Ymgynghoriad ar y dileu elw o ofal plant: dyletswydd cynllun digonolrwydd awdurdodau lleol
Hoffem gael eich barn ar sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio gofal nid-er-elw i blant
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â gweithredu Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 'Deddf 2025’).
Yn benodol, mae'n ymwneud ag adran 75A newydd sydd wedi'i mewnosod yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ('Deddf 2014') sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi cynllun ('cynllun digonolrwydd blynyddol') mewn perthynas â'u dyletswydd adran 75(1).
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd dyletswydd digonolrwydd presennol awdurdodau lleol yn adran 75(1) yn cael ei diwygio fel:
- bod yn rhaid i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau llety i'r plant sy'n derbyn gofal ganddynt.
- bod y ddyletswydd yn ymestyn i lety yn ardal yr awdurdod neu’n agos at yr ardal honno, gan gydnabod y gall lleoliad y tu allan i'r sir fod yn nes at gymuned gartref y plentyn dan rai amgylchiadau
- bod y llety yn gorfod bod gyda darparwyr sydd naill ai'n awdurdodau lleol neu sy'n bodloni'r gofynion nid-er-elw
- bod awdurdodau lleol yn gorfod ystyried y budd o gael amrywiaeth o lety yn eu hardaloedd neu yn agos atynt sy'n diwallu anghenion gwahanol y plant sy'n derbyn gofal ganddynt
Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys y canlynol:
- dull arfaethedig a chynnwys posibl y rheoliadau sy'n ymwneud â chynlluniau digonolrwydd. Mae hyn yn cynnwys y defnydd arfaethedig o bwerau gwneud rheoliadau o dan adran 75A newydd ynghylch ffurf a chynnwys cynlluniau
- y dull a'r prosesau arfaethedig sy'n ymwneud ag adran 75B newydd - Dyletswydd i sicrhau llety: y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo cynllun digonolrwydd, ac adran 75C - Dyletswydd i sicrhau llety: y weithdrefn os nad yw’r cynllun drafft yn cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru, a fewnosodwyd gan Ddeddf 2025
- y berthynas rhwng cynlluniau digonolrwydd a dogfennau cynllunio a strategaeth presennol sy'n ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal am gyfnod o 8 wythnos, sydd ychydig yn fyrrach na'r cyfnod ymgynghori 12 wythnos safonol. Mae hyn er mwyn osgoi gorgyffwrdd â'r cyfnod cyn-etholiadol, ac i gydnabod bod cynulleidfa wahanol ar gyfer yr ymgynghoriad hwn sy'n gyfarwydd â'r pwnc.
Y cefndir
Mae Rhaglen Lywodraethu (2021) Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i 'ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal’. Bwriad y polisi yw sicrhau nad yw arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn llety ar gyfer plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael ei dynnu allan fel elw, ond yn hytrach bod unrhyw warged yn cael ei hail-fuddsoddi yn ôl i'r system er mwyn cefnogi canlyniadau, gwasanaethau a datblygiad proffesiynol gwell.
Ar 24 Mawrth 2025, daeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 ('Deddf 2025') yn gyfraith yng Nghymru. Mae Deddf 2025 yn cynnwys darpariaethau y bwriedir iddynt gyfyngu ar allu darparwyr i wneud elw o wasanaethau cartrefi plant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu. Gelwir y rhain gyda'i gilydd yn 'wasanaethau plant o dan gyfyngiad’.
Mae Deddf 2025 yn amlinellu cyfres o drefniadau, y bwriedir i rai ohonynt ddod i rym o 1 Ebrill 2026 ymlaen, a fydd yn y pen draw yn cyfyngu ar ddarpariaeth y gwasanaethau hyn (ac eithrio darpariaeth awdurdodau lleol) i endidau 'nid-er-elw' sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC’). I fod yn endid 'nid-er-elw' cydnabyddedig, rhaid i ddarparwr:
fod ag amcanion neu ddibenion sy'n ymwneud yn bennaf â lles plant (neu unrhyw fudd cyhoeddus arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru);
a
- gweithredu o dan un o 4 math o ymgymeriad:
- cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau
- sefydliad corfforedig elusennol
- cymdeithas gofrestredig elusennol
- cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau
Er mwyn sicrhau nad yw'r polisi yn cael ei danseilio gan arferion sy'n groes i'w ysbryd a'i fwriad, mae Deddf 2025 hefyd yn darparu y gall unrhyw daliadau afresymol neu anghymesur a wneir gan ddarparwr nid-er-elw gwasanaethau plant o dan gyfyngiad gael eu cymryd i ystyriaeth gan Weinidogion Cymru wrth benderfynu a yw darparwr yn berson addas a phriodol i gael ei gofrestru.
