Neidio i'r prif gynnwy

Y nod ar gyfer Cymru o gymunedau cydlynus

Awdur: Dr Steven Marshall

Cymru o gymunedau cydlynus: Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Nid yw’r rhan fwyaf o’r dangosyddion o Arolwg Cenedlaethol Cymru sy’n ymwneud â chymunedau cydlynus wedi cael eu diweddaru eleni. Mae’r pwynt cyffredinol ynghylch newid wedi parhau, sef bod y pandemig (COVID-19) wedi effeithio’n eang ar fywydau pobl Cymru yn yr un modd â llefydd eraill ac mae hyn wedi effeithio ar y dangosyddion yn y bennod mewn ffyrdd gwahanol.

Cynyddodd gwirfoddoli yn ystod pandemig COVID-19, ac mae canlyniadau 2022-23 yn dangos bod y lefel uwch hon wedi cael ei chynnal (o 26% yn 2019 i 2020, i 29% yn 2021 i 2022 a 30% yn 2022 i 2023).

Mae unigrwydd, sy’n seiliedig ar gyfuniad o chwe mesur ar wahân, wedi aros yr un fath fwy neu lai dros y tair blynedd diwethaf (2020 i 2021 i 2022 i 2023) ac yn is na 2019 i 2020. O fewn y mesur cyffredinol, mae’r ganran sydd ‘wedi gweld colli cael pobl o gwmpas’ wedi dilyn patrwm gwahanol gyda chanran wedi cynyddu’n sylweddol yn 2020 i 2021 a 2021 i 2022 ond gyda 2022 i 2023 yn ôl i lefelau 2019 i 2020.

Nid oedd llawer o newid eleni yn nifer yr aelwydydd a gysylltodd â’u hawdurdod lleol i gael cymorth gan eu bod dan fygythiad o ddigartrefedd. Ond roedd cynnydd yn nifer yr aelwydydd yr aseswyd eu bod yn ddigartref a nifer yr aelwydydd a oedd mewn llety dros dro yn 2022 i 2023 o’i gymharu â 2021 i 2022.

Mae data gan Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (heb gynnwys twyll) yn 2022 i 2023 yn dangos bod 6.6% o oedolion wedi dioddef troseddau a bod 2.5% wedi dioddef troseddau personol. Oherwydd newidiadau yn y ffordd y cynhaliwyd yr arolwg yn ystod y pandemig, ni ellir cymharu’r data hwn â’r flwyddyn flaenorol.

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae rhai o’r dangosyddion ar gyfer cymunedau cydlynus yn dal yn fesurau cymharol ddiweddar a gasglwyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ac felly mae’n anodd rhoi sylwadau hyderus ar newidiadau dros amser. Mae effeithiau pandemig COVID-19, yn ogystal â newidiadau yn y ffordd y cesglir yr Arolwg Cenedlaethol, yn effeithio ar y gallu i gymharu â data cynharach. Ond gyda hynny mewn golwg, mae’n ymddangos bod nifer o fesurau sy’n ymwneud â chydlyniant cymunedol ac ymgysylltu wedi gweld newid cadarnhaol yn ystod y 2020au.

