Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Asesiad effaith integredig ar Reoliadau Safonau'r Gymraeg ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, a chynnig i ychwanegu Cartrefi Cymunedol Cymru at Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac yna at Atodlen 6 i Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2).

Adran 1: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham

Cymraeg 2050

Cyhoeddwyd strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ym mis Awst 2017. Prif dargedau'r strategaeth yw cael miliwn o bobl â’r gallu i siarad Cymraeg erbyn 2050 a dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd. Er mwyn cyflawni'r ail darged, mae'n bwysig bod pobl yn gallu defnyddio'r Gymraeg wrth gysylltu â chymaint o gyrff â phosibl a'u bod yn hyderus y gallant ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg o safon wrth gysylltu â'r cyrff hynny. Gwneir dyletswyddau statudol ynglŷn â'r Gymraeg drwy system safonau'r Gymraeg.

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg ('safonau')

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”) yn darparu ar gyfer pennu safonau ymddygiad penodol mewn perthynas â'r Gymraeg. Mae’r safonau'n disodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg y darperir ar eu cyfer yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae adran 26 o Fesur 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, ac mae adran 39 yn eu galluogi i ddarparu bod safon yn benodol gymwys i berson drwy awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) i roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safon.

Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 10)

Mae'r Rheoliadau yn pennu safonau ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Cyn i gorff gydymffurfio â safon, rhaid bodloni'r amodau hyn: 

  • Rhaid i'r corff ddod o fewn categori yn Atodlenni 5 a 6 (neu Atodlenni 7 ac 8) i'r Mesur.
  • Rhaid i'r safon fod wedi'i gwneud yn benodol gymwys i'r corff. Mae hyn yn golygu bod Gweinidogion Cymru, mewn rheoliadau, wedi awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i'r corff sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r safon.
  • Bod y Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i'r corff sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r safon, a bod yr hysbysiad cydymffurfio hwnnw mewn grym.

Mater i'r Comisiynydd fydd dewis pa safonau sydd wedi'u cynnwys yn y Rheoliadau i'w gosod ar gyrff unigol. Mae gan y Comisiynydd hyblygrwydd wrth ddewis pa safonau y mae'n rhaid i gorff gydymffurfio â nhw, ac i ba raddau, ac erbyn pa ddyddiad y maen rhaid i'r corff gydymffurfio â safon. Mae'r Comisiynydd yn nodi'r wybodaeth honno mewn hysbysiad cydymffurfio a gyflwynir i'r corff.

Bydd corff yn gallu herio gofyniad i gydymffurfio â safon benodol ar sail a yw'n rhesymol a chymesur. Yn y lle cyntaf, bydd corff yn gallu cyflwyno her i'r Comisiynydd, gan ofyn iddi benderfynu a yw'r gofyniad arno i gydymffurfio â safon benodol yn yr hysbysiad cydymffurfio yn rhesymol a chymesur.

Mae'r safonau wedi'u paratoi gyda'r nod o:

  • wella'r gwasanaethau Cymraeg y gall siaradwyr Cymraeg eu disgwyl gan gyrff
  • ei gwneud yn glir i gyrff yr hyn y mae angen iddynt ei wneud o ran y Gymraeg
  • sicrhau cysondeb priodol o ran y dyletswyddau a roddir ar gyrff sydd yn yr un sectorau

Y tymor hir

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ledled Cymru a enwir yn y Ddeddf weithio tuag at gyflawni saith nod llesiant, gan gynnwys ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’. Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at gyflawni’r nodau llesiant, gan gynnwys hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Mae Adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fabwysiadu strategaeth sy'n nodi sut y maent yn bwriadu hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Datblygwyd strategaeth ‘Cymraeg 2050 Miliwn o siaradwyr’ (‘Cymraeg 2050’) yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae gan y strategaeth ddau brif darged – cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd. 

Mae'r safonau'n disodli system y Cynlluniau Iaith Gymraeg a ddarperir ar eu cyfer gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac maent yn gwneud cyfraniad pwysig at strategaeth Cymraeg 2050 drwy gynyddu'r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg a'i gwneud yn bosibl i bobl gael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Mae'r safonau hefyd yn cyflwyno dyletswyddau ar gyrff i ddarparu mwy o wasanaethau Cymraeg i'w cyflogeion a helpu cyrff i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn fewnol.

Atal

Er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn gallu ffynnu, a bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r targedau a nodir yn ei strategaeth Cymraeg 2050, mae'n bwysig bod pobl yn gallu defnyddio'r Gymraeg gyda chymaint o gyrff â phosibl a'u bod yn hyderus y gallant gael mynediad at wasanaethau Cymraeg o safon wrth gysylltu â chyrff. Bwriad safonau yw cynnig eglurder i'r cyrff hyn ac i'r rhai sy'n ymdrin â'r cyrff hyn o ran beth sydd angen ei ddarparu yn Gymraeg.

