Adolygiad o'r codau presenoldeb yn yr ysgol
Rydym yn ymgynghori ar ddiwygiadau i'r codau presenoldeb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Nid yw presenoldeb yn yr ysgol yng Nghymru wedi adfer yn llawn ers COVID-19, gydag Estyn yn adrodd bod presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn parhau i fod yn sylweddol is na'r lefelau cyn y pandemig, a rhagwelir y bydd yn cymryd hyd at ddegawd i adfer heb gamau wedi'u targedu.
Er ein bod wedi gweld cynnydd araf ac ystyriol mewn presenoldeb, mae codau presenoldeb cywir a manwl yn hanfodol i nodi patrymau a chyfeirio cefnogaeth yn effeithiol.
Ers i'r codau gwreiddiol gael eu cyflwyno yn 2010, mae polisi a darpariaeth addysg wedi esblygu'n sylweddol, gan gynnwys twf mewn dysgu ar-lein ac o bell, amserlenni hyblyg, cofrestru deuol a threfniadau rhan-amser. Mae'r datblygiadau hyn yn gofyn am godau sy'n gwahaniaethu rhwng cyd-destunau dysgu ac yn galluogi goruchwyliaeth gadarn.
Mae blaenoriaethau diogelu a lles, fel y dull ysgol gyfan a thystiolaeth gynyddol o absenoldeb nad yw'n gysylltiedig ag iechyd corfforol, yn tynnu sylw at yr angen am godau sy'n nodi salwch nad yw'n gorfforol a rhwystrau i bresenoldeb. Mae ystyriaethau tegwch a chynhwysiant, gan gynnwys canllawiau wedi'u diweddaru ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac amgylchiadau teuluol a chymdeithasol sy'n newid, yn gofyn am godau cliriach i sicrhau cysondeb a thegwch. Bydd y diwygiadau arfaethedig yn cryfhau cywirdeb data, yn gwella diogelu ac yn adlewyrchu realiti addysg fodern, gan gefnogi casglu data cyson o ansawdd uchel ledled Cymru.
Rydym yn ceisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig i ganllawiau Cymru ar godau presenoldeb yn yr ysgol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para am chwe wythnos. Gwahoddir ymatebion gan bartneriaid gan gynnwys ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol, Unedau Cyfeirio Disgyblion, ysgolion arbennig, awdurdodau lleol, cymdeithasau proffesiynol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn unig, o ystyried natur dechnegol y codau presenoldeb.
Sut i ymateb
Dylid e-bostio neu postio ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i’r cyfeiriad isod i gyrraedd erbyn 26 Mawrth 2026 fan hwyraf.
Gallwch ymateb trwy lenwi'r ddogfen (ffurflenni) Word sydd ynghlwm wrth yr ymgynghoriad hwn.
Efallai y byddai o fudd i chi ddarllen y codau presenoldeb diwygiedig llawn yn ogystal â'r crynodeb o'r newidiadau wrth lenwi'r ffurflen ymgynghori.
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Mae'r ddogfen hon ar gael mewn print bras, Braille neu mewn ieithoedd eraill ar gais.
Dogfennau cysylltiedig
Codau presenoldeb ysgol: canllawiau
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth:
Cefnogi Mynediad at Addysg
Tegwch mewn Addysg
Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: AdolygiadYCP.ACCReview@llyw.cymru
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith dadansoddi ar ymatebion i ymgyngoriadau, mae'n bosibl y bydd trydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwnnw. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn cynnwys gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'i weld
- i ofyn inni gywiro unrhyw ddata anghywir
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
- i ofyn bod eich data'n cael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- i gludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd y mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/
Rhagair y Gweinidog
Mae sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael y cyfle i fynychu'r ysgol yn rheolaidd yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae cofnodi presenoldeb yn gywir yn hanfodol i ddeall patrymau, cefnogi dysgwyr a gwella deilliannau.
Mae Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn nodi'r fframwaith ar gyfer sut mae ysgolion yn cofnodi presenoldeb. Fodd bynnag, gwyddom fod y ffordd y mae ysgolion yn gweithredu wedi esblygu, ac mae adborth gan ymarferwyr a rhanddeiliaid yn awgrymu bod rhai codau presenoldeb yn aneglur neu ddim yn addas i'r diben mwyach.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar ddiweddariadau arfaethedig i'r codau presenoldeb i sicrhau eu bod yn glir, yn berthnasol ac yn cael eu cymhwyso'n gyson ym mhob ysgol yng Nghymru. Bydd eich mewnbwn yn ein helpu i ddatblygu canllawiau sy'n adlewyrchu amgylcheddau dysgu modern ac yn cefnogi ein hymrwymiad cyffredin i les a chyflawniad dysgwyr.