Mae Deddf 2025 yn mewnosod adran 75A newydd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("Deddf 2014”). Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi cynllun ('cynllun digonolrwydd blynyddol') ynglŷn â'u dyletswydd adran 75(1). O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd dyletswydd digonolrwydd presennol awdurdodau lleol yn adran 75(1) yn cael ei diwygio fel:
- bod yn rhaid i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau llety i'r plant sy'n derbyn gofal ganddynt
- bod y ddyletswydd yn ymestyn i lety yn ardal yr awdurdod neu’n agos at yr ardal honno, gan gydnabod y gall lleoliad y tu allan i'r sir fod yn nes at gymuned gartref y plentyn dan rai amgylchiadau
- bod y llety yn gorfod bod gyda darparwyr sydd naill ai'n awdurdodau lleol neu sy'n bodloni'r gofynion nid-er-elw
- bod awdurdodau lleol yn gorfod ystyried y budd o gael amrywiaeth o lety yn eu hardaloedd neu yn agos atynt sy'n diwallu anghenion gwahanol y plant sy'n derbyn gofal ganddynt. Mae hyn yn disodli'r ffocws blaenorol ar nifer y darparwyr, sy'n golygu y gellir bodloni digonolrwydd hyd yn oed os yw'r llety yn cael ei ddarparu gan un darparwr (megis yr awdurdod lleol ei hun) cyn belled â'i fod yn diwallu gwahanol anghenion y plant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod
Mae Deddf 2025 hefyd yn mewnosod adrannau 75B, 75C a 75D newydd yn Neddf 2014. Mae adran 75B yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno drafft o'r cynllun digonolrwydd i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo, tra bod adran 75C yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn os na chaiff y cynllun drafft ei gymeradwyo. Mae Adran 75D yn ei gwneud yn ofynnol, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol y mae cynllun digonolrwydd blynyddol wedi'i lunio ar ei chyfer, rhaid i'r adroddiad blynyddol a baratoir gan awdurdod lleol o dan adran 144A nodi:
- sut y mae'r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y flwyddyn ariannol honno wedi arwain at gynnydd (neu y disgwylir iddynt arwain at gynnydd) o ran faint o lety sydd ar gael i'r awdurdod sy'n bodloni gofynion paragraffau (a) i (b) o adran 75(1)
- nifer y ceisiadau a wnaeth yr awdurdod lleol yn y flwyddyn ariannol honno am gymeradwyaeth i leoli plant mewn lleoliad atodol yn unol ag adran 81B
- y rhesymau dros unrhyw wahaniaeth rhwng nifer y ceisiadau a ddarperir o dan baragraff (b) a nifer y ceisiadau yr oedd yr awdurdod lleol wedi'u hamcangyfrif o dan adran 75A(3)(d)(i) y byddai'n eu gwneud yn ystod y flwyddyn.
Bwriad cynlluniau digonolrwydd blynyddol yw hyrwyddo a chefnogi dull cydlynol o gynllunio a darparu digonolrwydd o leoliadau nid-er-elw o fewn awdurdodau lleol, yn unol ag anghenion lleol, ac yng nghyd-destun newid cydbwysedd darpariaeth gofal a chymorth yn ehangach. Bydd gwneud cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ddigonolrwydd yn ofynnol yn sicrhau bod cynlluniau awdurdodau lleol yn dryloyw ac yn hygyrch i randdeiliaid allweddol eraill, gan hyrwyddo mwy o gydgysylltu ac integreiddio.
Amseru trefniadau
Y bwriad yw sicrhau bod darpariaethau perthnasol o Ddeddf 2025 sy'n ymwneud â dileu elw yn dod i rym trwy is-ddeddfwriaeth ar yr adeg briodol er mwyn sicrhau'r canlynol:
O 1 Ebrill 2026 ymlaen:
- ni fydd unrhyw wasanaethau cartrefi gofal, llety diogel, a maethu er elw yn cael cofrestru.
- ni chaniateir i ddarparwyr er elw presennol gwasanaethau cartrefi plant, llety diogel, neu wasanaethau maethu amrywio eu cofrestriad i ychwanegu gwasanaeth neu leoliad newydd.
