Neidio i'r prif gynnwy

Y nod i Gymru sy’n fwy cyfartal

Awdur: Scott Clifford

Cymru sy'n fwy cyfartal: Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).

Nod y bennod hon yw dwyn ynghyd ddadansoddiadau cydraddoldeb ar gyfer y dangosyddion lle mae’r rhain ar gael. Fodd bynnag, mae data cydraddoldeb drwy gydol yr adroddiad hwn ar sut mae Cymru’n symud ymlaen i fod yn Gymru fwy cyfartal. Ochr yn ochr â phrif adroddiad eleni, mae adroddiad atodol hefyd sy’n canolbwyntio ar ethnigrwydd. Am y rheswm hwnnw, bydd y rhan fwyaf o ddadansoddiadau dangosyddion yn ôl ethnigrwydd yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad atodol hwnnw yn hytrach na’r bennod hon.

Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ARWAP) sy’n cynnwys canllawiau ar iaith Wrth-hiliol. Mae’r bennod hon yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data sy’n defnyddio categorïau gwahanol o grwpiau ethnig ac, o’r herwydd, mae’n bosibl na fydd o reidrwydd yn cyd-fynd â chanllawiau ARWAP. Fodd bynnag, lle bo’n bosibl, rydym wedi defnyddio iaith yn y bennod hon sy’n cyd-fynd ag iaith Wrth-hiliol.

Yn 2002, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y model cymdeithasol o anabledd. Mae’r model hwn yn nodi ffordd wahanol o edrych ar anabledd. Yn hytrach na diffinio pobl fel pobl anabl yn ôl eu nam (hynny yw, y model meddygol ar gyfer anabledd), ystyrir bod pobl sydd â namau yn anabl oherwydd rhwystrau corfforol, agweddol a sefydliadol sy’n cael eu creu gan gymdeithas.

Mae’r data a adroddir yma yn deillio o amrywiaeth o ffynonellau sy’n adlewyrchu’r data diweddaraf mwyaf dibynadwy sydd ar gael. Mae llawer o’r ffynonellau hyn yn defnyddio diffiniadau o anabledd, sy’n seiliedig ar y model meddygol yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn y Ddeddf Cydraddoldeb mae anabledd yn golygu cyflwr corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, lle bo’n bosibl, rydym wedi defnyddio iaith yn y bennod hon sy’n cyd-fynd â’r model cymdeithasol o anabledd.

Beth ydym wedi ei ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Oedran

  • Mae plant yn parhau i fod y grŵp poblogaeth sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod hyn yn wir am 28% o blant yng Nghymru o’i gymharu â 18% o bensiynwyr.
  • Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2021, yn dangos gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur sy’n cael ei sbarduno i raddau helaeth gan gynnydd yn y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed. Mae’n rhy gynnar i asesu effaith y pandemig ar y duedd hon.

Anabledd

  • Mae’r gyfradd cyflogaeth ymysg oedolion anabl (16 i 64 oed) yn dal yn is nag ymysg y rhai nad ydynt yn anabl. Roedd 49.1% o oedolion anabl (16 i 64 oed) yn cael eu cyflogi yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023.
  • Yn 2022-23, roedd un o bob pedwar (25%) o bobl anabl yn byw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol. Mae hyn fwy na dwywaith yn uwch nag ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl (11%).
  • Roedd y gwahaniaeth cyflog ar sail anabledd yng Nghymru yn 9.7% yn 2022, i fyny o 11.4% yn 2021. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill 9.7% yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl.
  • Cofnodwyd 864 o droseddau casineb gan yr heddlu yn 2021-22 lle ystyriwyd bod rhywun anabl yn ffactor cymhellol, gan gynyddu 71% o 504 yn y flwyddyn flaenorol. Roedd y rhain yn cynrychioli 14% o’r holl droseddau casineb a gofnodwyd.

Ethnigrwydd

  • Mae plant o rai grwpiau ethnig yn parhau i gyflawni’n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o’u cymharu ag eraill, gyda chyfrannau uwch o ddisgyblion TGAU Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael graddau A* - A ac A* - C yn ystod Haf 2022 na disgyblion Gwyn Prydeinig.
  • Roedd cynnydd o 27% yn nifer y troseddau casineb hiliol a gofnodwyd rhwng 2020-21 a 2021-22, er bod cyfran y troseddau casineb gyda hil fel ffactor sy’n cymell wedi gostwng ychydig.

Rhywedd

  • Mae merched yn parhau i gael deilliannau addysgol gwell ar lefel TGAU. Yn ystod yr haf 2022, dyfarnwyd mwy o raddau A* - C i ferched na bechgyn. Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng graddau ar raddfa A* ac A: dyfarnwyd 6.5 a 4.5 pwynt canran yn fwy i ferched na bechgyn, yn y drefn honno. Ehangodd y gwahaniaeth o ran graddau A* yn 2022.
  • Ym mis Ebrill 2022, 6.1% oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (amser llawn), cynnydd o 1.7 pwynt canran o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. 

Hunaniaeth rhywedd

  • Mae data o Gyfrifiad 2021 yn dangos bod dros 10,000 o bobl (0.4% o’r boblogaeth) wedi nodi bod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni.

Statws priodasol

  • Mae’n dal yn wir bod pobl sy’n briod yn llai tebygol o fod mewn amddifadedd materol na’r bobl sydd wedi gwahanu neu ysgaru.
  • Yn 2020, gostyngodd y cyfraddau priodi yng Nghymru a Lloegr i’w lefel isaf ers 1862. Er bod cyfraddau priodi wedi bod yn gostwng ers 2016, mae’r gostyngiad mawr rhwng 2019 a 2020 yn debygol o fod oherwydd cyfyngiadau’r pandemig a oedd mewn grym yn ystod rhannau o’r flwyddyn.

Crefydd

  • Dengys data Cyfrifiad 2021, am y tro cyntaf yng Nghymru, fod cyfran y boblogaeth a ddywedodd nad oedd ganddynt unrhyw grefydd (46.5%) yn uwch na’r gyfran a nododd eu bod yn Gristnogion (43.6%). Nodwyd bod 2.2% o’r boblogaeth yn ystyried eu hunain yn Foslemiaid a 1.4% â chrefydd arall (ar wahân i Gristnogaeth neu Islam).
  • Roedd nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yr adroddwyd eu bod wedi cael eu cymell gan grefydd wedi cynyddu 51% rhwng 2020-21 a 2021-22.

