Adolygiad o godau presenoldeb ysgolion: asesiad effaith integredig
Asesu effaith newidiadau arfaethedig i'r codau presenoldeb.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Camau gweithredu a rhesymeg Llywodraeth Cymru
Cefndir deddfwriaethol
Mae Llywodraeth Cymru am i bob plentyn fwynhau dysgu a chael yr addysg orau bosibl er mwyn datblygu ac ehangu ei wybodaeth, ei sgiliau a'i brofiad.
Bydd hyn yn eu helpu i fod:
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
- yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
- yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Mae codau presenoldeb yn cael eu defnyddio gan ysgolion i gofnodi gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion. Maent yn helpu i olrhain data presenoldeb a phenderfynu a yw disgybl yn cael ei farcio'n bresennol neu'n absennol. Yn syml, dyma'r llythrennau a'r marciau a ychwanegir at gofrestr presenoldeb i nodi'r rheswm pam mae disgybl yn absennol.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru godau presenoldeb newydd yn 2010 drwy Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) (2010). Roedd y rheoliadau hyn yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu cofrestru'n gywir a bod lleoliadau addysg yn cadw cofnodion cywir o bresenoldeb. Fodd bynnag, nid yw'r codau wedi cael eu diwygio ers hynny.
Ers cyflwyno'r codau presenoldeb cyfredol yn 2010, mae cyd-destunau cymdeithasol ac addysgol wedi esblygu'n sylweddol. Yn ogystal, arweiniodd pandemig COVID-19 at batrymau absenoldeb newydd a thynnodd sylw at yr angen am ddata mwy cywir er mwyn datblygu canllawiau cliriach ar ddysgu o bell.
Bydd diweddaru'r codau presenoldeb yn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben mewn tirwedd addysgol sy'n newid ac yn darparu mwy o eglurder i awdurdodau lleol ac ysgolion a byddant hefyd yn sicrhau bod dull Llywodraeth Cymru o gofnodi presenoldeb yn cael ei gymhwyso'n gyson ledled Cymru. Bydd adolygu'r codau presenoldeb yn galluogi dealltwriaeth fanylach o'r rhesymau am absenoldeb disgyblion ac yn cefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i weithredu strategaethau wedi'u targedu i fynd i'r afael â rhwystrau penodol i bresenoldeb.
Mae'r newidiadau arfaethedig cyfredol i'r codau presenoldeb wedi'u gwneud yn unol â'r Rheoliadau uchod ac ar y sail hon nid oes angen diwygio Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) (2010). Mae'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer casglu data ar godau presenoldeb gan Lywodraeth Cymru fel y nodwyd yn Neddf Addysg 1996 (adrannau 537A a 538).
Materion ymarferol
I sicrhau bod y codau presenoldeb yn cyd-fynd â thirwedd addysgol sy'n newid, mae’n hanfodol adolygu'r codau presenoldeb. O ystyried natur dechnegol y codau presenoldeb, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn yn bennaf am ymatebion gan bartneriaid sy’n cynnwys ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol, Unedau Cyfeirio Disgyblion, ysgolion arbennig, awdurdodau lleol, cymdeithasau proffesiynol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond bydd pob ymateb yn cael ei groesawu. Bwriedir i’r ymgynghoriad technegol hwn bara am chwe wythnos o 3 Chwefror 2026 i 17 Mawrth 2026.
Nod y codau presenoldeb diwygiedig yw sicrhau darlun cywir o bresenoldeb a'r rhesymau am absenoldeb a galluogi ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gael dealltwriaeth fanylach o'r rhesymau am absenoldeb disgyblion a chefnogi unrhyw newidiadau yn y dyfodol mewn polisi cysylltiedig.