- mae'r ddyletswydd ddigonolrwydd o dan adran 75(1) o Ddeddf 2014 wedi'i diwygio fel y nodir uchod
Erbyn 1 Rhagfyr 2026 fan bellaf:
- bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno eu cynlluniau digonolrwydd blynyddol drafft cyntaf (sy'n cynnwys blwyddyn ariannol 2027 i 2028) i Weinidogion Cymru i'w cymeradwyo
O 1 Ebrill 2027 ymlaen:
- ni cheir ychwanegu gwelyau ychwanegol at gartrefi plant 'er elw' presennol
- bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi eu cynlluniau digonolrwydd blynyddol cyntaf (sy'n cwmpasu blwyddyn ariannol 2027 i 2028)
- ni chaiff unrhyw ofalwyr maeth newydd eu cymeradwyo gan ddarparwyr ‘er elw’ presennol gwasanaethau maethu
Erbyn 1 Chwefror 2028 fan bellaf:
- bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno cynlluniau digonolrwydd blynyddol drafft (sy'n cynnwys blwyddyn ariannol 2028 i 2029) i Weinidogion Cymru i'w cymeradwyo.
O 1 Ebrill 2028 ymlaen:
- bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi eu hail gynlluniau digonolrwydd blynyddol (sy'n cwmpasu blwyddyn ariannol 2028 i 2029)
- cyhoeddi adroddiadau blynyddol awdurdodau lleol sy'n cwmpasu blwyddyn ariannol 2027 i 2028 gan gynnwys gwybodaeth o fewn Adran 75D newydd
Erbyn 1 Chwefror 2029 fan bellaf:
- bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno cynlluniau digonolrwydd blynyddol drafft (sy'n cynnwys blwyddyn ariannol 2029 i 2030) i Weinidogion Cymru i'w cymeradwyo
O 1 Ebrill 2029 ymlaen:
- bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi eu trydydd cynllun digonolrwydd blynyddol (sy'n cwmpasu blwyddyn ariannol 2029 i 2030)
- cyhoeddi adroddiadau blynyddol awdurdodau lleol sy'n cwmpasu blwyddyn ariannol 2028 i 2029 gan gynnwys gwybodaeth o fewn yr Adran 75D newydd.
Erbyn 1 Chwefror 2030 fan bellaf:
- bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno cynlluniau digonolrwydd blynyddol drafft (sy'n cynnwys blwyddyn ariannol 2030 i 2031) i Weinidogion Cymru i'w cymeradwyo
O 1 Ebrill 2030 ymlaen:
- ni cheir rhoi plant yng ngofal darparwr gwasanaeth 'er elw', ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol (er enghraifft, os nad oes lleoedd addas ar gael mewn gwasanaethau nid-er-elw)
- bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi eu pedwerydd cynllun digonolrwydd blynyddol (sy'n cwmpasu blwyddyn ariannol 2030 i 2031)
- cyhoeddi adroddiadau blynyddol awdurdodau lleol sy'n cwmpasu blwyddyn ariannol 2029-30 gan gynnwys gwybodaeth o fewn yr Adran 75D newydd
Diben yr ymgynghoriad
Fel yr amlinellir yn yr adran drosolwg, mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â chyflwyno dyletswydd cynllun digonolrwydd blynyddol awdurdodau lleol ac mae wedi'i strwythuro o amgylch yr elfennau allweddol canlynol:
- dull arfaethedig a chynnwys posibl y rheoliadau sy'n ymwneud â chynlluniau digonolrwydd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio'r pwerau gwneud rheoliadau o dan is-adrannau canlynol yr adran 75A newydd:
- is-adran (2)(a) sy'n nodi bod yn rhaid i gynlluniau digonolrwydd ddilyn y ffurf a ragnodir drwy reoliadau.
- is-adran (3)(d)(iii) a (iv) ynghylch gwybodaeth am ddarparwyr er elw sy'n darparu llety yng Nghymru, ac unrhyw wybodaeth sydd i'w rhagnodi drwy reoliadau am ddarparwyr er elw sy'n darparu llety yn Lloegr.
- is-adran (3)(f) sy'n datgan bod yn rhaid i gynlluniau digonolrwydd blynyddol gynnwys unrhyw wybodaeth arall a ragnodir drwy reoliadau.
- y dull a'r prosesau arfaethedig sy'n ymwneud ag adran 75B newydd - Dyletswydd i sicrhau llety: y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo cynllun digonolrwydd, ac adran 75C - Dyletswydd i sicrhau llety: y weithdrefn os nad yw’r cynllun drafft yn cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
- Y berthynas arfaethedig rhwng y cynlluniau digonolrwydd a'r dogfennau cynllunio a strategaeth presennol sy'n ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal.