Cyfeiriadedd rhywiol

  • Mae data o Gyfrifiad 2021 yn dangos bod 3.0% o boblogaeth Cymru yn ystyried eu bod yn hoyw neu’n lesbiaidd, yn ddeurywiol neu’n rhywioldeb arall (heblaw am heterorywiol).
  • Roedd 151 o briodasau o’r un rhyw yn 2020, ac mae partneriaethau sifil o’r un rhyw wedi gostwng yn sylweddol i tua 30 y flwyddyn.
  • Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru sydd ar gael (2022-23) yn dangos bod pobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol tua dwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig nag eraill.
  • Yn 2021-22, cafodd 1,329 o droseddau casineb eu cofnodi gan yr heddlu lle’r oedd cyfeiriadedd rhywiol yn cael ei ystyried yn ffactor cymhellol, i fyny 50% o 884 yn y flwyddyn flaenorol. Roedd cyfran y troseddau casineb gyda chyfeiriadedd rhywiol fel ffactor cymhellol wedi cynyddu ychydig.

Anfantais economaidd-gymdeithasol

  • Rhwng 2019-20 a 2021-22, roedd ychydig mwy nag un o bob pump o’r boblogaeth (21%%) yn byw mewn tlodi incwm cymharol ar ôl talu am gostau eu tai.
  • Yn 2022-23, roedd 16% o oedolion yn cael eu hystyried mewn amddifadedd materol (hynny yw, yn methu fforddio pethau penodol fel cadw’r tŷ’n ddigon cynnes, cynilo’n rheolaidd, neu gael gwyliau unwaith y flwyddyn). Roedd dros hanner (56%) y rhieni sengl mewn amddifadedd materol yn 2022-23 a dywedodd 3% o aelwydydd eu bod wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod 2022-23.
  • Ar gyfer y blynyddoedd ariannol diweddaraf y mae data ar gael ar eu cyfer (2019-20 i 2021-2022) yn dangos bod 18% o aelwydydd yn gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai.

Beth yw’r cynnydd hirdymor tuag at y nod?

Ymddengys mai prin fu’r cynnydd tuag at gyflawni’r nod, gyda llawer o ddangosyddion Cymru sy’n Fwy Cyfartal a data cydraddoldeb cysylltiedig yn dangos fawr ddim arwydd o welliant yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.

Mae’r argyfwng costau byw diweddar ac effeithiau hirdymor y pandemig yn debygol o fod wedi gwaethygu anghydraddoldeb i bobl a oedd eisoes dan anfantais. Fodd bynnag, efallai na fydd effeithiau parhaus y digwyddiadau hyn wedi'u hadlewyrchu'n llawn eto mewn tueddiadau data diweddar.

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar dlodi incwm cymharol yn dangos bod canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 17 mlynedd.

Mae’r rheini sydd wedi ysgaru, gwahanu neu erioed wedi priodi yn dal i fod yn fwy tebygol o gael trafferthion ariannol, gyda theuluoedd un rhiant yn fwyaf tebygol o fod mewn amddifadedd materol.

Mae bwlch o hyd rhwng deilliannau addysgol plant yn yr ysgol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, gyda’r bwlch ar lefel TGAU yn ehangu yn y 6 blynedd diwethaf.

Mae carreg filltir genedlaethol i ddileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Ar y cyfan, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi bod yn lleihau. Mae'r data diweddaraf hefyd yn dangos bod y bwlch cyflog ethnigrwydd wedi cynyddu ond mae'r amcangyfrifon yn anwadal. Ar gyfartaledd, mae gweithwyr ethnig leiafrifol yn ennill oddeutu 16.8% yr awr yn llai na gweithwyr Gwyn Prydeinig. Mae’n ymddangos bod y bwlch cyflog anabledd, a gododd rhwng 2014 a 2019, yn lleihau erbyn hyn.

Yn 2022-23, roedd sgoriau boddhad â bywyd yn parhau i fod yn debyg i’r lefelau cyn y pandemig ar gyfer pob grŵp oedran ac eithrio’r rhai rhwng 16 a 24 oed a rhwng 25 a 44 oed. Mae pobl 16 i 24 oed yn dal yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na phobl 65 oed a hŷn.

Ar wahân i bobl ifanc, mae rhai grwpiau eraill sy’n fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig. Mae’r rhain yn cynnwys pobl anabl sydd â nam hirdymor cyfyngol, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a phobl sy’n lesbiaid, yn hoyw neu’n ddeurywiol.

Mae plant o rai cymunedau ethnig leiafrifol yn parhau i gyflawni’n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o’u cymharu ag eraill, gyda chyfrannau uwch o ddisgyblion TGAU Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael graddau A* - A ac A* - C yn ystod yr Haf 2022 na disgyblion Gwyn Prydeinig.

Mae hil yn dal i gael ei hystyried yn ffactor cymhellol mewn bron i ddwy ran o dair o'r holl droseddau casineb a gofnodwyd. Roedd cynnydd mewn troseddau casineb hil wedi’u cofnodi yn 2021-22, ond roedd y cynnydd hwn yn is na’r rhai a welwyd ar gyfer y ffactorau cymhellol eraill.

Mae tuedd tymor hwy i lai o bobl nodi eu crefydd fel Cristion ac i fwy o bobl ddweud nad oes ganddyn nhw grefydd. Y rhain yw’r categorïau mwyaf o hyd tra bo cyfran y bobl sy’n ystyried eu hunain yn Foslemiaid wedi aros rhwng 1% a 2%.

Gostyngodd nifer y priodasau o’r un rhyw i 151 yn 2020 (o 397 ymlaen yn 2019). Fodd bynnag, mae’r gostyngiad hwn yn debygol o fod oherwydd cyfyngiadau’r pandemig a oedd ar waith ar gyfer rhannau o’r flwyddyn.

Mae troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu lle’r oedd cyfeiriadedd rhywiol yn cael ei ystyried yn ffactor cymhellol wedi parhau i gynyddu, ac erbyn hyn maent yn cyfrif am dros un rhan o bump o’r holl droseddau casineb a gofnodwyd.

Mae cyfraddau cyflogaeth pobl anabl yn aros yn sefydlog ar ychydig o dan 50%. Mae’r gyfradd cyflogaeth ymysg oedolion anabl (16 i 64 oed) yn dal yn is nag ymysg y rhai nad ydynt yn anabl.

Mae aelwydydd sy’n cynnwys rhywun anabl yn dal yn fwy tebygol o gael trafferthion ariannol.

