Newidiadau i reolau etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru: asesiad effaith integredig
Asesiad effaith integredig (IIA) ar effaith y newidiadau i reolau etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio'r rheolau sy'n llywodraethu etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, i adlewyrchu diweddariadau i bolisi a deddfwriaeth arall am etholiadau. Mae angen dau ddarn o is-ddeddfwriaeth i wneud y newidiadau hyn, sef Rheolau Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2026 a Gorchymyn Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru) 2026.
Rheolau Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2026
Cafodd y cyfrifoldeb am etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau i'r Senedd ei ddatganoli i Gymru drwy Ddeddf Cymru 2017. Ar hyn o bryd, caiff etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru eu llywodraethu gan Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 (“y Rheolau Prif Ardaloedd”) ar gyfer cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 (“y Rheolau Cymunedau”) ar gyfer cynghorau tref a chymuned. Yn y ddogfen hon, cyfeiriwn at y ddwy set hyn o reolau fel “Rheolau 2021”.
Cafodd Rheolau 2021 eu hailddrafftio a'u moderneiddio'n llawn yn 2021. Yn 2023, cafodd y Rheolau Prif Ardaloedd eu diweddaru ymhellach i alluogi cynnal etholiadau o dan y system Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, pe bai unrhyw brif gyngor yn mabwysiadu'r system honno o dan y pŵer yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Nid ydym felly yn cynnig gwneud newidiadau sylweddol i Reolau 2021, ar wahân i rai newidiadau, sydd i raddau helaeth yn rhai technegol, neu'r rhai sy'n ofynnol i ystyried newidiadau i bolisi a deddfwriaeth arall.
Mae'r prif newidiadau a gynigir yn ymwneud â diweddaru Rheolau 2021 i sicrhau eu bod yn ddwyieithog, a'u bod yn adlewyrchu'r newidiadau diweddar a wnaed i reolau etholiadau i'r Senedd sydd wedi'u cynnwys yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (“y Gorchymyn Cynnal Etholiadau”).
Yn ymarferol, o ran gweithdrefnau a gofynion, ni fydd Rheolau 2021 yn newid rhyw lawer. Dyma grynodeb o'r newidiadau:
- gofynion y Gymraeg
- diweddaru ffurflenni rhagnodedig
- dyletswydd ynghylch cyfarpar hygyrch
- disgrifiadau ar y cyd
- gweithio'n ddigidol
- defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddus
- llenwi swyddi sy'n digwydd dod yn wag mewn cynghorau tref a chymuned: cywiriad “rheol chwe mis”
- cywiriadau a mân ddiwygiadau
Gorchymyn Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru) 2026
Er mwyn adlewyrchu'r newidiadau i bolisi a deddfwriaeth arall, mae angen darn ar wahân o is-ddeddfwriaeth i wneud diwygiadau i dreuliau ymgeiswyr.
Mae Gorchymyn Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru) 2026 (“y Gorchymyn Eithrio”) yn diwygio paragraff 13A o Atodlen 4A i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (“Deddf 1983”).
Mae'r diwygiad hwn yn sicrhau na fydd ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol, yn rhan o'u treuliau etholiadol, yn gorfod cyfrif am dreuliau rhesymol yr eir iddynt wrth ddarparu ar gyfer eu diogelwch personol a diogelwch eu heiddo. Mae hyn yn unol â'r sefyllfa ar gyfer ymgeiswyr mewn etholiadau i'r Senedd ac etholiadau eraill yn y DU.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
Mae cyfatebiaeth glir rhwng y Rheolau Diwygio a'r Gorchymyn Eithrio, a'r pum ffordd o weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol”). Drwy gydol y gwaith o ddatblygu'r cynnig hwn, mae'r Pum Ffordd o Weithio wedi'u hystyried a rhoddir sylw iddynt isod.
