Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Lauren Caley (LC), Shelter Cymru

Heledd Davies (HD), Cymen (Cyfieithu ar y pryd)

Uzo Iwobi OBE (UI), Race Council Cymru

Catrin James (CJ), Urdd Gobaith Cymru

David James (DJ), Swyddog Galluogi Tai Gwledig Sir Fynwy 

Thomas Laverley (TL), The Wallich

Carys Moseley (CM), Cytûn

Andrew O'Rourke (AOR), Llywodraeth Cymru

Nerys Owens (NO), Llywodraeth Cymru

Maddy Young (MY), Gofal Canser Tenovus

Siaradwyr

Nicole Burchill (NB), Llywodraeth Cymru

Richard Davies (RD), Llywodraeth Cymru

Stephanie Howarth (SH), Llywodraeth Cymru (Cadeirydd)

Martin Parry (MP), Llywodraeth Cymru

Cofnodion

Megan Williams (MW), Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Rosie Cribb, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru

Paul Glaze, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol

Cyflwyniad

Croesawodd SH bawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod ac esboniodd y cyfarwyddiadau ar gyfer y ddarpariaeth cyfieithu ar y pryd.

Nodwyd bod y cam gweithredu o’r cyfarfod blaenorol i aelodau roi adborth ar y grŵp wedi’i gwblhau. Dosbarthwyd arolwg adborth i’r aelodau cyn y cyfarfod a chafwyd tri ymateb.

Ymgynghori ar bynciau’r Cyfrifiad

Trafododd MP y cynlluniau ar gyfer Cyfrifiad 2031. Ym mis Gorffennaf 2025, comisiynodd Llywodraeth y DU y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i gynnal cyfrifiad gorfodol ar gyfer poblogaeth gyfan Cymru a Lloegr yn 2031. Lansiwyd ymgynghoriad y SYG ar bynciau Cyfrifiad 2031 ar 28 Hydref 2025, a bydd yn para tan 4 Chwefror 2026.

Ochr yn ochr â hyn, mae’r SYG hefyd yn ymgynghori ar gysoni data ethnigrwydd. Bydd y canlyniadau hyn yn cael eu bwydo i’r safon wedi’i chysoni ar gyfer casglu data ar ethnigrwydd (Analysis Function). Anogodd MP yr aelodau i ystyried a oes ganddynt unrhyw anghenion data penodol ac i ymateb i’r ymgyngoriadau erbyn 4 Chwefror 2026.

Nododd MP fod y SYG yn gwerthfawrogi cyfraniadau gan wahanol sectorau a defnyddwyr, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r ymgynghoriad i gynrychioli anghenion y llywodraeth gyfan. Dywedodd SH y gall aelodau hefyd roi gwybod inni am unrhyw anghenion ac y bydd y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad.

Cam gweithredu 1: Yr aelodau i ystyried ymateb i’r ymgyngoriadau, neu roi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw anghenion data y dylid  adrodd amdanynt yn ein hymateb

Gofynnodd CJ am argaeledd y data ar bobl ifanc 16 i 25 oed o’r Cyfrifiad. 

Ymatebodd MP fod y Cyfrifiad yn cynrychioli’r boblogaeth gyfan a bod data ar gael ar gyfer y grwpiau oedran hyn.

Cam gweithredu 2: MP i anfon dolenni i ddata penodol ar bobl ifanc o’r Cyfrifiad at CJ

Arddangos gwasanaeth StatsCymru 3

Trafododd RD lansiad StatsCymru3 a aeth yn fyw ar 26 Medi 2025. Nododd RD y cynnydd mewn pynciau data a lansiad API agored ar y wefan.

Dangosodd NB sut i ddefnyddio’r gwasanaeth StatsCymru newydd i hidlo setiau data a’u lawrlwytho. Dangosodd NB hefyd sut i weld y metadata ar gyfer pob set ddata.

Nododd RD mai ar y gwasanaeth newydd yn unig y cyhoeddir yr holl ddata newydd, ac y bydd yr hen wasanaeth yn debygol o gau i ddefnyddwyr tua mis Ionawr 2026, pan fydd y contract presennol yn dod i ben. Ychwanegodd RD fod y gwasanaeth newydd yn dal i fod ar y cam datblygu a nododd bwysigrwydd cael adborth ar gyfer gwella’r gwasanaeth.

Soniodd SH eu bod yn ceisio adborth ynghylch rhyngwyneb y defnyddiwr ac ymarferoldeb y gwasanaeth. Mae croeso i bob defnyddiwr roi adborth a helpu gydag ymarferion profi gan ddefnyddwyr. Croesawodd SH adborth yn enwedig gan y rhai sydd â llai o brofiad o drin data.

Mae diweddariadau ynghylch StatsCymru yn cael eu cyhoeddi ar y blog Digidol a Data. [Nodyn ar ôl y cyfarfod: mae’r blog Digidol a Data diweddaraf yn cadarnhau y bydd hen wasanaeth StatsCymru yn cau ar 2 Mawrth 2026]

Cam gweithredu 3: Yr aelodau i gofrestru i gymryd rhan yn ymchwil StatsCymru3

Cymraeg: Cadarnhewch eich diddordeb mewn cymryd rhan yng ngwaith ymchwil StatsCymru

Saesneg: Register your interest in taking part in StatsWales research

Trafodaeth am ddyfodol y grŵp

Esboniodd SH fod presenoldeb wedi bod yn arbennig o isel yn y cyfarfodydd diwethaf. 