At ei gilydd, mae deilliannau addysgol plant ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol wedi aros yn gyson.

Anfantais economaidd-gymdeithasol

Mae cyfraddau tlodi cyffredinol wedi aros yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 17 mlynedd. Bydd effaith yr argyfwng costau byw wedi effeithio’n benodol ar bobl ar incwm isel. Fodd bynnag, efallai nad yw’r effaith hon wedi’i hadlewyrchu’n llawn eto yn y data diweddaraf sydd ar gael.

Rhwng 2019-20 a 2021-22, roedd ychydig mwy nag un o bob pump o’r boblogaeth (21%%) yn byw mewn tlodi incwm cymharol ar ôl talu am gostau eu tai.

Ym mis Rhagfyr 2021, gosodwyd carreg filltir genedlaethol i leihau’r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â rhai nodweddion allweddol a gwarchodedig (sy’n golygu eu bod fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a’r rhai heb y nodweddion hynny erbyn 2035. Mae amcangyfrifon tlodi incwm ar gyfer pobl yng Nghymru sydd â nodweddion gwarchodedig ar gael yn nes ymlaen yn y bennod hon.

Yn 2022-23, roedd 16% o oedolion yn cael eu hystyried mewn amddifadedd materol (hynny yw, yn methu fforddio pethau penodol fel cadw’r tŷ’n ddigon cynnes, cynilo’n rheolaidd, neu gael gwyliau unwaith y flwyddyn). Mae aelwydydd un rhiant yn fwy tebygol o fod mewn amddifadedd materol na mathau eraill o aelwydydd. Roedd dros hanner (56%) y rhieni sengl mewn amddifadedd materol yn 2022-23.

Ar draws pob deiliadaeth, ar gyfer y blynyddoedd ariannol diweddaraf y mae data Arolwg o Adnoddau Teulu ar gael ar eu cyfer (2019-20 i 2021-22), mae 18% o aelwydydd yn gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai. Mae’r ganran hon wedi bod yn weddol gyson dros y cyfnod 2011-12 i 2020-21, ond mae’n amrywio yn ôl deiliadaeth tai. Mae dadansoddiad pellach o'r dangosydd hwn i'w weld ym mhennod Cymru Lewyrchus o'r adroddiad hwn. Mae costau defnyddio ynni domestig fel nwy a thrydan wedi’u heithrio o’r costau tai hyn gan nad yw data ar gostau o’r fath yn cael eu casglu yn y Gwasanaethau Tân ac Achub, ond mae’r amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer tlodi tanwydd yn cael eu darparu isod.

Yn 2022-23, dywedodd 3% o aelwydydd eu bod wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd diffyg arian, gyda 3% arall yn dweud nad oeddent wedi cael bwyd ond eu bod wedi dymuno cael hynny.

Amcangyfrifir bod 14% o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd ym mis Hydref 2021. Er gwaethaf ymyriadau i liniaru’r effaith, gallai hyd at 45% (614,000) o aelwydydd fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill 2022.

Ar lefel TGAU, mae bwlch o hyd rhwng deilliannau addysgol plant yn yr ysgol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys. Mae’r bwlch yn y niferoedd sy’n cael graddau A*- A ar lefel TGAU wedi ehangu yn ystod y saith mlynedd diwethaf, ac mae’r bwlch yn niferoedd yr ymgeiswyr sy'n cael graddau A*- C yn weddol sefydlog.

Ffigur 4.1: Bwlch rhwng canrannau’r disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim sy’n cael graddau A*-A, A*-C ac A*-G mewn TGAU, 2015/16 i 2021/22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4.1: Siart linell sy’n dangos y bwlch rhwng canrannau’r myfyrwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r myfyrwyr nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy’n cyflawni A*-A, A*-C, ac A*-G mewn TGAU o 2015/16 i 2020/21. Rhwng 2020/21 a 2021/22, cynyddodd y bwlch ar gyfer yr ystodau graddau A*-C ac A*-G ond gostyngodd ar gyfer A*-A.

Ffynhonnell: Canlyniadau Arholiadau, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Rhwng y llinellau toredig sy’n dangos pryd y dyfarnwyd cymwysterau drwy ddefnyddio graddau a aseswyd neu a bennwyd gan ganolfan.

Rhywedd

Mae deilliannau addysgol merched yn parhau i fod yn well ar lefel TGAU ac mae merched yn fwy tebygol o barhau mewn addysg amser llawn y tu hwnt i 16 oed. Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi cynyddu yng Nghymru yn 2022, ac mae cyfraddau cyflogaeth yn dal yn is i fenywod na dynion.

Mae disgwyliad oes yn dal yn hirach i fenywod nag i ddynion ond mae cyfran y bywyd a dreulir mewn iechyd da yn uwch i ddynion. I gael gwybodaeth fanylach am ddisgwyliad oes yn ôl rhywedd, gweler y bennod ar Gymru iachach.

Yn 2022-23, roedd llesiant meddyliol (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick Edinburgh ar gyfer oedolion) fymryn yn uwch i ddynion na menywod, gyda dynion yn cael sgôr gymedrig o 48.4 a menywod yn cael sgôr gymedrig o 48.1. Fodd bynnag, mae cyfraddau hunanladdiad yn parhau i fod fwy na thair gwaith yn uwch ar gyfer dynion na menywod.

Mae merched yn parhau i gael deilliannau addysgol gwell ar lefel TGAU. Yn ystod yr haf 2022, dyfarnwyd mwy o raddau A* - C i ferched na bechgyn. Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng graddau ar raddfa A* ac A: dyfarnwyd 4.4 a 4.0 pwynt canran yn fwy i ferched na bechgyn, yn y drefn honno.

Ffigur 4.2: Y bwlch rhwng bechgyn a merched sy’n cyflawni A*-A, A*-C ac A*-G ar lefel TGAU, 2015/16 i 2021/22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4.2: Siart llinell sy’n dangos y bwlch rhwng canrannau’r merched a’r bechgyn sy’n cyflawni A*-A, A*-C, ac A*-G mewn TGAU. Cyrhaeddodd y bwlch A*-A uchafbwynt yn 2020/21 ac yna gostyngodd rhwng 2020/21 a 2021/22. Fe wnaeth y bwlch rhwng A*-C leihau rhwng 2020/21 a 2021/22. Cynyddodd y bwlch rhwng A*-G ond erys yn fach.