Pennod 1: Dull arfaethedig o ymdrin â rheoliadau sy'n ymwneud â ffurf a chynnwys cynlluniau digonolrwydd awdurdodau lleol - Adran 75A is-adrannau (2) a (3)
Cefndir
Mae adran 75A(3) newydd o Ddeddf 2014, fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf 2025, yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn cynllun digonolrwydd blynyddo:
- nifer y plant y mae’r awdurdod yn amcangyfrif:
- y bydd yn gofalu amdanynt, a
- y bydd yn annhebygol o allu gwneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy o dan adran 81(2).
- asesiad ynghylch faint o lety a ddarperir gan rieni maeth awdurdod lleol a chartrefi plant fydd ar gael i’r awdurdod lleol at ddiben lleoli plant a ddisgrifir ym mharagraff (a) yn unol ag adran 81A(2).
- asesiad ynghylch i ba raddau y mae’r llety hwnnw yn bodloni gofynion paragraffau (a) i (b) o adran 75(1);
- mewn perthynas â cheisiadau y mae’r awdurdod lleol yn rhagweld y bydd yn eu gwneud i gymeradwyo lleoliadau atodol yn unol ag adran 81B:
- amcangyfrif o nifer y ceisiadau a ddisgwylir
- y rhesymau pam y mae’r nifer hwnnw o geisiadau yn debygol o gael ei wneud
- gwybodaeth i’w rhagnodi mewn rheoliadau ynghylch darparwyr er elw sy’n darparu llety yng Nghymru ac sy’n debygol o gael eu henwi yn y ceisiadau hynny, a
- gwybodaeth i’w rhagnodi mewn rheoliadau ynghylch darparwyr preifat sy’n darparu llety yn Lloegr ac sy’n debygol o gael eu henwi yn y ceisiadau hynny
- gwybodaeth ynghylch sut y bwriedir i gamau sydd i’w cymryd gan yr awdurdod lleol sicrhau bod gan yr awdurdod ddigon o lety sy’n bodloni gofynion paragraffau (a) i (b) o adran 75(1);
Yn ogystal â'r uchod, mae adran 75A hefyd yn cynnwys y pwerau canlynol ar gyfer gwneud rheoliadau:
- is-adran (2) sy'n nodi bod yn rhaid i gynlluniau digonolrwydd ddilyn y ffurf a ragnodir drwy reoliadau.
- is-adran (3)(d)(iii) a (iv) ynglŷn â gwybodaeth am ddarparwyr er elw sy'n darparu llety yng Nghymru, ac unrhyw wybodaeth i'w rhagnodi mewn rheoliadau ynghylch darparwyr er elw sy'n darparu llety yn Lloegr.
- is-adran (3)(f) sy'n datgan bod yn rhaid i gynlluniau digonolrwydd blynyddol gynnwys unrhyw wybodaeth arall a ragnodir drwy reoliadau
Geiriad arfaethedig y cynlluniau digonolrwydd: dull rheoleiddiol – adran 75A(2)(a)
Mae adran newydd 75A(2)(a) o Ddeddf 2014 yn nodi bod yn rhaid i gynlluniau digonolrwydd fod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau. Rydym yn bwriadu gwneud rheoliadau a fydd yn rhagnodi bod yn rhaid i gynlluniau digonolrwydd fod ar ffurf templed a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
Bydd hyn yn sicrhau eglurder a dull cyson ar draws awdurdodau lleol ac yn galluogi mwy o hyblygrwydd i esblygu ffurf y cynlluniau yn y blynyddoedd i ddod. Rydym yn bwriadu ymgysylltu ar y cyd ag awdurdodau lleol i baratoi'r templed cychwynnol a'r diweddariad (os oes angen) mewn ymateb i unrhyw anghenion a ddaw i’r fei, gan osgoi'r angen am ddiwygiadau deddfwriaethol ffurfiol.
Bydd y templed yn adlewyrchu'r gofynion a nodir eisoes yn adran 75A (3) newydd o Ddeddf 2014, fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf 2025 (gweler paragraff 1.1 uchod) ac unrhyw wybodaeth arall a ragnodir drwy reoliadau a wneir o dan adrannau 75A (3)(d)(iii) a (iv) a 75A (3)(f) – gweler y paragraffau isod.
Rheoliadau arfaethedig: gwybodaeth am ddarparwyr er elw sy'n darparu llety yng Nghymru, a darparwyr preifat sy'n darparu llety yn Lloegr, sy'n debygol o gael eu henwi mewn ceisiadau lleoliad atodol
Mae adran 81B newydd o Ddeddf 2014, fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf 2025, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud cais i Weinidogion Cymru am gymeradwyaeth i leoli plentyn gyda darparwr er elw yng Nghymru, neu gyda darparwr preifat yn Lloegr.