Nododd SH werth y grŵp o ran helpu ystadegwyr i ddeall anghenion y trydydd sector ac i ddiweddaru’r aelodau am y data diweddaraf. Fodd bynnag, roedd gan SH bryderon nad oedd anghenion yr aelodau yn cael eu diwallu gan fformat presennol y cyfarfod.

Mae'r grŵp wedi bod yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn am tua dwy awr. Gofynnodd SH a oedd yr amlder hwn yn addas ar gyfer yr aelodau.

Dywedodd TL ei fod yn hapus â chyfarfod awr o hyd i gael y diweddaraf am y datblygiadau a’r cyfle i ofyn cwestiynau.

Soniodd CM fod y grŵp yn ddefnyddiol ac efallai fod cyfle i gyfuno’r cyfarfod â fforwm arall. Nododd CM hefyd fod angen ystadegau o ansawdd yn y trydydd sector, a bod angen annog ei werth ymhlith cydweithwyr.

Nododd LC ei bod yn aelod o amryw o rwydweithiau, ac y gall fod gwerth atgoffa rhai eraill am y cyfarfodydd hyn. 

Gofynnodd SH a fyddai’n fwy buddiol pe bai Llywodraeth Cymru yn rhoi diweddariad byrrach mewn fforwm arall.

Soniodd DJ fod angen i gymdeithasau tai fod yn fwy ymwybodol o ddata. Awgrymodd DJ y gallai cyfarfod awr o hyd ddwywaith y flwyddyn fod yn fwy addas na’r fformat presennol.

Pwysleisiodd SH unwaith eto nad yw Llywodraeth Cymru yn dymuno amddifadu’r aelodau o fforwm sy’n werthfawr iddynt. 

Penderfynwyd parhau â Phanel Defnyddwyr Ystadegau y Trydydd Sector, gyda chyfarfodydd awr o hyd i gael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn. Bydd hyn yn cael ei dreialu dros y 12 mis nesaf. 

Cam gweithredu 4: SH i gysylltu â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) i gael awgrymiadau pellach ar gyfer ymgysylltu â’r sector, neu i wneud ymholiadau am fforymau priodol eraill. 

Unrhyw fater eraill

Soniodd AOR fod Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC): 2025 yn mynd i gael ei gyhoeddi ar 27 Tachwedd. Anfonwch e-bost i ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru i gael eich rhoi ar restr cylchlythyr MALlC i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Gofynnodd SH i’r aelodau ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y newidiadau arfaethedig i allbynnau ystadegol erbyn 11 Chwefror 2026. Mae sawl cynnig i fyrhau allbynnau ystadegol, rhoi’r gorau i’w cyhoeddi neu leihau eu amlder. Nododd SH fod y data ar gyfer llawer o’r allbynnau eisoes ar gael mewn mannau eraill. Nod yr ymgynghoriad yw rhyddhau capasiti i dimau awtomeiddio’r gwaith a chanolbwyntio ar flaenoriaethau newydd.

Cam gweithredu 5: Yr aelodau i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y newidiadau arfaethedig i allbynnau ystadegol

Soniodd TL am ddiddordeb y cyfryngau mewn herio ystadegau fel ffynonellau data annibynnol. Ymatebodd SH fod hyn wedi effeithio ar y SYG yn fwy nag ar unrhyw gynhyrchydd ystadegau arall. Nodwyd mewn adolygiad fod nifer o heriau o ran perfformiad ac o ran y diwylliant yn y SYG. Ers hynny, mae’r SYG wedi bod yn adolygu eu gwaith ac wedi amlinellu cynlluniau ar gyfer lle y gallant dorri yn ôl neu gydweithio â sefydliadau eraill i wella ansawdd. 

Dywedodd SH fod materion o ran diwylliant yn y maes ystadegau yn debygol o fod yn wahanol yn Llywodraeth Cymru, ond mae digwyddiadau fel hyn yn ein hatgoffa i wneud yn siŵr ein bod yn creu’r diwylliant iawn. Esboniodd fod heriau ansawdd fel cyfraddau ymateb i arolygon sy’n gostwng yn digwydd ar draws y system ystadegol, ac esboniodd y gall moderneiddio prosesau hefyd greu risgiau o ran ansawdd. Aeth SH ymlaen i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ansawdd ystadegau fel rhan o’n proses drawsnewid. 

Tynnodd SH sylw hefyd at God Ymarfer diweddaraf y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau a’i chanllawiau i ystadegwyr ar atal camwybodaeth.

Pwyntiau gweithredu

Cam gweithredu 1: Yr aelodau i ystyried ymateb i ymgyngoriadau’r SYG, neu i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw anghenion data y dylid adrodd amdanynt yn ein hymateb i’r ymgynghoriad

Cam gweithredu 2: MP i anfon dolenni i ddata penodol ar bobl ifanc o’r Cyfrifiad at CJ

Cam gweithredu 3: Yr aelodau i gofrestru i gymryd rhan yn ymchwil StatsCymru3

Cam gweithredu 4: SH i gysylltu â CGGC i gael awgrymiadau i ymgysylltu â’r sector, neu i wneud ymholiadau am fforymau priodol eraill

Cam gweithredu 5: Yr aelodau i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y newidiadau arfaethedig i allbynnau ystadegol erbyn 11 Chwefror 2026