Ffynhonnell: Canlyniadau Arholiadau, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Rhwng y llinellau toredig sy’n dangos pryd y dyfarnwyd cymwysterau drwy ddefnyddio graddau a aseswyd neu a bennwyd gan ganolfan.

Mae cyfran uwch o ferched 16 i 18 oed na bechgyn yn aros mewn addysg amser llawn. Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer y rhai rhwng 19 a 24 oed.

O ran y boblogaeth oedran gweithio, mae menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau lefel 4 neu uwch, tra bod cyfran uwch o ddynion mewn grwpiau oedran hyd at a chan gynnwys pobl ifanc 35 i 49 oed heb unrhyw gymwysterau. Fodd bynnag, mae cyfran uwch o fenywod yn y grwpiau oedran 50 i 59 a 60 i 64 oed heb unrhyw gymwysterau.

Mae cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru yn is ar gyfer menywod nag ar gyfer dynion (70.6% a 75.4% yn y drefn honno yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023). Mae cyfraddau anweithgarwch economaidd (heb gynnwys myfyrwyr) yn uwch ar gyfer menywod (24.7%) na dynion (17.8%) dros y cyfnod hwn. Fodd bynnag, mae’r gwahaniaeth hwn yn debygol o gael ei sbarduno gan gyfrifoldebau gofalu, sydd ymhlith y rhesymau posibl dros anweithgarwch economaidd.

Ffigur 4.3: Cyfradd cyflogaeth (canran y boblogaeth 16 i 64 oed) yng Nghymru yn ôl rhyw a blwyddyn, 2005 i 2023 (cyfraddau am y flwyddyn yn dod i ben ym mis Mawrth)

Image

Disgrifiad o Ffigur 4.3: Siart linell yn dangos cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yn ôl rhyw rhwng 2005 a 2023. Lleihaodd y bwlch yn y gyfradd gyflogaeth yn 2023 wrth i’r gyfradd cyflogaeth ar gyfer dynion leihau 1.4 pwynt canran i 75.4%, tra bod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer menywod wedi cynyddu ychydig i 70.6%.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol                        

Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ar sail enillion canolrifol amser llawn yr awr (heb gynnwys goramser), yn 6.1% yn 2022, gan gynyddu ychydig ers y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, ar gyfer gweithwyr rhan-amser yng Nghymru, roedd menywod yn cael 3.5% yn fwy na dynion ar gyfartaledd (cynnydd o 1.7 pwynt canran o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol).

Wrth ystyried gweithwyr amser llawn a rhan-amser, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dal yn sylweddol uwch ar 11.4% yn 2022. Mae hyn yn uwch nag ar gyfer gweithwyr amser llawn a gweithwyr rhan-amser, oherwydd mae menywod yn llenwi mwy o swyddi rhan-amser, sydd, o’u cymharu â swyddi amser llawn, â thâl canolrifol is yr awr. O blith 11 o wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig lle mae dynion yn ennill mwy na menywod (gweithwyr amser llawn), Cymru sydd â’r trydydd bwlch cyflog lleiaf.

Y Cyflog Byw Gwirioneddol yw’r unig gyfradd cyflog yn y Deyrnas Unedig sy’n seiliedig ar gostau byw. Yn 2022, mae cyfran y menywod sy’n ennill cyflog byw gwirioneddol (63.7%) yn llawer is nag ar gyfer dynion (71.6%), sydd unwaith eto’n adlewyrchu’n bennaf y ffaith bod menywod yn fwy tebygol o weithio’n rhan-amser a bod swyddi rhan-amser yn tueddu i fod â chyflogau is.

Yn dilyn cynnydd rhwng 2016 a 2020, mae canran y dynion mewn cyflogaeth sy’n ennill cyflog byw gwirioneddol wedi gostwng yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn ôl i lefel debyg i 2016 (71.4%). Fodd bynnag, nid yw’r ganran gymharol ar gyfer menywod sydd mewn cyflogaeth wedi gweld gostyngiad cyfatebol i lefelau 2016 (59.5%)

Yn 2022-23, roedd canran uwch o fenywod (19%) o’i gymharu â dynion (12%) yn cael eu hystyried yn rhai sydd mewn amddifadedd materol. 

Oedran

Rydym yn tueddu i fod yn fwy bodlon ar fywyd yn y grwpiau oedran hŷn. Mae tlodi incwm cymharol yn uwch yn y boblogaeth sy’n gweithio nag mewn aelwydydd pensiynwyr.

Mae canlyniadau cychwynnol Cyfrifiad 2021 yn dangos bod y duedd i’r boblogaeth heneiddio wedi parhau, gyda mwy o bobl nag erioed yn y grwpiau oedran hŷn yng Nghymru. Roedd cyfran y boblogaeth a oedd yn 65 oed neu’n hŷn ym mis Mawrth 2021 yn 21.3% (i fyny o 18.4% yn 2011). Mae maint y boblogaeth 90 oed neu hŷn yng Nghymru (29,700, 1.0%) wedi cynyddu ers 2011, pan oedd 25,200 (0.8%) yn 90 oed neu’n hŷn.

Mae llesiant goddrychol yn tueddu i fod yn uwch yn y grwpiau oedran hŷn. Yn 2022-23, mae’r sgôr boddhad â bywyd cyfartalog uchaf ar gyfer y grŵp oedran 75 oed a hŷn (8.0) ac ar gyfer y grŵp 65 i 74 oed (7.9), ac mae ar ei isaf yn y grwpiau oedran 16 i 24 oed a 25 i 44 oed (7.5). Mae boddhad â bywyd pobl rhwng 16 a 24 oed a rhwng 25 a 44 oed yn dal yn is yn 2022-23 o’i gymharu â chyn y pandemig (2019-20), mae sgoriau boddhad â bywyd grwpiau oedran eraill wedi dychwelyd yn fras i lefelau cyn y pandemig.

Ffigur 4.4: Boddhad â bywyd yn ôl grŵp oedran, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 4.4: Siart bar yn dangos boddhad â bywyd cymedrig oes yn ôl grŵp oedran. Mae gan grwpiau oedran gweithio (16 i 24, 25 i 44, 45 i 64) sgoriau boddhad cymedrig is na’r rheini sy’n 65 oed a hŷn. Y grŵp oedran 75 oed a hŷn sydd â’r sgôr boddhad cymedrig uchaf (8.1).