Rwy'n annog y rhai sy'n gweithio ym maes addysg i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a rhannu eich barn. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod ein system cofnodi presenoldeb yn parhau i ddiwallu anghenion dysgwyr, ysgolion a chymunedau ledled Cymru.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Crynodeb o’r cynigion
Prif faterion
Mae Llywodraeth Cymru am i bob plentyn fwynhau dysgu a chael yr addysg orau bosibl er mwyn datblygu ac ehangu ei gwybodaeth, ei sgiliau a'i brofiad.
Bydd hyn yn eu helpu i fod:
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
- yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
- yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Mae codau presenoldeb yn cael eu defnyddio gan ysgolion i gofnodi gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion. Maent yn helpu i olrhain data presenoldeb a phenderfynu a yw disgybl yn cael ei farcio'n bresennol neu'n absennol. Yn y bôn, dyma'r llythrennau a'r marciau a ychwanegir at gofrestr presenoldeb i nodi'r rheswm pam mae disgybl yn absennol.
Ers cyflwyno'r codau cyfredol, mae cyd-destunau cymdeithasol ac addysgol wedi esblygu'n sylweddol. Yn ogystal, arweiniodd pandemig Covid-19 at batrymau absenoldeb newydd a thynnodd sylw at yr angen am ddata mwy cywir fel y gallwn ddatblygu canllawiau cliriach ar ddysgu o bell.
Bydd diweddaru'r codau yn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben mewn tirwedd addysgol sy'n newid ac yn rhoi mwy o eglurder i awdurdodau lleol ac ysgolion a hefyd yn sicrhau bod dull Llywodraeth Cymru o gofnodi presenoldeb yn cael ei gymhwyso'n gyson ledled Cymru.
Bydd adolygu'r codau presenoldeb yn galluogi dealltwriaeth fanylach o'r rhesymau am absenoldeb disgyblion ac yn cefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i weithredu strategaethau wedi'u targedu i fynd i'r afael â rhwystrau penodol i bresenoldeb.
Datblygu'r codau presenoldeb diwygiedig
Mae'r newidiadau arfaethedig presennol i'r codau wedi'u gwneud yn unol â'r Rheoliadau uchod. Felly, nid oes angen diwygio Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010.
Mae'r newidiadau arfaethedig yn mireinio'r codau presenoldeb presennol er mwyn gwella cywirdeb a defnyddioldeb data presenoldeb, cryfhau diogelu a darparu mwy o eglurder i ysgolion ac awdurdodau lleol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag awdurdodau lleol i ddatblygu'r codau diwygiedig drafft sydd wedi'u datblygu ar y cyd â charfan o gydweithwyr o'r awdurdodau lleol.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymgysylltu â phartneriaid i sicrhau eu bod yn adlewyrchu datblygiadau technolegol a modelau cyflenwi sy'n esblygu.
Diben yr ymgynghoriad
Diben y canllawiau hyn yw cynorthwyo ysgolion (gan gynnwys ysgolion annibynnol) ac awdurdodau lleol i ddefnyddio'r codau i gofrestru presenoldeb ac absenoldeb disgyblion mewn ysgolion. Maent yn ymwneud â phresenoldeb mewn sesiynau cofrestru statudol yn y bore a'r prynhawn.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn croesawu barn ysgolion ac awdurdodau lleol ar y codau diwygiedig. Nod y codau diwygiedig yw sicrhau darlun cywir o bresenoldeb a'r rhesymau am absenoldeb a galluogi ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i ddeall yn fanylach y rhesymau am absenoldeb disgyblion gan gefnogi unrhyw newidiadau yn y dyfodol wrth ddatblygu polisi cysylltiedig.
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i'r ymatebwyr ddarllen y ddogfen codau presenoldeb diwygiedig lawn yn ogystal â'r crynodeb o'r newidiadau wrth lenwi'r ffurflen ymgynghori.
Cyfnod yr ymgynghoriad
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg am gyfnod o chwe wythnos. Credwn fod y cyfnod hwn yn ddigonol i ymatebwyr ystyried y diwygiadau arfaethedig i'r codau yn llawn a chyflwyno eu hymatebion.