Mae adran 75A(3)(d) newydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yn eu cynlluniau digonolrwydd gynnwys y ceisiadau y mae'r awdurdod lleol yn disgwyl eu cymeradwyo fel lleoliadau atodol yn unol ag adran 81B:
- amcangyfrif o nifer y ceisiadau a ddisgwylir,
- y rhesymau pam y mae’r nifer hwnnw o geisiadau yn debygol o gael ei wneud,
- gwybodaeth i’w rhagnodi mewn rheoliadau ynghylch darparwyr er elw sy’n darparu llety yng Nghymru ac sy’n debygol o gael eu henwi yn y ceisiadau hynny, a
- gwybodaeth i’w rhagnodi mewn rheoliadau ynghylch darparwyr preifat sy’n darparu llety yn Lloegr ac sy’n debygol o gael eu henwi yn y ceisiadau hynny
Bwriad y rheoliad sy'n gwneud pwerau i ragnodi gwybodaeth sy'n ofynnol am ddarparwyr er elw a phreifat yw hyrwyddo dealltwriaeth glir ynghylch y math o ddarpariaeth a natur y ddarpariaeth yr ydym yn dibynnu arni yng Nghymru a Lloegr.
Gallai rheoliadau ynghylch gwybodaeth am ddarparwyr sy'n debygol o gael eu henwi mewn ceisiadau ar gyfer lleoliad atodol gynnwys o bosibl:
- hunaniaeth y darparwr a statws cyfreithiol: Enw'r darparwr, cyfeiriad cofrestredig, rhif y cwmni, a chadarnhad o statws er elw neu nid-er-elw
- math o wasanaeth a ddarperir: A yw’r darparwr yn gweithredu cartrefi plant, gwasanaethau maethu, neu lety diogel
- lleoliad a chapasiti: Lleoliad (brasamcan ar gyfer anonymeiddio) y cyfleusterau, nifer y lleoedd cofrestredig, a chwmpas daearyddol
- cynlluniau ailsefydlu: Os yw'r darparwr yn ailsefydlu fel endid nid-er-elw, manylion y broses a'r amserlen
Ni ddylai unrhyw wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y cynlluniau beri unrhyw bryderon ynghylch rhannu data. Byddai pryderon perthnasol yn cynnwys lliniaru unrhyw risgiau y gellid adnabod lleoliadau cartrefi plant yn y cynlluniau ac osgoi unrhyw risg o blant penodol yn cael eu hadnabod. Yn fwy cyffredinol, byddai angen i gynlluniau osgoi cynnwys unrhyw wybodaeth a fyddai’n peri unrhyw bryderon o ran sensitifrwydd masnachol mewn perthynas â’r gwasanaethau dan sylw.
Y bwriad presennol yw na fydd y gofynion yn adran 81B mewn perthynas â cheisiadau i gymeradwyo lleoliadau atodol yn dod i rym tan fis Ebrill 2030. Yn yr un modd, ni fyddai'r gofyniad i gynnwys mewn cynlluniau digonolrwydd yr wybodaeth a nodir yn adrannau 75A (3)(b), 3(c) a 3(d) yn dod i rym chwaith gan gynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir drwy reoliadau a wneir o dan adran 75A (3)(d)(iii) a (iv). Felly, ni fydd yn ofynnol i gynlluniau digonolrwydd gynnwys yr wybodaeth hon cyn y rhai a baratoir ar gyfer blwyddyn ariannol 2030 i 2031. Fodd bynnag, teimlir ei bod yn ddoeth ceisio barn gychwynnol nawr ar gynnwys y rheoliadau hynny fel rhan o'r ymgynghoriad hwn.
Adran 75A (3)(f) - pŵer i lunio rheoliadau i ragnodi gwybodaeth arall yn y cynlluniau digonolrwydd
Mae adran 75A(3)(f) yn datgan bod yn rhaid i gynlluniau digonolrwydd blynyddol gynnwys 'unrhyw wybodaeth arall a ragnodir drwy reoliadau’. Bwriad y pŵer hwn yw galluogi ymagwedd ddynamig tuag at ofynion cynlluniau digonolrwydd, gan ganiatáu i ofynion pellach gael eu rhagnodi os cânt eu hystyried yn angenrheidiol yn y dyfodol.