Integreiddio

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i “[d]dechrau’r gwaith o weithredu safonau ar gymdeithasau tai”. Mae paratoi safonau ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, a elwir yn fwy cyffredin fel cymdeithasau tai, nid yn unig yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw ond hefyd yn cyfrannu at strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg drwy gynyddu'r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg a'i gwneud yn bosibl i bobl gael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Datblygwyd y strategaeth yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n cynnwys y nod i hyrwyddo 'Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu'.

Cydweithio

Mae'r rheoliadau'n cael eu gwneud a'u cymeradwyo gan Weinidogion Cymru. Ar ôl i safonau gael eu cymeradwyo, maent yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiynydd. Mae'r Rheoliadau o ddiddordeb i'r cyrff sy'n ddarostyngedig i'r cynigion, yn ogystal â'u defnyddwyr gwasanaethau. 

Cynnwys

Rhoddwyd cyfle i gyrff sy'n ddarostyngedig i'r cynigion, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn gyffredinol, gyflwyno eu barn ar y cynigion drwy ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 24 Mehefin a 16 Medi 2025. 

Effaith

Bydd y cynigion yn galluogi'r Comisiynydd i osod safonau ar Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Cartrefi Cymunedol Cymru drwy roi hysbysiad cydymffurfio iddynt a fydd yn nodi'r safonau y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â nhw, ac erbyn pryd. Drwy wneud hynny, bydd yn ofynnol i'r cyrff hynny ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn unol â'u hysbysiad cydymffurfio. Gallai methu â chydymffurfio â safonau arwain at gamau gorfodi gan y Comisiynydd. 

Mae cyrff sy'n ddarostyngedig i'r cynigion a rhanddeiliaid wedi cael cyfle i gyflwyno eu barn ar y cynigion, gan gynnwys unrhyw effaith gadarnhaol neu negyddol ymddangosiadol, drwy ymgynghoriad cyhoeddus. 

Costau ac Arbedion

Mae'r Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau yn cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Dull gweithredu

Mae angen is-ddeddfwriaeth i gyflawni'r cynigion polisi. 

Adran 8: casgliad

8.1 Wrth ddatblygu’r cynnig, sut yr aed ati i gynnwys y bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt

Mae nifer o'r cyrff sy'n ddarostyngedig i'r cynigion hyn eisoes yn darparu gwasanaethau Cymraeg yn unol â'u Cynlluniau Iaith Gymraeg. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rheoliadau drafft rhwng 24 Mehefin a 16 Medi 2025. Rhannwyd dolen i'r ymgynghoriad â chynrychiolwyr y sector, rhanddeiliaid sy'n ymwneud â'r Gymraeg, a rhanddeiliaid tai. 

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, cymerodd swyddogion Llywodraeth Cymru ran mewn seminar a drefnwyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru, corff cynrychioliadol y sector ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Roedd y sesiwn yn gyfle i gyflwyno'r ymgynghoriad ar y Rheoliadau drafft i'r sector, gan amlinellu'r egwyddorion cyffredinol a'r themâu allweddol sy'n sail i'r cynigion. Roedd cynrychiolwyr o Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ('y Comisiynydd') hefyd yn bresennol i esbonio rôl y Comisiynydd ar ôl i'r Rheoliadau gael eu deddfu, a sut y gallant gefnogi cyrff i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â nhw.

8.2 Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol

Bydd pennu Safonau ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Cartrefi Cymunedol Cymru yn caniatáu i siaradwyr Cymraeg gael mynediad at wasanaethau Cymraeg mwy cyson gan gyrff sy'n ddarostyngedig i'r cynigion.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant a (neu) yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol

Bydd y Rheoliadau yn cyfrannu at strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, a'r nod llesiant, sef 'Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu'.

Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at gyflawni’r nodau llesiant, gan gynnwys hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Mae Adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fabwysiadu strategaeth sy'n nodi sut y maent yn bwriadu hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Datblygwyd strategaeth Cymraeg 2050 yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae ei nodau yn cyd-fynd â'r nod llesiant 'Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu'.

Bwriad y Rheoliadau yw cynyddu a sicrhau mwy o eglurder a chysondeb yn y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gyrff sy'n ddarostyngedig i'r cynigion gyda'r nod o’i gwneud yn bosibl i bobl gael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

8.4 Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau

Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn monitro sut mae'r cyrff yn cydymffurfio â safonau, a bydd yn ofynnol i'r cyrff hynny gyhoeddi adroddiad blynyddol. Bydd gofyn i gyrff sicrhau bod ganddynt drefniadau ar gyfer goruchwylio'r ffordd y maent yn cydymffurfio â safonau y maent o dan ddyletswydd i gydymffurfio â nhw.