Daw'r cyfnod ar gyfer adborth i ben yn nhymor y Gwanwyn 2026, ac yn dilyn hynny bydd Llywodraeth Cymru yn dadansoddi'r holl ymatebion. Bydd yr adborth yn cael ei ystyried a chaiff unrhyw ddiwygiadau eu gwneud ac wedyn, yn unol â chytundeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, bydd y ddogfen yn cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Y diwygiadau arfaethedig: esboniadau
Rydym wedi cadw'r pum categori ystadegol presennol sydd wedi'u hamlinellu yn y tabl isod:
| Categori ystadegol | Codau arfaethedig yn y categori hwn |
|---|---|
| /\ ac L |
| 2. gweithgaredd addysgol cymeradwy | B, P1, P2, V a W |
| 3. absenoldeb awdurdodedig | C1, C2, C3, C4, C5, F, H, I1, I2, J1, M, S, E, R a T |
| 4. absenoldeb anawdurdodedig | N, O, G ac U |
| 5. dim rhaid bod yn bresennol | D, X, Y1, Y2, Y3. Y4, Y5, Z a # |
Y diwygiadau arfaethedig
1. Codau ar gyfer presennol
Ystyr 'presennol' yw bod plentyn yn cyrraedd pan fydd cofrestr yr ysgol ar agor. Mae cofrestrau'n aros ar agor am 30 munud. Mae'r cofrestrau ar agor ar gyfer sesiynau bore a phrynhawn.
Caiff 'presennol' ei ddynodi gan y codau canlynol ar y cofrestrau: /\ ac L:
- (1.1) /\: Yn cyfeirio at ddisgybl sy'n bresennol yn yr ysgol yn ystod y cyfnod cofrestru.
- (1.2) L: Yn nodi bod disgybl yn hwyr i'r ysgol ond wedi cyrraedd cyn i'r gofrestr gau.
Ni wnaed unrhyw newidiadau i'r diffiniad o'r codau hyn ond mae'r defnydd o'r codau hyn a'r wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'r codau wedi'u hadolygu a'u diweddaru.
2. Codau ar gyfer gweithgaredd addysgol cymeradwy
Mae gweithgaredd addysgol cymeradwy yn un sy'n digwydd i ffwrdd o safle'r ysgol ac mae wedi'i gytuno gan yr ysgol.
Y codau arfaethedig ar gyfer gweithgaredd addysgol cymeradwy yw B, P1, P2, V, a W:
- (2.1) Cod B: Ni wnaed unrhyw ddiwygiadau i'r diffiniad o'r cod hwn ond mae'r defnydd o'r cod a'r wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'r cod wedi'u hadolygu a'u diweddaru.
- (2.2) Cod P: (Roedd hwn yn weithgaredd chwaraeon cymeradwy gynt). Rydym wedi rhannu'r cod hwn i'r codau canlynol:
- (2.2.1) P1: (gweithgaredd chwaraeon cymeradwy), a
- (2.2.2) P2: (gweithgaredd perfformio cymeradwy).
- (2.3) Cod V: Mae'r defnydd o'r cod V a'r wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'r cod wedi'u hadolygu a'u diweddaru i sicrhau bod yr wybodaeth yn glir.
- (2.4) Cod W: Mae'r defnydd o'r cod W a'r wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'r cod wedi'u hadolygu a'u diweddaru i sicrhau bod yr wybodaeth yn glir.
- (2.5) Cod D: Ar hyn o bryd, mae'n gymwys pan fo plentyn wedi'i gofrestru'n ddeuol (wedi'i gofrestru mewn 2 ysgol wahanol), hynny yw, ar gofrestr mewn un ysgol ond yn mynychu ysgol arall. Roedd cod D yn weithgaredd addysgol cymeradwy gynt.
Rydym yn cynnig diwygio hyn i 'dim rhaid bod yn bresennol'. Yn flaenorol, roedd angen i gofrestrau'r ysgolion fod yr un peth, nid yw hyn yn angenrheidiol mwyach. Bydd y brif ysgol yn defnyddio cod D ar ddiwrnodau pan fydd disgwyl i'r disgybl fod mewn lleoliad arall, a bydd presenoldeb ac unrhyw absenoldebau yn cael eu cofnodi gan yr ysgol arall neu'r Uned Cyfeirio Disgyblion ar y diwrnodau y mae'r disgwyl i'r disgybl fod yno.