Cynigir y bydd y rheoliadau yn nodi nifer o elfennau 'craidd' pellach i'w cynnwys mewn cynlluniau digonolrwydd yn ychwanegol at y rhai a amlinellir eisoes yn adran 75A (3). Gallai’r camau hyn gynnwys y canlynol:
- cyd-destun gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar broffil anghenion plant a phobl ifanc
- data a thueddiadau yn niferoedd y plant sy'n derbyn gofal (cyfredol a rhagamcanol)
- proffil lleoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r ddarpariaeth leoliadau bresennol
- rhagamcanion galw yn y dyfodol (isafswm ac uchafswm)
- manylion am ddarpariaeth genedlaethol, ranbarthol a lleol a ddarperir gan yr awdurdod lleol neu sydd ar gael iddo
- data ar nifer y plant sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r sir/wlad
- data ar nifer y plant mewn gwasanaethau sy'n gweithredu heb gofrestru
- data ar nifer y plant sy'n destun Gorchmynion Amddifadu o Ryddid
- risgiau allweddol a lliniaru
- bylchau mewn data a sut y bydd y rhain yn cael eu datrys
- cysylltiadau â chynlluniau perthnasol Llywodraeth Cymru
- strategaethau a chynlluniau'r gweithlu
Pennod 2: Canllawiau arfaethedig ar drefniadau ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo cynlluniau digonolrwydd
Mae adran 75B newydd yn nodi'r weithdrefn ar gyfer cyflwyno cynlluniau digonolrwydd i Weinidogion Cymru, gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno drafftiau dilynol (os oes angen) a threfniadau hysbysu ar ôl eu cymeradwyo. Mae adran 75B newydd yn amlinellu'r weithdrefn os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo cynllun digonolrwydd drafft. Mae hyn yn cynnwys hysbysu o'r rhesymau dros wneud y penderfyniad a phryd y mae'n rhaid i'r awdurdod gyflwyno drafft pellach.
Mae testun llawn adrannau 75B a 75C wedi'i nodi isod:
75B Dyletswydd i sicrhau llety: gweithdrefn ar gyfer cymeradwyo cynllun digonolrwydd
1. Cyn cyhoeddi ei gynllun digonolrwydd blynyddol, rhaid i awdurdod lleol:
- llunio drafft o’r cynllun, a
- cyflwyno’r drafft i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ganddynt
2. Rhaid cyflwyno’r cynllun drafft cyntaf i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 4 mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.
3. Rhaid cyflwyno cynlluniau drafft dilynol i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 2 fis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi.
4. Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft o gynllun digonolrwydd blynyddol, rhaid iddynt hysbysu’r awdurdod lleol am eu penderfyniad.
75C Dyletswydd i sicrhau llety: y weithdrefn os nad yw’r cynllun drafft yn cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru
1. Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o gynllun digonolrwydd blynyddol a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan adran 75B.
2. Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod lleol gan nodi:
- y rhesymau dros y penderfyniad;
- y cyfnod y mae rhaid i’r awdurdod lleol, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, gyflwyno drafft pellach o’r cynllun i Weinidogion Cymru
3. Rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno drafft pellach o’r cynllun ynghyd ag adroddiad sy’n esbonio sut, wrth lunio’r drafft, y mae’r awdurdod lleol wedi ystyried y rhesymau a nodir yn yr hysbysiad a roddir o dan is-adran (2).
4. Mae adran 75B(4) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft pellach a gyflwynir iddynt o dan yr adran hon fel y mae’n gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 75B
5. Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft pellach a gyflwynir iddynt o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 75B.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu llunio canllawiau sy'n rhoi mwy o fanylion ar y prosesau a ddisgrifir uchod. Disgwylir i hyn gynnwys manylion ar y canlynol:
Dull Cyflwyno
Sut a ble i gyflwyno cynlluniau i Weinidogion Cymru (rydym yn rhagweld y byddai hyn yn electronig yn unig, drwy e-bost i flwch negeseuon e-bost a enwir Llywodraeth Cymru).
Meini Prawf Cymeradwyo
Yr hyn y bydd Gweinidogion Cymru yn ei asesu (cyflawnrwydd, cydymffurfedd statudol, y sylfaen dystiolaeth).
Gweithdrefnau Hysbysu
Sut yr hysbysir awdurdodau bod cynlluniau wedi'u cymeradwyo neu heb eu cymeradwyo a'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer hyn.
Pa wybodaeth a fydd yn cael ei chynnwys mewn hysbysiadau (e.e., rhesymau dros beidio â chymeradwyo, y camau nesaf).