  • Roedd dangosyddion cydlyniant cymunedol wedi bod yn weddol sefydlog ers iddynt gael eu casglu am y tro cyntaf yn 2012 tan y gwelwyd cynnydd sylweddol yn 2020 i 2021. Yn ystod yr un flwyddyn hefyd gwelwyd newid sylweddol cadarnhaol yn y ffordd mae pobl yn teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau lleol. Ni fydd yn glir a fydd y cynnydd yn 2020 i 2021 a 2021 i 2022 yn cael ei gynnal nes bydd data ar gael ar gyfer nifer o flynyddoedd yn y dyfodol. 
  • Gwelwyd ychydig o welliannau dros yr hirdymor ym modlonrwydd pobl â’u hardal leol. Mae pobl sy’n teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu wedi aros yn gymharol gyson ers iddynt gael eu holi am y tro cyntaf yn 2016 i 2017 ac roeddent yn 66% yn 2021 i 2022.
  • Roedd canran y bobl sy’n gwirfoddoli wedi bod yn gostwng ond mae’n ddangosydd arall sydd wedi gweld cynnydd yn y 2020au. Cyrhaeddwyd y garreg filltir genedlaethol sef bod 30% o bobl yn gwirfoddoli.
  • Mae’r rhan fwyaf o’r dangosyddion yn y nod hwn wedi cael eu dadansoddi’n fanwl i bennu’r ffactorau sy’n gysylltiedig â gwahaniaethau yn lefel y dangosydd. Mae cysylltiadau rhwng y gwahanol fesurau o gymunedau cydlynus, y dangosyddion cenedlaethol eraill yn ogystal â mesurau eraill a gasglwyd yn yr Arolwg Cenedlaethol sy’n ymwneud â’r pwnc hwn (er enghraifft, bod yn fodlon â’r gwasanaethau a’r cyfleusterau yn yr ardal leol). Gall y cysylltiadau weithio’n hawdd yn y naill gyfeiriad neu’r llall, er enghraifft, gall pobl unig fod yn llai tebygol o wirfoddoli ond gall gwirfoddoli hefyd helpu i leihau unigrwydd. 
  • Yn wahanol i ddadansoddiad cynharach, mae’r dadansoddiad diweddaraf sy’n seiliedig ar ganlyniadau arolwg Cenedlaethol 2021 i 2022 yn dangos bod oedran, iechyd ac amddifadedd yn bwysig i rai ond nid pob un o’r dangosyddion.
  • Mae pobl yn teimlo bod troseddu wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, er bod y darlun o droseddau a gofnodwyd yn fwy cymysg. Yn ystod y pandemig COVID-19, bu gostyngiad yn y rhan fwyaf o fathau o droseddau.
  • Nid yw’n glir eto a oes unrhyw newidiadau parhaus mewn ymddygiad o ganlyniad i’r pandemig a allai effeithio ar y cynnydd hirdymor tuag at y nod.

Cydlyniant cymunedol

Roedd bron i ddwy ran o dair o oedolion yn cytuno â phob un o’r tri mesur cydlyniant cymunedol yn 2021 i 2022 – perthyn i’r ardal leol, pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda, a thrin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth - pan gasglwyd data ar y dangosydd hwn ddiwethaf gan Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae hyn yn gynnydd ers y blynyddoedd cyn y pandemig, ac yn ychydig o ostyngiad ers 2020 i 2021.

Yn 2021 i 2022, roedd 64% o bobl yn cytuno â’r tri datganiad am eu hardal leol sy’n ffurfio’r dangosydd cenedlaethol, ac roedd 95% yn cytuno ag o leiaf un datganiad. 

Mae’r ffigurau hyn wedi bod yn weddol sefydlog ers iddynt gael eu casglu am y tro cyntaf yn 2012 tan y cynnydd sylweddol yn 2020 i 2021. Ni ddaw’n glir a yw’r cynnydd yn 2020 i 2021 a 2021 i 2022 yn effaith byrdymor o'r pandemig (gyda chymunedau’n dod at ei gilydd yn lleol) ac a fyddant yn cael eu cynnal, neu eu cynnal yn rhannol, hyd nes y bydd data ar gael ar gyfer nifer o flynyddoedd i ddod. 

Nid oes gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol rhwng dynion a menywod ar y mesurau unigol nac o ran cytuno â'r tri datganiad. 

Mae tuedd glir tuag at fwy o gydlyniant cymunedol wrth i amddifadedd yn yr ardal ostwng.

Ffigur 5.1: Canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am eu hardal leol, yn ôl blwyddyn [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.1: Siart far yn dangos canran y bobl sy’n cytuno â thri datganiad am eu hardal leol rhwng 2012 i 2013 a 2021 i 2022. 

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

[Nodyn 1] Nid oes gan y blynyddoedd 2015 i 2016, 2017 i 2018 a 2019 i 2020 ddata sy’n gysylltiedig â nhw.

Teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu

Mae dwy ran o dair o oedolion yn teimlo’n ddiogel mewn gwahanol sefyllfaoedd ar ôl iddi dywyllu.

Y dangosydd cenedlaethol yw canran y bobl a gytunodd gyda'r pedwar datganiad am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu: gartref, wrth gerdded yn eu hardal leol, teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio mewn car. Yn 2021 i 2022, roedd 66% o bobl yn teimlo’n ddiogel ym mhob un o’r pedair sefyllfa.  Mae’r canlyniadau hyn wedi aros yn weddol gyson ar draws y blynyddoedd ers gofyn am y tro cyntaf yn 2016 i 2017.