3. Codau ar gyfer absenoldeb awdurdodedig
Y codau arfaethedig i ddynodi absenoldebau awdurdodedig yw C1, C2, C3, C4, C5, F, H, I1, I2, J1, M, S, E, R a T:
- (3.1) Byddem yn cynnig newidiadau sylweddol i godau absenoldeb awdurdodedig. Byddai Cod C, a ddefnyddiwyd gynt ar gyfer pob absenoldeb awdurdodedig, yn cael ei rannu i ddarparu mwy o eglurder a chysondeb. Byddai'r categorïau arfaethedig newydd fel a ganlyn:
- (3.1.1) C1: Absenoldeb awdurdodedig cyffredinol (Cod C gynt). Gallai'r cod hwn gwmpasu absenoldeb oherwydd mynychu priodas, profedigaeth, cyfrifoldebau fel gofalwr ifanc, ymweliad â charchar, genedigaeth plentyn.
- (3.1.2) C2: Absenoldeb awdurdodedig ar gyfer perfformiad â thâl.
- (3.1.3) C3: Absenoldeb awdurdodedig pan fo'r pennaeth wedi cytuno i gais gan riant am addysg hyblyg. Addysg hyblyg yw lle mae pennaeth yn cytuno y gall disgybl cofrestredig gael ei addysgu gartref am ran o'i addysg.
- (3.1.4) C4: Absenoldeb awdurdodedig ar gyfer amserlen lai. Caiff amserlen lai ei rhoi yn ei lle i gefnogi plentyn sy'n cael trafferth gyda darpariaeth lawnamser. Rhaid i'r ysgol, y rhiant a'r disgybl gytuno ar hyn gyda'r bwriad o ddychwelyd y plentyn i ddarpariaeth lawnamser gyda chynllun cymorth.
- (3.1.5) C5: Absenoldeb awdurdodedig ar gyfer dysgu o bell lle mae addysg yn cael ei ddarparu ar-lein gan yr ysgol neu'r awdurdod lleol. Rydym yn ymwybodol o'n trafodaethau gyda swyddogion arweiniol yr awdurdodau lleol ar Addysg Heblaw yn yr Ysgol bod nifer cynyddol o ysgolion yn troi at ddysgu ar-lein rhithwir fel modd o ymdrin â phresenoldeb. Mae addysg rithwyr wedi cynyddu ers y pandemig. Fodd bynnag, nid yw'r Llywodraeth yn casglu data ar hyn ar hyn o bryd ac nid ydynt yn glir ynghylch y graddau y defnyddir y ddarpariaeth hon.
- (3.2) Cod F: Mae'r cod hwn yn cyfeirio at absenoldeb y cytunwyd arno pan fo rhiant wedi cyflwyno cais am absenoldeb oherwydd gwyliau estynedig yn ystod y tymor. Mae'r defnydd o'r cod a'r wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'r cod wedi'u hadolygu a'u diweddaru.
- (3.3) Cod H: Mae'r cod hwn yn cyfeirio at wyliau teuluol y cytunwyd arnynt lle mae rhiant wedi cyflwyno cais am absenoldeb oherwydd gwyliau yn ystod y tymor. Mae'r defnydd o'r cod a'r wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'r cod wedi'u hadolygu a'u diweddaru.
- (3.4) Codau I1 and I2: Mae'r cod salwch wedi'i rannu'n I1 ac I2, gan alluogi ysgolion i wahaniaethu rhwng:
- (3.4.1) salwch corfforol, a
- (3.4.2) salwch nad yw'n gorfforol. Bydd y newid hwn yn helpu ysgolion i ddeall effaith salwch nad yw'n gorfforol ar bresenoldeb a darparu data i awdurdodau lleol i gefnogi effeithiolrwydd y Dull Ysgol Gyfan, yn ogystal â chyflawni eu dyletswydd o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 i ddarparu darpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol lle na all disgyblion fynychu'r ysgol oherwydd salwch, gwaharddiad neu resymau eraill.
- (3.5) Cod J1: Mae'r cod hwn yn cyfeirio at gyfweliad allanol ac mae bellach yn cynrychioli absenoldeb awdurdodedig yn hytrach na gweithgaredd addysgol cymeradwy:
- (3.5.1) Dylai'r cod hwn gael ei ddefnyddio i gofnodi'r amser a dreulir mewn cyfweliadau â darpar gyflogwyr neu ar gyfer lle mewn ysgol arall, sefydliad addysg bellach neu uwch neu ddarparwr hyfforddiant.