Ffyrdd o weithio, hirdymor
Drwy ddiwygio'r rheolau sy'n llywodraethu etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, mae hyn yn sicrhau bod deddfwriaeth etholiadau mor gyfredol â phosibl, gan adlewyrchu newidiadau diweddar i bolisi a deddfwriaeth arall. Mae hyn yn sicrhau bod prosesau etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn cael eu diogelu ar gyfer y tymor hir, ac yn gyson â mathau eraill o etholiadau.
Ffyrdd o weithio: atal
Bydd diwygio'r rheolau sy'n llywodraethu etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru i sicrhau cysondeb ar draws etholiadau ac felly gryfhau'r gwaith o weinyddu etholiadau, yn helpu i sicrhau gwydnwch wrth gynnal etholiadau yn y dyfodol.
Ffyrdd o weithio: integreiddio
Mae'r Rheolau Diwygio a'r Gorchymyn Eithrio yn rhan o fframwaith deddfwriaeth etholiadau ehangach a fydd yn helpu i gynnal yr Etholiadau Llywodraeth Leol yn 2027.
Ffyrdd o weithio: cydweithredu
Rydym wedi gweithio'n agos gyda swyddogion polisi ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Rheolau Diwygio a'r Gorchymyn Eithrio yn cael eu diweddaru o ran newidiadau polisi a newidiadau deddfwriaethol. Rydym hefyd wedi gweithio gyda'n rhanddeiliaid etholiadol i geisio eu barn a byddwn yn parhau i wneud hynny cyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol yn 2027.
Ffyrdd o weithio: cyfranogiad
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos rhwng 20 Hydref 2025 a 12 Ionawr 2026 ar y Rheolau Diwygio drafft a'r Gorchymyn Eithrio drafft. Tynnwyd sylw cynulleidfa eang o randdeiliaid etholiadol allweddol at yr ymgynghoriad, gan gynnwys Swyddogion Canlyniadau, gweinyddwyr etholiadau, y Comisiwn Etholiadol ac awdurdodau lleol. Ystyriwyd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn fanwl a byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid drwy gydol y gwaith o weithredu'r ddau ddarn o is-ddeddfwriaeth.
Effaith y cynnig
Mae'r Rheolau Diwygio a'r Gorchymyn Eithrio yn cefnogi diwygio etholiadol ac maent yn rhan o becyn ehangach o fesurau sy'n ceisio gwella democratiaeth yng Nghymru, ac mae hyn yn golygu eu bod yn cael effaith gadarnhaol gyffredinol. Mae'r ddau ddarn o is-ddeddfwriaeth yn cyd-fynd ag egwyddorion diwygio etholiadol, a amlinellir isod, a ddefnyddir i feincnodi agenda diwygio etholiadol a dull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo ymgysylltu a chyfranogiad democrataidd.
Egwyddorion diwygio etholiadol:
- Tegwch: Rhaid galluogi pob person sy'n dymuno cymryd rhan mewn democratiaeth i wneud hynny, a gwneud hynny mewn amgylchedd diogel a pharchus, er mwyn i'n sefydliadau fod yn amrywiol ac yn gynrychioladol o'r bobl y maent yn eu gwasanaethu.
- Hygyrchedd: Dylai newidiadau i systemau etholiadol a'r gyfraith etholiadol fod yn seiliedig ar yr egwyddor o wneud pleidleisio a chymryd rhan mewn democratiaeth mor hygyrch a chyfleus â phosibl, gan feithrin gallu i ganiatáu i hynny ddigwydd a hybu creadigrwydd ar bob lefel o ddemocratiaeth.
- Cyfranogiad: Rydym am i gynifer o bobl â phosibl arfer eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio. Rôl pawb sy'n ymwneud â gweinyddu etholiadol yw cynyddu nifer y bobl sy'n pleidleisio mewn etholiadau.
- Gwella profiad dinasyddion: Dylid rhoi'r adnoddau i ddinasyddion lunio eu cymunedau a'u gwlad drwy ymgysylltu, cynrychioli a chyfranogi.
- Symlrwydd: Rhaid moderneiddio'r system etholiadol weinyddol a'r gyfraith etholiadol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod cofrestru i bleidleisio, pleidleisio a chymryd rhan yn symlach i ddinasyddion.
