadau clir 
  • cael cefnogaeth drwy'r newid  

Peidiwch â cheisio cofrestru gwartheg ar EIDCymru eto - mae adrodd am wartheg yn parhau i fod gyda BCMS am y tro. 

A fydd angen i mi ddysgu sgiliau newydd?

Mae EIDCymru eisoes yn cael ei ddefnyddio gan lawer o ffermwyr yng Nghymru ar gyfer cofnodi symudiadau defaid, geifr a cheirw. 

Bydd canllawiau a chymorth ar gael i helpu ceidwaid gwartheg, gan gynnwys: 

  • canllawiau ar-lein 
  • cyfarwyddiadau camwrthgam 
  • cymorth i'r rhai sydd ei angen 

Beth am fy nghofnodion gwartheg?

Bydd eich cofnodion gwartheg yn parhau i gael eu rheoli'n ddiogel ac yn briodol. 

Bydd rhagor o wybodaeth am sut y bydd data gwartheg yn trosglwyddo i EIDCymru yn cael ei rhannu'n agosach at amser y newid.  

Beth os nad ydw i'n defnyddio'r rhyngrwyd?

Bydd cymorth ffôn yn parhau i fod ar gael. 

Ni fydd yn ofynnol i chi reoli cofnodion gwartheg ar-lein heb gymorth. 

Beth ddylwn i ei wneud nawr?

Am y tro, dylai ceidwaid gwartheg yng Nghymru: 

  • barhau i ddefnyddio BCMS fel arfer 
  • cadw'ch CPH a'ch manylion cyswllt yn gyfredol gydag EIDCymru, BCMS a RPW Ar-lein 
  • Cadwch lygad am ddiweddariadau swyddogol gan Lywodraeth Cymru ac EIDCymru 

Bydd cadw'ch manylion cyswllt yn gyfredol yn helpu i sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf. 

Ble alla' i gael rhagor o wybodaeth?

Gallwch wneud y canlynol: 

  • cysylltu ag EIDCymru os oes gennych gwestiynau 
  • gwirio LLYW.CYMRU am ddiweddariadau swyddogol 
  • parhau i ddefnyddio BCMS nes i ni ddweud wrthych fel arall 

Byddwn yn rhoi gwybod ichi am unrhyw newidiadau

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i fwy o fanylion gael eu cadarnhau. 

Bydd ceidwaid yn cael arweiniad clir, digon o rybudd, a chefnogaeth cyn unrhyw newid.