Neidio i'r prif gynnwy

Mae camgymeriad wedi ei nodi yn y dangosydd celfyddydau, diwylliant a threftadaeth sy’n seiliedig ar ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol o flwyddyn gwaith maes 2022-23 (mis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023). Dylai’r defnydd o archifau, llyfrgelloedd, ac amgueddfeydd fod wedi ei gynnwys yn y dangosydd, ond ni ddigwyddodd hynny, ac felly adroddwyd yn anghywir bod gostyngiad mewn cyfranogiad o’i gymharu â 2019-20.  Mae’r dangosydd diwygiedig yn dangos na fu gostyngiad o’i gymharu â 2019-20. Mae’r ffigurau a nodir ar gyfer y dangosydd hwn wedi cael eu diwygio’n briodol, a chawsant eu hailgyhoeddi ar 17 Tachwedd 2023. Mae newidiadau wedi’u marcio drwy’r bennod gyda '(r)'.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Awdur: Stephanie Howarth

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu: Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Beth ydym wedi ei ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

  • Eleni roedd 72% o oedolion wedi mynychu gweithgareddau sy'n ymwneud â'r celfyddyau, diwylliant neu dreftadaeth, neu wedi cymryd rhan ynddynt, o leiaf deirgwaith y flwyddyn. (r)
    Nid yw'r ganran o oedolion sy'n mynychu gweithgareddau sy'n ymwneud â'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth, neu'n cymryd rhan ynddynt yn rheolaidd yn sylweddol wahanol eleni i'r adeg y cafodd ei mesur yn flaenorol yn 2020 a 2017-18. (r)
  • Wrth edrych yn fanylach ar y celfyddydau, mae’n ymddangos bod y pandemig wedi effeithio’n fwy negyddol ar bresenoldeb yn y celfyddydau na chyfranogiad yn y celfyddydau. Nid oes data newydd ar bresenoldeb na chyfranogiad plant yn y celfyddydau eleni. 
  • Mae mwy o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd eleni. Dywedodd 39% o oedolion eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy. Roedd gostyngiad yn y ganran a ddywedodd nad oeddent yn gwneud unrhyw chwaraeon na gweithgarwch corfforol – o 44% yn 2021-22 i 40% eleni.
  • Yn wahanol i’r cynnydd yn nifer yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, mae llai o blant yn cymryd rhan mewn chwaraeon rheolaidd y tu allan i’r ysgol. Roedd 39% o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu dair gwaith yr wythnos neu fwy yn 2022, i lawr 9 pwynt canran o’r arolwg diwethaf yn 2018.
  • Yn ôl Cyfrifiad 2021, dywedodd 17.8% o bobl tair oed neu hŷn yng Nghymru eu bod yn gallu siarad Cymraeg, i lawr o 19.0% yng Nghyfrifiad 2011. Ymddengys bod hyn yn cael ei ysgogi gan ostyngiad yn nifer y plant a’r bobl ifanc yr adroddwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 11% o bobl yn dweud eu bod yn rhugl.
  • Aseswyd bod cyflwr 77% o adeiladau rhestredig yn “sefydlog neu’n gwella” eleni, o’i gymharu â 59% ar gyfer henebion rhestredig. Nid yw hyn wedi newid rhyw lawer ers y flwyddyn flaenorol.
  • Mae canran yr amgueddfeydd sy’n cyrraedd safonau achrededig wedi aros yr un fath eleni, sef 62%, ac roedd 93% o’r gwasanaethau archif yn bodloni’r safonau achredu.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae nifer fach o ddangosyddion cenedlaethol ar gyfer y nod hwn wedi dangos dirywiad amlwg dros yr hirdymor, yn bennaf nifer y siaradwyr Cymraeg. Efallai fod cyfnod y pandemig wedi cyfrannu yma, gan gynnwys ar gyfranogiad plant mewn chwaraeon. I’r gwrthwyneb, bu cynnydd nodedig yn yr hirdymor mewn amrywiaeth o feysydd fel cyfranogiad a phresenoldeb plant yn y celfyddydau, cyfranogiad rheolaidd oedolion mewn chwaraeon, ac amgueddfeydd ac archifau sy’n ennill achrediad. Mae gwahaniaethau mawr yn parhau ar draws nifer o ddangosyddion ar gyfer y nod hwn.