Proses Ailgyflwyno (os na cheir cymeradwyaeth)
Camau ar gyfer paratoi a chyflwyno drafft pellach.
Gofynion ar gyfer yr adroddiad ategol sy'n esbonio sut y mae’r adborth/rhesymau dros beidio â chymeradwyo wedi cael eu datrys.
Amserlen ar gyfer ailgyflwyno.
Cadw Cofnodion ac Archwilio
Unrhyw ganllawiau ar gadw cofnodion o gyflwyniadau, hysbysiadau a diwygiadau at ddibenion atebolrwydd.
Pennod 3: Cynlluniau digonolrwydd - cysylltiad â dogfennaeth gynllunio arall
Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yn paratoi amrywiaeth o ddogfennau cynllunio a strategaeth statudol ac anstatudol sy'n ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â darparu gwasanaethau plant o dan gyfyngiad. Mae’r strwythurau hyn yn cynnwys:
Asesiadau poblogaeth a chynlluniau ardal
Mae adran 14 o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol (ochr yn ochr â Byrddau Iechyd Lleol) wneud y canlynol:
- Cynnal asesiad poblogaeth ar y cyd o anghenion pobl am ofal a chymorth yn eu hardal, ac anghenion gofalwyr am gymorth
- Nodi ystod a lefel y gwasanaethau ataliol sydd eu hangen i ddiwallu'r anghenion hynny
Mae adran 14A o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol wneud y canlynol:
- Paratoi a chyhoeddi cynllun ardal ar y cyd. Rhaid i'r cynllun hwnnw nodi ystod a lefel y gwasanaethau y maent yn bwriadu eu darparu neu eu trefnu mewn ymateb i'r anghenion a nodwyd yn eu hasesiad o'r boblogaeth.
Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad
Mae adran 144B o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol. Nododd Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021 fod yn rhaid gwneud y rhain ar ôl troed rhanbarthol gyda'r cynlluniau cyntaf yn cael eu cyhoeddi erbyn 1 Mehefin 2022, yr ail erbyn 1 Medi 2027 a phob 5 mlynedd wedi hynny. Mae'r adroddiadau'n ofynnol er mwyn asesu digonolrwydd a sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer yr holl wasanaethau gofal cymdeithasol rheoleiddiedig (oedolion a phlant).
Strategaeth comisiynu lleoliadau
Er nad yw'n ofyniad statudol penodol, mae awdurdodau lleol yn paratoi Strategaethau Comisiynu Lleoliadau unigol (PCS) yn rheolaidd, gan ganolbwyntio ar eu strategaeth unigol ar gyfer lleoli plant sy'n derbyn gofal. Mae llawer ohonynt yn seiliedig ar dempled cyffredin a baratowyd gan Gonsortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant sy'n cynnwys adrannau ar gyfer y data, dadansoddiad (gan gynnwys bylchau ac opsiynau) a'r penderfyniadau gan gynnwys cynllunio a strategaeth. Er bod rhai PCS wedi'u cyhoeddi gan awdurdodau lleol, nid yw hyn yn rhywbeth sy'n ofynnol yn benodol gan Lywodraeth Cymru. Mae PCS yn cael eu hystyried yn bennaf yn ddogfennau mewnol yr awdurdodau lleol sy'n gweithredu fel map trywydd strategol ar gyfer blaenoriaethau comisiynu a lleoliadau dros y blynyddoedd i ddod.
Rydym am sicrhau bod cysylltiad ac aliniad clir rhwng y dogfennau cynllunio a strategaeth hyn a'r cynlluniau digonolrwydd blynyddol gan hefyd geisio osgoi dyblygu a gorgyffwrdd cyn belled ag y bo modd. Nodwyd y gallai'r PCS yn arbennig fod yn debycach o ran natur i elfennau arfaethedig y cynllun digonolrwydd blynyddol.
Pennod 4: Asesiad effaith integredig
Mae Asesiad Effaith Integredig yn cael ei baratoi i ymdrin â'r gwaith o ddatblygu'r cynlluniau digonolrwydd. Ei ddiben yw galluogi Llywodraeth Cymru i ystyried, mewn ffordd strwythuredig, effaith y cynigion ar bobl Cymru. Mae drafft o Adrannau 1 ac 8 o'r Asesiad Effaith Integredig wedi'u cynnwys i'w hystyried. Mae adran 1 o'r Asesiad Effaith Integredig yn disgrifio pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham, gan gynnwys heriau a chyfleoedd posibl. Er y bydd adrannau penodol o'r Asesiad Effaith Integredig yn ystyried yr effeithiau posibl ar lesiant cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd, nod yr adran hon yw crynhoi elfennau allweddol y cynigion. Adran 8 o'r Asesiad Effaith Integredig yw'r adran olaf, ac mae'n ceisio crynhoi prif effeithiau'r cynigion. Bydd yr angen am asesiadau effaith penodol yn cael ei ystyried wrth i'r Asesiad Effaith Integredig gael ei gwblhau hefyd.
Pennod 5: Cwestiynau eraill
Yn ogystal â'r cwestiynau penodol yn y penodau blaenorol, mae nifer o gwestiynau sy'n gyffredin i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru.
Cwestiynau ymgynghoriadau
Pennod 1: Dull arfaethedig o ymdrin â rheoliadau sy'n ymwneud â ffurf a chynnwys cynlluniau digonolrwydd awdurdodau lleol - Adran 75A is-adrannau (2) a (3)
Cwestiwn 1
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i ragnodi y dylai cynlluniau digonolrwydd fod ar ffurf templed i'w ddatblygu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol?
Cwestiwn 2
Ydych chi'n cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno rheoliadau o dan Adran 75A(3)(d), (iii) a (iv) o fis Ebrill 2030 fel y’u rhestrir uchod
Cwestiwn 3
Beth yw eich barn ar yr ardaloedd posibl i'w cynnwys yn y rheoliadau o dan Adran 75A(3)(d), (iii) a (iv) fel y'u rhestrir uchod?
Cwestiwn 4
Yn eich barn chi, a oes unrhyw feysydd eraill y dylid eu cynnwys yn y rheoliadau o dan Adran 75A(3)(d), (iii) a (iv)?
Cwestiwn 5
Ydych chi'n cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno rheoliadau o dan Adran 75A(3)(f), a restrir uchod?
Cwestiwn 6
Beth yw eich barn ar y meysydd posibl i'w cynnwys yn y rheoliadau o dan Adran 75A(3)(f) fel y’u rhestrir uchod?
Cwestiwn 7
Yn eich barn chi, a oes unrhyw feysydd eraill y dylid eu cynnwys yn y rheoliadau o dan Adran 75A(3)(f)?
Pennod 2: Canllawiau arfaethedig ar drefniadau ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo cynlluniau digonolrwydd
Cwestiwn 8
Beth yw eich barn ar y meysydd posibl i'w cynnwys yn y canllawiau arfaethedig ar gyflwyno a chymeradwyo cynlluniau digonolrwydd. Yn eich barn chi, a oes unrhyw feysydd eraill y dylid eu cynnwys?
Pennod 3: Cynlluniau digonolrwydd - cysylltiad â dogfennaeth gynllunio arall
Cwestiwn 9
Beth yw eich barn ar y ffordd orau o alinio'r dogfennau cynllunio a strategaeth y cyfeirir atynt uchod (Strategaethau Comisiynu Lleoliadau yn benodol) â chynlluniau digonolrwydd blynyddol? Beth ddylai'r cysylltiad fod, os o gwbl, rhwng y dogfennau yn y dyfodol?
Chapter 4: Integrated impact assessment
Cwestiwn 10
Beth yw eich barn ar Adrannau 1 ac 8 o'r Asesiad Effaith Integredig? A oes unrhyw feysydd penodol lle rydych chi’n teimlo bod angen rhagor o fanylion, neu a oes unrhyw faterion penodol yr hoffech weld yn cael eu hamlygu a allai gael effaith ar grŵp penodol?
Cwestiwn 11
Pa effeithiau eraill (gan gynnwys unrhyw gostau neu fuddion) y credwch y gallai'r cynigion eu cael ar awdurdodau lleol, sefydliadau neu sectorau gwahanol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol? Croesewir eich barn ynglŷn â sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol hefyd. Esboniwch eich rhesymu.
Pennod 5: Cwestiynau eraill
Cwestiwn 12
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y rheoliadau arfaethedig ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Ydych chi’n meddwl bod yna gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Cwestiwn 13
Yn eich barn chi, a ellid geirio neu newid y cynigion er mwyn:
- cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg;
- lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Cwestiwn 14
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i roi gwybod amdanynt.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 7 Ebrill 2026, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost dileuelw@llyw.cymru (rhowch y cyfeirnod LlC53820 ym mhwnc eich e-bost)
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:
Ymgynghoriad: LlC53820
Y Tîm Polisi Dileu Elw
Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Rhif: LlC53820
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