Byddai'r defnydd o'r codau M, S, E, R, a T a'r canllawiau cysylltiedig yn cael eu hadolygu a'u diweddaru fel a ganlyn i sicrhau eglurder a chysondeb:
- (3.6) Cod M: Mae'r cod hwn yn cyfeirio at absenoldeb meddygol. Mae'n cyfeirio at golli cofrestru (bore neu brynhawn) ar gyfer apwyntiad meddygol neu ddeintyddol.
- (3.7) Cod S: Mae'r cod hwn yn cyfeirio at absenoldeb oherwydd absenoldeb astudio y cytunwyd arno.
- (3.8) Cod E: Mae'r cod hwn yn cyfeirio at absenoldeb oherwydd gwaharddiad o'r ysgol.
- (3.9) Cod R: Mae'r cod hwn yn cyfeirio at absenoldeb ar gyfer defodau crefyddol (Ramadan, Eid, Diwali ac ati).
- (3.10) Cod T: Mae'r cod hwn yn cyfeirio at absenoldeb gan fod teuluoedd Teithwyr, Sipsiwn a Roma yn teithio ac yn chwilio am waith.
4. Codau ar gyfer absenoldeb anawdurdodedig
Mae'r diffiniad o Absenoldeb Anawdurdodedig yn parhau heb ei newid. Mae'n berthnasol pan nad yw ysgol yn derbyn y rheswm a ddarparwyd dros absenoldeb neu lle nad oes rheswm wedi'i roi. Er nad yw'r diffiniadau wedi'u newid, cynigiwn adolygu'r canllawiau cysylltiedig a'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer codau N, O, G ac U i sicrhau eglurder a chysondeb wrth eu cymhwyso:
- (4.1) Cod N: Mae'r cod hwn yn cyfeirio at y ffaith nad oes unrhyw reswm wedi'i ddarparu gan y rhiant am yr absenoldeb.
- (4.2) Cod O: Mae'r cod hwn yn cyfeirio at absenoldeb anawdurdodedig nad yw'n cael ei gwmpasu gan unrhyw god arall er enghraifft pen-blwydd plentyn neu frawd neu chwaer, mynd i siopa, a rît arbennig.
- (4.3) Cod G: Mae'r cod hwn yn cyfeirio at absenoldeb anawdurdodedig oherwydd na chafodd cais am wyliau gan rieni ei awdurdodi gan yr ysgol.
- (4.4) Cod U: Mae'r cod hwn yn cyfeirio at absenoldeb oherwydd bod plentyn yn hwyr, hynny yw, yn cyrraedd ysgol fwy na 30 munud ar ôl i'r gof gau.
5. Dim rhaid bod yn bresennol
Y codau arfaethedig i nodi nad yw'n ofynnol i ddisgyblion fynychu'r ysgol yw
D, X, Y1, Y2, Y3, Y4, Y5, Z a #:
- (5.1) Cod D: Fel yr amlinellwyd yn gynharach yn 2.5, rydym yn cynnig diweddaru cod D a'i gategoreiddio fel 'dim rhaid bod yn bresennol'. Dylai ysgolion ddefnyddio cod D ar gyfer disgyblion sydd wedi cofrestru'n ddeuol gyda darparwr arall ar ddiwrnodau y mae disgwyl iddynt fynychu'r lleoliad hwnnw.
- (5.2) Cod X: Mae'r cod hwn yn golygu bod sesiynau heb eu hamserlennu ar gyfer disgyblion nad ydynt o oedran ysgol gorfodol. Nid ydym yn cynnig unrhyw newidiadau i'r diffiniad o god X. Fodd bynnag, dylid adolygu a diweddaru'r defnydd ohono a'r canllawiau cysylltiedig.
- (5.3) Cod Y: Rydym yn cynnig newidiadau sylweddol i god Y, sy'n gymwys pan nad yw'n ofynnol i ddisgybl fynychu oherwydd bod yr ysgol wedi gorfod cau'n llawn neu'n rhannol. Bydd y newidiadau hyn yn galluogi awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i ddeall yn well y rhesymau am gau ysgolion. Rydym yn cynnig rhannu cod Y fel a ganlyn:
- (5.3.1) Y1: Methu mynychu oherwydd nad yw'r ysgol o fewn pellter cerdded i gartref y disgybl ac nad oes trafnidiaeth yn cael ei ddarparu.