  • Mae’r dangosydd cenedlaethol ar y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wedi cael ei gasglu dair gwaith, a’r tro cyntaf yn 2017-18. Nid yw'r ganran o oedolion sy'n mynychu gweithgareddau sy'n ymwneud â'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth, neu'n cymryd rhan ynddynt yn rheolaidd yn sylweddol wahanol eleni i'r adeg y cafodd ei mesur yn flaenorol yn 2020 a 2017-18. (r) Mae gwahaniaethau eang o hyd yn dibynnu ar oedran, iechyd, amddifadedd a chymwysterau, ond nid ar gyfer rhyw na grwpiau ethnig.
  • Mae presenoldeb a chyfranogiad plant a phobl ifanc mewn gweithgareddau celfyddydol wedi cynyddu’n sylweddol dros y degawd diwethaf.
  • Mae mwy o amgueddfeydd a gwasanaethau archifau yn cyrraedd y safonau achrededig. Rhwng 2017 a 2023, bu cynnydd mwy yng nghanran y gwasanaethau archifau sy’n cyrraedd safonau achrededig (o 57% i 93%) nag amgueddfeydd (o 59% i 62%).
  • Ers 2016-17, gwelwyd cynnydd cymharol fawr yn yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, er gwaethaf y ffaith bod y sefyllfa wedi aros ar yr un lefel rhwng 2017-18 a 2019-20. Roedd cyfranogiad mewn chwaraeon ymysg disgyblion ysgol wedi cynyddu ond erbyn hyn mae wedi gostwng i lefelau tebyg a welwyd yn 2013.
  • Gostyngodd nifer a chanran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021, gyda’r ganran bellach yr isaf i'w chofnodi erioed mewn cyfrifiad. Mae carreg filltir genedlaethol i filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ôl y cyfrifiad, roedd 538,000 o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, i lawr o bron i filiwn yn 1911.
  • Mae data arolwg yn awgrymu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl yn yr hirdymor. Mae canran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio’r iaith bob dydd wedi bod yn weddol sefydlog.
  • Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi gwella ychydig ers 2015, ac mae cyflwr henebion rhestredig wedi sefydlogi’n ddiweddar.

Celfyddydau, diwylliant a threftadaeth

Yn 2022-23, roedd 72% o oedolion wedi mynychu gweithgareddau sy'n ymwneud â'r celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth, neu wedi cymryd rhan ynddynt o leiaf deirgwaith y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 71% yn 2019-20 a 75% yn 2017-18. Er bod gostyngiad mewn presenoldeb a chyfranogiad o 2017-18 i 2019-20, nid oes unrhyw newidiadau ystadegol arwyddocaol yn y dangosydd hwn rhwng 2022-23 ac amseroedd blaenorol y cafodd ei fesur. (r)

Mae gwahaniaethau mawr o hyd o ran presenoldeb a chyfranogiad rhwng grwpiau. Roedd oedolion iau, pobl â chymwysterau uwch, pobl â bodlonrwydd bywyd uwch neu bobl sy'n byw yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru yn fwy tebygol o fynychu'r gweithgareddau hyn neu gymryd rhan ynddynt. Fodd bynnag, nid oes gwahaniaeth rhwng dynion a menywod, ac nid oedd gwahaniaethau mewn amcangyfrifon ar gyfer grwpiau ethnig yn arwyddocaol yn ystadegol.

Ffigur 6.1: Oedolion sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth dair gwaith y flwyddyn neu fwy, 2017-18 i 2022-23 (r)

Image

Disgrifiad o Ffigur 6.1: Siart far yn dangos tair blynedd o ddata ar gyfer y dangosydd cenedlaethol ar fynychu neu gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth yn rheolaidd. Nid oes unrhyw wahaniaethau arwyddocaol rhwng 2022-23 a'r blynyddoedd blaenorol y mesurwyd y dangosydd hwn. (r)

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Presenoldeb a chyfranogiad oedolion yn y celfyddydau

Wrth edrych yn fanylach ar y celfyddydau, mae’n ymddangos bod cyfnod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar bresenoldeb mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau. Yn 2022-23, mynychodd 64% o bobl ddigwyddiad celfyddydol dros y flwyddyn ddiwethaf, i lawr o 70% cyn y pandemig. Gweld ffilm yw’r gweithgaredd celfyddydol â’r lefel uchaf o bresenoldeb o hyd, gyda 47% o oedolion yn gwneud hyn dros y 12 mis diwethaf.