Yn fyr, mae'r cyfarwyddyd drafft a gynhwysir yn yr ymgynghoriad yn cynnig bod y pum categori ystadegol presennol yn cael eu cynnal fel isod ond gydag amrywiadau. Gellir gweld gwybodaeth fanylach yn y dogfennau ymgynghori.
| Y codau presenoldeb presennol | Categori ystadegol | Newidiadau | Y codau presenoldeb diwygiedig |
|---|---|---|---|
| /\ ac L | Yn bresennol | Dim newidiadau ond mae'r wybodaeth mewn perthynas â'r codau presenoldeb wedi'i hadolygu a'i diweddaru. | /\ ac L |
| B, D, P, V, J, ac W | Gweithgaredd addysgol cymeradwy | Mae D bellach wedi'i ailgategoreiddio o dan 'dim angen bod yn bresennol'. Mae P wedi'i rannu i gynnwys gweithgaredd perfformio yn ogystal â gweithgaredd chwaraeon. Mae J bellach yn absenoldeb awdurdodedig yn hytrach na gweithgaredd addysgol cymeradwy. Mae'r wybodaeth mewn perthynas â'r holl godau presenoldeb wedi'i hadolygu a'i diweddaru. | B, P1, P2, V ac W |
| C, F, H, I, M, S, E, R a T | Absenoldeb awdurdodedig | Mae'r cod C wedi'i rannu i'n galluogi i sicrhau data ar ddysgwyr sy'n cymryd rhan mewn perfformiad cymeradwy â thâl, amserlenni rhan-amser, dysgwyr sy'n cael eu haddysgu'n hyblyg a dysgwyr sy'n derbyn dysgu ar-lein. Mae’r cod I wedi'i rannu i'n galluogi i sicrhau data am salwch oherwydd salwch corfforol a salwch nad yw'n gorfforol. Mae'r cod J wedi'i symud i'r adran hon ac mae bellach yn J1. Mae'r wybodaeth mewn perthynas â'r holl godau presenoldeb wedi'i hadolygu a'i diweddaru. | C1, C2, C3, C4, C5, F, H, I1, I2, J1, M, S, E, R a T |
| N, O, G, U | Absenoldeb anawdurdodedig | Dim newidiadau ond mae'r wybodaeth mewn perthynas â'r holl godau presenoldeb wedi'i hadolygu a'i diweddaru. | N, O, G, U |
| X, Y, Z a # | Dim rhaid bod yn bresennol | Mae'r cod D wedi'i symud i’r adran hon gan fod ysgolion/awdurdodau lleol wedi trefnu darpariaeth amgen ar gyfer y plentyn mewn ysgol/Uned Cyfeirio Disgyblion arall a bydd ei bresenoldeb yn cael ei gofnodi gan y darparwr hwnnw. Mae'r cod Y wedi'i rannu a bydd yn rhoi mwy o eglurder mewn perthynas â'r rhesymau pam mae ysgolion ar gau/yn rhannol ar gau oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Mae'r wybodaeth mewn perthynas â'r holl godau presenoldeb wedi'i hadolygu a'i diweddaru. | D, X, Y1, Y2, Y3, Y4, Y5, Z a # |
Nid yw'r newidiadau arfaethedig i'r codau presenoldeb yn effeithio ar y canlynol, a oedd yn ofynion yn Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) (2010).
- Mae dal yn ofynnol i ysgolion roi disgyblion ar y gofrestr dderbyn ar y diwrnod cyntaf y maent yn disgwyl i’r disgybl fynychu’r ysgol ar sail cytundeb neu hysbysiad blaenorol ac nid ar yr union ddiwrnod y maent yn dod i’r ysgol am y tro cyntaf.
- Os nad yw disgybl yn dychwelyd i’r ysgol ar ôl cyfnod o absenoldeb, mae dal yn ofynnol i’r ysgol a’r awdurdod lleol ganfod lle yn union y mae’r disgybl hwnnw. Os bydd yr ysgol a’r awdurdod lleol yn methu â chanfod lle mae’r disgybl ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, ac os na fydd y disgybl wedi dychwelyd i’r ysgol am fwy na 10 diwrnod, gall yr ysgol ddileu enw’r disgybl o'r gofrestr dderbyn.
