Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 26 Mawrth 2026.

Cyfnod ymgynghori:
12 Chwefror 2026 i 26 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 578 KB

PDF
578 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ymgynghori ar ddiwygiadau i'r codau presenoldeb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar ddiweddaru'r codau i:

  • roi mwy o eglurder a data i awdurdodau lleol ac ysgolion ar y rhesymau y tu ôl i ddiffyg presenoldeb
  • sicrhau bod ein dull o gofnodi presenoldeb yn cael ei gymhwyso'n gyson ledled Cymru a chryfhau dealltwriaeth, a cefnogi monitro presenoldeb yn effeithiol ledled Cymru

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb penodol i bartneriaid gan gynnwys ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol, Unedau Cyfeirio Disgyblion, ysgolion arbennig, awdurdodau lleol, cymdeithasau proffesiynol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, o ystyried natur dechnegol y codau presenoldeb. Fodd bynnag, rydym yn croesawu ymatebion gan bawb.

Nodyn

Mae fersiwn Gymraeg y ddogfen ymgynghori wedi cael ei diwygio i gywiro gwallau a nodwyd yn rhai o’r cwestiynau. Gallwn gadarnhau nad yw hyn yn effeithio ar y testun Saesneg ac nad yw honno yn wahanol i’r fersiwn a gyhoeddwyd yn wreiddiol.