- Uniondeb: Rhaid i uniondeb a thryloywder fod yn sail i'r holl ddiwygiadau etholiadol yng Nghymru. Rhaid inni gael system y mae dinasyddion yn ymddiried ynddi yn ogystal â rhannu gwybodaeth o ffynonellau dilys.
Bydd y Rheolau Diwygio yn cael effaith gadarnhaol gyffredinol ar hygyrchedd mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, gan eu bod yn cyflwyno dyletswydd i Swyddogion Canlyniadau ddarparu offer a ystyrir yn rhesymol at ddibenion ei gwneud hi'n haws i bobl anabl bleidleisio. Mae hyn yn gyson â'r newidiadau diweddar yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan ganllawiau a gaiff eu llunio gan y Comisiwn Etholiadol. Ar gyfer etholiadau'r DU, roedd hyn yn cynnwys isafswm yr offer y dylid eu darparu. Gan gynnwys cadeiriau, chwyddwydrau, dyfeisiau pleidleisio cyffyrddadwy, rampiau, clychau drws a mannau parcio i'r anabl.
Yn ogystal, bydd effaith gadarnhaol ar y Gymraeg. Mae Rheolau 2021 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl ffurflenni rhagnodedig gael eu llunio yn ddwyieithog. Mae'r Rheolau Diwygio yn cynnwys prosesau o fewn Rheolau 2021 i sicrhau bod darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg.
Bydd y Gorchymyn Eithrio yn sicrhau y gall gwariant ar gostau sy'n gysylltiedig â diogelwch ymgeiswyr gael ei eithrio rhag y terfynau gwariant ymgeiswyr, a fydd yn sicrhau bod yr holl etholiadau datganoledig yn cyd-fynd â dull y DU ac yn bodloni un o'r argymhellion pwysig yn adroddiad Jo Cox. Bydd hyn yn effeithio'n gadarnhaol ar ymgeiswyr drwy helpu i gefnogi eu diogelwch.
Arbedion a chostau'r cynnig
Mae'r costau a'r arbedion amcangyfrifedig wedi'u nodi yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft a gaiff ei gyhoeddi yn y Memoranda Esboniadol ar gyfer y ddau ddarn o is-ddeddfwriaeth ochr yn ochr â'r Asesiad hwn.
Mecanwaith y cynnig
Mae angen dau ddarn o is-ddeddfwriaeth i gyflawni'r cynnig.
Adran 8: casgliad
Sut cafodd y bobl, y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt, eu cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?
Mae'r Rheolau Diwygio a'r Gorchymyn Eithrio wedi'u bwriadu i gael eu defnyddio gan ymarferwyr ac ymgeiswyr etholiadol.
Cynhaliwyd ymgynghoriad 12 wythnos rhwng 20 Hydref 2025 a 12 Ionawr 2026 ar y Rheolau Diwygio drafft a'r Gorchymyn Eithrio drafft. Tynnwyd sylw cynulleidfa eang o randdeiliaid etholiadol allweddol at yr ymgynghoriad, gan gynnwys Swyddogion Canlyniadau, gweinyddwyr etholiadau, y Comisiwn Etholiadol ac awdurdodau lleol. Roedd y ddogfen ymgynghori ar gael yn Gymraeg a Saesneg er mwyn cynnal yr ymgynghoriad yn ddwyieithog.
Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Bydd y Rheolau Diwygio a'r Gorchymyn Eithrio yn cael yr effaith fwyaf arwyddocaol ar y ffordd y cynhelir etholiadau lleol yng Nghymru. Bydd y Rheolau Diwygio yn diweddaru'r ddeddfwriaeth bresennol i adlewyrchu newidiadau diweddar i bolisi a deddfwriaeth, sy'n benodol i amgylchiadau Cymru.