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Plant yw’r grŵp poblogaeth sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod hyn yn wir am 28% o blant yng Nghymru o’i gymharu â 18% o bensiynwyr.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cyfran uwch o’r boblogaeth o oedran gweithio wedi bod mewn tlodi cymharol nag aelwydydd pensiynwyr.

Cafodd carreg filltir genedlaethol ar gyfranogiad pobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg a’r farchnad lafur ei gosod yn 2021. Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2021 yn dangos gostyngiad bach o ran cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Ethnigrwydd

Ochr yn ochr â phrif adroddiad eleni, ceir adroddiad atodol sy’n canolbwyntio ar ethnigrwydd. Am y rheswm hwnnw, bydd y rhan fwyaf o ddadansoddiadau dangosyddion yn ôl ethnigrwydd yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwnnw yn hytrach na’r bennod hon.

Mae plant o rai grwpiau ethnig (er enghraifft, Asiaidd a phlant â chefndir ethnig cymysg) yn tueddu i gyflawni’n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o’i gymharu ag eraill. Fodd bynnag, mae cyfraddau cyflogaeth a chyflog cyfartalog yn dal yn is ar gyfer grwpiau o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ac mae pobl o’r grwpiau hyn yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol.

Nododd 93.8% o boblogaeth Cymru (2.9 miliwn o drigolion arferol) eu hunain yn y categori grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” ar ddiwrnod Cyfrifiad 2021. Mae hyn yn cymharu â 95.6% yn 2011.

Yr ail gategori lefel uchel mwyaf yng Nghymru yn 2021 oedd “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Brydeinig”, gyda 2.9% o’r boblogaeth (89,000 o bobl) yn nodi yn y categori hwn (o’i gymharu â 2.3% yn 2011).

Roedd 1.6% o’r boblogaeth (49,000 o bobl) yng Nghymru wedi nodi eu hunain yn y categori lefel uchel “Grwpiau ethnig cymysg neu aml-ethnig”, nododd 0.9% o’r boblogaeth (28,000) eu hunain yn y categori lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” a nododd 0.9% o’r boblogaeth (26,000 o bobl) eu hunain yn y categori lefel uchel “Grŵp ethnig arall” (o’i gymharu â 1.0%, 0.6% a 0.5% yn y drefn honno yn 2011).

Dengys canlyniadau TGAU ar gyfer 2021/22 fod 32.6% o ddisgyblion Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol wedi cael graddau A*-A o’i gymharu â 25.1% o ddisgyblion Gwyn. Mae’r bwlch hwn wedi bod yn ehangu ers 2015/16 (o 4.5 pwynt canran yn 2015/16 i 7.5 pwynt canran yn 2021/22). Mae’r bwlch yn y disgyblion sy’n cyflawni graddau A*-C hefyd wedi ehangu (o 0.9 pwynt canran yn 2015/16 i 4.5 pwynt canran yn 2021/22).

Ffigur 4.5: Y bwlch rhwng canran y disgyblion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a’r disgyblion Gwyn sy’n cyflawni A*-A, A*-C ac A*-G ar lefel TGAU, 2015/16 i 2021/22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4.5: Siart llinell yn dangos y bwlch rhwng canrannau o fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a myfyrwyr Gwyn a enillodd A*-A, A*-C, ac A*-G yn TGAU yn 2021/22. Cynyddodd y bwlch ym mhob un o’r tair ystod graddau rhwng 2020/21 a 2021/22. Mae’r gwahaniaeth rhwng A*-G yn dal yn fach iawn.

Ffynhonnell: Canlyniadau Arholiadau, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Rhwng y llinellau toredig sy’n dangos pryd y dyfarnwyd cymwysterau drwy ddefnyddio graddau a aseswyd neu a bennwyd gan ganolfan.

Mae data o Gyfrifiad 2021 yn dangos mai pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Brydeinig” oedd fwyaf tebygol o feddu ar gymhwyster Lefel 4 neu uwch (43.9%) a’r rheini yn y grŵp ethnig “Gwyn” lefel uchel oedd y lleiaf tebygol (31.0%).

Pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn y categori “Gwyn: Sipsiwn neu Deithiwr Gwyddelig” oedd y mwyaf tebygol o beidio â meddu ar unrhyw gymwysterau o blith yr holl grwpiau ethnig (58.8%), ac yna “Gwyn: Roma” (31.8%) ac “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd” (30.9%). 

Mae’r cyfraddau cyflogaeth (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023) ymysg poblogaeth Cymru rhwng 16 a 64 oed ychydig yn uwch ymysg unigolion o gefndir ethnig Gwyn (73.1%), nag unigolion o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (71.4%)

Y gwahaniaeth cyflog ar sail ethnigrwydd yng Nghymru oedd £2.23 (neu 16.8% yn 2022. Mae hyn yn golygu bod gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ennill £2.23 yn llai yr awr ar gyfartaledd na gweithwyr Gwyn. Mae hyn yn cymharu â gwahaniaeth cyflog ar sail ethnigrwydd o £0.85 (neu 6.9%) yn 2021. Fodd bynnag, mae anwadalrwydd arbennig o uchel yn y data gwahaniaethau cyflog ar sail ethnigrwydd yng Nghymru ac felly dylid ystyried newidiadau byrdymor ochr yn ochr â thueddiadau hirdymor lle bo hynny’n bosibl.

Mae grwpiau ethnig lleiafrifol yn fwy tebygol o ddioddef tlodi incwm cymharol. Ar gyfer y cyfnod rhwng 2017-18 a 2021-22 roedd 40% o debygolrwydd y byddai pobl o aelwydydd lle mae’r penteulu yn dod o grŵp ethnig leiafrifol yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae hyn yn cymharu â thebygolrwydd o 22% ar gyfer aelwydydd lle mae’r penteulu yn dod o grŵp ethnig Gwyn.

Roedd hil yn ffactor cymhellol mewn 62% o’r holl droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2021-22, cyfran ychydig yn llai na 2020-21. Fodd bynnag, cynyddodd nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu 27% yn 2021-22 o’i gymharu â 2020-21.

Ffigur 4.6: Troseddau casineb yng Nghymru yn ôl ffactor sy’n cymell, 2012-13 i 2021-22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4.6: Siart linell yn dangos nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru rhwng 2012-13 a 2021-22 drwy ffactor cymhellol. Roedd troseddau casineb a gofnodwyd wedi cynyddu ar gyfer pob cymhelliant yn 2021-22 o’i gymharu â 2020-21. Hil yw’r prif ffactor cymhellol o hyd, gan gyfrif am oddeutu dwy ran o dair o’r troseddau a gofnodwyd.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Gartref

[Nodyn 1] Gall mwy nag un ffactor cymhellol fod yn gysylltiedig â throsedd. Gan hynny, mae swm y categorïau troseddau casineb yn uwch na’r ‘holl droseddau’.