- Mae ysgol yn dal i allu dileu enw disgybl o'r gofrestr dderbyn ar y sail:
- y bu’r disgybl yn absennol heb awdurdod am 20 diwrnod ysgol o leiaf, ac nad oes sail i’r ysgol gredu na all y disgybl fod yn bresennol oherwydd salwch neu reswm arall nad oes modd ei osgoi ac mae'r ysgol a’r awdurdod lleol fel ei gilydd wedi methu canfod ble mae’r disgybl, a hwythau wedi gwneud ymholiadaurhesymol
- os yw disgybl wedi’i gadw yn y ddalfa o ganlyniad i orchymyn llys am bedwar mis o leiaf ac nad oes gan yr ysgol sail resymol dros gredu y bydd y disgybl yn dychwelyd i’r ysgol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, gall yr ysgol ddileu ei enw o'r gofrestr
Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad chwe wythnos, a fydd yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd ehangach gan gynnwys:
- ysgolion unigol
- awdurdodau lleol
- cymdeithasau proffesiynol
- Comisiynydd Plant Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid i gyflwyno’r newidiadau a chasglu data perthnasol er mwyn mynd i'r afael yn well â'r rhesymau nad yw disgyblion yn bresennol. Bydd yr amserlen hon yn lleihau tarfu ac yn sicrhau parodrwydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027.
Yr hirdymor
Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth ar godau presenoldeb gyda'r bwriad o symleiddio absenoldeb a phresenoldeb disgyblion mewn lleoliadau addysg. Ond o ystyried y dirwedd addysgol sy'n newid, bydd y diwygiadau yn rhoi mwy o eglurder i awdurdodau lleol ac ysgolion ac yn sicrhau bod dull Llywodraeth Cymru o gofnodi presenoldeb yn cael ei gymhwyso'n gyson ledled Cymru.
Fodd bynnag, rydym yn parhau i wrando ar adborth trwy ymgynghoriadau fel hyn i sicrhau bod y polisi yn dal i ddiwallu anghenion y gweithwyr proffesiynol, y sefydliadau, yr unigolion a’r plant a phobl ifanc y mae'n effeithio arnynt.
Atal
Credwn fod cael codau presenoldeb unffurf ar draws pob awdurdod lleol yn helpu ysgolion i fonitro presenoldeb yn fwy penodol. Bydd hyn, yn ei dro, yn galluogi ysgolion i ddelio â diffyg presenoldeb disgyblion mewn modd mwy cynhwysfawr.
Integreiddio
Mae dyletswydd eisoes ar athrawon ac ysgolion i gymryd cofrestr. Ni fydd hyn yn ychwanegu at y dyletswyddau presennol a amlinellir yn Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) (2010), gan nad proses newydd yw hon ond diwygiad i broses bresennol. Bydd angen i'r gweithlu addysg ddod yn gyfarwydd â'r codau presenoldeb newydd, eu hystyr a sut y dylid eu defnyddio a bydd Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau wedi'u diweddaru a fydd yn cefnogi'r manteision tymor hwy sef mwy o eglurder, gwell cysondeb a data o ansawdd well.
Y Gymraeg
Nid oes unrhyw effaith uniongyrchol ar y Gymraeg a diwylliant Cymru wrth ddiweddaru'r codau presenoldeb. Ar ben hynny, nid oes unrhyw effaith uniongyrchol ar gyfrifoldeb byd-eang Cymru.
Cydweithio a cynnwys
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r codau presenoldeb diwygiedig ar y cyd â charfan fach o swyddogion o'r awdurdodau lleol drwy weithdai personol a diwygiadau pellach ar-lein. Yn ogystal, profwyd dilysrwydd y codau presenoldeb diwygiedig arfaethedig drwy ddefnyddio enghreifftiau gan awdurdodau lleol o achosion presennol lle mae ysgolion wedi gofyn am eglurhad ynghylch pa godau presenoldeb i'w defnyddio.
Ar ben hynny, wrth ddatblygu'r codau presenoldeb diwygiedig drafft, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag awdurdodau lleol i sicrhau bod y codau diwygiedig yn adlewyrchu datblygiadau technolegol a modelau cyflenwi sy'n esblygu.
Effaith
Credwn mai'r hyn sy'n bwysig yw'r effaith ar ddisgyblion, lleoliadau addysg a phartneriaid trydydd parti. Dyma'r rhesymeg y tu ôl i'r ddeddfwriaeth wreiddiol a'r ymgynghoriad hwn.