Mae dynion yn teimlo’n fwy diogel (81%) na menywod (51%). Mae tuedd glir tuag at fwy o deimlad o ddiogelwch wrth i amddifadedd yn yr ardal ostwng, gyda 72% o bobl sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn teimlo'n ddiogel ym mhob sefyllfa o gymharu â 54% o bobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Ffigur 5.2: Canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu, 2021 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.2: Siart far yn dangos canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu yn 2021 i 2022. Roedd 96 y cant yn teimlo’n ddiogel gartref, roedd 97% yn teimlo’n ddiogel wrth deithio mewn car, roedd 75% yn teimlo’n ddiogel wrth gerdded yn yr ardal leol ac roedd 76% yn teimlo’n ddiogel wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. 

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

[Nodyn 1] ‘Ddim yn gwybod’ oedd ateb 27% o’r bobl a holwyd i’r cwestiwn am drafnidiaeth gyhoeddus ac ni chawsant eu cynnwys yn y dadansoddiad. O ganlyniad, mae cyfran y bobl sy’n teimlo’n ddiogel ym mhob un o’r pedair sefyllfa yn is nag y byddai’r canlyniadau unigol yn ei awgrymu.

Bodlonrwydd â’r ardal leol

Yn gyffredinol, yn ôl Arolwg Cenedlaethol 2021 i 2022, mae 89% o bobl yn dweud eu bod yn fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw, sydd ychydig yn uwch na'r canlyniadau yn 2020 i 2021, 2018 i 2019 a 2016 i 2017. 

Roedd 86% o bobl yn fodlon eu bod yn gallu cyrraedd neu ddefnyddio’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, ychydig yn is na 2020 i 2021 ond cynnydd ers 2018 i 2019 (83%). Nid oedd y gostyngiad bach diweddaraf yn arwyddocaol yn ystadegol. Roedd hyn yn amrywio yn ôl y math o ardal gyda chanran sylweddol is o bobl o ardaloedd gwledig yn cael mynediad da at wasanaethau a chyfleusterau o’i gymharu â’r rhai o ardaloedd trefol (83% o’i gymharu ag 87%). Nid yw’n syndod mai preswylwyr pentrefannau ac adeiladau ynysig oedd y lleiaf bodlon â’r mynediad at wasanaethau a chyfleusterau, gyda dim ond 77% yn dangos eu bod yn fodlon ar y dangosydd hwn. 

Ffigur 5.3: Mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da yn ôl ardal, 2021 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.3: Siart far yn dangos canran y bobl sy’n fodlon â’u mynediad at wasanaethau a chyfleusterau. Mae 87% o bobl mewn ardaloedd trefol yn fodlon o’i gymharu â 77% o bobl sy’n byw mewn pentrefannau ac anheddau ynysig.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Dywedodd llai na 60% o bobl (yn 2021 i 2022) fod gwasanaethau trefol fel canolfannau cymunedol, ysgolion uwchradd, llyfrgelloedd a chlybiau ieuenctid neu chwaraeon ar gael yn eu hardal leol. I’r gwrthwyneb, dywedodd dros 80% fod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, siopau a thafarndai i gyd o fewn pellter cerdded 15 i 20 munud o’u cartref.

Dylanwadu ar benderfyniadau lleol

Mae mwy o bobl nawr yn teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau lleol.
Yn 2021 i 2022, roedd 30% o bobl yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol o’i gymharu â 26% yn 2020 i 2021 a 19% yn 2018 i 2019.

Mae hyn yn gynnydd sylweddol ers cyn 2020 ac mae’n bosibl ei fod yn adlewyrchu newid go iawn o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig, ond mae angen ei fonitro yn ystod blynyddoedd yr arolwg yn y dyfodol.

Ffigur 5.4: Canran y bobl sy’n teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar yr ardal leol, 2012 i 2013 a 2021 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.4: Siart far yn dangos canran y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol. Yn 2021 i 2022, dywedodd 30% eu bod yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau, o’i gymharu â 19% yn 2018 i 2019. Mae canlyniad 2021 i 2022 yn uwch nag ym mhob blwyddyn ers i'r cwestiwn gael ei ofyn am y tro cyntaf yn 2012 i 2013.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Gwirfoddoli

Mae canlyniadau data ar-lein a gasglwyd fel rhan o Arolwg Cenedlaethol 2022 i 2023 yn dangos bod 30% o bobl yn dweud eu bod yn gwirfoddoli i glybiau neu sefydliadau. Mae hyn yn cymharu â 26% yn 2019 i 2020 (pan gynhaliwyd yr arolwg wyneb yn wyneb) a 29% yn 2021 i 2022 (pan ofynnwyd y cwestiynau gwirfoddoli fel rhan o’r modiwl ar-lein am y tro cyntaf). Ym mhob blwyddyn, roedd y bobl fwyaf cyffredin yn gwirfoddoli ar gyfer elusennau a chlybiau chwaraeon. 

Mae tystiolaeth bod rhyngweithio cymdeithasol o fudd i lesiant personol ac mae gwirfoddoli yn agwedd ar ryngweithio cymdeithasol sydd wedi dangos manteision cadarnhaol o ran iechyd a llesiant. 

Ffigur 5.5: Canran y bobl sy’n gwirfoddoli yn ôl math o sefydliad, 2022 i 2023 

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.5: Siart far yn dangos canran y bobl sy’n gwirfoddoli, yn ôl math o sefydliad, yn 2022 i 2023. Mae pobl yn fwy tebygol o wirfoddoli ar gyfer mudiadau elusennol (10%) neu glybiau chwaraeon (8%).

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd gwirfoddoli yw “cynyddu canran y bobl sy’n gwirfoddoli 10% erbyn 2050, gan ddangos statws Cymru fel cenedl sy'n gwirfoddoli”. Mae hyn yn golygu cyrraedd ffigur o 30% erbyn 2050. Mae’r garreg filltir hon wedi cael ei chyflawni yn 2022 i 2023 ond, gyda’r ansicrwydd ynghylch pa mor gynaliadwy fydd y cynnydd a welwyd yn ystod pandemig COVID-19, nid yw’n glir o hyd a fydd y lefel hon yn cael ei chynnal.

Unigrwydd

Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn casglu data gan ddefnyddio graddfa unigrwydd De Jong Gierveld sy’n mynd i'r afael ag unigrwydd emosiynol a chymdeithasol. 

Yn 2022 i 2023, yn seiliedig ar bob un o’r chwe mesur, canfuwyd bod 13% o bobl Cymru yn unig, sef yr un ganran ag yn y ddwy flynedd ddiwethaf (2021 i 2022 a 2020 i 2021) ac yn is nag yn 2019 i 2020. Fodd bynnag, mae amrywiadau amlwg yng nghanran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n unig ym mhob un o’r mesurau unigol: 

  • Yn 2022 i 2023, dywedodd 36% o bobl eu bod yn colli cael pobl o’u cwmpas, sydd yr un ganran â 2019 i 2020. Fodd bynnag, roedd hyn yn uwch yn y blynyddoedd rhwng y dyddiadau hyn yn ystod pandemig COVID-19 a 53% yn 2021 i 2022 ac uchafbwynt o 71% yn 2020 i 2021. 
  • Roedd canran y bobl sy’n dweud bod ganddyn nhw bobl maen nhw’n gallu ymddiried yn llwyr ynddyn nhw wedi cynyddu o 59% yn 2019 i 2020 i 67% yn 2020 i 2021. Cafodd hyn ei gynnal yn 2021 i 2022 a 2022 i 2023. 
  • O 2019 i 2020 a 2021 i 2022, roedd cynnydd yng nghanran y bobl a ddywedodd fod ganddynt ddigon o bobl roeddent yn teimlo’n agos atynt, yn ogystal â’r ganran oedd â digon o bobl y gallent ddibynnu arnynt. Roedd y ffigurau ar gyfer 2022 i 2023, sef 83% a 77% yn y drefn honno, ychydig yn is ond nid yn newid arwyddocaol yn ystadegol rhwng 2020 i 2021. 

Mae canlyniadau diweddaraf (2022 i 2023) Arolwg Cenedlaethol Cymru yn awgrymu bod oedolion iau (16 i 44 oed) yn fwy tebygol o deimlo’n unig na phobl 65 oed a hŷn.