Sylwch fod data o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar gyfer 2018 i 2020 yn awgrymu mai dim ond tua hanner yr holl achosion o droseddau casineb sy’n dod i sylw’r heddlu yng Nghymru a Lloegr. 

Crefydd

Ar ddiwrnod Cyfrifiad 2021, dywedodd 1.4 miliwn o drigolion arferol yng Nghymru nad oedd ganddyn grefydd (“Dim crefydd”) (46.5% o’r boblogaeth, wedi codi o 32.1% yn 2011). Am y tro cyntaf, dywedodd mwy o bobl “Dim crefydd” nag unrhyw gysylltiad crefyddol unigol.

Disgrifiodd 43.6% o’r preswylwyr arferol eu crefydd fel “Cristion” yn 2021. Roedd y tuedd crefyddol hwn wedi cael ei ddewis yn flaenorol gan dros hanner y preswylwyr yng Nghymru (57.6%) yng Nghyfrifiad 2011.

Y tuedd crefyddol mwyaf nesaf yng Nghymru oedd "Mwslim", gyda 2.2% o’r boblogaeth (67,000 o breswylwyr arferol) yn nodi eu bod yn Fwslim yn 2021. Roedd hyn yn gynnydd o 1.5% yn 2011.

Nid oedd fawr o newid ers 2011 yng nghyfran y boblogaeth a oedd yn uniaethu â grwpiau crefyddol eraill a oedd wedi’u cynnwys yn y blychau ticio ar ffurflen y Cyfrifiad.

Mae cyfran uwch o fenywod na dynion yn dweud eu bod yn arddel crefydd (53.9% o’i gymharu â 46.6%). Roedd cyfran y bobl sy’n nodi bod ganddynt grefydd yn gyffredinol yn cynyddu yn ôl grŵp oedran. Fodd bynnag, roedd y rhai 15 oed ac iau a rhwng 16 a 24 oed ychydig yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt grefydd na’r grŵp oedran 25 i 34 oed. Mae gan y boblogaeth Fwslimaidd broffil oedran iau na’r rhan fwyaf o grefyddau eraill yng Nghymru.

Roedd crefydd yn ffactor cymhellol mewn 4% o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2021-22, i fyny o 3% yn 2021-22. Cafodd cyfanswm o 227 o droseddau casineb crefyddol eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru yn 2021-22, 77 yn fwy na 2020-21.

Roedd cyfraddau cyflogaeth y rhai sy’n ystyried eu hunain yn Gristion neu heb grefydd yn debyg yn gyffredinol (73.5% a 73.0% yn y drefn honno) yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023.

Cyfeiriadedd rhywiol

Gofynnwyd cwestiwn gwirfoddol am gyfeiriadedd rhywiol am y tro cyntaf yng Nghyfrifiad 2021. Gofynnwyd i ymatebwyr 16 oed a throsodd beth oedd eu cyfeiriadedd rhywiol, ac roedd y gwahanol opsiynau y gallent ddewis o’u plith yn cynnwys “Syth/Heterorywiol”, “Hoyw neu Lesbiaidd”, “Deurywiol”, a “Cyfeiriadedd rhywiol arall”. Os dewisodd yr ymatebydd “Cyfeiriadedd rhywiol arall”, gofynnwyd iddo ysgrifennu’r cyfeiriadedd rhywiol yr oedd yn uniaethu ag ef.

Ar ddiwrnod Cyfrifiad 2021, disgrifiodd 2.3 miliwn o bobl (89.4% o’r boblogaeth 16 oed a hŷn) eu hunain fel “Syth/Heterorywiol”. Disgrifiodd 38,000 (1.5%) eu hunain fel “Hoyw neu Lesbiaidd” a disgrifiodd 32,000 (1.2%) eu hunain fel “Deurywiol”. Nododd 7,000 arall (0.3%) gyfeiriadedd rhywiol gwahanol.

Yn gyffredinol, roedd 77,000 o drigolion arferol yng Nghymru (3.0% o’r boblogaeth 16 oed neu hŷn) wedi dewis cyfeiriadedd rhywiol lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol yn 2021.

Nid oedd y 194,000 arall o bobl 16 oed a hŷn (7.6%) wedi ateb y cwestiwn am gyfeiriadedd rhywiol.

Gostyngodd nifer y priodasau o’r un rhyw i 2020 (o 151 i 397 yn 2019). Fodd bynnag, mae’r gostyngiad hwn yn debygol o fod oherwydd cyfyngiadau’r pandemig a oedd ar waith ar gyfer rhannau o’r flwyddyn. Mae priodasau o’r un rhyw yn parhau i fod yn fwy cyffredin na phartneriaethau sifil o’r un rhyw.

Yn 2022-23 roedd cyfran is o oedolion a oedd yn ystyried eu bod yn heterorywiol mewn amddifadedd materol (15%) wrth gymharu â’r rhai a oedd yn ystyried eu hunain fel pobl hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol (25%).

Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru sydd ar gael (2022-23) yn dangos bod pobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol tua dwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig nag eraill..

Roedd cyfeiriadedd rhywiol yn ffactor cymhellol mewn 1,329 o droseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru yn 2021-22, i fyny 50% o 884 yn 2020-21. Mae hyn yn cynrychioli 21% o'r holl droseddau casineb a gofnodwyd, cyfran ychydig yn uwch nag yn y blynyddoedd diwethaf.

Hunaniaeth Rhywedd

Gofynnwyd cwestiwn gwirfoddol am hunaniaeth rhywedd am y tro cyntaf yng Nghyfrifiad 2021. Gofynnwyd i ymatebwyr 16 oed a hŷn hefyd “A yw’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd ar adeg eich geni?” ac roedd ganddynt yr opsiwn o ddewis naill ai “Ydy” neu ddewis “Nac ydy” a nodi eu hunaniaeth rhywedd.

Cafwyd ymatebion gan 2.4 miliwn o bobl yng Nghymru (93.7% o’r boblogaeth 16 oed a hŷn) i’r cwestiwn hwn.

Atebodd 93.3% o’r ymatebwyr 16 oed a hŷn “Ydy”, gan nodi bod eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni.

