Daeth yr ymgynghoriad i ben 7 Ebrill 2026.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio gofal nid-er-elw i blant.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Ymgynghoriad yw hwn ar weithredu’r cynlluniau i ddileu elw o ofal plant. Mae'n disgrifio sut y bwriadwn ymdrin â chynlluniau digonolrwydd blynyddol awdurdodau lleol a:
- ffurf a chynnwys y cynlluniau hynny
- sut y byddant yn cael eu cymeradwyo, eu cyflwyno a'u diwygio
- y berthynas rhwng y cynlluniau hynny a dogfennau cynllunio eraill
Dogfennau ymgynghori
Asesiad effaith integredig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 269 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Nodyn: Anonymeiddio ymatebion
Mae'r ffurflen ymateb i’w lawrlwytho, a gyhoeddwyd yn rhan o'r ymgynghoriad hwn, yn adlewyrchu fersiwn gynharach o eiriad Llywodraeth Cymru ar anonymeiddio ymatebion. Ers hynny, mae ein gweithdrefnau wedi'u diweddaru fel bod ymatebion i ymgynghoriad yn cael eu trin yn ddienw oni bai bod yr ymatebydd yn nodi’n wahanol. Mae unrhyw ddata personol bellach yn cael eu tynnu cyn cyhoeddi’r ymateb, oni bai bod ymatebwyr yn gofyn yn benodol fel arall.
Bydd y dull hwn wedi’i ddiweddaru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl ymatebion a ddaw i law ar gyfer yr ymgynghoriad hwn, waeth sut y cânt eu cyflwyno.
Help a chymorth
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