Mae'r ddau ddarn o is-ddeddfwriaeth yn cyflawni yn erbyn y Rhaglen Lywodraethu bresennol, ac maent yn rhan o becyn ehangach o ddiwygiadau a fydd yn cryfhau democratiaeth yng Nghymru. Maent hefyd yn gam cadarnhaol ymlaen o ran gwneud democratiaeth yn hygyrch i bawb.
Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:
yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu,
yn osgoi, yn lleihau, neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Diben y Rheolau Diwygio a'r Gorchymyn Eithrio yw diwygio'r ddeddfwriaeth bresennol i adlewyrchu'r newidiadau diweddar i bolisi a deddfwriaeth, gan sicrhau cysondeb ar draws deddfwriaeth etholiadau yng Nghymru.
Nodau llesiant
Cymru sy'n Fwy Cyfartal: bydd y darpariaethau a gynhwysir yn y Rheolau Diwygio sy'n ymwneud â hygyrchedd etholiadau i bobl anabl yn helpu i gyfrannu at y nod llesiant hwn.
Mae'r Rheolau Diwygio yn diweddaru'r ddeddfwriaeth bresennol gyda newidiadau diweddar i bolisi a deddfwriaeth, er mwyn sicrhau cysondeb i weinyddwyr, ymgyrchwyr a phleidleiswyr ar draws etholiadau yng Nghymru.
Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu: mae'r Rheolau Diwygio yn cymryd camau i sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yn ystod y gwaith o gynnal etholiadau lleol.
Amcanion llesiant
Mae gan Lywodraeth Cymru 10 amcan llesiant a ddefnyddir i sicrhau'r cyfraniad mwyaf tuag at y nodau llesiant.
Mae'r 10 amcan llesiant fel a ganlyn:
- Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel: ni fydd y Rheolau Diwygio na'r Gorchymyn Eithrio yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn.
- Parhau â'n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau'n codi: ni fydd y Rheolau Diwygio na'r Gorchymyn Eithrio yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn.
- Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed: mae'r Rheolau Diwygio a'r Gorchymyn Eithrio yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn.
- Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math: mae'r Rheolau Diwygio yn diwygio darpariaethau deddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud â hygyrchedd a'r offer sydd i'w darparu mewn gorsafoedd pleidleisio i gynorthwyo pleidleiswyr anabl, ac felly byddant yn helpu i gyfrannu at yr amcan hwn.
- Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol: ni fydd y Rheolau Diwygio na'r Gorchymyn Eithrio yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn.
- Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a'r celfyddydau i ffynnu: mae'r Rheolau Diwygio yn cynnwys diwygiadau i'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud â sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal wrth gynnal etholiadau lleol, ac felly byddant yn helpu i gyfrannu at yr amcan hwn.
- Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni wneud cymaint o gynnydd ag y bo modd tuag at ddatgarboneiddio: ni fydd y Rheolau Diwygio na'r Gorchymyn Eithrio yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn.
- Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell byth i fyw a gweithio ynddynt: ni fydd y Rheolau Diwygio na'r Gorchymyn Eithrio yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn.
- Ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn: ni fydd y Rheolau Diwygio na'r Gorchymyn Eithrio yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn.
- Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â'n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi'r presenoldeb cryfaf posibl i'n gwlad ar y llwyfan byd-eang: bydd y Rheolau Diwygio a'r Gorchymyn Eithrio yn helpu i gyfrannu at yr amcan hwn gan eu bod yn adlewyrchu newidiadau diweddar i bolisi a deddfwriaeth arall am etholiadau sy'n cyflwyno rhai rhannau ynghylch diwygio'r Senedd a diwygio etholiadol.
Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?
Bydd effaith y Rheolau Diwygio a'r Gorchymyn Eithrio yn cael ei monitro a'i gwerthuso drwy weithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd yr ymgysylltu hwn yn helpu i fonitro effeithiolrwydd y newidiadau a ddaw yn sgil yr is-ddeddfwriaeth.
Bydd y Rheolau Diwygio yn cael eu hasesu cyn etholiadau llywodraeth leol yn y dyfodol ar ôl 2027 i geisio nodi unrhyw ddiwygiadau posibl.