- (5.3.2) Y2: Methu mynychu oherwydd tarfu eang ar deithio a achoswyd gan.
- (5.3.3) Y3: Nid yw rhan o adeiladau'r ysgol yn cael ei defnyddio am resymau na ellir eu hosgoi ac ni ellir rhoi lle i'r disgyblion yn y mannau agored sy'n weddill.
- (5.3.4) Y4: Cau ysgol gyfan pan fydd sesiwn a amserlennwyd wedi'i chanslo.
- (5.3.5) Y5: Byddai presenoldeb yn groes i/wedi'i wahardd gan ganllawiau neu gyfraith sy'n ymwneud ag achosion o haint neu glefyd neu drosglwyddo haint neu glefyd.
- (5.4) Cod Z: Defnyddir y cod hwn pan nad yw'n ofynnol i ddisgyblion fynychu gan nad ydynt ar gofrestr yr ysgol eto.
- (5.5) Cod #: Defnyddir y cod hwn i gwmpasu gwyliau hanner tymor a gwyliau ar ddiwedd tymor llawn (gwyliau statudol).
Er bod y diffiniadau o godau Z a # yn parhau heb eu newid, bydd y defnydd o'r codau hyn a'r canllawiau cysylltiedig yn cael eu hadolygu a'u diweddaru i sicrhau eglurder.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
1. Codau ar gyfer presennol a hwyr
Cwestiwn 1
(1.1) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer y codau /\ yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 2
(1.2) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod L yn rhoi mwy o eglurder?
2. Codau ar gyfer gweithgaredd addysgol cymeradwy
Cwestiwn 3
(2.1) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod B yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 4
(2.2) Ydych chi'n cytuno â'r penderfyniad i rannu cod P?
Cwestiwn 5
(2.2.1). A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer codau P1 a P2 yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 6
(2.3) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod V yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 7
(2.4) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod W yn rhoi mwy o eglurder?
3. Codau ar gyfer absenoldeb awdurdodedig
Cwestiwn 8
(3.1) Ydych chi'n cytuno â'r penderfyniad i rannu cod C?
Cwestiwn 9
(3.1.1) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod C1 yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 10
(3.1.2) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod C2 yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 11
(3.1.3) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod C3 yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 12
(3.1.4) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod C4 yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 13
(3.1.5) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod C5 yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 14
(3.2) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod F yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 15
(3.3) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod H yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 16
(3.4) Ydych chi'n cytuno â'r penderfyniad i rannu cod I?
Cwestiwn 17
(3.4.1) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod I1 yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 18
(3.4.2) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod I2 yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 19
(3.5) Ydych chi'n cytuno â'r newid arfaethedig i’r ystyr ystadegol ar gyfer cod J1 o ‘weithgaredd addysgol cymeradwy’ i ‘absenoldeb awdurdodedig’?
Cwestiwn 20
(3.5.1) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod J1 yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 21
(3.6) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod M yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 22
(3.7) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod S yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 23
(3.8) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod E yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 24
(3.9) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod R yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 25
(3.10) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod T yn rhoi mwy o eglurder?
4. Unauthorised absence codes
Cwestiwn 26
(4.1) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod N yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 27
(4.2) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod O yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 28
(4.3) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod G yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 29
(4.4) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod U yn rhoi mwy o eglurder?
5. Codau ar gyfer ‘dim rhaid bod yn bresennol’
Cwestiwn 30
(5.1) A ydych yn cytuno â newid ystyr ystadegol cod D o ‘weithgaredd addysgol cymeradwy’ i 'dim yn rhaid bod yn bresennol'?
Cwestiwn 31
(5.1.1) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod D yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 32
(5.2) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod X yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 33
(5.3) Ydych chi'n cytuno â'r penderfyniad i rannu cod Y?
Cwestiwn 34
(5.3.1) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod Y1 yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 35
(5.3.2) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod Y2 yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 36
(5.3.3) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod Y3 yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 37
(5.3.4) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod Y4 yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 38
(5.3.5) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod Y5 yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 39
(5.4) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod Z yn rhoi mwy o eglurder?
Cwestiwn 40
(5.5) A yw'r wybodaeth ychwanegol ar gyfer cod # yn rhoi mwy o eglurder?