Atebodd mwy na 10,000 o bobl (0.4%) “Na”, gan nodi bod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd ar adeg eu geni. 

Roedd 1,900 o bobl yn ystyried eu hunain yn ddyn traws, gyda 1,900 o bobl yn ystyried eu hunain yn fenyw draws, a 1,500 o bobl yn ystyried eu hunain yn anneuaidd. Atebodd 4,000 o bobl “Na” ond ni wnaethant ddarparu ymateb ysgrifenedig.

Mae’r arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn casglu data ar lesiant meddyliol ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed, fel y’u mesurwyd ar Raddfa Llesiant Meddyliol Byr Warwick-Caeredin. Roedd y dadansoddiadau yn ôl rhywedd yn dangos mai’r rhai nad ydynt yn ystyried eu hunain yn fachgen nac yn ferch oedd â’r llesiant meddyliol isaf, a merched yn adrodd llesiant meddyliol is na bechgyn.

Roedd hunaniaeth drawsryweddol yn ffactor cymhellol mewn 247 o droseddau casineb yng Nghymru yn 2021-22, sy'n cyfateb i 4% o’r holl droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 43% (74 yn fwy o droseddau a gofnodwyd) o’i gymharu â 2020-21.

Anabledd

Tra bod cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl anabl wedi bod yn cynyddu dros amser, mae bwlch cyflog ar sail anabledd yn parhau ac mae aelwydydd sy’n cynnwys rhywun anabl yn dal yn fwy tebygol o gael trafferthion ariannol.

Fel yn 2011, gofynnodd Cyfrifiad 2021 i breswylwyr arferol adrodd a oedd ganddynt gyflwr iechyd hirdymor neu salwch, a oedd yn para neu y disgwylir iddo bara 12 mis neu fwy. Fodd bynnag, cafodd y cwestiwn ei eirio ychydig yn wahanol i 2011, er mwyn casglu data sy’n cyd-fynd yn agosach â’r diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb (2010). Diffiniwyd bod ymatebwyr a ddywedodd fod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor ac mae eu gweithgareddau o ddydd i ddydd yn gyfyngedig yn anabl.

Yn 2021, roedd cyfran y bobl anabl yng Nghymru yn 21.1% (670,000 o bobl). Mae’r gyfran hon wedi gostwng (gostyngiad o 2.3 pwynt canran) ers 2011, pan oedd yn 23.4% (696,000 o bobl).

Mae cyfran y bobl nad ydynt yn anabl wedi cynyddu (78.9%, 2.44 miliwn) o 76.6% (2.37 miliwn) yn 2011.

Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru (2022-23) yn dangos bod boddhad â bywyd yn gyffredinol is ar gyfer pobl 16+ oed â salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol (roedd eu sgôr cymedrig yn 7.0) nag ar gyfer pobl heb salwch neu anabledd (8.0).

Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru (2022-23) hefyd yn dangos bod oedolion anabl neu’r rheini â salwch hirdymor sy’n cyfyngu arnynt yn llawer mwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig y rhan fwyaf o’r amser (22%) o’i gymharu â’r rhai sydd heb salwch neu anableddau o’r fath (7%).

Mae deilliannau addysgol disgyblion ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol wedi amrywio dros yr 8 mlynedd diwethaf, ond ar y cyfan yn debyg i’r patrwm a welir ym mhob disgybl. Yn 2021/22, dyfarnwyd gradd A* i G i 90% o ddisgyblion ym mlwyddyn 11 ag anghenion addysgol arbennig yn eu harholiadau TGAU, i lawr o 96% yn 2020/21.

Ffigur 4.7: Canran y disgyblion ag AAA neu ddarpariaeth ADY ac sy’n cyflawni A*-G yng Nghyfnod Allweddol 4, ar gyfer disgyblion blwyddyn 11 ym mhob pwnc, 2015/16 i 2021/22 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4.7: Siart llinell yn dangos canran y myfyrwyr â datganiad o anghenion addysgol arbennig a enillodd A*-G TGAU yn 2021/22. Ar ôl cynnydd serth yn 2019/20, gostyngodd y ganran ychydig yn 2020/21, gan ostwng ymhellach yn 2021/22 i’r gwerth isaf yn y gyfres amser.

Ffynhonnell: Canlyniadau Arholiadau, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Nid yw echelin y siart yn cychwyn ar sero.

[Nodyn 2] Rhwng y llinellau toredig sy’n dangos pryd y dyfarnwyd cymwysterau drwy ddefnyddio graddau a aseswyd neu a bennwyd gan ganolfan.

O’r boblogaeth oed gweithio, mae pobl anabl (16%) yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau na phobl nad ydynt yn anabl (5%) ac maent yn llai tebygol o fod â chymwysterau uwch na lefel 2.

Yn y cyfnod diweddaraf (2019-20 i 2021-22), roedd 31% o’r plant a oedd yn byw mewn aelwyd lle’r oedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 26% mewn cartrefi lle nad oedd neb yn anabl. Yn yr un modd, roedd 28% o oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw mewn aelwyd lle’r oedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 16% o’r rheini a oedd yn byw mewn aelwyd lle nad oedd neb yn anabl.

Yn 2022-23, roedd pobl anabl neu bobl â salwch cyfyngol hirdymor dwywaith yn fwy tebygol o fyw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol o’i gymharu â’r rhai nad oeddent yn anabl. Roedd un o bob pedwar o bobl anabl neu bobl â salwch cyfyngol hirdymor (25%) yn byw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol o gymharu ag 11% o bobl nad oeddent yn anabl.

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023, y gyfradd cyflogaeth ymysg pobl anabl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 49.1%, a'r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl oedd 82.2%. Mae’r bwlch cyflogaeth i bobl anabl ar gyfer 2023, o 33.1 pwynt canran, wedi lleihau o’i gymharu â 7 mlynedd yn ôl pan oedd yn 35.4 pwynt canran. 

Roedd y gwahaniaeth cyflog ar sail anabledd yng Nghymru yn £1.32 (9.7%) yn 2022. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill £1.32 yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Mae’r gwahaniaeth wedi parhau i ostwng yn raddol o uchafbwynt o 15.1% yn 2019.

Ffigur 4.8: Bwlch yn y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl, rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2016 a’r flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4.8: Siart far yn dangos y bwlch cyfradd cyflogaeth anabledd ar gyfer y blynyddoedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2016 i 2023. Yn dilyn gostyngiad rhwng 2018 a 2019, mae’r bwlch wedi aros yn weddol sefydlog rhwng 32 a 33 pwynt canran.