Ffigur 5.6: Canran y bobl sy’n teimlo’n unig yn ôl rheswm a blwyddyn

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.6: Siart far yn dangos y canlyniadau ar gyfer 2019 i 2020 a 2022 i 2023 a’r chwe chwestiwn a ofynnwyd i greu’r mesur o unigrwydd. Yn gyffredinol, mae’r ymatebion i’r datganiadau yn dangos bod pobl yn llai unig yn 2022 i 2023 o’i gymharu â 2019 i 2020.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Allgáu digidol

Cafodd dangosydd cenedlaethol newydd ei osod yn 2021 a fydd yn mesur statws cynhwysiant digidol. Bydd y diffiniad ar gyfer y dangosydd hwn yn seiliedig ar ganlyniad ymchwil parhaus ar y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol sylfaenol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan Brifysgol Lerpwl. 

Yn y cyfamser, mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol yn 2022 i 2023 yn dangos bod 93% o oedolion yn defnyddio’r rhyngrwyd at ddibenion personol yn y cartref, yn y gwaith neu yn rhywle arall, sydd heb newid ers y llynedd. Ar hyn o bryd, mae’r arolwg hefyd yn gofyn cwestiynau am weithgarwch digidol a’r sgiliau sydd gan bobl.

Mae’r rhain wedi eu grwpio’n 5 math o sgil:

  • Trin gwybodaeth a chynnwys 
  • Cyfathrebu
  • Trafod
  • Datrys problemau
  • Bod yn ddiogel ac yn gyfreithiol ar-lein

Mae’r data diweddaraf o 2021 i 2022, lle roedd 78% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd wedi gwneud gweithgareddau a oedd yn ymwneud â phob un o’r 5 sgil hyn o’i gymharu â 73% yn 2019 i 2020.

Digartrefedd

Mae’r dull ‘neb heb help’ o gefnogi aelwydydd digartref i gael llety brys wedi bod ar waith ers mis Mawrth 2020. Mae gwybodaeth reoli a gasglwyd ers dechrau’r pandemig yn dangos bod dros 37,300 o bobl a oedd yn ddigartref o’r blaen wedi cael cymorth i gael llety dros dro mewn argyfwng rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mai 2023.

Yn 2022 i 2023, roedd nifer yr aelwydydd yr aseswyd eu bod dan fygythiad o ddigartrefedd yn debyg i yn 2021 i 2022, ond mae’r gyfradd atal am o leiaf 6 mis wedi gostwng o dan 60% yn 2022 i 2023, am y tro cyntaf ers i’r ddeddfwriaeth newid yn 2015. Cyn y gostyngiad hwn, roedd digartrefedd wedi cael ei atal yn llwyddiannus mewn tua dwy ran o dair o achosion ers 2017 i 2018.

Mae nifer yr aelwydydd yr aseswyd eu bod yn ddigartref, a nifer yr aelwydydd yr aseswyd eu bod yn ddigartref yn anfwriadol ac sydd ag angen blaenoriaethol wedi cynyddu yn 2022 i 2023 o’i gymharu ag yn 2021 i 2022, 7% a 25% yn y drefn honno. Roedd aelwydydd a ryddhawyd yn llwyddiannus o ddigartrefedd wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2016 i 2017 a 2019 i 2020 ond mae wedi bod yn gostwng ers hynny, o 41% yn 2019 i 2020 i 30% yn 2022 i 2023.

Nifer yr aelwydydd mewn llety dros dro ar 31 Mawrth 2023 oedd 5,481. Mae’r nifer hwn wedi cynyddu’n gyflym ers y llynedd ac mae bellach yn fwy na dwbl y 2,325 o aelwydydd mewn llety dros dro ar yr adeg honno.

Mae gwybodaeth reoli a gasglwyd gan awdurdodau lleol ers mis Awst 2020 yn dangos bod amcangyfrif o nifer y bobl sy’n cysgu allan wedi amrywio rhwng 51 ac 161 unigolyn ers mis Awst 2020. Ar 31 Mai 2023, amcangyfrifir bod 154 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru, gyda Casnewydd, Caerdydd a Sir Benfro yn cyfrif am yr amcangyfrifon mwyaf o bobl sy’n cysgu allan.

Yn 2021, amcangyfrifwyd bod 40 o bobl ddigartref yng Nghymru wedi marw, o’i gymharu â 22 yn 2020 a 33 yn 2019.

Troseddu a chyfiawnder

Gosodwyd dangosydd cenedlaethol newydd yn 2021 a fydd yn mesur canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder. Nid yw data wedi ei gasglu eto ar gyfer y dangosydd hwn. 