Mae cymryd rhan yn y celfyddydau yn dal yn llawer is na phresenoldeb yn y celfyddydau, gyda 18% o oedolion yn cymryd rhan yn y celfyddydau yn 2022-23. Yn wahanol i bresenoldeb yn y celfyddydau, nid yw’n ymddangos bod y pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar gyfranogiad yn y celfyddydau, gyda chyfran gweddol debyg o bobl yn cymryd rhan yn y celfyddydau yn y flwyddyn ddiweddaraf o’i gymharu â 2019-20. Cerddoriaeth, a chrefftau a chelfyddydau gweledol welodd y lefelau uchaf o gyfranogiad eleni, sef 7% yr un.

Ffigur 6.2: Oedolion sy’n mynychu digwyddiad celfyddydol yn ystod y 12 mis diwethaf, yn ôl math o gelfyddyd, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 6.2: Siart far sy’n dangos y mathau o ddigwyddiadau celfyddydol yr oedd oedolion wedi’u mynychu yn 2022-23, gyda ffilm yn y categori uchaf.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Yn 2021-22, holodd Arolwg Cenedlaethol Cymru ynglŷn â rhwystrau o ran mynd i ddigwyddiadau celfyddydol neu gymryd rhan yn y celfyddydau. Diffyg diddordeb ac anhawster dod o hyd i amser oedd y rhwystrau mwyaf cyffredin a grybwyllwyd, gyda 28% a 22% o bobl yn nodi’r rhesymau hyn. Fodd bynnag, yn achos oedolion hŷn, nodwyd mai rhesymau iechyd oedd y rhwystr mwyaf ar ôl diffyg diddordeb.

Plant a’r celfyddydau

Dros yr hirdymor, gwelwyd cynnydd yn nifer y plant sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol. Fodd bynnag, mae cyfranogiad plant yn y celfyddydau wedi bod yn fwy sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.

Amharwyd ar yr arolygon a gasglwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn ystod y pandemig, felly mae’r data diweddaraf sydd ar gael yn dod o 2019. Mae hyn yn dangos bod cyfran y plant a phobl ifanc sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, er bod gostyngiad bach wedi bod yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar gael ar ei chyfer. Fe gododd o 76.3% yn 2010 i 86.7% yn 2019.

Nid yw cyfranogiad plant yn y celfyddydau wedi newid fawr ddim dros y blynyddoedd diwethaf. Fe wnaeth tua 86% i 87% o blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn digwyddiad celfyddydol ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf hyd at 2019.

Amgueddfeydd ac archifau

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod 99 o amgueddfeydd wedi cyrraedd y safon achredu yn 2023. Nid yw hyn wedi newid ers y llynedd, ond mae cynnydd o bump ers 2019. Mae hyn yn golygu bod 62% o amgueddfeydd wedi eu hachredu erbyn hyn, o’i gymharu â 59% yn 2017 i 2019. Cafodd y cynllun achredu ei ohirio yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig felly nid oes ffigurau ar gael ar gyfer y cyfnod hwn.

Mae ymweliadau ag amgueddfeydd wedi gostwng o’i gymharu â’r lefelau cyn y pandemig. Mae data o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 31% o bobl wedi ymweld ag amgueddfa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy’n sylweddol is na’r 43% a gofnodwyd yn 2019-20.

Roedd 14 o wasanaethau archif yn cyrraedd y safon achredu yn 2023, sy’n cyfateb i 93% o wasanaethau archif. Mae cyfran y gwasanaethau archif sydd wedi’u hachredu wedi cynyddu o 57% yn 2017, ond mae wedi bod yn fwy sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae cyfran y bobl sy’n defnyddio archif neu swyddfa cofnodion wedi cynyddu o 5% yn 2019-20 i 8% yn 2022-23.

Cymryd rhan mewn chwaraeon

Mae mwy o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd. Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 39% o oedolion wedi cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy yn 2022-23, y gyfradd uchaf a gofnodwyd gan yr arolwg. Mae hyn yn gynnydd o tua 10 pwynt canran ers 2016-17 pan gasglwyd yr wybodaeth am y tro cyntaf.

Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd yn gostwng gydag oedran. Amcangyfrifir bod 57% o bobl ifanc 16 i 24 oed yn cymryd rhan mewn chwaraeon rheolaidd, sy’n gostwng i 13% o bobl ifanc 75 oed a hŷn.

Mae lefelau uwch o gyfranogiad chwaraeon rheolaidd ymysg:

  • dynion
  • grwpiau oedran iau
  • pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • pobl nad oes ganddynt salwch neu gyflwr hirdymor
  • pobl sy’n siarad Cymraeg
  • pobl nad ydynt mewn amddifadedd materol.

Gostyngodd canran y bobl nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon na gweithgarwch corfforol eleni o 44% yn 2021-22 i 40% yn 2022-23. Mae’r ffigur eleni yn debycach i’r blynyddoedd blaenorol. Ar wahân i 2021-22, nid yw cyfradd y bobl nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon wedi newid rhyw lawer ers i’r data gael ei gasglu am y tro cyntaf yn 2016-17.

Yn gyffredinol, byddai 27% o oedolion yn hoffi cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol. Mae hyn wedi cwympo’n sylweddol ers yr arolygon blaenorol lle dywedodd bron i 60% y byddent yn hoffi gwneud mwy.

Ffigur 6.3: Canran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy, 2016-17 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 6.3: Siart llinell yn dangos canran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy, sydd wedi cynyddu yn yr hirdymor.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Cyfranogaeth plant mewn chwaraeon

Roedd gostyngiad mawr yn nifer y plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn 2022.

Cymerodd 39% o ddisgyblion ran mewn chwaraeon wedi’u trefnu y tu allan i’r cwricwlwm dair gwaith yr wythnos neu fwy. Roedd hwn yn ostyngiad 9 pwynt canran ers 2018 pan gynhaliwyd yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgolion ddiwethaf a dyma’r ffigur isaf erioed a gofnodwyd gan yr arolwg (ychydig yn fwy na'r 40% a adroddwyd yn 2013). Roedd cynnydd mawr hefyd yn y ganran a ddywedodd nad oedd yn cymryd rhan yn aml mewn chwaraeon y tu allan i’r ysgol. Roedd hyn yn 36% yn 2022, i fyny o 28% yn yr arolwg blaenorol. Er gwaethaf y gostyngiad mewn cyfranogiad, roedd mwyafrif helaeth y disgyblion (93%) eisiau gwneud mwy o chwaraeon.

Roedd llai o fechgyn a merched yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn aml, ond mae bechgyn yn dal yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon. Yn 2022, cymerodd 43% o fechgyn ran mewn chwaraeon wedi’u trefnu dair gwaith neu fwy yr wythnos y tu allan i’r ysgol, o’i gymharu â 36% o ferched. Roedd plant oed ysgol gynradd ychydig yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd o’i gymharu â phlant oed ysgol uwchradd.

Wrth edrych ar grwpiau ethnig eang, disgyblion o grwpiau Cymysg neu Aml-ethnig oedd â’r cyfraddau uchaf o ran cymryd rhan mewn chwaraeon, gyda 43% yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy. Disgyblion nad oeddent wedi nodi eu grŵp ethnig oedd â’r lefelau isaf o gyfranogiad chwaraeon rheolaidd, ac yna disgyblion Asiaidd, Asiaidd Cymreig ac Asiaidd Prydeinig, sef 30%. Mae gwybodaeth am grwpiau ethnig manylach wedi’i chynnwys yn yr is-adroddiad Ethnigrwydd a Llesiant yng Nghymru.

Ffigur 6.4: Canran y plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy, 2013 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 6.4: Siart llinell yn dangos canran y plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd. Mae cyfranogiad wedi gostwng yn ddiweddar i lefel debyg a welwyd yn 2013.

Ffynhonnell: Arolwg ar Chwaraeon Ysgolion

Siaradwyr Cymraeg

Rydym yn ystyried mai’r cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 17.8% o bobl tair oed neu hŷn yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn wedi gostwng o 19.0% yn 2011 a dyma’r ganran isaf erioed a gofnodwyd mewn cyfrifiad.

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y Gymraeg yw miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dros yr hirdymor, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi bod yn gostwng o bron i filiwn o bobl yn 1911 i 538,000 erbyn hyn. Er bod y ffigurau diweddaraf yn dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, mae’r nifer yn dal yn uwch na’r pwynt isaf yn 1981, pan oedd dros 504,000 o bobl yn siarad Cymraeg.

Roedd y gostyngiad yn nifer a chanran y bobl tair oed neu hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn cael ei sbarduno’n bennaf gan ostyngiad ymysg plant a phobl ifanc yr adroddwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig COVID-19 ar 21 Mawrth 2021. Roedd hyn yn dilyn cyfnodau o gyfyngiadau symud, dysgu o bell i blant ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref. Nid yw’n hysbys a oedd y pandemig wedi effeithio ar allu pobl yn y Gymraeg (neu ganfyddiad o allu pobl eraill i siarad Cymraeg).

Ffigur 6.5: Pobl tair oed a hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, 1911 i 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 6.5: Siart linell yn dangos nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ers 1911. Gostyngodd y niferoedd yn sylweddol yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, gyda newidiadau llai ers hynny.

[Nodyn 1] Ni chynhaliwyd cyfrifiad yn 1941.

Ffynhonnell: Cyfrifiad poblogaeth

Mae data Cyfrifiad 2021 yn dangos bod bron i un o bob deg aelwyd yn cynnwys pobl a oedd i gyd yn gallu siarad Cymraeg.

Mae’r cyfrifiad yn dangos bod proffil oedran siaradwyr Cymraeg yn iau na phroffil y boblogaeth gyffredinol. O’r rhai a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, roedd dros eu hanner yn iau na 33 oed, ac roedd tri chwarter yn iau na 57 oed.

Mae canran uwch o fenywod yn gallu siarad Cymraeg na dynion, gyda’r bwlch yn fwy ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed.

Rhwng 2011 a 2021, roedd canran y bobl a oedd yn gallu siarad Cymraeg wedi gostwng yn y grwpiau Gwyn a’r grwpiau Cymysg neu Aml-ethnig. I’r gwrthwyneb, roedd cynnydd yng nghanran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn y grŵp ethnig Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig; yn y grŵp ethnig Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd; ac yn y grŵp ethnig “Arall”.

Defnydd o’r Gymraeg

Mae’r arolwg diweddaraf o ddefnydd o’r Gymraeg yn dangos mai ychydig o newid a fu o ran pa mor aml mae pobl yn siarad Cymraeg.

Yn 2019-20, roedd 10% o bobl tair oed neu hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau Cymraeg. Dyma’r un ganran ag yn yr Arolwg Defnydd o’r Gymraeg blaenorol yn 2013-15. Mae data mwy diweddar o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer pobl 16 oed neu hŷn hefyd yn awgrymu mai prin fu’r newid cyffredinol yng nghyfradd y bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd. Mae siaradwyr Cymraeg rhugl yn siarad yr iaith yn amlach na’r rhai nad ydynt yn rhugl.

Mae dadansoddiad diweddar o Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 wedi ymchwilio i ddefnydd cymdeithasol o’r Gymraeg.

Mae bron i 70% o blant a phobl ifanc sy’n siarad Cymraeg yn dweud bod mwy o’u ffrindiau yn gallu siarad Cymraeg na’r Saesneg. Mae plant a phobl ifanc sy’n gallu siarad Cymraeg yn fwy tebygol o wneud hynny gyda’u ffrindiau yn yr ysgol nag ydyn nhw o siarad Cymraeg â ffrindiau y tu allan i’r ysgol.

Ar gyfer oedolion, dywedodd 24% o siaradwyr Cymraeg fod y cyfan neu’r rhan fwyaf o’u teulu estynedig yn gallu siarad Cymraeg, gyda 18% yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg â’u teulu estynedig bob amser, neu bron bob amser. Roedd y ffigurau’n is ar gyfer ffrindiau a phobl yn eu cymuned leol. Wrth edrych ar ddefnydd digidol o’r Gymraeg, roedd oedolion Cymraeg eu hiaith yn fwy tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg mewn negeseuon testun a negeseuon e-bost nag ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rhuglder yn y Gymraeg

Mae arolygon yn darparu gwybodaeth am ruglder yn y Gymraeg nad yw ar gael o’r cyfrifiad. Nid oes modd cymharu data arolygon â’r cyfrifiad gan fod pobl fel arfer yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg mewn arolygon. Yn wahanol i ganlyniadau Cyfrifiad 2021, mae arolygon wedi dangos cynnydd diweddar yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae'r gwahaniaethau hyn yn cael eu harchwilio.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, nid yw cyfran y siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn sy’n rhugl wedi newid rhyw lawer dros y 10 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, yn yr hirdymor, bu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl.

