Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mawrth y llynedd, gwnaethom gyflawni carreg filltir arwyddocaol wrth i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth y bwriedir iddi atal darparwyr rhag gwneud elw o wasanaethau cartrefi gofal plant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu. Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio ar weithredu'r ymrwymiad i ddileu elw. Yn ystod yr haf y llynedd, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y newidiadau rheoleiddiol arfaethedig a'r dull ar gyfer monitro a gorfodi darpariaethau ynghylch trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur. Cyhoeddwyd yr ymateb i'r ymgynghoriad fis diwethaf. 

Heddiw, rwy'n falch o lansio ymgynghoriad pellach i helpu i gyflawni'r ymrwymiadau i ddileu elw. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â gosod dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i baratoi a chyhoeddi cynlluniau digonolrwydd blynyddol a fydd yn nodi sut y byddant yn cyflawni eu dyletswydd i sicrhau llety priodol i blant sy'n derbyn gofal, yn unol â'r darpariaethau dileu elw.

Bwriad cynlluniau digonolrwydd blynyddol yw cryfhau'r broses cynllunio strategol a hyrwyddo dull mwy cydlynol, tryloyw a chynaliadwy ar gyfer diwallu anghenion plant a phobl ifanc mewn gofal. Trwy'r ymgynghoriad hwn, rydym yn ceisio barn ar y dull arfaethedig ar gyfer rheoliadau a fydd yn nodi ffurf, cynnwys a gwaith paratoi'r cynlluniau hyn. Mae hyn yn cynnwys cynigion i gyflwyno templed cenedlaethol cyson, pennu gwybodaeth graidd y dylai cynlluniau ei chynnwys, a sefydlu prosesau clir ar gyfer cyflwyno cynlluniau i Weinidogion Cymru, ac iddynt hwy eu cymeradwyo.

Mae ymgysylltu a chydgynhyrchu gydag awdurdodau lleol a phartneriaid yn ganolog i'r gwaith hwn. Rydym wedi gweithio'n helaeth gyda llywodraeth leol, gan gynnwys drwy Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a phenaethiaid gwasanaethau plant, i ddatblygu'r cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad hwn. Mae eu mewnbwn cynnar wedi bod yn hynod werthfawr, ac rwyf wedi ymrwymo i barhau â'r dull cydweithredol hwn wrth inni fireinio'r rheoliadau a pharatoi'r canllawiau a'r templedi ategol.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle pwysig i awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill helpu i lywio sut y bydd y dyletswyddau newydd hyn yn cael eu gweithredu yn ymarferol. Bydd yr adborth a gawn yn chwarae rhan hanfodol o ran sicrhau bod cynlluniau digonolrwydd blynyddol yn gymesur, yn ystyrlon ac yn effeithiol wrth hyrwyddo canlyniadau gwell i blant sy'n derbyn gofal.

Mae'r ymgynghoriad ar agor ar gyfer ymatebion tan 7 Ebrill 2026. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb yn nyfodol gofal cymdeithasol plant yng Nghymru i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhannu eu barn.