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn profi trosedd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu wedi cynyddu tra bo cyfran yr oedolion sy’n ddioddefwyr troseddau wedi aros yn gymharol sefydlog.  

Mae data gan Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (heb gynnwys twyll) yn 2022 i 2023 yn dangos bod 6.6% o oedolion wedi dioddef troseddau a bod 2.5% wedi dioddef troseddau personol. Oherwydd newidiadau yn y ffordd y cynhaliwyd yr arolwg yn ystod y pandemig, ni ellir cymharu’r data hwn â’r flwyddyn flaenorol. Dyma’r ffigurau isaf yn y gyfres amser sydd ar gael (o 2015 i 2016) pan oedd y canrannau’n 14.7% a 4.4%. O un flwyddyn i’r llall, mae’r gyfran wedi gostwng ers y cyfnod hwn ac yng nghyd-destun y canrannau cymharol yn 2019 i 2020 roeddent yn 9.2% a 2.6% yn y drefn honno.

Cynyddodd troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yn 2022 i 2023 o 3%, yn dilyn gostyngiad o 17% yn 2021 i 2022. Cafwyd cynnydd mewn 4 o’r prif gategorïau o droseddau gan gynnwys troseddau rhywiol a throseddau dwyn. Ni welwyd unrhyw newid canrannol mewn troseddau treisgar a difrod troseddol a thanau bwriadol o’i gymharu â 2021 i 2022. Roedd troseddau yn ymwneud â chyffuriau a throseddau yn ymwneud â meddu arfau wedi gostwng o’i gymharu â 2021 i 2022. Mae’n debygol bod pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau a gyflwynwyd fel mesurau iechyd cyhoeddus ym mis Mawrth 2020 wedi cael effaith ar nifer yr achosion o sawl math o droseddau yn 2020 i 2021 ac i raddau llai yn 2021 i 2022.

Mae troseddau yn ymwneud â thwyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron wedi gostwng 11% yng Nghymru rhwng 2021 i 2022 a 2022 i 2023 er bod y gyfradd wedi aros yr un fath ar 5 trosedd am bob 1,000 o'r boblogaeth yng Nghymru. 

Mae’r data diweddaraf ar ganfyddiadau troseddau o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) (2022 i 2023) yn dangos bod 41% o bobl yng Nghymru yn credu bod troseddu wedi codi’n sylweddol yn genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gostyngiad o’i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol. Mae canran y rhai sy’n credu bod troseddu wedi cynyddu’n sylweddol yn eu hardal leol yn llawer iawn llai (11%). Mae’r data diweddaraf am droseddau treisgar yng Nghymru gan y CSEW yn dangos bod nifer yr achosion o droseddau yng Nghymru wedi cynyddu i gyfradd o 29 am bob 1,000 oedolyn yn 2022 i 2023. 

Ffigur 5.7: Troseddau a gofnodwyd gan yr Heddlu am bob 1,000 o'r boblogaeth, 2002 i 2003 a 2022 i 2023 

Image

Disgrifiad o Ffigur 5.7: Siart llinell yn dangos cyfraddau troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu am bob 1,000 o'r boblogaeth ers 2002 i 2003. Mae'r siart yn dangos bod troseddau dwyn wedi gweld y newid mwyaf mewn cyfraddau yn gostwng o fwy na 50 ym mhob 1,000 o'r boblogaeth i tua 20 ym mhob 1,000 o'r boblogaeth. Mae cyfraddau troseddau trais yn erbyn y person wedi bod yn cynyddu ers 2013 i 2014 ac ers 2018 i 2019 mae ganddynt y gyfradd uchaf o'r rhai a ddangosir. Gwelodd difrod troseddol a thanau bwriadol ostyngiad mewn cyfraddau tan 2016 i 2017 ond ers hynny maent wedi bod yn sefydlog. Troseddau trefn gyhoeddus oedd â'r gyfradd isaf am bob 1,000 o'r boblogaeth tan 2021 i 2022 pan gododd y gyfradd uwchben difrod troseddol a thanau bwriadol, mae cyfraddau yn y categori hwn wedi bod yn codi ers 2015 i 2016.

Ffynhonnell: Troseddau a Gofnodwyd gan yr Heddlu, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Darllen pellach

Ffynonellau data