Ffynhonnell: Crynodeb o weithgarwch economaidd yng Nghymru yn ôl blwyddyn a statws anabledd, o fis Ebrill 2013, StatsCymru

Barnwyd a oedd y ffaith bod unigolyn yn anabl yn ffactor cymhellol mewn 14% o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2021-22, cyfran uwch o gymharu â’r blynyddoedd diwethaf. Canfu Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr fod cyfran sylweddol uwch o oedolion anabl yng Nghymru a Lloegr wedi profi cam-drin domestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022 (10.3%), o gymharu ag oedolion nad ydynt yn anabl (4.0%). 

Statws priodasol

Mae bod yn briod yn gysylltiedig â boddhad uwch â bywyd a thebygolrwydd is o fod mewn amddifadedd materol. Mae aelwydydd un rhiant yn dal i wynebu heriau, ac maent yn fwy tebygol o fod mewn amddifadedd materol na mathau eraill o aelwydydd.

Ffurfiwyd 4,039 o briodasau yng Nghymru yn 2020, i lawr o 2019 (11,699). Roedd y gostyngiad hwn yn debygol o fod ganlyniad i gyfyngiadau’r pandemig a oedd mewn grym yn ystod rhannau o’r flwyddyn. Roedd mwyafrif y priodasau’n ymwneud â chyplau o’r rhyw arall (96.3%) gyda 151 o briodasau rhwng cyplau o’r un rhyw yng Nghymru, gyda 60% (90) o’r rhain rhwng cyplau benywaidd.

Yn 2021, ffurfiwyd 236 o bartneriaethau sifil rhyw arall a 28 o bartneriaethau sifil o’r un rhyw yng Nghymru. Dyma’r ail flwyddyn y mae partneriaethau sifil rhwng cyplau o ryw gwahanol wedi cael eu hadrodd yn dilyn y newid mewn deddfwriaeth i ymestyn partneriaethau sifil i gyplau o ryw gwahanol o 31 Rhagfyr 2019.   

Yn 2022-23, roedd 22% o’r oedolion a oedd wedi cael ysgariad a 36% o’r rhai a oedd wedi gwahanu (ond yn dal yn briod yn gyfreithiol) mewn amddifadedd materol o’i gymharu ag 10% o’r rhai a oedd wedi priodi ac 10% o’r rhai a oedd yn weddw. Roedd dros hanner (56%%) y rhieni sengl mewn amddifadedd materol.

Roedd canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2022-23 yn cadarnhau bod cyfran uwch o’r boblogaeth briod yn dweud eu bod yn fodlon iawn â bywyd, gan deimlo bod y pethau maen nhw’n eu gwneud yn werth chweil ac roeddent yn hapus iawn o’u cymharu â’r oedolion sydd erioed wedi priodi, wedi gwahanu, wedi ysgaru, neu’n weddw. 

Yn 2022-23, y rhai a oedd yn briod oedd y lleiaf tebygol o ddweud eu bod yn unig (8%), a’r rhai a oedd wedi gwahanu ond yn briod yn gyfreithiol oedd y mwyaf tebygol (21%). Roedd pobl a oedd yn sengl (hynny yw, heb fod erioed wedi priodi neu wedi cofrestru mewn partneriaeth sifil), wedi ysgaru, neu’n weddw hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na phobl a oedd yn briod (17%, 17% a 14% yn y drefn honno).

Ffigur 4.9: Boddhad â bywyd yn ôl statws priodasol, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 4.9: Graff bar yn dangos sgôr boddhad cymedrig â bywyd yn ôl statws priodasol yn 2022-23. Y rhai sydd wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil sydd â’r sgorau cymedrig uchaf (8.0 ac 8.1 yn y drefn honno) a’r rhai sydd wedi gwahanu ond sy’n dal i fod yn briod yn gyfreithiol sydd â’r sgôr isaf (6.7). Mae gan y rheini sy’n sengl, sydd wedi ysgaru neu sy’n weddw sgoriau tebyg o ran boddhad â bywyd.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

O’r rhai rhwng 16 a 64 oed, y bobl a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil oedd â’r cyfraddau cyflogaeth uchaf (79.3%) yn 2022-23 o’i gymharu â’r rhai a oedd wedi gwahanu neu ysgaru (69.7%), yn sengl (68.3%) neu’n weddw (59.5%). Yn gyffredinol, mae cyfraddau cyflogaeth yn is i fenywod nag i ddynion ac mae hyn yn arbennig o wir i fenywod sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil. Y gyfradd cyflogaeth yn 2022-23 ar gyfer dynion priod oedd 84.8% o’i chymharu â 74.2% ar gyfer menywod priod. 

Darllen pellach

Ffynonellau data

Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)

Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)

Iechyd, anabledd a darpariaeth gofal di-dâl yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)

Gwahaniaethau grŵp ethnig mewn iechyd, tai, addysg a statws economaidd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)

Arolwg Cenedlaethol Cymru, ar foddhad â bywyd, ymdeimlad o gymuned, ymdeimlad o ddiogelwch, amddifadedd materol, defnyddio banciau bwyd, llesiant meddyliol

Amcangyfrifon poblogaeth ac aelwydydd Cymru (Cyfrifiad 2021)

Iechyd a Llesiant

Cymharu canfyddiadau arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2019 a 2021 (Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Myfyrwyr)

Adroddiad Annhegwch yr Is-adran Sgrinio 2020-21 (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Tlodi

Tlodi incwm cymharol

Arolwg Cenedlaethol Cymru (StatsCymru)

Tlodi tanwydd

Marwolaethau

Disgwyliad oes y wladwriaeth iechyd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Hunanladdiadau yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Addysg

Canlyniadau arholiadau

Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur

Lefel y cymhwyster uchaf a ddelir gan oedolion o oedran gweithio

Y farchnad lafur

Ystadegau’r Farchnad Lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth)

Cymryd rhan yn y Farchnad Lafur (StatsCymru)

Bylchau cyflog

Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau (StatsCymru)

Gwahaniaeth cyflog anabledd ac ethnigrwydd yng Nghymru 2014 i 2022

Priodasau a phartneriaethau sifil

Priodasau yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Troseddau a chyfiawnder

Troseddau Casineb, Cymru a Lloegr (Y Swyddfa Gartref)

Cyfraddau adrodd Troseddau Casineb (Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr)