Mae’r arolwg yn darparu gwybodaeth allweddol ynghylch y galw am lafur ymhlith cyflogwyr, diffygion sgiliau, a'r lefelau buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygu’r gweithlu.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Sgiliau Cyflogwyr
Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2024 yw'r seithfed mewn cyfres o arolygon a gynhaliwyd ar raddfa fawr o sefyllfa cyflogwyr ledled y DU, ac roedd yn cynnwys 5,605 o gyflogwyr yng Nghymru. Cynhaliwyd gwaith yr arolwg rhwng Mehefin 2024 a Ionawr 2025.
Y prif ganfyddiadau
Yn 2024 yng Nghymru, gwelwyd lleddfu ar y pwysau mewnol o ran sgiliau, a llai o fwrlwm yn y farchnad lafur. Fodd bynnag, mae cyflogwyr yn parhau i wynebu mwy o anawsterau recriwtio o safbwynt sgiliau nag a wnaethant yng nghanol y 2010au, sy'n adlewyrchu patrwm a welir ledled y DU.
- Yn galonogol, mae'r bylchau yn sgiliau'r gweithlu presennol yng Nghymru wedi lleihau ers yr arolwg diwethaf yn 2022, ac maent bellach ar y lefelau isaf a gofnodwyd yn y gyfres o Arolygon Sgiliau Cyflogwyr.
- Ar ôl y cynnydd sydyn mewn swyddi gwag yn 2022, gostyngodd eu nifer i'r lefelau a welwyd yn 2015 a 2017.
- Gostyngodd cyfran y swyddi gwag y mae cyflogwyr yn eu disgrifio fel rhai anodd eu llenwi oherwydd diffyg sgiliau, profiad neu gymwysterau (swyddi gwag lle mae prinder sgiliau ) o'r lefel uchaf erioed yn 2022, ond arhosodd yn uwch nag yn y cyfnod rhwng 2011 a 2017.
Bu gostyngiad cyffredinol yn y tymor hirach yn lefelau ymgysylltu cyflogwyr â hyfforddiant, ac yn y lefelau buddsoddi mewn hyfforddiant yng Nghymru, yn unol â phatrymau'r DU.
- Bu gostyngiad graddol yng nghyfran y cyflogwyr yng Nghymru a oedd yn darparu hyfforddiant yn 2024, o'i gymharu â'r cyfnod rhwng 2015 a 2019.
- Mae'r buddsoddiad ariannol cyffredinol mewn hyfforddiant wedi gostwng mewn termau real o'i gymharu â 2022.
- Ar yr un pryd, arhosodd cyfran y gweithlu a hyfforddwyd ar lefelau tebyg, a chynyddodd cyfanswm nifer y staff a hyfforddwyd o'i gymharu â 2015, sy'n golygu bod cyflogwyr bellach yn gwario llai ar hyfforddiant fesul cyflogai a fesul hyfforddai.
Mae Cymru yn parhau i gymharu'n ffafriol â gwledydd eraill y DU o ran cyfran y cyflogeion sydd wedi'u hyfforddi a nifer y diwrnodau hyfforddi a ddarperir i staff.
Mae'r arolwg hefyd yn darparu data ar feysydd fel prentisiaethau a lleoliadau profiad gwaith, anghenion sgiliau'r dyfodol, deallusrwydd artiffisial (AI), a Sero Net a manylion ar lefel sector, galwedigaeth, maint cyflogwr a lefel ranbarthol.
Adroddiadau
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Pecyn sleidiau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 772 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Tablau data , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 3 MB
Cyswllt
Cyflogadwyedd a Sgiliau
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