Mae canran y bobl sy’n rhugl yn y Gymraeg wedi aros ar oddeutu 10% neu 11% ers 2012-13, yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd 23% o bobl eu bod yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg, ond nid yn rhugl yn Arolwg Cenedlaethol 2022-23. Mae hyn wedi cynyddu tua 10 pwynt canran dros y degawd blaenorol.

Adeiladau hanesyddol a henebion

Bob blwyddyn, mae Cadw yn asesu cyflwr sampl o adeiladau rhestredig a henebion rhestredig yng Nghymru. Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi gwella ychydig ers 2015, ac mae cyflwr henebion rhestredig wedi sefydlogi’n ddiweddar.

O’r 30,000 o adeiladau rhestredig, mae 77% mewn cyflwr sefydlog neu’n gwella yn 2023, i fyny ychydig o 74% yn 2015. Ystyrir bod 9% o adeiladau rhestredig mewn perygl. Yn gyffredinol, mae cyflwr adeiladau rhestredig wedi aros yn weddol debyg dros y pum mlynedd diwethaf, ond effeithiwyd ar gasglu data yn 2022-23 gan gyfyngiadau a osodwyd gan ffliw adar a oedd yn cyfyngu ar arolygiadau i ardaloedd trefol.

Mae cyflwr cadwraeth sampl o henebion cofrestredig yn cael eu hasesu bob blwyddyn. Yn 2022-23 cynhaliwyd arolygon o gyflwr 316 o henebion, ac roedd 52% o’r sampl yn sefydlog neu wedi gwella. 

O’r 4,200 o henebion cofrestredig yng Nghymru, asesir bod 59% yn gyffredinol mewn cyflwr sefydlog neu’n gwella. Nid yw hyn wedi newid ers tair blynedd yn olynol, ond dros yr hirdymor mae’r ffigwr wedi bod yn gostwng yn raddol ers 2016-17, pan oedd 66% mewn cyflwr sefydlog neu’n gwella. Mae 42% o henebion cofrestredig yn dangos dirywiad, ac mae 14% ohonynt yn cael eu hystyried yn rhai mewn perygl. Y prif effeithiau yw difrod a dirywiad o ganlyniad i effeithiau’r tywydd, llystyfiant ac erydiad stoc. 

Dywedodd 63% o bobl eu bod wedi ymweld â safle treftadaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Ffigur 6.6: Canran yr henebion cofrestredig sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwella, 2011-12 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 6.6: Siart linell yn dangos cyfran yr henebion cofrestredig sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwella. Dim ond ychydig o newid sydd wedi bod yn y ganran dros y deng mlynedd diwethaf.

Ffynhonnell: Cadw

Darllen pellach

Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o:

  • gwirfoddoli neu gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol neu chwaraeon
  • rhwystrau o ran cymryd rhan yn y celfyddydau a gwahaniaethau rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol a phoblogaeth o ran cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a chwaraeon
  • tueddiadau yn y mathau o weithgareddau y cymerwyd rhan ynddynt
  • cymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod y pandemig
  • defnydd o'r Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc
  • cysylltiadau rhwng y Gymraeg a digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru yn cynhyrchu adroddiadau manwl rheolaidd ar y celfyddydau a chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys Arolwg Omnibws y Plant 2019 ac Arolwg ar Chwaraeon Ysgolion.

Mae amrywiaeth o ddadansoddiadau o’r Gymraeg ar gael hefyd o Gyfrifiad 2021 ac yn adroddiadau’r Arolwg ar y Defnydd o’r Gymraeg ar gyfer 2019-20. Roedd y cyhoeddiadau canlynol yn dadansoddi data arolwg ar y Gymraeg yn fanylach neu’n darparu mwy o wybodaeth am y gwahaniaeth rhwng amcangyfrifon y cyfrifiad ac arolygon:

Cynllun gwaith ar y cyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru ar gydlyniant ystadegau’r Gymraeg

Siarad Cymraeg (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2018 i Fawrth 2019 

Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth:2001 i 2018 

Ffynonellau data