Rydym yn cydnabod y gall diweddaru’r codau presenoldeb deimlo fel mater dibwys i lawer o bobl, ond gall lywio'n sylweddol y gwaith o ddatblygu polisi ac ymyriadau mewn ysgolion a thrwy hynny wella presenoldeb disgyblion. Er nad yw'r cynnig yn datrys yr holl broblemau posibl, mae'n ceisio gwneud pethau mor syml â phosibl i'r rhai yr effeithir arnynt.
Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle ystyrlon i ni glywed barn partïon â diddordeb am y dehongliad o'r codau presenoldeb ac am unrhyw effeithiau pellach na chafodd eu nodi trwy'r broses hon.
Costau ac arbedion
Nid ydym yn rhagweld unrhyw gostau ychwanegol i Lywodraeth Cymru nad ydynt eisoes yn cael eu hariannu drwy gyllidebau staffio arferol. Ar ben hynny, nid oes unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol yn gysylltiedig â paratoi'r ymgynghoriad, yr ymgysylltu â rhanddeiliaid neu'r gweithgarwch ôl-ymgynghori sy'n gysylltiedig â diweddaru a chyhoeddi'r canllawiau. Bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal gan swyddogion o Lywodraeth Cymru, fel rhan o'u rolau presennol.
Byddai'r costau gweithredu ar gyfer diweddaru'r codau presenoldeb ar system DEWI yr ysgolion yn fach iawn a Llywodraeth Cymru yn unig fyddai'n eu hysgwyddo, gan y byddai'r rhain yn cael eu cwmpasu o dan brosesau datblygu sydd eisoes yn bodoli ac felly ni fyddent yn ychwanegu unrhyw gostau sylweddol.
Gall unrhyw newidiadau a wneir i feddalwedd MIS ysgolion i alluogi cofnodi a storio'r codau presenoldeb newydd yn yr ysgol, achosi amrywiad yn y costau trwyddedu meddalwedd i gwsmeriaid. Ond disgwylir iddo fod yn fach iawn oherwydd mai ychydig bacho waith datblygu sydd ei angen i addasu'r codau presenoldeb o gymharu â chostau cyffredinol y feddalwedd. Mae'r contractau rhwng y darparwr gwasanaeth a'r cwsmer yn cael eu hadolygu'n rheolaidd ac mae cwsmeriaid yn rhydd i newid y cyflenwr/cyflenwyr yn ôl eu disgresiwn eu hunain cyn belled â'u bod yn gallu bodloni eu rhwymedigaeth statudol. Felly, mater i ysgolion a/neu awdurdodau lleol yw mynd ati'n barhaus i ystyried y gwerth am arian y maent yn ei gael gan eu cyflenwr.
Efallai y bydd cost fach iawn ar gyfer penodi cwmni dadansoddi allanol i ymgymryd â'r adolygiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a pharatoi'r adroddiad cryno, sydd eto i'w benderfynu.
Dull gweithredu
Er bod hyn y tu hwnt i dymor y weinyddiaeth hon, mae angen cytundeb y weinyddiaeth bresennol er mwyn i ni allu sicrhau bod cyflenwyr meddalwedd ac awdurdodau lleol yn bwrw ymlaen â'r gwaith angenrheidiol i weithredu'r codau presenoldeb newydd mewn modd amserol. Byddai aros nes bod gweinyddiaeth newydd yn ei le i geisio'r cytundeb hwn yn golygu na fyddem yn gallu bodloni'r dyddiad cau ym mis Medi 2026, a bydd hyn yn arwain at oedi o 12 mis i'r newidiadau. Fodd bynnag, byddem yn ceisio cytundeb y Gweinidog perthnasol cyn y penderfyniad terfynol ar fabwysiadu'r codau presenoldeb newydd.
Casgliad
Rydym wedi ystyried yr holl effeithiau tebygol ar wahanol grwpiau ac ar les cymdeithasol, economaidd a diwylliannol wrth wneud y newidiadau hyn. Ar ôl gwneud hynny, rydym yn hyderus bod effeithiau cadarnhaol diweddaru'r codau presenoldeb yn gorbwyso unrhyw resymau dros beidio ag adolygu'r codau presenoldeb. Credwn y bydd yr holl randdeiliaid yn yr amgylchedd addysgol yn elwa ar hyn.
